Effaith diwygiadau Llywodraeth y DU ym meysydd treth, lles ac isafswm cyflog yng Nghymru IFS Report R110 James Browne Effaith diwygiadau Llywodraeth y DU ym meysydd treth, lles ac isafswm cyflog yng Nghymru James Browne * Institute for Fiscal Studies Institute for Fiscal Studies 7 Ridgmount Street London WC1E 7AE * Ariannwyd yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) drwy Ganolfan Dadansoddi Microeconmaidd Polisi Cyhoeddus yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (cyfeirnod y grant ES/H021221/1). Casglwyd yr Arolwg Adnoddau Teuluol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a sicrhawyd ei fod ar gael drwy'r Gwasanaeth Data Economaidd a Chymdeithasol (ESDS), nad yw'n gyfrifol mewn unrhyw ffordd am ddehongli'r data. Cesglir data'r Arolwg Costau Byw a Bwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac fe'u dosberthir gan y Gwasanaeth Data Economaidd a Chymdeithasol. Atgynhyrchir deunydd hawlfraint y Goron gyda chaniatâd Rheolwr HMSO ac Argraffwr y Frenhines ar gyfer yr Alban. Mae'r awdur yn diolch i Sara Ahmad a Carl Emmerson am eu sylwadau ar fersiwn ddrafft o'r adroddiad. Cyfrifoldeb yr awdur fydd unrhyw wallau a hepgoriadau. 1 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Crynodeb gweithredol • • • • • • Bydd y pecyn a gynigir gan Lywodraeth y DU o newidiadau i drethi a budddaliadau (y rhai a gyhoeddwyd mewn digwyddiadau cyllidol hyd at a chan gynnwys Cyllideb mis Gorffennaf) i'w gyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 yn lleihau incwm aelwydydd yng Nghymru £459 y flwyddyn ar gyfartaledd (colled gyfanredol o tua £600 miliwn). Yn fras mae hyn yr un peth mewn termau arian parod â'r cyfartaledd ar gyfer y DU gyfan, ond gan fod incymau cyfartalog yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU, mae hyn yn ganran fwy o incwm net. Ni fydd effaith y lleihad mewn incwm yr un peth mewn gwahanol fathau o aelwydydd. Bydd aelwydydd incwm is, yn enwedig y rhai sydd â phlant, yn colli tipyn mwy na'r swm hwn ar gyfartaledd. Bydd y newidiadau hyn yn cael llai o effaith ar aelwydydd a phensiynwyr sy'n well eu byd neu byddant hyd yn oed yn golygu eu bod yn well eu byd. Yn fras, mae aelwydydd incwm isel sy'n gweithio yn colli tua'r un peth ag aelwydydd incwm isel nad ydynt yn gweithio ar gyfartaledd. Fodd bynnag, bydd hyn yn newid yn dilyn cyflwyno credyd cynhwysol, gan fod credyd cynhwysol o fudd i rai aelwydydd sy'n gweithio, yn enwedig cyplau lle nad oes ond un yn ennill, ond yn lleihau incwm rhai aelwydydd nad ydynt yn gweithio. Bydd toriadau i fudd-daliadau di-waith yn atgyfnerthu i ryw raddau gymhellion gwaith ar gyfartaledd. Mae dau fesur cryno o'r cymhellion i bobl fod mewn gwaith am dâl, y gyfradd dreth gyfrangol a'r gyfradd ddisodli1, ill dwy yn gostwng 2.2 pwynt canran ar gyfartaledd, y gyfradd dreth gyfrangol ar gyfartaledd yn gostwng o 36.1% i 34.0% a'r gyfradd ddisodli ar gyfartaledd o 55.5% i 53.3%. O gofio maint y toriadau i fudd-daliadau, mae hyn efallai yn effaith lai nag y byddid wedi ei disgwyl. Esboniad allweddol ar gyfer yr effaith gyfyngedig a gaiff y polisïau hyn ar gymhellion gwaith yw'r toriadau sylweddol a gynlluniwyd i gymorth mewn gwaith. Yn wir, mae newidiadau i fudd-daliadau heblaw am gredyd cynhwysol yn cynyddu cyfraddau treth gyfranogi ar gyfartaledd i'r grwpiau hynny sy'n fwy tebygol o gael cymorth mewn gwaith, sef unig rieni a'r rheini nad yw eu partner mewn gwaith am dâl, cyfraddau treth gyfrangol ar gyfartaledd. Mae credyd cynhwysol hefyd yn atgyfnerthu cymhellion gwaith ar gyfartaledd, ond mewn sawl ffordd mae'n cael yr effaith groes i newidiadau eraill i fudddaliadau, gan ei fod yn atgyfnerthu cymhellion gwaith yn benodol i'r rheini sydd â phartner neu nad ydynt mewn gwaith am dâl. Fodd bynnag, nid yw credyd cynhwysol na newidiadau eraill i fudd-daliadau yn atgyfnerthu cymhellion gwaith i unig rieni yn sylweddol. 1 Mae'r gyfradd dreth gyfrangol yn mesur cyfran yr enillion a gollir naill ai mewn trethi uwch neu hawliau i fudd-daliadau is pan fydd unigolyn yn dechrau gweithio. Mae'r gyfradd ddisodli yn mesur cymhareb incwm unigolyn pan na fydd mewn gwaith am dâl i'w incwm pan fydd mewn gwaith am dâl. Yn y ddau achos, mae ffigurau is yn golygu cymhellion gwaith cryfach. 2 © Institute for Fiscal Studies, 2015 • • • • Mae newidiadau i drethi a budd-daliadau i'w cyflwyno dros y pedair blynedd nesaf ar gyfartaledd yn atgyfnerthu'r cymhelliad i'r rheini sydd mewn gwaith am dâl i gynyddu eu henillion. Mae'r gyfradd dreth effeithiol ymylol ar gyfartaledd (EMTR, cyfran o gynnydd bach mewn enillion a gollir naill ai mewn trethi uwch neu fudd-daliadau a ddiddymir) yn gostwng 2.6 pwynt canran o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Mae'r broses hon o atgyfnerthu cymhellion yn datblygu'n bennaf o ganlyniad i'r ffaith bod gan lai o weithwyr yr hawl i fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth o ganlyniad i doriadau mewn cymorth prawf modd, sy'n golygu na fyddant yn wynebu sefyllfa lle y caiff cymorth ei dynnu'n ôl os byddant yn cynyddu eu henillion. Ond bydd y cymhelliad i gynyddu enillion yn gwanhau i'r gweithwyr hynny sy'n parhau i fod â hawl i gael credydau treth o ganlyniad i'r cynnydd yn y gyfradd diddymu credydau treth. Unwaith eto, mae gan gredyd cynhwysol yr effaith groes i newidiadau eraill i fudd-daliadau: mae'n cynyddu nifer y gweithwyr a allai golli eu budd-daliadau pe baent yn cynyddu eu henillion, ond caiff yr effaith ddymunol iawn o atgyfnerthu'r cymhelliad i ennill mwy i'r rheini sy'n wynebu'r cymhellion gwannaf o dan y system gyfredol. Mae newidiadau i fudd-daliadau heblaw am gyflwyno credyd cynhwysol yn cynyddu nifer y gweithwyr yng Nghymru sydd ag EMTR o fwy na 80% 30,000 ond mae credyd cynhwysol yn gostwng y nifer 60,000, neu ddwy ran o dair. Bydd cyflwyno'r "Cyflog Byw Cenedlaethol" a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Haf hefyd yn atgyfnerthu cymhellion gwaith y rheini 25 oed a throsodd y mae eu cyflog fesul awr o dan y lefel hon ar hyn o bryd. Yn wir, ar gyfer y grŵp hwn mae effaith y Cyflog Byw Cenedlaethol yn fwy na'r un ar gyfer y newidiadau i drethi a budd-daliadau: mae'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn lleihau'r gyfradd ddisodli ar gyfartaledd 2.1 pwynt canran ond mae newidiadau i drethi a budd-daliadau yn ei lleihau 1.5 pwynt canran. Fodd bynnag, gan y telir mwy na'r Cyflog Byw Cenedlaethol eisoes i 80% o weithwyr yng Nghymru, mae newidiadau i drethi a budd-daliadau yn cael mwy o effaith ar y gyfradd ddisodli ar gyfartaledd ymhlith gweithwyr. At hynny, ymhlith y grŵp y telir llai na'r Cyflog Byw Cenedlaethol iddynt ar hyn o bryd, i'r rheini sydd â'r cymhellion gwannaf yn y lle cyntaf y bydd yn atgyfnerthu cymhellion leiaf: ar gyfer yr unigolion hyn, caiff y rhan fwyaf o'r enillion mwy eu colli mewn budd-daliadau a chredydau treth a ddiddymir. 3 © Institute for Fiscal Studies, 2015 1. Cyflwyniad Ar 8 Gorffennaf 2015, cyflwynodd y Canghellor George Osborne Gyllideb gyntaf y weinyddiaeth newydd o'r Ceidwadwyr yn unig, gan weithredu nifer o newidiadau i drethi a budd-daliadau a gynigiwyd gan y blaid Geidwadol yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol 2015. Roedd y rhain yn cynnwys cynnydd yn y lwfans personol treth incwm a'r trothwy cyfradd uwch, cyfyngiadau o ran gostyngiad yn y dreth ar gyfraniadau pensiwn a chynnydd yn y band dim cyfradd treth etifeddiant i berchnogion tai. At hynny, amlinellwyd manylion llawn am y toriadau a addawyd gan y Ceidwadwyr i fudddaliadau nawdd cymdeithasol a chredydau treth am y tro cyntaf, gan gynnwys rhewi'r rhan fwyaf o'r budd-daliadau a geir gan y rhai o oedran gweithio am bedair blynedd, gostyngiadau sylweddol o ran y cymorth a ddarperir drwy gredyd treth gwaith ac, yn y dyfodol, credyd cynhwysol i deuluoedd incwm isel sy'n gweithio ac, ar gyfer hawlwyr newydd a genedigaethau newydd, cyfyngu elfen plant credydau treth a chredyd cynhwysol i ddau blentyn. Ond nid dyma'r unig newidiadau i'r system dreth a budddaliadau a gyflwynir dros y pedair blynedd nesaf. Ni chafodd nifer o ddiwygiadau a gyhoeddwyd pan oedd y llywodraeth glymblaid flaenorol rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn grym eu gweithredu'n llawn erbyn mis Mai 2015, a bellach bwriedir iddynt gael eu rhoi ar waith gan y llywodraeth bresennol. Yr un pwysicaf o'r rhain yw'r nod o integreiddio chwe budd-dal i bobl o oedran gweithio a chredydau treth yn y credyd cynhwysol: newid sylweddol iawn i strwythur y system budd-daliadau i'r rhai o oedran gweithio. Bydd y newidiadau hyn yn cael effaith ar incymau aelwydydd, ac ar y cymhellion y mae unigolion yn eu hwynebu i gael gwaith am dâl neu i gael cynnydd mewn enillion. Bydd y newidiadau hyn yn cael effeithiau gwahanol ar bobl wahanol, yn dibynnu nid yn unig ar lefel eu hincwm a'u hamgylchiadau teuluol ond ar eu hoedran, statws anabledd, deiliadaeth tŷ a phatrymau treuliant. Gan fod nodweddion poblogaeth yn amrywio mewn rhannau gwahanol o'r DU, mae'n debygol y bydd gwahaniaethau rhanbarthol o ran effaith y polisïau treth a budd-daliadau, er bod yr un polisïau yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.1 Yn yr adroddiad hwn, rydym yn archwilio effaith y newidiadau a gyflwynir rhwng mis Ebrill 2015 a mis Ebrill 2019 yng Nghymru ac yn cymharu hyn â'r effeithiau ar gyfartaledd ledled y DU gyfan. 1 Nodwn fod nawdd cymdeithasol yn fater datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, ac y caiff nifer o bwerau ar dreth a budd-daliadau nawdd cymdeithasol eu datganoli'n sylweddol i Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol agos. Drwy’r adroddiad hwn, tybiwn fod y system dreth a budd-daliadau yn gweithredu yn yr un ffordd ledled y DU, gan anwybyddu unrhyw newidiadau a gyflwynir efallai gan y gweinyddiaethau datganoledig. Yr unig eithriadau i hyn yw trethi lleol (y dreth gyngor ac ardrethi domestig yng Ngogledd Iwerddon) a sefyllfaoedd lle na chafodd rhai diwygiadau o ran nawdd cymdeithasol eu rhoi ar waith mewn rhannau penodol o'r DU (y newidiadau i'r meini prawf o ran maint y sector cymdeithasol a wrthdrowyd yn yr Alban) neu lle y bu oedi cyn gweithredu (y Bil Diwygio Lles yng Ngogledd Iwerddon, y tybiwn y caiff ei roi ar waith yn ystod y cyfnod a astudir gan yr adroddiad hwn). 4 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Newid pwysig arall a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Gorffennaf 2015 oedd cyflwyno Cyflog Byw Cenedlaethol (CBC, isafswm cyflog uwch i'r rheini sy'n 25 oed a throsodd) o fis Ebrill 2016, i gyrraedd 60% o'r cyflog canolrif erbyn mis Ebrill 2020 (£9.35 yr awr yn ôl y rhagolygon cyfredol). Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn amcangyfrif y bydd y newid hwn yn gyffredinol yn lleihau incwm cenedlaethol 0.1% o ganlyniad i weithio llai o oriau. Felly, er y bydd rhai aelwydydd yn gweld eu hincwm yn cynyddu o ganlyniad i gael mwy o arian am bob awr a weithir, bydd eraill ar eu colled, naill ai am nad ydynt mwyach yn gyflogedig ar y gyfradd isafswm cyflog uwch, am eu bod yn wynebu prisiau uwch gan gwmnïau sy'n gorfod talu'r CBC i'w cyflogeion neu am eu bod yn gweld llai o elw ar gyfranddaliadau o ganlyniad i lai o elw gan gwmnïau. Gellir cyfrifo'r enillion i weithwyr o ganlyniad i gael cyflog uwch yn gymharol hawdd, ond mae'n anoddach canfod pa aelwydydd fydd ar eu colled. Yn yr adroddiad hwn, yn ogystal â dangos effaith uniongyrchol newidiadau i drethi a budd-daliadau ar incymau aelwydydd a chymhellion gweithio yng Nghymru, rydym yn dadansoddi effaith ddosbarthiadol yr enillion o'r CBC yng Nghymru, effaith y CBC ar y cymhellion gweithio a wynebir gan y rhai y mae eu cyflogau o dan lefel y CBC ar hyn o bryd, a sut y mae cyflwyno'r CBC yn effeithio ar gymhellion gweithio y rhai nad ydynt mewn gwaith am dâl ar hyn o bryd i gymryd swydd sy'n talu'r isafswm cyflog. Mae'r adroddiad yn mynd rhagddo fel a ganlyn. Yn Adran 2 rydym yn nodi cwmpas y polisïau a gynhwyswyd yn ein dadansoddiad a'n dull methodolegol. Yn Adran 3, dangoswn ganlyniadau ein dadansoddiad o effaith ddosbarthiadol y newidiadau i drethi a budd-daliadau. Mae Adrannau 4 a 5 yn dangos canlyniad ein dadansoddiad o gymhellion gweithio, ac mae Adran 6 yn dod i gasgliadau. 5 © Institute for Fiscal Studies, 2015 2. Methodoleg Mae'r dadansoddiad a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn ymarfer rhifyddol cymhleth yn y bôn a wneir drwy ddefnyddio model micro-efelychu trethi a budd-daliadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef TAXBEN. Mae TAXBEN yn fodel hynod fanwl o system dreth a budd-daliadau'r DU sy'n cyfrifo rhwymedigaethau i dreth incwm, cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogeion a chyflogwyr, y dreth gyngor a'r prif drethi anuniongyrchol (TAW, treth premiwm yswiriant a thollau cartref) a hawliau i'r prif fudd-daliadau a chredydau treth o dan systemau treth a budd-daliadau gwahanol. Felly, mae ond yn cyfrifo effeithiau uniongyrchol y newidiadau i drethi a budd-daliadau ar incymau aelwydydd, ac nid yw'n rhoi cyfrif am effeithiau anuniongyrchol ar incymau aelwydydd a all ddeillio o newidiadau mewn ymddygiad a achosir gan y diwygiadau i drethi a budd-daliadau eu hunain. Mae'r ymatebion ymddygiadol posibl hyn yn un o'r prif ddulliau ysgogi ar gyfer dadansoddi effaith diwygiadau ar gymhellion gweithio. Gall mesur newidiadau mewn cymhellion sy'n deillio o ddiwygiadau i drethi a budd-daliadau ein helpu i gael ymdeimlad o raddfa'r ymatebion ymddygiadol y gallem ddisgwyl eu gweld. Fodd bynnag, nid yw ein dadansoddiad yn hollol gynhwysfawr: nid yw'n cynnig newidiadau i'r rhan fwyaf o drethi busnes (treth gorfforaeth ac ardrethi busnes) na threthi cyfalaf (treth enillion cyfalaf, treth etifeddiant, a threthi stamp ar eiddo a thrafodion cyfranddaliadau). Felly nid yw'n dadansoddiad yn cynnwys effaith rhai newidiadau i drethi, gan gynnwys y cynnydd yn y band dim cyfradd ar gyfer treth etifeddiant i berchnogion tai a'r lleihad yn y brif gyfradd treth gorfforaeth a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Gorffennaf 2015. Yn yr un modd, nid yw'n dadansoddiad yn cynnwys effaith newidiadau o ran y lefelau gwariant gan adrannau'r llywodraeth ar aelwydydd gwahanol, er enghraifft effaith mwy o wariant ar wasanaethau gofal plant. Bydd cynyddu trethi sydd yn ffurfiol ynghlwm wrth fusnesau a lleihau gwariant adrannol yn cael effaith ar les aelwydydd, ond mae'n anoddach o lawer i gyfrifo'n union sut yn hytrach na chyfrifo enillion a cholledion mecanyddol yn sgil newidiadau i drethi a budddaliadau. Rydym yn mesur 'diwygiadau' yn berthynol i waelodlin lle y caiff paramedrau yn system dreth a budd-daliadau Ebrill 2015 eu cynyddu dros amser yn unol â'r rheolau uwchraddio arferol. Hwn yw'r gwaelodlin 'polisi digyfnewid' a ddefnyddir gan Drysorlys EM wrth gostio mesurau polisi yn Natganiadau'r Gyllideb a'r Hydref. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn cynnwys trothwyon trethi uniongyrchol a chyfraddau budddaliadau yn cynyddu yn unol â chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr a thollau cartref yn cynyddu yn unol â chwyddiant y Mynegai Prisiau Manwerthu. Y diwygiadau penodol a gynhwyswn yn ein dadansoddiad yw: Cynnydd yn y lwfans personol treth incwm a'r trothwy cyfradd uwch; Cyfyngiadau ar ostyngiad yn y dreth ar gyfraniadau pensiwn (y terfyn oes o £1 filiwn a lleihad yn y terfyn cyfraniadau blynyddol ar gyfer y rhai sydd ag incwm o fwy na £150,000); Cynnydd yn y dreth tybaco a'r dreth premiwm yswiriant; 6 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Cyflwyno pensiwn un haen i'r rhai sy'n cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth ar neu wedi 6 Ebrill 2016; Cyflwyno taliad annibyniaeth personol yn lle lwfans byw i'r anabl; Cyflwyno 'Gofal Plant Di-dreth' (cymhorthdal o 20% am y £10,000 cyntaf o wariant ar ofal plant fesul plentyn i deuluoedd lle mae pob oedolyn mewn gwaith am dâl a lle nad oes gan yr un ohonynt incwm o fwy na £150,000 y flwyddyn); Rhewi'r rhan fwyaf o fudd-daliadau o oedran gweithio am bedair blynedd rhwng 2015-16 a 2019-20; Lleihau'r cap ar fudd-daliadau i aelwydydd o £26,000 i £23,000 y flwyddyn yn Llundain a £20,000 mewn mannau eraill; Cyfyngu'r elfen fesul plentyn o gredyd treth plant i ddau blentyn mewn teulu ar gyfer hawliadau newydd a genedigaethau newydd o fis Ebrill 2017; Diddymu elfen deuluol credyd treth plant ar gyfer hawliadau newydd o fis Ebrill 2017; Y cynnydd yn y gyfradd tapro credyd treth o 41% i 48%; Lleihad yn y trothwy credyd treth cyntaf a'r lwfansau gwaith mewn credyd cynhwysol (nodwn ein bod yn tybio y caiff y mesur hwn ei weithredu yn ôl y disgwyl yng Nghyllideb Gorffennaf, heb unrhyw ddulliau lliniaru posibl a all gael eu cyflwyno yn Natganiad yr Hydref ar 25 Tachwedd); Diddymu'r premiwm grŵp gweithgarwch sy'n gysylltiedig â gwaith yn y lwfans cyflogaeth a chymorth (ESA) ar gyfer hawliadau newydd o fis Ebrill 2017. Rydym hefyd yn dangos effaith cyflwyno credyd cynhwysol yn ein dadansoddiad. Gan fod hwn yn ddiwygiad mor sylfaenol i'r system budd-daliadau o oedran gweithio, dangoswn effaith y credyd cynhwysol ar wahân i newidiadau eraill i'r system budddaliadau. Noder na fydd rhai o'r newidiadau hyn yn effeithio ar bob hawlydd erbyn 2019-20 (pen draw ein dadansoddiad), ond nid ydym yn rhoi cyfrif ar gyfer hyn yn ein dadansoddiad oherwydd byddai modelu dynameg ymddygiad hawlwyr yn ei gwneud yn anodd ei drin. Nid ydym ychwaith yn ymgorffori'r diogelwch trosiannol a gaiff hawlwyr sy'n symud i gredyd cynhwysol pan fyddant yn dechrau hawlio'r budd-dal newydd. Felly, dylid ystyried bod ein dadansoddiad yn un sy'n dangos effaith hirdymor diwygiadau treth a budd-daliadau y mae disgwyl iddynt ddod i rym yn y senedd gyfredol. 7 © Institute for Fiscal Studies, 2015 3. Canlyniadau dadansoddiad dosbarthiadol Mae'r adran hon yn dangos canlyniadau ein dadansoddiad dosbarthiadol. Gwnawn ddechrau drwy gymharu'r enillion a'r colledion cyfartalog o newidiadau i drethi a budddaliadau mewn aelwydydd yng Nghymru o gymharu ag aelwydydd mewn rhannau eraill o'r DU cyn dadansoddi effaith ddosbarthiadol y newidiadau yng Nghymru. 3.1 Enillion a cholledion cyfartalog rhanbarth Mae Ffigur 3.1 isod yn cymharu enillion a cholledion cyfartalog o newidiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol i drethi, newidiadau i fudd-daliadau a chredyd cynhwysol yn y rhanbarthau gwahanol yn Lloegr a gwledydd cyfansoddol y DU, wedi'u rhestru yn ôl incwm cyfartalog aelwydydd o'r tlotaf ar y brig i'r cyfoethocaf ar y gwaelod. Yr un sy'n amlwg yn wahanol yw Gogledd Iwerddon. Mae hyn am fod gan Ogledd Iwerddon gyfradd hawlwyr Lwfans Byw i'r Anabl uwch o lawer na rhannau eraill o'r DU2, sy'n golygu y bydd cyflwyno Taliad Annibyniaeth Personol yn lle Lwfans Byw i'r Anabl yn cael effaith ar gyfran uwch o bobl yng Ngogledd Iwerddon, a disgwylir i hyn olygu y bydd llawer o hawlwyr yn colli eu hawl neu y caiff eu hawl ei lleihau.3 Ar ben arall y pegwn mae rhanbarthau cyfoethocach de Lloegr a dwyrain Lloegr, lle bydd llai o bobl ar eu colled o ganlyniad i doriadau i fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth. Fodd bynnag, nid yw Llundain na De-ddwyrain Lloegr yn gwneud cystal â rhannau eraill o'r DU o ganlyniad i newidiadau i drethi uniongyrchol. Mae hyn yn codi am fod y ddau ranbarth hyn yn Lloegr yn cynnwys llawer o'r unigolion incwm uchaf yn y DU sydd ar eu colled o ganlyniad i gyfyngiadau o ran gostyngiad yn y dreth ar gyfraniadau pensiwn. Mae aelwydydd yng Nghymru yn colli tua'r swm cyfartalog mewn termau arian parod o ganlyniad i newidiadau i drethi a budd-daliadau yn gyffredinol (£459 y flwyddyn o gymharu â chyfartaledd cyffredinol y DU sef £455)4. Ond mae cyfansoddiad y golled hon ychydig yn wahanol. Mae'r golled gyfartalog ymhlith aelwydydd yng Nghymru yn sgil newidiadau i fudd-daliadau yn fwy na chyfartaledd y DU o £536 y flwyddyn ar gyfartaledd, neu £700 miliwn y flwyddyn yn ei grynswth, o gymharu â £470 ar gyfer y DU gyfan: efallai nad yw'n syndod gan fod Cymru, fel rhan gymharol dlawd o'r DU, yn colli mwy o ganlyniad i doriadau i fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a 2 Gweler, er enghraifft, Dabl 2.1 o J. Browne (2011), ‘The impact of tax and benefit reforms to be introduced between 2010–11 and 2014–15 in Northern Ireland’, Nodyn Briffio'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid 114, http://www.ifs.org.uk/bns/bn114.pdf. 3 Gweler yr Adran Gwaith a Phensiynau (2012), ‘Disability living allowance reform – impact assessment’, https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/220176/dlareform-wr2011-ia.pdf. 4 Y golled gyfunol yng Nghymru yw tua £600 miliwn y flwyddyn a £12.2 biliwn y flwyddyn yn y DU gyfan. 8 © Institute for Fiscal Studies, 2015 chredydau treth - mae'r golled gyfartalog i aelwydydd yng Nghymru yn sgil y newidiadau hyn tua'r un peth yn fras â'r golled gyfartalog yn rhannau tlotach Lloegr. Ar y llaw arall, mae'r golled gyfartalog yn sgil newidiadau i drethi anuniongyrchol yn is (£53 y flwyddyn yw'r golled gyfartalog yng Nghymru neu £70 miliwn yn ei grynswth o gymharu â cholled gyfartalog o £70 ar gyfer y DU gyfan), ac mae'r ennill cyfartalog yn sgil newidiadau i drethi uniongyrchol yn uwch yng Nghymru (£112 y flwyddyn, neu £150 miliwn yn ei grynswth, o gymharu â £89 y flwyddyn ar gyfartaledd i'r DU gyfan) gan mai ychydig iawn o unigolion yng Nghymru sydd ag incwm digon uchel i'r mesurau gostyngiad yn y dreth pensiynau effeithio arnynt). At hynny, dim ond ychydig ar eu hennill y mae aelwydydd yng Nghymru ar gyfartaledd yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol (£17 y flwyddyn ar gyfartaledd neu £20 miliwn yn ei grynswth), ond gostyngiad bach ydyw i aelwydydd ledled y DU gyfan.5 Ym mhanel b) rydym yn mynegi'r enillion a'r colledion arian parod hyn fel canran o incwm net. Mae'r patrymau cyffredinol yn parhau fel ag y maent, ond mae rhai gwahaniaethau. Er bod gan Lundain a Chymru golledion arian parod cyfartalog sydd yn fras yr un peth â'r rhai ar gyfer y DU gyfan, mae'r golled arian parod hon yn cynrychioli cyfran lai o incwm aelwydydd yn Llundain, lle mae incymau cyfartalog yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU gyfan, a chyfran fwy o incwm aelwydydd yng Nghymru, lle mae incymau cyfartalog yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU gyfan. 5 Noder bod hwn yn ganlyniad gwahanol i'r un y daeth ymchwil blaenorol y Sefydliad Astudiaethau Cyllid iddo, lle y canfuwyd bod credyd cynhwysol yn cynrychioli colled net fach i aelwydydd yng Nghymru. Un esboniad rhannol am hyn yw bod y system credyd treth o bosibl wedi cael ei thorri mwy na chredyd cynhwysol yng Nghyllideb Gorffennaf 2015, felly mae credyd cynhwysol bellach yn edrych yn fwy hael o gymharu â'r system gyfredol o fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth. Gweler D. Phillips (2014), ‘The distributional effects of the UK government’s tax and welfare reforms in Wales: an update’, Nodyn Briffio'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid 150, http://www.ifs.org.uk/uploads/publications/bns/bn150.pdf. 9 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Ffigur 3.1: Enillion a cholledion cyfartalog yn sgil newidiadau i drethi a budddaliadau 2015-16 i 2019-20 fesul rhanbarth a) Enillion a cholledion cyfartalog mewn termau arian parod Gogledd-ddwyrain Lloegr Cymru Gogledd Iwerddon Swydd Efrog Gogledd-orllewin Lloegr Gorllewin Canolbarth Lloegr Dwyrain Canolbarth Lloegr Yr Alban De-orllewin Lloegr Pawb East Anglia De-ddwyrain Lloegr Llundain Fwyaf -£1,000 -£800 -£600 -£400 -£200 £0 £200 £400 Newid yn yr incwm net blynyddol Treth uniongyrchol Treth anuniongyrchol Buddiannau b) Enillion a cholledion cyfartalog wedi'u mynegi fel canran o incwm net Gogledd-ddwyrain Lloegr Cymru Gogledd Iwerddon Swydd Efrog Gogledd-orllewin Lloegr Gorllewin Canolbarth Lloegr Dwyrain Canolbarth Lloegr Yr Alban De-orllewin Lloegr Pawb East Anglia De-ddwyrain Lloegr Llundain Fwyaf -3.0% -2.5% -2.0% -1.5% -1.0% -0.5% 0.0% 0.5% 1.0% Ennill/colled fel canran o'r incwm net Treth uniongyrchol Treth anuniongyrchol Buddiannau Credyd Cynhwysol Pob newid Noder: Effaith hirdymor newidiadau. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar Arolygon o Adnoddau Teulu 2012-13 a 2013-14 ac Arolwg o Gostau Byw a Bwyd 2012. 10 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Wrth gwrs, dim ond cyfartaleddau yw'r ffigurau yn y siartiau hyn. Yn ymarferol, mae gwahaniaethau rhwng aelwydydd ym mhob rhan o'r DU yn fwy o lawer na'r gwahaniaethau cyfartalog rhwng rhannau gwahanol o'r DU - mae pob rhanbarth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cynnwys aelwydydd ag amrywiaeth eang o nodweddion gwahanol y mae'r newidiadau i drethi a budd-daliadau yn effeithio arnynt. Yng ngweddill yr adran hon, rydym yn canolbwyntio ar sut mae'r effaith yng Nghymru yn wahanol mewn mathau gwahanol o aelwydydd. Adlewyrchir y gwahaniaethau hyn hefyd rhwng aelwydydd gwahanol mewn rhannau eraill o'r DU. Dangosir effeithiau dosbarthiadol rhwng mathau gwahanol o aelwydydd yn y DU gyfan mewn cyd-adroddiad.6 3.2 Effaith ddosbarthiadol diwygiadau fesul degradd incwm yng Nghymru Effaith fesul grŵp degradd incwm Mae Ffigur 3.2 yn dangos effaith ddosbarthiadol y diwygiadau fesul degradd (degfed) o'r dosbarthiad incwm yng Nghymru. Er mwyn llunio'r degraddau incwm, rydym yn rhestru aelwydydd Cymru yn ôl eu hincwm wedi'i addasu ar gyfer maint y teulu gan ddefnyddio graddfa cyfwerthedd McClements a'u rhannu yn ddeg grŵp cyfartal o ran maint. Gan mai'r newidiadau i'r budd-daliadau yw'r elfen fwyaf o'r newidiadau, caiff y patrwm dosbarthu cyffredinol ei lywio gan effaith ddosbarthiadol y newidiadau hyn. Nid yw'n syndod, o gofio natur prawf modd uchel system budd-daliadau o oedran gweithio'r DU, mae toriadau i'r budd-daliadau hyn yn effeithio'n anghymesur ar hanner tlotach yr aelwydydd. Gallwn weld bod y colledion mwyaf yn digwydd ar lefel is-canol y dosbarthiad incwm. Mae hyn am nad yw'r gostyngiad mawr yn y trothwy credyd treth cyntaf yn effeithio ar y rhai sy'n ennill yr incwm isaf oll, ond ar y rhai sy'n ennill incwm cymharol dda sydd mewn gwaith am dâl. Fodd bynnag, mae'r toriadau eraill i fudddaliadau yn effeithio ar y rheini nad ydynt mewn gwaith am dâl, gan gynnwys rhewi'r budd-daliadau am bedair blynedd, y lleihad yn y cap ar fudd-daliadau aelwydydd a'r cyfyngiad ar yr elfen fesul plentyn o gredyd treth plant i ddau blentyn. I'r gwrthwyneb, mae'r degfed cyfoethocaf o aelwydydd yng Nghymru ar eu hennill mewn gwirionedd yn sgil newidiadau i fudd-daliadau a gyflwynir dros y pedair blynedd nesaf, sef cyflwyno'r pensiwn un haen a gofal plant di-dreth (a ddosberthir gennym fel rhan o'r system budddaliadau yn hytrach na fel rhan o'r system dreth). Nid yw'r toriadau i fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth yn effeithio'n sylweddol ar yr aelwydydd cyfoethocach hyn. Mae newidiadau i drethi uniongyrchol yn llai, ond i aelwydydd incwm uwch y maent o fudd yn bennaf. Nid yw llawer o aelwydydd tlotach yn talu treth incwm yn y lle cyntaf ac felly nid ydynt yn elwa ar gynnydd yn y lwfans personol. At hynny, mae trethdalwyr cyfradd uwch yn ennill mwy na threthi cyfradd sylfaenol yn sgil newidiadau'r 6 [add reference here]. 11 © Institute for Fiscal Studies, 2015 llywodraeth i dreth incwm o ganlyniad i gynnydd yn y trothwy cyfradd uwch (y pwynt lle y daw'r gyfradd 40% yn daladwy). Bach yw'r newidiadau i drethi uniongyrchol a'r un effaith a gânt yn fras ar bob lefel o incwm. Mae aelwydydd incwm is yn elwa ychydig ar gyfartaledd ar gredyd cynhwysol, ond mae'r rhai mewn grwpiau incwm uwch ar eu colled ychydig gan fod credyd cynhwysol yn cael ei gyflwyno ar lefel incwm is na chredydau treth i rai nad ydynt yn rhentu, sy'n golygu bod rhai hawlwyr credyd treth incwm uwch ar eu colled ar ôl i'r diogelwch trosiannol ddod i ben. Fodd bynnag, fel y gwelwn yn ddiweddarach, mae'r cyfartaleddau hyn yn cuddio llawer iawn o amrywiadau yn yr effaith ar wahanol fathau o aelwydydd. Yn gyffredinol, mae aelwydydd tlotach ar eu colled yn sgil y newidiadau hyn, ac yn colli mwy nag aelwydydd sydd ar y lefel ganol o ran dosbarthiad incwm. Felly rydym yn disgwyl i effaith uniongyrchol y newidiadau hyn gynyddu nifer yr aelwydydd sydd islaw'r llinellau tlodi absoliwt a chymharol, mewn senario lle na chyflwynwyd y newidiadau hyn. Wrth gwrs, rhaid i rywun gadw mewn cof, oherwydd maint diffyg cyllidebol llywodraeth y DU, ei bod yn debygol y byddai'n rhaid i unrhyw lywodraeth gyflwyno mesurau yn ystod y cyfnod hwn a fyddai naill ai'n lleihau incwm aelwydydd drwy godi trethi neu dorri budd-daliadau arian parod, neu leihau eitemau eraill o wariant y llywodraeth a oedd yn effeithio ar les aelwydydd gwahanol. Dengys ein dadansoddiad oblygiadau dosbarthiadol y dewisiadau a wnaed gan y llywodraeth o ran polisïau trethi a budd-daliadau i leihau'r diffyg, ond nid yw'n dangos sut y byddai hyn yn cymharu â pholisïau (anhysbys) unrhyw ddarpar lywodraeth arall. Drwy gymharu Ffigur 3.2 â siart debyg ar gyfer y DU gyfan (sydd ar gael yn yr Atodiad), gallwn weld patrwm cymharol debyg, ond gyda rhai gwahaniaethau diddorol. Yn gyntaf, gwelir y colledion mwyaf yn yr ail ddegradd incwm dlotaf yn y DU gyfan, ond y drydedd ddegradd dlotaf yng Nghymru. Mae'n debygol fod hyn yn wir am fod Cymru yn rhan gymharol dlawd o'r DU, sy'n golygu bod rhai aelwydydd yng Nghymru sydd yn yr ail ddegradd o blith dosbarthiad incwm y DU yn y drydedd ddegradd yn y dosbarthiad incwm yng Nghymru. Yn ail, mae'r ddegradd gyfoethocaf ar ei cholled ar gyfartaledd yn sgil y newidiadau yn y DU gyfan, ond mae'r degfed cyfoethocaf o aelwydydd yng Nghymru ar ei ennill ar gyfartaledd. Fel y trafodwyd o'r blaen, mae hyn am fod yr aelwydydd cyfoethocaf oll yn y DU ar eu colled yn sylweddol yn sgil newidiadau i ostyngiad mewn treth pensiynau. Yn ein dadansoddiad ar gyfer y DU gyfan, mae hyn yn ddigon i wneud i'r ddegradd uchaf fod ar ei cholled yn sgil newidiadau i drethi a budddaliadau yn gyffredinol, ond prin iawn yw'r aelwydydd cyfoethog iawn hynny yng Nghymru, sy'n golygu bod y degfed cyfoethocaf o aelwydydd yng Nghymru ar ei ennill yn sgil newidiadau i drethi a budd-daliadau a gaiff eu cyflwyno dros y pedair blynedd nesaf. Ffigur 3.2: Enillion a cholledion cyfartalog yng Nghymru yn sgil newidiadau i drethi a budd-daliadau i'w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 fesul degradd 12 © Institute for Fiscal Studies, 2015 incwm 2% £500 1% £250 0% £0 -1% -£250 -2% -£500 -3% -£750 -4% -£1,000 -5% -£1,250 -6% -£1,500 -7% -£1,750 -8% -£2,000 Tlotaf 2 3 4 5 6 7 8 9 Cyfoethocaf Pawb Grŵp degradd incwm Credyd cynhwysol, £ y flwyddyn (echel dde) Budd-daliadau, £ y flwyddyn (echel dde) Trethi uniongyrchol, £ y flwyddyn (echel dde) Trethi anuniongyrchol, £ y flwyddyn (echel dde) Cyfanswm fel % o'r incwm net (echel chwith) Noder: Pennir grwpiau degradd incwm drwy rannu holl aelwydydd Cymru yn 10 grŵp o'r un maint yn ôl incwm net wedi'i addasu yn ôl maint aelwyd gan ddefnyddio graddfa cyfwerthedd McClements. Mae'n tybio bod y budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth wedi cael eu hawlio'n llawn. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14 ac Arolwg o Gostau Byw a Bwyd (LCFS) 2012. Sut mae hyn yn cymharu â'r enillion o'r Cyflog Byw Cenedlaethol? Wrth gwrs, nid y newidiadau i drethi a budd-daliadau oedd yr unig newid i bolisi a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Gorffennaf a fydd yn effeithio ar incwm aelwydydd yng Nghymru. Bydd cyflwyno isafswm cyflog uwch i'r rheini sy'n 25 oed a throsodd, y 'CBC' fel y'i gelwir, yn cynyddu cyflogau rhai o'r bobl hynny y telir llai iddynt na'r lefel hon ar hyn o bryd, er y gall hefyd arwain at gyflogaeth is, prisiau uwch a llai o elw o fuddsoddi. Dengys Ffigur 3.3 isod effaith ddosbarthiadol yr enillion o'r CBC - er mwyn gwneud y dadansoddiad hwn, rydym yn nodi'r rheini y telir llai iddynt ar hyn o bryd na'r CBC yn ein data FRS fel y disgrifir ym Mlwch 3.1 ac yn cynyddu eu cyflogau i'r lefel hon. Rydym yn dadansoddi'r CBC fel petai ar waith yn llawn yn 2015-16, hynny yw, mae'n hafal i 60% o'r enillion canolrif cyfredol, sef £7.68 yr awr yn ôl ein hamcangyfrif. Felly, ar gyfer unigolyn sy'n ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol cyfredol sef £6.70, rydym yn cynyddu eu henillion tua 14.6%.7 7 Mae nifer fach o unigolion yn ein data yr amcangyfrifir eu bod yn ennill llai na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol: rydym yn cyfyngu'r cynnydd canrannol yn eu cyflogau fel 13 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Blwch 3.1. Nodi'r rheini yn ein data FRS y telir llai na'r CBC iddynt. Mae'r data FRS a ddefnyddiwn yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen arnom i amcangyfrif rhwymedigaethau treth aelwydydd a'u hawliau i fudd-daliadau, gan gynnwys gwybodaeth am enillion unigolion, oriau a weithiwyd, incwm heb ei ennill, nodweddion demograffig a ph'un a ydynt yn cael budd-daliadau anabledd a phensiynau'r wladwriaeth. Credir yn gyffredinol bod y mesur enillion o ansawdd uchel, ond mae'n hysbys bod y mesur oriau yn cynnwys cryn wallau a mesur. Felly, byddai rhannu enillion cofnodedig ag oriau cofnodedig i nodi unigolion â chyflogau isel fesul awr yn rhoi amcangyfrif annibynadwy o'r nifer a'r math o unigolion y byddai'r CBC yn effeithio arnynt. Er mwyn cywiro hyn, rydym yn ategu ein data FRS â gwybodaeth gan yr Arolwg o'r Llafurlu. Mae'r arolwg hwn yn cynnwys mesur da o enillion wythnosol, amcangyfrif o oriau a weithiwyd ac - yn hollbwysig i'n dibenion ni - mesur uniongyrchol o'r cyflog fesul awr i'r unigolion hynny y telir cyflog fesul awr iddynt. Mae'r fethodoleg a ddefnyddiwn - sy'n debyg i'r un a b ddefnyddiwyd mewn gwaith cynharach ar gyfer y Comisiwn Cyflog Isel - yn golygu priodoli'r oriau fesul awr a weithir gan unigolion yn yr FRS drwy eu paru ag unigolion "tebyg" yn yr LFS sy'n cofnodi eu cyflog fesul awr. Mae'r gair "tebyg" yn golygu ystyried ystod eang o nodweddion - a'r un fwyaf amlwg yw lefel yr enillion wythnosol a'r oriau gwaith, ond hefyd eu hoedran, crefydd a diwydiant. Rydym yn cynnal y priodoliad ar wahân yn ôl rhyw a thri grŵp addysg (felly gall dynion sydd wedi cael lefel isel o addysg ond cael eu paru â dynion sydd wedi cael lefel isel o addysg, ac ati). Rydym ond yn cynnal y priodoliad hwn ar gyfer yr unigolion hynny yn yr FRS y mae'n ymddangos y gallant gael codiad cyflog o ganlyniad i'r CBC - tybir nad effeithir ar y rhai y mae eu henillion wythnosol eisoes yn fwy na saith deg gwaith y CBC. a Nodiadau: Gweler, er enghraifft, M. Brewer, R. May a D. Phillips (2009), Taxes, Benefits and the National Minimum Wage, Low Pay Commission Research Report (http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20130708092703/http://lowpay.gov.uk/lo wpay/research/pdf/FromLPC_Document_Feb.pdf). b M. Brewer a P. De Agostini (2013), The National Minimum Wage and its interaction with the tax and benefits system: a focus on Universal Credit, Institute of Social and Economic Research, University of Essex (https://www.iser.essex.ac.uk/research/publications/522257). Gweler hefyd A. Hood, R. Joyce a D. Phillips (2014), ‘Policies to help the low paid’ in C. Emmerson, P. Johnson a H. Miller (golygyddion), The IFS Green Budget Chwefror 2014, Llundain: Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid http://www.ifs.org.uk/publications/7072). Gallwn weld, er syndod efallai, y ceir yr enillion arian parod mwyaf yn sgil cyflwyno'r CBC ynghanol y dosbarthiad incwm aelwydydd, gyda'r ennill mwyaf fel canran o incwm net yn y drydedd ddegradd incwm. Mae sawl rheswm dros hyn. Yn gyntaf, aelwydydd lle nad oes neb mewn gwaith am dâl, sy'n tueddu i fod tuag at waelod y dosbarthiad incwm nad ydynt yn elwa ar y CBC am resymau amlwg. Yn ail, nid yw'r rhai sydd â'r enillion isaf fesul awr i gyd yn byw yn yr aelwydydd sydd â'r incwm isaf: mae gan lawer o'r rheini sy'n ennill llai na'r CBC bartneriaid sy'n ennill mwy y mae eu henillion yn mynd â'r aelwyd i ddegradd incwm uwch. ei fod yn gymhareb rhwng y CBC a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Hefyd, nid ydym yn caniatáu i'r CBC effeithio ar y rhai y telir mwy na'r gyfradd cyflogau hon iddynt i ddechrau. Mae hyn yn cyferbynnu â dadansoddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o effaith y CBC, sy'n caniatáu ar gyfer rhai effeithiau gorlif (bach) ar y rhai sydd ag enillion ychydig yn uwch. 14 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Wrth gymharu'r enillion a geir yn sgil cyflwyno'r CBC â'r colledion a geir yn sgil y newidiadau i drethi a budd-daliadau, gallwn weld, i'r hanner tlotach o aelwydydd sydd ar eu colled yn sylweddol ar gyfartaledd yn sgil y newidiadau i drethi a budd-daliadau, fod yr enillion cyfartalog a geir yn sgil cyflwyno'r CBC gryn dipyn yn llai na'r colledion a wynebant yn sgil y newidiadau i drethi a budd-daliadau. Yn gyffredinol, mae'r enillion o'r CBC yn gwrthbwyso 27% o'r colledion o'r newidiadau i drethi a budd-daliadau (£124 o gymharu â £459), ac mae'r ffigur hwn yn is ar gyfer y pedair degradd incwm isaf sef 8% ar gyfer y ddwy ddegradd isaf (£38 ac £86 o gymharu â £504 a £1,068 yn y drefn honno) a 14% ar gyfer y drydedd a'r bedwaredd ddegradd (£204 a £123 o gymharu â £1,461 ac £862 yn y drefn honno) Os cymharwn yr enillion cyfartalog i aelwydydd yng Nghymru a geir wrth gyflwyno'r CBC â'r ffigurau cyfatebol ar gyfer y DU gyfan (sydd ar gael yn yr Atodiad), gwelwn fod yr enillion cyfartalog yn fwy yng Nghymru. Mae hyn am fod Cymru yn rhan o'r DU lle mae'r cyflogau yn gymharol isel: amcangyfrifwn fod tua 19% o weithwyr yng Nghymru8 yn elwa ar y CBC o gymharu â 16% yn y DU gyfan. Ffigur 3.3: Enillion cyfartalog yn sgil cyflwyno'r Cyflog Byw Cenedlaethol fesul degradd incwm 2% £500 1% £250 0% £0 -1% -£250 -2% -£500 -3% -£750 -4% -£1,000 -5% -£1,250 -6% -£1,500 -7% -£1,750 -8% -£2,000 Tlotaf 2 3 4 5 6 7 8 Grŵp degradd incwm £ y flwyddyn (echel dde) 9 Cyfoethocaf Pawb % yr incwm net (echel chwith) Noder: Pennir grwpiau degradd incwm drwy rannu holl aelwydydd Cymru yn 10 grŵp o'r un maint yn ôl incwm net wedi'i addasu yn ôl maint aelwyd gan ddefnyddio graddfa cyfwerthedd McClements. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14 ac Arolwg o Gostau Byw a Bwyd (LCFS) 2012. 8 250,000 allan o 1.3 miliwn. 15 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Drwy gymharu rhannau gwahanol o'r DU yn Ffigur 3.4, gwelwn fod effaith y CBC yn fras yr un peth heblaw bod yr enillion yn llai yn Llundain a Dwyrain a De-ddwyrain Lloegr: dyma'r tri rhanbarth uchaf o ran cyflogau yn Lloegr, lle y telir llai na'r CBC i lai o weithwyr i ddechrau. Ffigur 3.4: Enillion cyfartalog yn sgil cyflwyno'r Cyflog Byw Cenedlaethol fesul rhanbarth Gogledd-… Cymru Gogledd Iwerddon Swydd Efrog Gogledd-orllewin… Gorllewin… Dwyrain… Yr Alban De-orllewin Lloegr Pawb East Anglia De-ddwyrain… Llundain Fwyaf £0 £50 £100 £150 Newid yn yr incwm net blynyddol £200 Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14 ac Arolwg o Gostau Byw a Bwyd (LCFS) 2012. Sut mae effeithiau cyfartalog y newidiadau i drethi a budd-daliadau yn amrywio rhwng gwahanol fathau o aelwydydd? Hyd yn hyn, rydym ond wedi edrych ar enillion a cholledion cyfartalog fesul degradd incwm. Yn Ffigur 3.4, rhannwn aelwydydd ym mhob degradd incwm yn dri grŵp penodol: y rhai sy'n cynnwys unigolyn sy'n hŷn nag oedran pensiwn y wladwriaeth, y rhai lle mae pob oedolyn o dan oedran pensiwn y wladwriaeth a bod plant dibynnol, a'r rhai lle mae pob oedolyn o dan oedran pensiwn y wladwriaeth ac nac oes unrhyw blant dibynnol. Ym mhanel a) dechreuwn drwy ddangos effaith y newidiadau i fudd-daliadau yn unig (heblaw am gyflwyno credyd cynhwysol). Gwelwn mai'r rhai sydd ar eu colled fwyaf yn sgil y newidiadau hyn yw teuluoedd incwm isel â phlant. Mae hyn am fod credydau treth, y rhan o'r system budd-daliadau lle y gwelwyd y toriadau mwyaf, yn cael eu hawlio'n bennaf gan deuluoedd â phlant. Ond mae aelwydydd incwm isel o oedran gweithio heb blant hefyd ar eu colled yn sgil y newidiadau i fudd-daliadau, gan gynnwys rhewi budd-daliadau am bedair blynedd, cyflwyno PIP yn lle DLA a diddymu elfen grŵp gweithgarwch sy'n gysylltiedig â gwaith ESA. Fodd bynnag, nid yw'r newidiadau hyn i'r system budd-daliadau a gyflwynir dros y pedair blynedd nesaf yn effeithio llawer ar bensiynwyr. 16 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Mae panel b) yn ychwanegu effaith y newidiadau i drethi. Mae'r rhain yn llai o lawer na'r newidiadau i fudd-daliadau, sy'n golygu nad ydynt yn effeithio ar y patrwm cyffredinol a welwn ym mhanel a), ond fel yn Ffigur 3.2 maent yn cynyddu'r colledion i aelwydydd tlotach ychydig, ac yn lleihau'r colledion ychydig neu'n cynyddu'r enillion i aelwydydd cyfoethocach ar gyfartaledd. Mae hyn yn codi am fod aelwydydd tlotach, ar gyfartaledd, yn colli mwy yn sgil y cynnydd mewn trethi anuniongyrchol (treth tybaco a threth premiwm yswiriant) nag y maent yn ei ennill o'r cynnydd yn y lwfans personol a'r trothwy cyfradd uwch, tra bod y patrwm hwn yn cael ei wrthdroi ar gyfer aelwydydd cyfoethocach. Ychwanegir effaith credyd cynhwysol ym mhanel c). Gallwn weld bod credyd cynhwysol yn lleihau effaith diwygiadau eraill i fudd-daliadau ar gyfer teuluoedd incwm is o oedran gweithio. Fodd bynnag, mae aelwydydd lle ceir pensiynwyr yn hanner gwaelod y dosbarthiad incwm ar eu colled o ychydig. Mae hyn oherwydd bydd yn rhaid i gyplau hawlio credyd cynhwysol, yn hytrach na'r credyd pensiwn mwy hael y gallant ei gael ar hyn o bryd, os yw un ohonynt yn hŷn nag oedran pensiwn y wladwriaeth ond nid y llall. 17 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Ffigur 3.5: Enillion a cholledion cyfartalog yn sgil diwygiadau i drethi a budddaliadau i'w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 yng Nghymru fesul degradd incwm a math o aelwyd a) Diwygiadau i fudd-daliadau yn unig (ac eithrio credyd cynhwysol) 2% 0% -2% Newid mewn incwm net -4% -6% -8% -10% -12% -14% -16% Tlotaf 2 3 4 5 6 7 Grŵp degradd incwm O oedran gweithio heb blant O oedran gweithio heb blant 8 9 Cyfoethocaf Pawb Pensiynwyr Pawb b) Diwygiadau i drethi a budd-daliadau ac eithrio credyd cynhwysol 2% 0% -2% Newid mewn incwm net -4% -6% -8% -10% -12% -14% -16% Tlotaf 2 3 4 5 6 7 Grŵp degradd incwm O oedran gweithio heb blant O oedran gweithio heb blant 8 9 Cyfoethocaf Pawb Pensiynwyr Pawb 18 © Institute for Fiscal Studies, 2015 c) Diwygiadau i drethi a budd-daliadau gan gynnwys credyd cynhwysol 2% 0% -2% Newid mewn incwm net -4% -6% -8% -10% -12% -14% -16% Tlotaf 2 3 4 5 6 7 Grŵp degradd incwm O oedran gweithio heb blant O oedran gweithio heb blant 8 9 Cyfoethocaf Pawb Pensiynwyr Pawb Nodyn i Ffigur 3.5: Pennir grwpiau degradd incwm drwy rannu holl aelwydydd Cymru yn 10 grŵp o'r un maint yn ôl incwm net wedi'i addasu yn ôl maint aelwyd gan ddefnyddio graddfa cyfwerthedd McClements. Mae'n tybio bod y budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth wedi cael eu hawlio'n llawn. Ffynhonnell ar gyfer Ffigur 3.5: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14 ac Arolwg o Gostau Byw a Bwyd (LCFS) 2012. Dangosir ffordd arall o rannu aelwydydd o oedran gweithio yn Ffigur 3.5. Yma rydym yn rhannu yn ôl p'un a oes oedolyn ar yr aelwyd mewn gwaith am dâl. Unwaith eto, dangoswn effaith y diwygiadau i fudd-daliadau cyn ychwanegu effaith diwygiadau i drethi yn gyntaf a wedyn credyd cynhwysol. Mae panel a) yn dangos bod teuluoedd sy'n gweithio a rhai nad ydynt yn gweithio yn y tair degradd incwm tlotaf yn colli tua'r un faint o arian yn sgil newidiadau i fudddaliadau fel cyfran o'u hincwm. Er bod y lleihad yn y trothwy credyd treth cyntaf yn effeithio'n benodol ar aelwydydd sy'n gweithio, mae budd-daliadau yn cyfrif am gyfran fwy o incwm ar gyfer aelwydydd nad ydynt yn gweithio, sy'n golygu bod rhewi budddaliadau am bedair blynedd yn effeithio mwy arnynt. At hynny, mae polisïau fel cyfyngu'r elfen fesul plentyn o gredyd treth plant i ddau blentyn a diddymu elfen deuluol y credyd treth plant yn effeithio ar deuluoedd sy'n gweithio a theuluoedd nad ydynt yn gweithio sydd ag incwm isel. (Mae'r maint sampl o aelwydydd nad ydynt yn gweithio yng Nghymru yn y saith degradd uchaf o'r dosbarthiad incwm yn ein data yn rhy fach i wneud dadansoddiad cadarn o effaith y newidiadau i drethi a budd-daliadau ar y grwpiau hyn). Nid oes fawr ddim yn newid pan ychwanegwn drethi at ein dadansoddiad ym mhanel b): fel yn Ffigur 3.4 uchod, bydd colledion ar gyfer aelwydydd tlotach yn cynyddu a'r rhai ar gyfer aelwydydd cyfoethocach yn lleihau (neu enillion yn cynyddu) gan fod colledion o gynnydd mewn trethi anuniongyrchol yn fwy na thoriadau trethi uniongyrchol ar gyfer aelwydydd tlotach, ac i'r gwrthwyneb ar gyfer aelwydydd cyfoethocach. Nid yw'r effaith hon yn amrywio rhwng aelwydydd sy'n gweithio ac aelwydydd nad ydynt yn gweithio. 19 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Mae credyd cynhwysol (panel c), mewn cyferbyniad, yn golygu y bydd aelwydydd sy'n gweithio ar eu hennill ac aelwydydd nad ydynt yn gweithio ar eu colled. Mae bodolaeth lwfansau gwaith, sy'n caniatáu i deuluoedd â phlant ennill swm penodol heb golli unrhyw fudd-daliadau, yn golygu bod teuluoedd sy'n gweithio ar eu hennill ar gyfartaledd, er bod y lwfansau gwaith hyn yn sylweddol is bellach na'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol. Fodd bynnag, mae rhai mathau o aelwydydd nad ydynt yn gweithio ar eu colled. Mae'r rheini sydd â chynilion sylweddol neu incwm heb ei ennill ar eu colled gan fod y rhain yn cael eu trin yn fwy difrifol o lawer yn y prawf modd ar gyfer credyd cynhwysol nag y maent ar gyfer credydau treth. Hefyd, bydd y rheini sy'n hawlio'r premiwm anabledd difrifol neu uwch ar hyn o bryd mewn lwfans cyflogaeth a chymorth (ESA) sy'n seiliedig ar incwm ar eu colled o ganlyniad i symleiddio'r cymorth i bobl anabl o dan gredyd cynhwysol, sy'n golygu y bydd y rhai sy'n cael y mwyaf o dan y system gyfredol ar eu colled, er y bydd eraill ag anableddau llai difrifol ar eu hennill.9 Ffigur 3.6: Enillion a cholledion cyfartalog yn sgil diwygiadau i drethi a budddaliadau i'w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 yng Nghymru fesul degradd incwm a math o aelwyd a) Diwygiadau i fudd-daliadau yn unig (ac eithrio credyd cynhwysol) 2% 0% -2% Newid metn incwm net -4% -6% -8% -10% -12% -14% -16% Tlotaf 2 3 Yn gweithio 4 5 6 7 Grŵp degradd incwm Pensiynwyr 8 9 Cyfoethocaf Ddim yn gweithio Pawb Pawb 9 Mae'r premiwm anabledd difrifol ar gael i'r rheini a all hawlio'r cyfraddau canol neu uwch o elfen gofal DLA. Gall y rhai sy'n cael y gyfradd uchaf o elfen gofal DLA hefyd gael y premiwm anabledd uwch. O dan gredyd cynhwysol, bydd y bobl hyn yn cael lefel is o gymorth, er y bydd y rhai yn y grŵp cymorth ESA nad ydynt yn cael cyfraddau canol neu uwch DLA yn cael mwy. 20 © Institute for Fiscal Studies, 2015 b) Diwygiadau i drethi a budd-daliadau ac eithrio credyd cynhwysol 2% 0% -2% Newid mewn incwm net -4% -6% -8% -10% -12% -14% -16% Tlotaf 2 3 4 Yn gweithio 5 6 7 Grŵp degradd incwm Pensiynwyr 8 9 Cyfoethocaf Ddim yn gweithio Pawb Pawb c) Diwygiadau i drethi a budd-daliadau gan gynnwys credyd cynhwysol 2% 0% -2% Newid mewn incwm net -4% -6% -8% -10% -12% -14% -16% Tlotaf 2 3 Yn gweithio 4 5 6 7 Grŵp degradd incwm Pensiynwyr 8 9 Cyfoethocaf Ddim yn gweithio Pawb Pawb Nodyn i Ffigur 3.6: Pennir grwpiau degradd incwm drwy rannu holl aelwydydd Cymru yn 10 grŵp o'r un maint yn ôl incwm net wedi'i addasu yn ôl maint aelwyd gan ddefnyddio graddfa cyfwerthedd McClements. Mae'n tybio bod y budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth wedi cael eu hawlio'n llawn. Ffynhonnell ar gyfer Ffigur 3.6: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14 ac Arolwg o Gostau Byw a Bwyd (LCFS) 2012. Dadansoddiadau eraill Gallwn wrth gwrs ddangos canlyniadau drwy ddulliau eraill heblaw incwm aelwydydd. Dengys Ffigur 3.6 y colledion cyfartalog yn sgil y newidiadau i drethi a budd-daliadau i'w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 ar gyfer mathau gwahanol o aelwydydd, mewn termau arian parod ac fel canran o incwm. Gallwn weld mai'r rhai sydd ar eu colled fwyaf yn sgil y newidiadau i fudd-daliadau yw aelwydydd heb waith â phlant. Ar yr aelwydydd hyn y mae'r terfyn o ddau blentyn ar gyfer y Credyd Treth Plant yn effeithio 21 © Institute for Fiscal Studies, 2015 waethaf, ac effeithir arnynt hefyd gan y broses o rewi budd-daliadau am bedair blynedd, diddymu'r elfen deuluol o'r credyd treth plant ac, mewn nifer fach o achosion, y cap ar fudd-daliadau, cyflwyno PIP yn lle DLA a diddymu'r premiwm grŵp gweithgarwch sy'n gysylltiedig â gwaith yn ESA. Bydd teuluoedd heb waith a heb blant hefyd ar eu colled yn sgil rhai o'r newidiadau hyn i fudd-daliadau. Mae'r mathau hynny o deuluoedd sy'n gweithio sy'n cael credydau treth (unig rieni a chyplau â phlant lle nad oes ond un ohonynt yn ennill) hefyd ar eu colled yn sgil rhai o'r newidiadau i fudd-daliadau, yn bennaf y lleihad yn y trothwy credyd treth, ond hefyd newidiadau eraill i gredydau treth fel diddymu'r elfen deuluol o Gredyd Treth Plant ac mewn rhai achosion y terfyn o ddau blentyn ar yr elfen fesul plentyn o Gredyd Treth Plant. Mae cyplau lle mae'r ddau yn ennill ac unigolion sy'n gweithio heb blant yn tueddu i beidio â chael unrhyw fudddaliadau yn y lle cyntaf ac felly nid yw'r newidiadau i fudd-daliadau yn effeithio'n sylweddol arnynt. Mae'r newidiadau i bensiynau'r wladwriaeth a budd-daliadau eraill a geir gan bensiynwyr yn gymharol fach, felly ar gyfartaledd ni fydd pensiynwyr ychwaith yn gweld eu hincwm yn newid yn sylweddol o ganlyniad i newidiadau i fudd-daliadau a gyflwynir dros y pedair blynedd nesaf. Mae credyd cynhwysol hefyd yn cael effaith negyddol ar incwm teuluoedd heb waith ar gyfartaledd. Canlyniad newidiadau sy'n lleihau hawliau o ran budd-daliadau nifer fach o deuluoedd yn sylweddol yw hyn gan gynnwys y driniaeth lemach o gynilion ac incwm heb ei ennill yn y prawf modd ar gyfer credyd cynhwysol sy'n berthynol i'r un o ran credydau treth. Mae pensiynwyr mewn cyplau hefyd ar eu colled ar gyfartaledd: unwaith eto, mae hyn o ganlyniad i golledion sylweddol i nifer gymharol fach o deuluoedd sy'n codi, oherwydd bydd yn rhaid i gyplau hawlio credyd cynhwysol, yn hytrach na'r credyd pensiwn mwy hael y gallant ei gael ar hyn o bryd, os yw un ohonynt yn hŷn nag oedran pensiwn y wladwriaeth a'r llall o dan yr oedran hwnnw. Yr enillwyr mawr yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol yw cyplau lle nad oes ond un ohonynt yn ennill ennill, er bod unig rieni sy'n gweithio ar eu colled, yn rhannol o ganlyniad i driniaeth lemach incwm cynhaliaeth yn y prawf modd ar gyfer credyd cynhwysol yn berthynol i'r un ar gyfer credydau treth. Fel gyda newidiadau eraill i fudd-daliadau, mae llai o effaith ar gyplau lle mae'r ddau yn ennill a phobl sengl heb blant sy'n gweithio am eu bod yn tueddu i beidio â bod â hawl i fudd-daliadau yn y lle cyntaf. Fel o'r blaen, mae newidiadau i drethi yn llai o ran maint na newidiadau i fudd-daliadau. Nid yw'r rhan fwyaf o aelwydydd heb waith nad ydynt yn talu treth incwm yn y lle cyntaf yn elwa ar newidiadau i drethi uniongyrchol, y mae'r rhai pwysicaf yn cynyddu lwfans personol treth incwm a'r trothwy cyfradd uwch. Ar wahân i hyn, nid oes llawer o wahaniaeth yn eu heffaith rhwng mathau o aelwydydd. Mae newidiadau i drethi anuniongyrchol hyd yn oed yn llai, ac nid yw eu heffaith yn amrywio'n sylweddol yn ôl y math o deulu. 22 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Ffigur 3.7: Enillion a cholledion cyfartalog i aelwydydd yng Nghymru yn sgil newidiadau i drethi a budd-daliadau i'w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 yn ôl y math o aelwyd a) Enillion a cholledion arian parod blynyddol ar gyfartaledd Sengl, ddim yn gweithio Sengl, mewn gwaith Unig riant, ddim yn gweithio Unig riant, mewn gwaith Cwpl, dim plant, neb yn ennill Cwpl â phlant, neb yn ennill Cwpl, dim plant, un yn ennill Cwpl â phlant, un yn ennill Cwpl, dim plant, y ddau'n ennill Cwpl â phlant, y ddau'n ennill Pensiynwr sengl Pensiynwr mewn cwpl Aelwyd aml-deulu, dim plant Aelwyd aml-deulu, â phlant Pawb -£5,000 -£4,000 -£3,000 -£2,000 -£1,000 £0 £1,000 Newid yn yr incwm net blynyddol Trethi uniongyrchol Trethi anuniongyrchol Buddiannau b) Enillion a cholledion cyfartalog wedi'u mynegi fel canran o incwm net Sengl, ddim yn gweithio Sengl, mewn gwaith Unig riant, ddim yn gweithio Unig riant, mewn gwaith Cwpl, dim plant, neb yn ennill Cwpl â phlant, neb yn ennill Cwpl, dim plant, un yn ennill Cwpl â phlant, un yn ennill Cwpl, dim plant, y ddau'n ennill Cwpl â phlant, y ddau'n ennill Pensiynwr sengl Pensiynwr mewn cwpl Aelwyd aml-deulu, dim plant Aelwyd aml-deulu, â phlant Pawb -20% Trethi uniongyrchol -15% -10% -5% 0% Newid canrannol mewn incwm net Trethi anuniongyrchol Buddiannau 5% 23 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Nodyn i Ffigur 3.7: Mae'n tybio bod y budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth wedi cael eu hawlio'n llawn. Ffynhonnell ar gyfer Ffigur 3.7: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14 ac Arolwg o Gostau Byw a Bwyd (LCFS) 2012. Ceir dadansoddiadau pellach yn nhabl 3.1. Yn gyntaf, rhannwn aelwydydd yn ôl p'un a oes unrhyw un ar yr aelwyd yn anabl yn ôl y diffiniad statudol.10 Nid yw'r newidyn hwn ar gael yn yr Arolwg o Gostau Byw a Bwyd, y set ddata a ddefnyddiwn i gyfrifo colledion o drethi anuniongyrchol, felly dim ond enillion a cholledion yn sgil newidiadau i drethi uniongyrchol a budd-daliadau a ddangoswn yn y ddwy res gyntaf hyn. Gallwn weld nad yw aelwydydd sy'n cynnwys person anabl yn gwneud cystal â'r rhai heb berson anabl yn sgil y ddau newid i drethi uniongyrchol, newidiadau i fudd-daliadau a chyflwyno credyd cynhwysol. Gwelsom eisoes fod y rhai mewn gwaith am dâl yn elwa mwy ar newidiadau i drethu uniongyrchol a chredyd cynhwysol na'r rheini nad ydynt mewn gwaith am dâl. Gan fod y rheini sydd ag anabledd yn llai tebygol o fod mewn gwaith am dâl, mae hyn yn esbonio'n rhannol pam bod aelwydydd sy'n cynnwys person anabl yn ennill llai ar gyfartaledd yn sgil y newidiadau hyn. Mae newidiadau i fudd-daliadau hefyd yn lleihau incwm aelwydydd sy'n cynnwys person anabl ar gyfartaledd yn fwy na'r rheini lle nad oes gan unigolion anabledd. Yn syml, mae hyn am fod pobl anabl yn fwy tebygol o gael budd-daliadau ac felly ar eu colled yn fwy na phobl nad ydynt yn anabl pan gaiff haelioni'r budd-daliadau ei leihau, ac yn rhannol am fod rhai budd-daliadau yn benodol i bobl anabl yn cael eu torri. Yn benodol, mae disgwyl i'r broses o gyflwyno PIP yn lle DLA olygu y bydd nifer o'r bobl hynny sy'n hawlio DLA ar hyn o bryd yn colli eu hawl neu'n gweld yr hawl honno'n lleihau, a bydd llawer o'r bobl hynny yn anabl yn ôl y diffiniad statudol. Mae tabl 3.1 hefyd yn dangos enillion a cholledion cyfartalog i aelwydydd mewn isranbarthau gwahanol o Gymru. Nid oedd yn bosibl darparu'r dadansoddiad hwn ar lefel awdurdod lleol oherwydd meintiau sampl bach. Caiff yr is-ranbarthau eu grwpio yn ôl eu cyfraddau hawlio budd-daliadau o oedran gweithio, gyda rhywfaint o ystyriaeth i'w lleoliad daearyddol.11 Mae gan yr ardaloedd awdurdod lleol yn is-ranbarth 1 y cyfraddau hawlio budd-daliadau uchaf ac mae'r isaf yn is-ranbarth 5. O gofio hyn, nid yw'n syndod mai aelwydydd yn is-ranbarth 1 sy'n colli'r mwyaf ar gyfartaledd yn sgil newidiadau i fudd-daliadau, ac mai'r rhai yn is-ranbarth 5 sy'n colli'r lleiaf ar gyfartaledd. Unwaith eto, gan mai newidiadau i fudd-daliadau yw'r mwyaf, dyma beth sy'n llywio'r patrwm dosbarthiadol cyffredinol. (Prin yw'r patrwm canfyddadwy rhwng is-ranbarthau ar gyfer effaith y newidiadau i drethi a chredyd cynhwysol, na rhwng is-ranbarthau 2,3 a 4). 10 Mae unigolyn yn anabl yn ôl y diffiniad hwn os yw'n nodi bod ganddo gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol neu salwch sydd wedi para, neu y mae disgwyl iddo bara, 12 mis neu fwy, a bod hyn yn cyfyngu ar ei allu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd. 11 Darparwyd y dadansoddiad hwn o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ar sail data Chwefror 2015 gan Nomis. 24 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Fel y gwelsom yn Ffigurau 3.4 a 3.5, mae aelwydydd sy'n cynnwys unigolion sy'n hŷn nag oedran pensiwn y wladwriaeth yn colli llai nag aelwydydd o oedran gweithio, er bod aelwydydd hŷn yn colli ar gyfartaledd yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol tra bod aelwydydd o oedran gweithio yn ennill ar gyfartaledd. O fewn aelwydydd o oedran gweithio, mae patrwm clir yn dangos bod aelwydydd sy'n cynnwys pobl iau yn colli mwy fel canran o'u hincwm. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i broffil cylch oes enillion: mae pobl yn tueddu i weld eu henillion yn cynyddu yn ystod eu bywyd gwaith, sy'n golygu eu bod yn fwy tebygol o fod yn y ddegradd incwm uwch (lle y gwelsom fod y colledion yn llai) tuag at ddiwedd bywyd gwaith. Mae hyn yn ein hatgoffa na fydd effaith newidiadau i drethi a budd-daliadau ar incwm aelwyd benodol mewn un cyfnod o reidrwydd yr un peth ag y mae ar adegau eraill yn ystod eu hoes. Mae dadansoddiad diweddar gan ymchwilwyr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn archwilio effaith ddosbarthiadol diwygiadau treth a budd-daliadau amrywiol ar draws y cylch oes cyfan.12 Ffactor arall sy'n llywio'r patrwm hwn yw bod pobl yn tueddu i gael plant pan fyddant yn eu hugeiniau a'u tridegau, ac rydym wedi gweld mai teuluoedd â phlant fydd yn colli'r mwyaf yn sgil y newidiadau i drethi a budd-daliadau a gyflwynir dros y pedair blynedd nesaf. Mae Tabl 3.1 hefyd yn dangos y graddau y mae'r cyfyngiad ar yr elfen fesul plentyn o gredyd treth plant a chredyd cynhwysol yn llywio ein canlyniadau. Er bod aelwydydd ag un neu ddau o blant yn colli mwy nag aelwydydd di-blant ar gyfartaledd - mae hyn o ganlyniad i doriadau i'r trothwy credyd treth, y cynnydd yn y gyfradd tapro credyd treth a diddymu elfen deuluol y credyd treth plant - mae'r colledion hyn yn llai o lawer na'r rhai a wynebir gan aelwydydd sydd â thri neu fwy o blant, ac yn enwedig y swm anferthol o £7,750 a gollir ar gyfartaledd gan aelwydydd sydd ag o leiaf bedwar o blant. Yn olaf, archwiliwn yr effaith gyfartalog ar gyfer yr aelwydydd hynny sy'n defnyddio gofal plant y telir amdano. Mae'r aelwydydd hyn yn colli llai ar gyfartaledd fel cyfran o'u hincwm yn sgil newidiadau i fudd-daliadau eraill heblaw am gyflwyniad credyd cynhwysol, ac yn ennill mwy ar gyfartaledd nag aelwydydd eraill yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol. Mae o leiaf ddau reswm dros hyn: Yn gyntaf, mae gan yr aelwydydd hyn incwm cyfartalog cymharol uchel, sy'n golygu y bydd y toriadau i fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth a gyflwynir dros y pedair blynedd nesaf yn llai tebygol o effeithio arnynt. Yn ail, er gwaethaf y lleihad cyffredinol yn haelioni'r system budd-daliadau, caiff cymorth i ofal plant ei ymestyn dros y cyfnod hwn gyda chyflwyniad y cynllun 'gofal plant di-dreth'. Ac i'r rhai ag incwm is, bydd y gyfradd gymhorthdal ar gyfer gwariant ar ofal plant yn uwch o dan gredyd cynhwysol nag y mae o dan gredyd treth gwaith, sef 85% yn lle 70%. 12 Gweler P. Levell, J. Shaw a B. Roantree (2015), ‘Redistribution from a lifetime perspective’, Papur Gwaith y Sefydliad Astudiaethau Cyllid W15/27, http://www.ifs.org.uk/publications/7986. 25 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Tabl 3.1: Enillion a cholledion cyfartalog i aelwydydd yng Nghymru yn sgil newidiadau i drethi a budd-daliadau i'w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 fesul statws anabledd, is-ranbarth o Gymru, oedran y person hynaf ac a yw'n defnyddio gofal plant y telir amdano Math o aelwyd Neb ar yr aelwyd yn anabl O leiaf un person anabl ar yr aelwyd Isranbarth 1b Isranbarth 2b Isranbarth 3b Isranbarth 4b Isranbarth 5b Person hynaf o dan 30 oed Person hynaf rhwng 30 a 39 oed Person hynaf rhwng 40 a 49 oed Person hynaf rhwng 50 a 59 oed Enillion/colledion arian parod blynyddol cyfartalog o Cyfanswm, arian parod Cyfanswm, % o incwm net Trethi union gyrchol +£133 Trethi anunion gyrchol DD/G Budddaliadau CC –£455 +£51 –£272a –0.9% a +£80 DD/G –£663 –£35 –£618% a –2.4% a +£103 DD/G –£645 +£39 –£503 –1.8% a +£122 DD/G –£507 –£3 –£387 –1.3% a +£107 DD/G –£464 –£21 –£378 –1.4% a +£102 DD/G –£540 +£40 –£398 –1.2% a +£154 DD/G –£321 +£17 –£150 –0.5% a +£72 –£38 –£949 +£74 –£841 –4.1% +£125 –£57 –£1,041 +£105 –£868 –2.7% +£117 –£59 –£789 +£142 –£588 –1.6% +£136 –£64 –£708 +£119 –£517 –1.6% 26 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Person hynaf rhwng 60 a 69 oed Person hynaf yn 70 oed neu'n hŷn +£130 –£55 –£108 –£228 –£261 –0.9% +£85 –£42 –£62 –£40 –£58 –0.3% Dim plant Un plentyn 2 o blant 3 o blant 4 o blant +£116 –£56 –£170 –£27 –£137 –0.5% +£95 +£130 +£72 +£15 –£42 –£53 –£24 –£38 –£858 –£1,067 –£3,781 –£7,848 +£152 +£173 –£112 +£120 –£654 –£817 –£3,845 –£7,750 –1.8% –2.2% –12.0% –19.6% Ddim yn defnyddio gofal plant y telir amdano Yn defnyddio gofal plant y telir amdano +£115 –£54 –£531 £14 –£456 –1.6% +£58 –£26 –£652 £97 –£524 –1.3% +£112 –£53 –£536 £17 –£459 –1.6% Memo: pob aelwyd yng Nghymru a Nodiadau i Dabl 3.1: Mae cyfyngiadau data yn golygu na allwn ddangos colledion cyfartalog o drethi anuniongyrchol ar gyfer aelwydydd sydd ag unigolyn neb heb unigolyn sy'n anabl yn ôl y diffiniad statudol ac yn ôl is-ranbarth yng Nghymru. Felly, mae'r cyfansymiau hyn yn eithrio trethi anuniongyrchol. b Mae is-ranbarth 1 yn cynnwys Castell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Peny-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Torfaen, a Chasnewydd. Mae is-ranbarth 2 yn cynnwys Ynys Môn, Conwy, Wrecsam a Sir Ddinbych. Mae is-ranbarth 3 yn cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Mae is-ranbarth 4 yn cynnwys Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae is-ranbarth 5 yn cynnwys Sir y Fflint, Gwynedd, Ceredigion, Powys a Sir Fynwy. Caiff yr isranbarthau hyn eu grwpio yn ôl eu cyfraddau hawlio budd-daliadau o oedran gweithio, gyda rhywfaint o ystyriaeth i'w lleoliad daearyddol. Mae'n tybio bod y budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth wedi cael eu hawlio'n llawn. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14 ac Arolwg o Gostau Byw a Bwyd (LCFS) 2012. 27 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Crynodeb Bydd cartrefi yng Nghymru ar gyfartaledd yn colli cymaint o'r newidiadau i drethi a budd-daliadau a gyflwynir dros y pedair blynedd nesaf â'r cyfartaledd ar gyfer y DU gyfan mewn termau arian parod, er bod hyn yn cynrychioli cyfran fwy o'u hincwm net, gan fod Cymru yn rhan gymharol dlawd o'r DU. Drwy fynd y tu hwnt i'r effaith gyfartalog hon i archwilio gwahaniaethau rhwng mathau gwahanol o aelwydydd yng Nghymru ac ar lefelau incwm gwahanol, gwelwn fod effaith y newidiadau i fudd-daliadau yn rheoli'r darlun cyffredinol. Bydd yr effaith fwyaf, yn sgil y newidiadau hyn, ar yr aelwydydd o oedran gweithio tlotach, yn enwedig y rheini sydd â phlant. Gan y bydd rhai o'r newidiadau i gredydau treth, fel y cynnydd yn y gyfradd tapro a'r lleihad yn y trothwy incwm cyntaf, yn effeithio'n arbennig ar y rheini mewn gwaith am dâl, bydd aelwydydd sy'n gweithio ar incwm isel yn colli cymaint fel cyfran o'u hincwm net â'r rheini nad ydynt mewn gwaith am dâl. I'r gwrthwyneb, ni fydd y newidiadau hyn i raddau helaeth yn effeithio ar bensiynwyr. Bydd credyd cynhwysol yn lleihau'r effeithiau hyn i ryw raddau i rai o'r grwpiau hyn, yn enwedig aelwydydd â chyplau ar incwm isel sy'n gweithio ac sydd â phlant. Ond bydd aelwydydd eraill, yn enwedig y rhai lle nad oes neb mewn gwaith am dâl, yn gweld lleihad pellach yn eu hincwm yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol (ar ôl i ddiogelwch trosiannol ddod i ben). Bydd pensiynwyr hefyd yn gweld lleihad bach yn eu hincwm ar gyfartaledd yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol: mae hyn yn codi oherwydd colledion mawr i nifer fach o gyplau sy'n bensiynwyr lle mae un ohonynt o dan oedran pensiwn y wladwriaeth. Mae newidiadau i drethi yn llai o lawer o ran maint: mae aelwydydd o bob math a lefel incwm yn colli swm bach o'r cynnydd mewn trethi anuniongyrchol, ond i aelwydydd incwm canol ac uwch, caiff hyn ei wrthbwyso'n llwyr gan leihad mewn trethi uniongyrchol sy'n deillio o gynnydd yn y lwfans personol treth incwm a'r trothwy cyfradd uwch. 28 © Institute for Fiscal Studies, 2015 4. Effaith y newidiadau i drethi a budddaliadau ar gymhellion ariannol i weithio Yn yr adran hon, archwiliwn effeithiau'r newidiadau i drethi a budd-daliadau i'w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 ar gymhellion ariannol i weithio. Eglurwn yn gyntaf sut rydym yn mesur cymhellion ariannol i weithio a sut rydym yn defnyddio TAXBEN, model micro-efelychu trethi a budd-daliadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, i gyfrifo mesurau cymhellion i weithio o dan gyfundrefnau treth a budd-daliadau gwahanol. Yna dadansoddwn effaith y diwygiadau i drethi a budd-daliadau ar y mesurau hyn o gymhellion ariannol i weithio. Yn olaf, dangoswn effaith y Cyflog Byw Cenedlaethol (CBC) ar y cymhellion ar gyfer y rhai sy'n ennill llai na'r cyflog byw ar hyn o bryd, ac ar y cymhellion i'r rhai nad ydynt mewn gwaith am dâl gymryd swydd sy'n talu'r isafswm cyflog. Mae'n bwysig nodi mai dim ond un elfen o'r hyn a fydd yn pennu'r hyn sy'n digwydd i lefelau cyflogaeth yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yw'r newidiadau yn y mesurau o gymhellion ariannol i weithio. Yn gyntaf, er y bydd newidiadau yn y mesurau o gymhellion ariannol i weithio yn rhoi rhyw ymdeimlad o gyfeiriad a graddfa'r newidiadau tebygol yn lefelau'r cyflenwad llafur, bydd y rhain yn y pen draw hefyd yn dibynnu ar ba mor ymatebol yw pobl i'r newidiadau yn y cymhellion a wynebant. Yn ail, hyd yn oed os bydd newidiadau o ran faint o lafur y mae unigolion am ei ddarparu, caiff hyn neu efallai na chaiff hyn ei gyfateb gan y galw am y llafur hwn gan gyflogwyr. Mesur cymhellion ariannol i weithio Mae cymhellion ariannol i weithio yn dibynnu ar faint o incwm a geir heb weithio, y gyfradd cyflogau gros y gall unigolyn ei hawlio wrth weithio, a'r trethi a'r budd-daliadau sy'n daladwy iddynt neu ganddynt ar lefelau enillion gwahanol. Mewn geiriau eraill, maent yn dibynnu ar y gydberthynas rhwng oriau gwaith ac incwm net ar ôl trethi a budd-daliadau. Felly, er mwyn deall yn llawn y cymhellion ariannol i weithio sy'n wynebu unrhyw unigolyn penodol, byddai'n rhaid i rywun, yn ddelfrydol, edrych ar y gydberthynas lawn rhwng oriau a weithiwyd ac incwm net, sef y cyfyngiad ar y gyllideb. Ond er mwyn gwneud y gwaith o ddadansoddi'r boblogaeth gyfan yn hawdd i’w drafod, defnyddiwn fesurau cryno o gymhellion gweithio. Yn benodol, rydym yn canolbwyntio ar ddau gysyniad gwahanol o gymhellion gweithio: mae'r cyntaf yn mesur y cymhelliant y mae unigolyn yn ei wynebu i wneud gwaith am dâl o gwbl, yn hytrach na pheidio â gweithio (y cyfeirir ato weithiau fel y raddfa estynedig (extensive margin); mae'r ail yn mesur y cymhelliant i rywun sy'n gweithio gynyddu ei enillion ychydig (y cyfeirir ato weithiau fel y raddfa ddwys (intensive margin)) - boed hynny drwy weithio mwy o oriau, ceisio cael dyrchafiad neu symud i swydd sy'n talu'n well. Rydym yn defnyddio dau fesur i asesu'r cymhelliant i weithio o gwbl: defnyddio'r gyfradd dreth gyfranogol (PTR) sy'n gwerthuso cyfran y cyflogau gros nad yw'n cynyddu incwm net y cyflogeion oherwydd caiff ei cholli naill ai mewn rhwymedigaethau treth uwch neu lai o hawliau i fudd-daliadau, a'r gyfradd ddisodli 29 © Institute for Fiscal Studies, 2015 (RR), sy'n gwerthuso swm yr incwm a gaiff unigolyn pan na fydd yn gweithio fel cyfran o'i incwm yn y gwaith. Yn ffurfiol, Felly, byddai polisïau sy'n lleihau lefel y budd-daliadau a gaiff unigolyn os nad yw'n gweithio a pholisïau sy'n cynyddu swm yr incwm a gaiff unigolyn os yw mewn gwaith am dâl (fel toriadau mewn trethi ar incwm a enillir) yn tueddu i leihau'r gyfradd dreth gyfranogol a'r gyfradd ddisodli, gan adlewyrchu'r ffaith bod cymhellion i weithio yn cael eu hatgyfnerthu. Fodd bynnag, nid yw cyfraddau treth gyfranogol na chyfraddau disodli yn mesur yn union yr un peth. Mae cyfraddau disodli, drwy gymharu'n uniongyrchol incwm unigolyn yn y gwaith ac allan o waith, yn fesur o'r cymhelliant llwyr i weithio a wynebir ganddo. I'r gwrthwyneb, mae cyfraddau treth gyfranogol yn mesur y graddau y mae'r system dreth a budd-daliadau yn gwyrdroi penderfyniad unigolyn ynghylch p'un a ddylai weithio ai peidio. Er mwyn gweld hyn, ystyriwch achos unigolyn y mae ei enillion gros yn fach iawn, ond nad yw ei rwymedigaethau treth na'i hawl i fudd-daliadau yn amrywio yn dibynnu ar b'un a yw'n gweithio ai peidio. Efallai y bydd cyfradd ddisodli'r person hwn yn uchel, gan na fydd ei incwm yn amrywio llawer p'un a yw'n gweithio ai peidio. Ond bydd ei gyfradd dreth gyfranogol yn sero gan y bydd y gwahaniaeth rhwng ei incwm mewn gwaith a'i incwm allan o waith yn union yr un peth â'i enillion gros. Felly, gall yr un polisïau gael effeithiau gwahanol ar y ddau fesur. Yn benodol, ystyriwch ddiwygiad polisi sy'n lleihau incwm unigolyn mewn gwaith a'i incwm allan o waith. Bydd p'un a yw'n lleihau'r gyfradd dreth gyfranogol yn dibynnu ar b'un a yw'r incwm mewn gwaith neu'r incwm allan o waith yn cael ei leihau fwy mewn termau arian parod. Fodd bynnag, bydd p'un a yw'n lleihau'r gyfradd ddisodli yn dibynnu ar b'un a yw'r incwm mewn gwaith neu'r incwm allan o waith yn cael ei leihau fwyaf mewn termau canrannol. Felly, bydd diwygiad sy'n lleihau'r incwm mewn gwaith yn fwy mewn termau arian parod, ond yr incwm allan o waith yn fwy mewn termau canrannol yn cynyddu'r gyfradd dreth gyfranogol ond yn lleihau'r gyfradd ddisodli. Rydym yn mesur y cymhelliant i'r rheini mewn gwaith gynyddu eu henillion gan ddefnyddio'r gyfradd dreth ymylol effeithiol (EMTR), y gyfran o gynnydd bach mewn enillion a gollir naill ai mewn taliadau treth uwch neu lai o hawliau o ran budd-daliadau. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn cyfrifo EMTRs drwy ychwanegu ceiniog yr wythnos at enillion unigolion ond gan adael eu horiau gwaith yn ddigyfnewid.13 Fel gyda chyfraddau 13 Dewis amgen fyddai cynyddu oriau gwaith ychydig a gadael y gyflog fesul awr yn ddigyfnewid. Gall hyn arwain at ganlyniadau gwahanol oherwydd mae hawliau i rai budddaliadau a chredydau treth yn dibynnu ar oriau gwaith ac yn dibynnu ar incwm. Mae'n ddadleuol p'un yw'r mesur mwyaf perthnasol o gymhellion gweithio: mae dadansoddiad o'r cyflenwad llafur traddodiadol wedi canolbwyntio ar sut mae oriau gwaith yn ymateb i gymhellion ariannol, ond mae deunydd darllen mwy diweddar wedi canfod bod ymatebolrwydd cyffredinol incwm trethadwy yn fwy o lawer nag un cyflenwad llafur - sy'n awgrymu bod llawer 30 © Institute for Fiscal Studies, 2015 treth gyfranogol a chyfraddau disodli, mae EMTRs uwch yn golygu cymhellion gweithio gwannach. Cyfrifo ein mesurau o gymhellion gweithio Mae cyfrifo cyfraddau treth gyfranogol a chyfraddau disodli yn galw am feddu ar wybodaeth am incwm net unigolion mewn gwaith ac unigolion sydd allan o waith. Ar gyfer y rhai mewn gwaith am dâl, mae'n gymharol syml cyfrifo'r incwm net y byddent yn ei gael pe na baent yn gweithio: gellir nodweddu eu hawliau i fudd-daliadau a'u rhwymedigaethau treth yn llawn gan ddefnyddio TAXBEN o gofio'r nodweddion yr arsylwyd arnynt (nifer y plant, incwm eu partner, statws anabledd ac ati). Ar gyfer y rhai nad ydynt mewn gwaith am dâl, mae cymhellion ariannol i ddechrau gweithio yn dibynnu ar beth fyddai eu henillion gros a'u horiau pe baent yn gweithio. Ni sylwir ar y rhain, ac felly rhaid i ni eu hamcangyfrif ar gyfer pob unigolyn nad yw'n gweithio. Ar gyfer unigolion o dan oedran pensiwn y wladwriaeth nad ydynt mewn gwaith am dâl, rydym yn cyfrifo'r cyfraddau treth gyfranogol ar bedwar pwynt oriau gwahanol. Rhagfynegwn eu henillion ar bob un o'r pwyntiau oriau hyn gan ddefnyddio atchweliad sgwariau lleiaf cyffredin o enillion wythnosol log unigolion yr arsylwyd arnynt a gyflogir yn y categori oriau perthnasol ar nodweddion amrywiol gan gynnwys oedran, rhyw, rhanbarth, ethnigrwydd, addysg, deiliadaeth tŷ, nifer ac oedran y plant, statws partneriaeth a statws cyflogaeth ac enillion partner.14 Ar ôl i ni gyfrifo'r pedair cyfradd dreth gyfranogol hyn ar gyfer pob un nad yw'n gweithio, rydym yn eu pwysoli yn ôl tebygolrwydd amcangyfrifedig yr unigolyn hwnnw yn dewis gweithio'r nifer hynny o oriau pe bai'n dechrau gwneud gwaith am dâl. Cyfrifir y tebygolrwydd hwn drwy ddefnyddio model logit lluosnomaidd, unwaith eto wedi ei amcangyfrif gan ddefnyddio o ymateb cyffredinol incwm trethadwy yn cynnwys agweddau eraill ar ymddygiad - a bod ymatebion yn aml ar ffurfiau eraill, fel dwysedd yr ymdrech fesul awr neu symud swyddi (gweler, er enghraifft, Saez, Slemrod a Giertz (2012) am adolygiad). Yn ymarferol, fodd bynnag, rydym wedi canfod mewn dadansoddiad blaenorol (heb ei gyhoeddi) nad yw amcangyfrifon o ddosbarthiad EMTRs, ac effaith diwygiadau arni, yn sensitif iawn ynghylch p'un ai oriau neu'r cyflog fesul awr sy'n cynyddu (neu yn wir faint y cynnydd a ddefnyddiwyd). 14 Mae hyn yn ddull cymharol syml ond mae iddo anfanteision. Yr anfantais allweddol yw bod enillion posibl mewn gwaith yn benderfynyn penderfyniad i ddechrau gweithio, ac felly byddai'n naturiol disgwyl i'r enillion a gâi eu hennill gan rywun nad yw'n gweithio ar hyn o bryd fod yn is na'r rhai a enillwyd gan rywun sydd mewn gwaith ar y pryd gyda nodweddion tebyg yr arsylwyd arnynt. Mae'n debygol y bydd anwybyddu'r mater dethol hwn, a drafodwyd yn helaeth yn y deunydd darllen lle y cynigiwyd sawl ateb (gweler, er enghraifft, J. Heckman (1979), ‘Sample selection bias as a specification error’, Econometrica, cyf. 47, tudalennau 153–61), yn peri i ni oramcangyfrif enillion unigolion nad ydynt yn gweithio. Fodd bynnag, nid yw'n hysbys i ba raddau y bydd hyn yn creu tuedd o ran ein hamcangyfrifon o EMTRs a chyfraddau treth gyfranogol. 31 © Institute for Fiscal Studies, 2015 ymddygiad unigolion mewn gwaith am dâl yn ein data gyda'r un set o newidynnau esboniadol.15 Mae dau bwynt arall y mae'n werth eu nodi ar ein dadansoddiad o gymhellion gweithio. Yn gyntaf, i rai mewn cyplau, rydym yn canolbwyntio ar y gydberthynas rhwng ymddygiad gweithio unigolyn ac incwm net ei deulu. Mae hyn yn tybio'n ymhlyg fod cyplau yn cronni eu hincwm yn llawn. Yn ail, rydym yn anwybyddu nodweddion y system dreth a budd-daliadau sy'n darparu cymorth dros dro yn unig a'r ffaith bod rhai mathau o gymorth ond ar gael ar ôl cyfnod o aros, wrth i ni ystyried effaith hirdymor unigolyn sy'n dechrau gweithio neu'n cynyddu ei enillion ar incwm gwario ei deulu. Cyflawnir ein dadansoddiad gan ddefnyddio rhifynnau 2012-13 a 2013-14 o'r Arolwg o Adnoddau Teulu (FRS), sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl am nodweddion demograffig aelwydydd, incymau gros a hawl i fudd-daliadau nad ydynt yn dibynnu ar brawf modd a phensiynau'r wladwriaeth, sy'n golygu y gallwn ei defnyddio i gyfrifo eu hawliau i drethi uniongyrchol a budd-daliadau. Fodd bynnag, nid yw'r FRS yn cynnwys gwybodaeth am batrymau gwario pob aelwyd, sy'n golygu na allwn ddefnyddio'r set ddata hon i gyfrifo newidiadau mewn rhwymedigaethau trethi anuniongyrchol. Mewn egwyddor mae trethi anuniongyrchol yr un mor bwysig â threthi uniongyrchol ar gyfer cymhellion gweithio mae'r ddau yn creu bwlch rhwng yr hyn y mae cyflogwr yn fodlon ei dalu i gyflogi rhywun a'r hyn y gall enillion gweithiwr ei brynu iddo ar ôl treth - ond gan fod newidiadau i drethi anuniongyrchol arfaethedig yn gymharol fach (fel y gwelsom yn adran 3), ni ddylai eu hanwybyddu effeithio ar y gymhariaeth o ran systemau treth a budd-daliadau gwahanol, sef ffocws yr adroddiad hwn. Rydym hefyd yn eithrio Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr o'n mesurau o gymhellion gweithio: fel gyda threthi anuniongyrchol, mae'r rhain yn ychwanegu at y bwlch rhwng yr hyn y mae cyflogwr yn fodlon ei dalu i gyflogi rhywun a'r hyn y gall enillion gweithiwr ei brynu iddo ar ôl treth, ond gan nad oes newidiadau i'r rhain ar y gweill dros y pedair blynedd nesaf, ni fydd eu heithrio yn effeithio'n ansoddol ar ein cymhariaeth o systemau treth a budd-daliadau gwahanol. Effaith y newidiadau i drethi a budd-daliadau ar gymhellion ariannol i weithio Effaith ar y cymhelliant i unigolion weithio o gwbl Dengys Tabl 4.1 gyfraddau treth gyfranogol ar gyfartaledd ar gyfer grwpiau gwahanol o unigolion cyn ac ar ôl y newidiadau i drethi a budd-daliadau a gyflwynir rhwng 2015-16 a 2019-20. Yn gyffredinol, mae'r gyfradd dreth gyfranogol gyfartalog yng Nghymru yn gostwng 2.2 pwynt canran o ganlyniad i newidiadau i drethi a budd-daliadau a gyflwynir yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn atgyfnerthiad cymharol fach o ran cymhellion 15 Yr un fethodoleg yw hon â'r un a ddefnyddir yn S. Adam a D. Phillips (2013), ‘An ex-ante analysis of the effects of the UK Government’s welfare reforms on labour supply in Wales’ Adroddiad 75 y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, http://www.ifs.org.uk/publications/6586; rhoddir disgrifiad llawnach yn atodiad A o'r papur hwnnw. 32 © Institute for Fiscal Studies, 2015 gweithio ar gyfartaledd, er nad yw hyn o reidrwydd yn golygu mai dim ond effaith fach a gaiff y newidiadau hyn ar y cyflenwad llafur. Cyflwyno credyd cynhwysol sy'n gyfrifol am tua hanner yr effaith hon, gyda'r rhan fwyaf o'r gweddill yn deillio o newidiadau eraill i fudd-daliadau. Gwelwn fod newidiadau i drethi (cynyddu'r lwfans personol treth incwm a'r trothwy cyfradd uwch) yn atgyfnerthu ychydig gymhellion gweithio ar gyfartaledd, ac nid oes llawer o amrywiad yn yr effaith hon fesul grŵp, er bod grwpiau sy'n fwy tebygol o ennill llai na'r lwfans personol pan fyddant yn gweithio yn gweld eu cyfradd dreth gyfranogol yn lleihau llai o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Mewn cyferbyniad â hyn, mae newidiadau i fudd-daliadau yn cael effeithiau sylweddol wahanol rhwng grwpiau gwahanol o bobl. Mae'r gostyngiadau mawr mewn credydau treth i'r rheini mewn gwaith sy'n deillio o'r gostyngiad yn y trothwy credyd treth cyntaf yn golygu bod newidiadau i fudd-daliadau yn cynyddu cyfraddau treth gyfranogol y grwpiau hynny sy'n fwy tebygol o fod â hawl i gredydau treth pan fyddant yn gweithio, sef y plant hynny nad oes ganddynt bartner sydd mewn gwaith am dâl a theuluoedd sy'n cynnwys oedolyn ar fudd-daliadau anabledd: ar gyfer y grŵp hwn, mae toriadau i fudddaliadau yn lleihau incymau mewn gwaith yn fwy nag incymau allan o waith ar gyfartaledd. Gan fod enillwyr is hefyd yn fwy tebygol o fod â hawl i gredydau treth pan fyddant mewn gwaith am dâl, mae'r grwpiau hynny sy'n fwy tebygol o gael enillion isel (gwirioneddol neu ragweledig) fel rhentwyr cymdeithasol a'r rhai nad ydynt mewn gwaith am dâl ar hyn o bryd hefyd yn gweld eu cyfraddau treth gyfranogol ar gyfartaledd yn cynyddu o ganlyniad i'r newidiadau hyn i fudd-daliadau. Y rhai sy'n gweld eu cyfraddau treth gyfranogol yn lleihau fwyaf o ganlyniad i'r newidiadau hyn yw'r rheini sydd mewn cyplau â phlant gyda phartner sy'n gweithio. Mae hyn yn codi, oherwydd, fel y gwelsom yn yr adran flaenorol, mae newidiadau i fudd-daliadau yn lleihau swm cyfartalog y cymorth a gaiff cyplau â phlant lle nad oes ond un ohonynt yn ennill, ond nid ydynt yn effeithio'n sylweddol ar incymau cyplau â phlant lle mae'r ddau yn ennill. Felly, mae cael yr ail bartner i weithio yn dod yn fwy atyniadol i gyplau â phlant. Hynny yw, mae'r gostyngiadau i gredydau treth i gyplau lle nad oes ond un ohonynt yn ennill yn golygu bod gan y teulu lai o hawl credyd treth i'w cholli os yw'r ail aelod o'r cwpl yn dechrau gweithio. Canlyniad annisgwyl efallai yn Nhabl 4.1 yw nad yw pobl sydd â mwy o blant yn gweld eu cyfraddau treth gyfranogol yn lleihau mwy na'r rheini sydd â llai o blant: o gofio'r gostyngiadau mawr mewn hawliau i fudd-daliadau allan o waith ar gyfer teuluoedd mawr, gallem ddisgwyl i gymhellion gweithio'r grŵp gael eu hatgyfnerthu'n arbennig. Mae dau reswm pam nad yw hyn yn digwydd. Yn gyntaf, mae elfen fesul plentyn y credyd treth plant ar gael i deuluoedd sy'n gweithio a rhai nad ydynt yn gweithio, felly bydd cyfyngu hyn i ddau blentyn yn lleihau incwm mewn gwaith ac incwm allan o waith llawer o deuluoedd yn y grŵp hwn. Yn ail, mae teuluoedd mawr yn llai tebygol o fod yn gyplau lle mae'r ddau yn ennill, felly mae aelodau o'r grŵp hwn yn fwy tebygol o gael partner allan o waith, ac rydym wedi gweld bod y rhai sydd â phlant nad yw eu partner mewn gwaith am dâl yn tueddu i weld eu cyfraddau treth gyfranogol yn cynyddu o ganlyniad i'r gostyngiadau yn y trothwy credyd treth cyntaf a'r cynnydd yn y gyfradd tapro. 33 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Mewn llawer o achosion, mae gan gredyd cynhwysol yr effaith groes i newidiadau eraill i fudd-daliadau. Drwy gynyddu'r cymorth a roddir i gyplau lle nad oes ond un ohonynt yn ennill, mae'n lleihau cyfraddau treth gyfranogol ar gyfartaledd yn sylweddol iawn i'r rheini mewn cyplau lle nad yw eu partner mewn gwaith am dâl.16 Ond am fod y cymorth ychwanegol hwn wedyn yn cael ei dynnu'n ôl pan fydd yr ail aelod o'r cwpl yn dechrau gwaith am dâl, mae'r gyfradd dreth gyfranogol gyfartalog ar gyfer y rhai y mae eu partner mewn gwaith am dâl yn cynyddu, o leiaf ymhlith teuluoedd â phlant. Ac oherwydd bod gan y rhan fwyaf o bobl â phlant bartner sy'n gweithio, mae credyd cynhwysol yn cynyddu'r gyfradd dreth gyfranogol gyfartalog ychydig iawn ymhlith y rhai sydd â phlant yn gyffredinol, er bod y gyfradd gyfartalog yn lleihau ymhlith teuluoedd mwy o faint, lle nad oes gan y rhan fwyaf o bobl bartner mewn gwaith am dâl. Mae credyd cynhwysol hefyd yn lleihau cyfraddau treth gyfranogol gyfartalog i weithwyr hŷn - mae hyn am fod credyd cynhwysol i'r rhai sydd â phartner sy'n hŷn nag oedran pensiwn y wladwriaeth yn lleihau eu hincwm allan o waith gan y bydd yn rhaid iddynt hawlio credyd cynhwysol yn hytrach na'r credyd pensiwn mwy hael y gallant ei gael ar hyn o bryd. Wrth i deuluoedd incwm isel sy'n gweithio weld eu hincwm yn cynyddu o ganlyniad i gyflwyno credyd cynhwysol, mae'r grwpiau hynny sy'n fwy tebygol o gael lefelau isel o enillion (gwirioneddol neu ragweledig) fel rhentwyr cymdeithasol a'r rheini nad ydynt mewn gwaith am dâl yn gweld eu cyfraddau treth gyfranogol yn lleihau fwy na'r cyfartaledd. Gwelwn hyn ymhellach yn Ffigur 4.1 sy'n dangos cyfraddau treth gyfranogol fesul lefel enillion gros o dan y systemau treth a budd-daliadau gwahanol. Gwelwn nad yw newidiadau treth yn effeithio ar gyfraddau treth gyfranogol ar lefel enillion islaw'r lwfans personol treth incwm (£10,600) ond eu bod yn lleihau cyfraddau treth gyfranogol cyfartalog ychydig ar lefelau enillion uwch. Yna mae newidiadau i fudddaliadau yn cynyddu cyfraddau treth gyfranogol cyfartalog ar lefelau enillion isel iawn ond yn eu lleihau ar lefel enillion uchel. Ar lefel enillion isel, mae'r gostyngiad o ran cymorth mewn gwaith drwy gredydau treth yn fwy na'r gostyngiad yn eu budd-daliadau allan o waith. Yn olaf, mae credyd cynhwysol yn lleihau ymhellach gyfraddau treth gyfranogol cyfartalog ar bob lefel enillion, ond yn enwedig islaw £30,000, lle y teimlir ei effeithiau ar incwm mewn gwaith gweithwyr yn arbennig. Hyd yma, dim ond effaith y diwygiadau ar y cyfraddau treth gyfranogol cyfartalog a wynebir gan grwpiau gwahanol a ystyriwyd gennym. Ond mae amrywiad sylweddol hefyd yn eu heffaith ar draws y dosbarthiad cyfan o gyfraddau treth gyfranogol (h.y. i'r rheini sydd â chymhellion gweithio gwannach na'r cyfartaledd neu gymhellion gweithio cryfach na'r cyfartaledd i ddechrau). Dengys Ffigur 4.2 effaith y diwygiadau ar ddosbarthiad cyfan cyfraddau treth gyfranogol yng Nghymru. Yn berthnasol i hyn, gwelwn fod gan tua 80% o bobl gyfradd dreth gyfranogol o lai na 55%, sy'n golygu eu bod yn cael cadw o leiaf 45% o'r hyn a enillant pan ddechreuant weithio, ac nad yw'r ffigur hwn yn newid yn sylweddol o ganlyniad i'r newidiadau i drethi a budd-daliadau a 16 Gan fod y rheini sy'n hawlio budd-dal anabledd yn llai tebygol o fod mewn gwaith am dâl, mae eu partneriaid yn llai tebygol o fod â phartner sy'n gweithio. Felly, mae partneriaid y rheini sy'n cael budd-dal anabledd hefyd yn gweld gostyngiadau sylweddol yn eu cyfraddau treth gyfranogol ar gyfartaledd. 34 © Institute for Fiscal Studies, 2015 gyflwynir rhwng 2015-16 a 2019-20. Gwelwn hefyd fod y gostyngiad yn y gyfradd dreth gyfranogol gyfartalog a achosir gan newidiadau i fudd-daliadau heblaw am gredyd cynhwysol yn deillio o'r ffaith bod cyfraddau treth gyfranogol yn is ymhlith y rhai a oedd yn wynebu cymhellion cryfach i ddechrau. Er enghraifft, bydd nifer y bobl yng Nghymru â chyfraddau treth gyfranogol o lai na 30% yn lleihau tua 110,000 o ganlyniad i ddiwygiadau i drethi a budd-daliadau ac eithrio credyd cynhwysol. Ond bydd y diwygiadau hyn hefyd yn cynyddu cyfraddau treth gyfranogol cyfartalog ychydig i'r rheini oedd â'r cymhellion gwannaf i ddechrau: bydd nifer yr unigolion yng Nghymru â chyfraddau treth gyfranogol o 70% neu fwy yn cynyddu tua 20,000 o ganlyniad i newidiadau i fudd-daliadau. Mae hyn yn codi oherwydd y toriadau i gredydau treth mewn gwaith sy'n bodoli i atgyfnerthu cymhellion gweithio y rheini a fyddent fel arall yn wynebu cymhellion gwan iawn. Mae hwn yn ganlyniad annymunol iawn gan fod y gwyrdroi a achosir gan dreth (neu ddiddymu budd-dal) yn cynyddu'n fwy na'r hyn sy'n gymesur i'r gyfradd dreth (h.y. mae'n well cael dau berson yn wynebu cyfradd dreth o 60% nag un person yn wynebu cyfradd o 50% a'r llall yn wynebu cyfradd o 70%). Fodd bynnag, caiff yr effaith hon ei gwrthdroi'n llwyr yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol, sydd, drwy resymoli sawl prawf modd sy'n gorgyffwrdd yn un prawf modd, yn dileu'r cymhellion gweithio gwan iawn y gall y taprau gorgyffwrdd hyn eu creu. Mae credyd cynhwysol yn lleihau nifer yr unigolion yng Nghymru â chyfraddau treth gyfranogol o fwy na 70% tua 60,000, lleihad o fwy nag un rhan o dair.17 Mae'n cael effeithiau sydd hyd yn oed yn fwy dramatig ar nifer yr unigolion â chyfraddau treth gyfranogol uwchlaw 75%, gan leihau'r nifer tua 90,000 neu fwy na dwy ran o dair.18 17 Mae nifer yr unigolion â chyfradd dreth gyfranogol o fwy na 70% yn lleihau o tua 170,000 i tua 110,000. 18 Mae nifer yr unigolion â chyfradd dreth gyfranogol o fwy na 75% yn lleihau o tua 125,000 i tua 35,000. 35 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Tabl 4.1: Effaith y diwygiadau i drethi a budd-daliadau ar gyfraddau treth gyfranogol cyfartalog yng Nghymru fesul grŵp Grŵp Sengl, dim plant Unig riant Partner ddim yn gweithio, dim plant Partner ddim yn gweithio, gyda phlant Partner yn gweithio, dim plant Partner yn gweithio, gyda phlant Heb blant Gyda phlant Yn cynnwys: Un plentyn Cyfradd dreth gyfranogol gyfartalog cyn diwygio Effaith: Cyfradd dreth gyfran ogol gyfartalo g heb CC Cyfradd dreth gyfran ogol gyfartalo g â CC Newidiada u i drethi union gyrchol Newid iadau i fudddaliadau 39.3% –0.4 –0.1 38.8% 37.7% 43.1% –0.2 +4.0 46.9% 47.4% 46.9% –0.4 +1.9 – 6.3 48.5% 42.1% 65.9% –0.2 +1.6 – 13. 1 67.2% 54.0% 21.3% –0.4 –1.3 – 0.5 19.5% 19.1% 32.3% –0.4 –3.5 +3. 4 28.4% 31.8% 33.9% –0.4 –0.3 33.3% 31.6% 39.8% –0.3 –1.5 37.9% 38.0% 36.7% –0.4 –2.1 34.3% 34.5% 40.1% –0.4 –1.2 38.6% 39.2% 50.3% –0.2 –2.1 48.0% 46.5% 49.0% –0.2 +3.8 52.7% 48.0% 31.5% –0.3 –0.5 30.7% 29.7% 37.1% –0.4 –1.1 35.6% 35.2% 36.4% –0.4 +0.4 36.4% 32.9% 2 o blant 3 o blant 4+ o blant 19 - 24 oed 25 - 54 oed Oedran 55 Oedran Pensiwn y Wladwriaet h CC – 1.2 +0. 5 – 1.7 0.0 +0. 2 +0. 6 – 1.5 – 4.6 – 1.0 – 0.4 – 3.5 36 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Gwyn Ddim yn wyn Yn cael budd-dal anabledd Partner yn cael budddal anabledd Dim oedolyn yn y teulu yn cael budddal anabledd Rhentiwr cymdeithas ol Rhentiwr preifat Perchennog -ddeiliad Ddim yn gweithio Yn gweithio Pawb 35.9% –0.4 –0.7 42.8% –0.3 –0.9 46.4% –0.3 +2.0 55.3% –0.3 34.6% – 1.1 – 0.5 34.8% 33.7% 41.6% 41.1% – 2.7 48.1% 45.4% +2.2 – 11. 1 57.3% 46.2% –0.4 –1.0 – 0.5 33.2% 32.7% 51.4% –0.3 +2.2 – 4.4 53.3% 48.9% 42.5% –0.3 +0.1 42.2% 40.9% 31.6% –0.4 –1.5 29.7% 29.4% 39.4% –0.3 +0.5 39.6% 37.7% 34.8% –0.4 –1.2 33.2% 32.5% 36.1% –0.4 –0.7 35.0% 34.0% – 1.4 – 0.3 – 1.9 – 0.7 – 1.0 Noder: Sampl: pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. 37 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Ffigur 4.1: Cyfraddau treth gyfranogol cyfartalog fesul enillion, trethi a budddaliadau cyn ac ar ôl y newidiadau 50% 45% Cyfradd dreth gyfranogol 40% 35% 30% 25% 0 10000 20000 30000 40000 50000 60000 Enillion gros (£/blwyddyn) Dim newidiadau i drethi a budd-daliadau Newidiadau i drethi yn unig Pob newid heblaw am CC Pob newid gyda CC Noder: Llinellau llyfn lowess Sampl: pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. 38 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Cyfran y gweithwyr o dan y PTR hon Ffigur 4.2: Dosbarthiad cyfraddau treth gyfranogol yng Nghymru, trethi a budd-daliadau cyn ac ar ôl y newidiadau 100% 80% 60 % 40% 20% 0% 0% 10% 20% 30% 40% 50% 60% 70% 80% 90% 100% Cyfradd dreth gyfranogol Dim newidiadau i drethi a budd-daliadau Newidiadau i drethi yn unig Pob newid heblaw am CC Pob newid gyda CC Noder: Sampl: pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. Dengys Tabl 4.2 yr un dadansoddiad â Tabl 4.1 ar gyfer cyfraddau disodli. Mae cyfraddau treth gyfranogol a chyfraddau disodli yn symud i'r un cyfeiriad yn gyffredinol, er bod rhai gwahaniaethau. Yn gyntaf, drwy archwilio'r newid cyfartalog cyffredinol, mae effaith gyffredinol y polisïau treth a budd-daliadau yn dal i fod yn ostyngiad bach yn y gyfradd ddisodli gymedrig - mae'r gyfradd ddisodli gymedrig hefyd yn gostwng 2.2 pwynt canran - ond mae effeithiau pob set o bolisïau ychydig yn wahanol. Mae hyn am fod y mesurau ychydig yn wahanol yn yr ystyr bod y gyfradd dreth gyfranogol yn dibynnu ar y gwahaniaeth rhwng incwm unigolyn pan fydd mewn gwaith a'i incwm pan fydd allan o waith, ond mae'r gyfradd ddisodli yn dibynnu ar y gymhareb. Felly, er mwyn lleihau cyfradd ddisodli unigolyn yn sylweddol, rhaid i bolisi naill ai gynyddu incwm mewn gwaith unigolyn neu leihau ei incwm allan o waith o ganran fawr. Felly dim ond effaith fach iawn a gaiff newidiadau i drethi, sy'n cynyddu incwm y rhan fwyaf o bobl mewn gwaith ychydig, ar y gyfradd ddisodli gymedrig. I'r gwrthwyneb, mae newidiadau i fudd-daliadau heblaw am gredyd cynhwysol yn cael effaith fwy o lawer ar y gyfradd ddisodli gyfartalog nag ar y gyfradd dreth gyfranogol gyfartalog. Mae hyn oherwydd, er bod y newidiadau hyn yn lleihau incymau mewn gwaith ychydig ar gyfartaledd, maent yn lleihau incymau allan o waith llawer mwy mewn termau canrannol. Mae credyd cynhwysol yn cynyddu incymau mewn gwaith ychydig ac yn lleihau incymau allan o 39 © Institute for Fiscal Studies, 2015 waith ychydig ar gyfartaledd, ac felly mae'n cael effaith ychydig yn llai ar y gyfradd ddisodli gyfartalog nag a gaiff ar y gyfradd dreth gyfranogol gyfartalog. Mewn rhai achosion, mae newidiadau i fudd-daliadau'n cael yr effaith groes ar y gyfradd ddisodli gyfartalog i'r effaith a gânt ar y gyfradd dreth gyfranogol gyfartalog. Er enghraifft, mae'r rhai mewn cyplau sydd â phlant nad yw eu partner mewn gwaith am dâl, ac unig rieni, yn gweld eu cyfraddau treth gyfranogol cyfartalog yn cynyddu o ganlyniad i newidiadau i fudd-daliadau ond mae eu cyfraddau disodli cyfartalog yn lleihau.19 Mae hyn yn digwydd oherwydd, er bod y diwygiadau hyn yn lleihau eu hincwm mewn gwaith yn fwy na'u hincwm allan o waith mewn termau arian parod, mae newidiadau fel y terfyn o ddau blentyn mewn credydau treth (noder ein bod yn gweld gostyngiadau arbennig o fawr mewn cyfraddau disodli cyfartalog ymhlith teuluoedd mawr, nad oedd yn wir yn achos cyfraddau treth gyfranogol) a rhewi budd-daliadau am bedair blynedd yn lleihau eu hincwm allan o waith yn fwy na'u hincwm mewn gwaith mewn termau canrannol. Fodd bynnag, i'r rheini sydd mewn cyplau heb blant nad yw eu partner yn gweithio, mae'r newidiadau hyn yn dal i gynyddu'r gyfradd ddisodli ychydig. Ar y cyfan, mae patrymau newidiadau mewn cymhellion gweithio yn debyg p'un a ddefnyddiwn gyfraddau disodli neu gyfraddau treth gyfranogol fel ein mesur. Y rheini sydd mewn cyplau nad oes ganddynt bartner sy'n gweithio sy'n gweld eu cymhellion yn cryfhau leiaf, neu hyd yn oed yn gwanhau, o ganlyniad i newidiadau i fudd-daliadau heblaw am gredyd cynhwysol ond yr un rhai wedyn sy'n eu gweld yn cryfhau fwyaf o ganlyniad i gyflwyno credyd cynhwysol. Mewn cyferbyniad â hynny, y rheini sydd â phartner sy'n gweithio sy'n gweld eu cymhellion yn cryfhau fwyaf yn sgil newidiadau i fudd-daliadau heblaw am gredyd cynhwysol, ond ar raddfa lai, neu, yn achos y rheini sydd â phlant maent yn gwanhau mewn gwirionedd, o ganlyniad i gyflwyno credyd cynhwysol. Unig rieni sy'n gweld eu cymhellion yn cryfhau leiaf neu hyd yn oed yn gwanhau o ganlyniad i'r newidiadau cyffredinol i drethi a budd-daliadau. O ran y dadansoddiadau eraill yn Nhabl 4.2, mae pobl hŷn yn gweld eu cyfraddau disodli yn lleihau ar raddfa lai na phobl ifanc ar gyfartaledd yn sgil y newidiadau i fudd-daliadau heblaw am gredyd cynhwysol, ond ar raddfa fwy na phobl iau ar gyfartaledd o ganlyniad i gredyd cynhwysol. Mae'r bobl hyn yn llai tebygol o gael plant ac felly yn gweld gostyngiad llai yn eu hincwm allan o waith gan nad yw'r toriadau i'w hawliau o ran credyd treth allan o waith yn effeithio arnynt. Fel y trafodwyd o'r blaen, mae rhai o'r grŵp hwn, sef y rhai y mae eu partner yn hŷn nag oedran pensiwn y wladwriaeth, yn gweld eu hincwm allan o waith yn lleihau yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol, gan na fyddant mwyach yn gallu hawlio'r credyd pensiwn mwy hael os nad ydynt mewn gwaith am dâl. Mae'r rhai nad ydynt mewn gwaith am dâl yn tueddu i gael enillion posibl is na'r rhai sy'n gweithio ar hyn o bryd, ac felly yn gweld eu cyfraddau diswyddo yn lleihau llai ar gyfartaledd o ganlyniad i newidiadau i fudd-daliadau heblaw am gredyd cynhwysol na gweithwyr cyfredol. 19 Mae dadleuon tebyg yn gymwys i rentwyr a'r rheini mewn teuluoedd lle mae rhywun yn cael budd-dal anabledd. 40 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Gallwn weld y pwynt hwn ymhellach yn Ffigur 4.3, sy'n dangos cyfraddau disodli cyfartalog fesul enillion cyn ac ar ôl y newidiadau i drethi a budd-daliadau. Unwaith eto, bach iawn yw effaith y newidiadau i drethi ar unrhyw lefel enillion. Mae newidiadau i fudd-daliadau heblaw am gredyd cynhwysol yn lleihau cyfraddau disodli yn arbennig ar lefelau enillion uwch. Mae hyn am fod gostyngiadau, ar lefelau enillion is, yn eu hincwm mewn gwaith a'u hincwm allan o waith o ganlyniad i ostyngiadau yn y trothwy credyd treth cyntaf a'r cynnydd yn y gyfradd tapro. Mae'r rheini y mae eu henillion (gwirioneddol neu ragweledig) yn uwch yn llai tebygol o gael budd-daliadau os ydynt mewn gwaith ac felly ond yn gweld eu hincwm allan o waith yn lleihau o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Mewn cyferbyniad â hynny, dim ond effaith ar lefelau enillion is (islaw £30,000) a gaiff credyd cynhwysol, sy'n cynyddu cymorth mewn gwaith i rai grwpiau o enillwyr isel. Ond noder bod ei effaith yn gymharol fach drwyddi draw: cofiwch, yn Nhabl 4.2, i ni weld bod credyd cynhwysol yn lleihau cyfraddau disodli i'r rheini nad yw eu partner yn gweithio ond nad yw'n cael fawr ddim effaith neu hyd yn oed yn eu cynyddu i'r rheini y mae eu partner mewn gwaith am dâl, a chan fod cymysgedd o'r rhai sydd â phartner a'r rhai heb bartner ar bob lefel enillion, mae'r ddwy effaith yn fras yr un peth. Yn olaf, mae Ffigur 4.4 yn dangos dosbarthiad cyfan cyfraddau disodli cyn ac ar ôl y newidiadau i drethi a budd-daliadau. Gwelwn eto nad yw'r newidiadau i drethi yn cael unrhyw effaith amlwg ar ddosbarthiad cyfraddau disodli. Mae newidiadau i fudddaliadau heblaw am gredyd cynhwysol yn lleihau'r gyfradd ddisodli gymedrig (canol) tua 3 phwynt canran ond yn cael fawr ddim effaith ar nifer y bobl â chyfraddau disodli uchel (uwchlaw 80%). Mae hyn am fod y rheini sydd â chyfraddau disodli uchel iawn yn tueddu i gael y credydau treth mewn gwaith sy'n cael eu torri, gan leihau eu hincwm mewn gwaith. Fodd bynnag, mae credyd cynhwysol yn cael yr effaith ddymunol iawn o leihau cyfraddau disodli i'r rheini sy'n wynebu'r cyfraddau disodli uchaf oll ar hyn o bryd: mae'n lleihau nifer yr unigolion yng Nghymru sy'n wynebu cyfraddau disodli o 70% o leiaf, a nifer y cyfraddau disodli o 80% o leiaf, tua 25,000.20 20 Mae nifer yr unigolion â chyfraddau disodli o 70% o leiaf yn lleihau o 468,000 i 442,000 ac mae nifer yr unigolion â chyfraddau disodli o 80% o leiaf yn lleihau o 240,000 i 215,000. 41 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Tabl 4.2: Effaith diwygiadau i drethi a budd-daliadau ar gyfraddau disodli cyfartalog yng Nghymru fesul grŵp Grŵp Sengl, dim plant Unig riant Partner ddim yn gweithio, dim plant Partner ddim yn gweithio, gyda phlant Partner yn gweithio, dim plant Partner yn gweithio, gyda phlant Heb blant Gyda phlant Cyfrad d ddisodl i gyfart alog cyn diwygi o Effaith: Cyfradd ddisodli gyfartalog , ar ôl diwygio heb CC Cyfradd ddisodli gyfartalog , ar ôl diwygio gyda CC Newidiadau i drethi uniongyrcho l Newidiada u i fudddaliadau 39.3% –0.1 –0.9 38.3% 37.4% 71.2% –0.1 –0.6 70.6% 70.6% 60.1% –0.1 +0.1 – 4.5 60.1% 55.6% 75.9% –0.1 –1.0 – 5.6 74.7% 69.0% 55.3% –0.0 –1.0 – 0.4 54.3% 53.9% 65.0% –0.1 –2.8 +1. 4 62.1% 63.6% 48.2% –0.1 –0.8 47.3% 46.1% 67.8% –0.1 –2.2 65.5% 65.5% 63.6% –0.1 –2.3 61.3% 61.5% 68.8% –0.1 –1.7 67.0% 66.8% 78.5% –0.1 –3.5 75.0% 74.5% 84.2% –0.1 –2.4 81.7% 80.3% 45.1% –0.1 –1.1 44.0% 43.5% 57.1% –0.1 –1.6 55.4% 55.0% 58.4% –0.1 –0.3 58.0% 55.5% Yn cynnwys: Un plentyn 2 o blant 3 o blant 4+ o blant 19 - 24 oed 25 - 54 oed Oedran 55 Oedran Pensiwn y CC – 0.9 – 0.0 – 1.3 – 0.1 +0. 2 – 0.2 – 0.5 – 1.4 – 0.5 – 0.5 – 2.5 42 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Wladwriaet h Gwyn Ddim yn wyn Cael budddal anabledd Partner yn cael budddal anabledd Dim oedolyn yn y teulu yn cael budd-dal anabledd Rhentiwr cymdeithaso l Unigolyn sy'n rhentu'n breifat Perchennogddeiliad Ddim yn gweithio Yn gweithio Pawb 55.3% –0.1 –1.3 63.7% –0.1 –1.6 70.9% –0.1 –1.1 75.4% –0.1 53.6% – 0.8 – 1.3 53.9% 53.1% 62.0% 60.7% – 1.6 69.8% 68.2% –0.6 – 5.4 74.7% 69.4% –0.1 –1.3 – 0.6 52.2% 51.6% 66.4% –0.1 –0.6 – 1.9 65.7% 63.7% 59.0% –0.1 –1.1 – 0.6 57.7% 57.1% 52.7% –0.1 –1.5 – 0.6 51.2% 50.5% 61.6% –0.1 –1.1 60.5% 59.3% 53.1% –0.1 –1.4 51.6% 50.9% 55.5% –0.1 –1.3 54.1% 53.3% – 1.2 – 0.6 – 0.8 Noder: Sampl: pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. 43 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Ffigur 4.3: Cyfraddau disodli cyfartalog fesul enillion, trethi a budd-daliadau cyn ac ar ôl y newidiadau 80% 70% Cyfradd ddisodli 60% 50% 40% 30% 0 10000 20000 30000 40000 50000 60000 Enillion gros (£/blwyddyn) Dim newidiadau i drethi a budd-daliadau Newidiadau i drethi yn unig Pob newid heblaw am CC Pob newid gyda CC Noder: Llinellau llyfn lowess Sampl: pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. 44 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Ffigur 4.4: Dosbarthiad cyfraddau disodli yng Nghymru, trethi a budd-daliadau cyn ac ar ôl y newidiadau Cyfran y gweithwyr o dan y Gyfradd Ddisodli hon 100% 80% 60% 40% 20% 0% 0% 10% 20% 30% 40% 50% 60% 70% 80% 90% 100% Cyfradd ddisodli Dim newidiadau i drethi a budd-daliadau Newidiadau i drethi yn unig Pob newid heblaw am CC Pob newid gyda CCC Noder: Sampl: pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. Effaith ar y cymhelliant i unigolion mewn gwaith am dâl i ennill mwy Mae Tabl 4.3 yn dangos effaith y diwygiadau i drethi a budd-daliadau ar gyfraddau treth ymylol effeithiol (y gyfran o bunt o enillion ychwanegol a gollir mewn treth neu fudddaliadau a ddiddymir). Yn gyffredinol, mae newidiadau i drethi a budd-daliadau i'w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 i leihau EMTR gyfartalog 2.6 pwynt canran, yn atgyfnerthu'r cymhellion i'r rheini mewn gwaith am dâl gynyddu eu henillion. Mae newidiadau i drethi uniongyrchol yn lleihau EMTRs cyfartalog ychydig. Mae'r gostyngiad cyfartalog bach hwn yn deillio o'r gostyngiadau mawr mewn EMTRs ar gyfer nifer fach o unigolion sy'n mynd islaw'r lwfans personol neu'r trothwy cyfradd uwch o ganlyniad i gynnydd yn y ddau drothwy treth incwm hyn. Felly, mae'r grwpiau hynny sy'n cynnwys mwy o unigolion ag incwm sydd naill ai oddeutu'r lwfans personol neu'r trothwy cyfradd uwch yn gweld gostyngiadau cyfartalog mwy mewn EMTRs. Gan fod y rhain yn ddau grŵp â lefelau enillion gwahanol iawn, nid oes patrwm clir yn y mathau o bobl sy'n arbennig o awyddus i weld y gostyngiadau mawr hyn yn yr EMTRs. Mae newidiadau i fudd-daliadau heblaw am gredyd cynhwysol yn lleihau'r EMTR gyfartalog yn fwy sylweddol. Mae tair agwedd ar y newidiadau hyn sy'n effeithio ar EMTRs pobl: 45 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Yn gyntaf, gan fod y newidiadau hyn yn cynnwys gostyngiadau yn yr uchafswm budd-daliadau y mae gan deuluoedd hawl iddynt, bydd rhai pobl yn gweld nad oes hawl ganddynt mwyaf i unrhyw beth ac felly yn gweld eu EMTR yn lleihau'n sylweddol gan nad ydynt mwyach yn wynebu'r broses o ddiddymu budddaliadau os byddant yn cynyddu eu henillion ychydig. Yn ail, mae'r gostyngiad yn y trothwy credyd treth cyntaf yn yr un modd yn dangos bod hawl i gredydau treth yn dod i ben ar lefel incwm is, sy'n golygu unwaith eto nad yw rhai pobl yn wynebu'r broses o ddiddymu credydau treth os byddant yn cynyddu eu henillion, gan leihau eu EMTR. (Mae hyn hefyd yn golygu y bydd nifer fach o unig rieni sy'n gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ond sy'n ennill llai na'r trothwy credyd treth cyfredol o £6,420 yn gweld cynnydd yn yr EMTR gan y byddent bellach yn wynebu'r broses o ddiddymu credydau treth pe baent yn cynyddu eu henillion). Yn olaf, mae'r cynnydd yn y gyfradd tapro credyd treth yn golygu bod y rhai sy'n dal i fod ar y tapr credyd treth yn gweld eu EMTRs yn cynyddu gan eu bod bellach yn wynebu toriad mwy sydyn mewn credydau treth os cynyddant eu henillion. Fodd bynnag, fel gyda'r newidiadau eraill, mae hefyd yn golygu bod rhai gweithwyr yn gweld nad oes hawl ganddynt mwyach i gredydau treth o gwbl ar eu lefel enillion gyfredol ac felly na fyddant yn wynebu colli credyd treth os cynyddant eu henillion. Yn gyffredinol, mae'r ffactorau sy'n lleihau EMTRs drwy leihau nifer y bobl ar fudddaliadau a thaprau credyd treth yn bwysicach ac mae'r newidiadau hyn yn lleihau'r EMTR gyfartalog 2.4 pwynt canran. Fel y byddem yn ei ddisgwyl, maent yn lleihau EMTRs yn arbennig ymhlith grwpiau a oedd yn fwy tebygol o fod â hawl i fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth yn y lle cyntaf, gan gynnwys y rhai mewn cyplau sydd â phlant, y rhai mewn cyplau heb blant nad yw eu partner mewn gwaith am dâl a'r rhai mewn teuluoedd lle mae rhywun yn hawlio budd-dal anabledd. Mae'r rheini sydd â theuluoedd mawr, sy'n gweld gostyngiadau arbennig o fawr yn eu hawl i gredydau treth, hefyd yn debygol o weld eu EMTR yn lleihau'n sylweddol o ganlyniad i gael eu tynnu allan o'r system credyd treth yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, ar gyfer y grwpiau sy'n ennill y lleiaf oll lle na chaiff ond nifer fach o bobl eu tynnu allan o gredydau treth yn gyfan gwbl, mae'r cynnydd yn y gyfradd tapro credyd treth yn bwysicach. Er enghraifft, mae'r EMTR gyfartalog yn cynyddu ymhlith unig rieni 2.5 pwynt canran. Nid yw ychwaith yn lleihau'n sylweddol ymhlith rhentwyr cymdeithasol, grŵp arall sy'n ennill yn gymharol isel. Mae credyd cynhwysol yn lleihau'r EMTR gyfartalog gyffredinol o ryw ychydig, ond mae hyn yn cuddio cynnydd mawr i rai grwpiau a gostyngiadau mawr i eraill. Drwy gyfuno sawl prawf modd sy'n gorgyffwrdd yn un prawf, mae credyd cynhwysol yn dileu'r EMTRs uchaf oll sy'n bodoli o dan y system gyfredol pan fydd unigolion yn wynebu colli budd-daliadau lluosog a chredydau treth dros yr un ystod o incwm. Mae hyn yn golygu bod grwpiau fel unig rieni a'r rhai ar fudd-daliadau anabledd yn gweld gostyngiadau mawr yn eu EMTRs cyfartalog. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu bod yr hawl i fudd-daliadau yn ymestyn i lefelau incwm uwch ac felly bydd mwy o unigolion yn wynebu colli budd-daliadau os cynyddant eu henillion, gan gynyddu eu EMTR. Yn arbennig, mae'r cynnydd yn lefel y cymorth mewn gwaith a roddir i gyplau â phlant (ac i 46 © Institute for Fiscal Studies, 2015 raddau llai i bobl sengl heb blant) o dan gredyd cynhwysol yn golygu bod yr EMTRs cyfartalog ymhlith y grwpiau hyn yn cynyddu. Adlewyrchir y patrymau hyn hefyd yn Ffigur 4.5 sy'n dangos EMTRs cyfartalog fesul enillion cyn ac ar ôl y newidiadau hyn i drethi a budd-daliadau. Mae'n dangos bod newidiadau i drethi yn lleihau EMTRs oddeutu lefel y lwfans personol lle y caiff rhai unigolion eu tynnu allan o dreth incwm. Nid yw newidiadau i fudd-daliadau yn lleihau EMTRs cyfartalog ar y lefelau enillion isaf oll, lle mae unigolion yn fwy tebygol o fod â hawl i gredydau treth o hyd ac yn wynebu colli mwy yn dilyn y newidiadau, ond ar lefelau enillion uwch mae'r newidiadau hyn yn lleihau EMTRs cyfartalog yn sylweddol. Mae unigolion ar y lefelau enillion uwch hyn yn llai tebygol o wynebu colli budddaliadau neu gredydau treth os cynyddant eu hincwm yn dilyn y diwygiadau. Mae'r effaith hon yn gwanhau ar lefelau enillion sydd uwchlaw £20,000 ac yn diflannu'n llwyr uwchlaw £50,000: nid oes gan unigolion ag enillion sydd uwchlaw'r lefel hon yr hawl i fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth yn y lle cyntaf ac felly nid yw'r newidiadau i'r rhaglenni hyn yn effeithio arnynt. Mae credyd cynhwysol yn lleihau EMTRs ar lefelau enillion tua £15,000, lle y ceir yr EMTRs cyfartalog uchaf o dan y system budd-daliadau gyfredol, ond yna'n eu cynyddu ar gyfartaledd rhwng £20,000 a £35,000 gan ei fod yn ymestyn yr hawl i fudd-daliadau i lefelau enillion uwch. Gallwn hefyd weld rhai o'r patrymau hyn yn Ffigur 5.6, sy'n dangos dosbarthiad EMTRs yng Nghymru cyn ac ar ôl y newidiadau hyn i drethi a budd-daliadau. Mae'r ffigur yn dangos mai'r EMTR fwyaf cyffredin a wynebir gan weithwyr yng Nghymru yw 32%, yr EMTR a wynebir gan drethdalwr cyfradd sylfaenol sydd hefyd yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol ond nad yw'n wynebu colli budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd na chredydau treth. Gallwn weld bod newidiadau i drethi yn cynyddu nifer y gweithwyr sydd â'r EMTR hon ychydig iawn (tua 10,000), gan fod y gostyngiad yn y trothwy cyfradd uwch yn cynyddu nifer y trethdalwyr cyfradd sylfaenol yng Nghymru (ac yn lleihau nifer y trethdalwyr cyfradd uwch). Heblaw am hyn, nid yw'r newidiadau i drethi yn cael unrhyw effaith amlwg ar ddosbarthiad EMTRs. Mae newidiadau i fudd-daliadau yn cynyddu nifer yr unigolion sydd â'r EMTR hon ymhellach, gan eu bod yn lleihau nifer y bobl sydd ar daprau budd-daliadau a chredyd treth. Felly, mae'r newidiadau hyn yn lleihau nifer y bobl yng Nghymru sydd ag EMTRs o 40% o leiaf tua 90,000, sydd ag EMTRs o 50% o leiaf tua 80,000 ac sydd ag EMTRs o 60% o leiaf a 70% o leiaf tua 60,000. Fodd bynnag, mae'r newidiadau hyn, yn enwedig y cynnydd yn y tapr credyd treth yn cynyddu nifer y bobl yng Nghymru sydd ag EMTR o 80% o leiaf tua 30,000. Fodd bynnag, caiff y cynnydd hwn yn nifer y bobl yng Nghymru sydd ag EMTRs uchel iawn ei wyrdroi'n llwyr yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol. Mae credyd cynhwysol yn lleihau nifer yr unigolion yng Nghymru sydd ag EMTRs o 80% o leiaf 64,000, o 94,000 i 30,000 neu tua dwy ran o dair. Mae hyn yn codi am fod credyd cynhwysol yn disodli nifer o brofion prawf modd sy'n gorgyffwrdd gan gyflwyno un prawf yn eu lle, sy'n sicrhau na all EMTRs godi yn rhy uchel. Fodd bynnag, mae credyd cynhwysol yn cynyddu nifer yr unigolion yng Nghymru sydd ag EMTRs o fwy na 60% tua 50,000 (o 120,000 i 170,000) gan ei fod yn ymestyn yr hawl i fudd-daliadau i fwy o deuluoedd, 47 © Institute for Fiscal Studies, 2015 sy'n golygu bod mwy o unigolion yn wynebu colli budd-daliadau os cynyddant eu henillion. 48 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Tabl 4.3: Effaith diwygiadau i drethi a budd-daliadau ar EMTRs cyfartalog yng Nghymru fesul grŵp Grŵp Sengl, dim plant Unig riant Partner ddim yn gweithio, dim plant Partner ddim yn gweithio, gyda phlant Partner yn gweithio, dim plant Partner yn gweithio, gyda phlant Heb blant Gyda phlant EMTR gyfart alog cyn diwygi o Effaith: EMTR gyfartalog , ar ôl diwygio heb CC EMTR gyfartalog , ar ôl diwygio gyda CC Newidiadau i drethi uniongyrcho l Newidiada u i fudddaliadau 31.3% –0.3 –2.1 28.9% 30.9% 67.6% –0.2 +2.5 69.9% 55.2% 40.1% –0.6 –4.7 – 0.2 34.9% 34.7% 62.5% –0.7 –5.8 +4. 2 56.0% 60.1% 30.3% –0.6 –0.9 – 0.8 28.8% 28.1% 39.1% –0.0 –3.5 +0. 6 35.6% 36.1% 31.9% –0.5 –1.9 29.6% 30.2% 45.3% –0.1 –3.2 42.0% 41.5% 43.7% –0.1 –3.1 40.5% 39.2% 44.4% –0.0 –2.7 41.8% 42.3% 56.9% –0.8 –7.5 48.5% 48.8% 70.9% 0.0 –5.0 65.9% 59.4% 30.4% 0.0 –0.7 29.7% 30.5% 38.7% –0.3 –2.4 36.0% 36.1% 36.0% –0.8 –3.9 31.3% 30.9% Yn cynnwys: Un plentyn 2 o blant 3 o blant 4+ o blant 19 - 24 oed 25 - 54 oed Oedran 55 Oedran Pensiwn y CC +2. 0 – 14. 8 +0. 5 – 0.5 – 1.3 +0. 5 +0. 2 – 6.5 +0. 7 +0. 1 – 0.4 49 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Wladwriaet h Gwyn Ddim yn wyn Cael budddal anabledd Partner yn cael budddal anabledd Dim oedolyn yn y teulu yn cael budd-dal anabledd Rhentiwr cymdeithaso l Rhentiwr preifat Perchennog -ddeiliad Pawb 37.1% –0.3 –2.5 43.4% 0.0 +0.6 46.4% 0.0 –7.1 40.7% +0.6 37.0% +0. 0 +4. 4 34.3% 34.3% 44.0% 48.4% – 6.1 39.4% 33.3% –4.0 +3. 2 37.3% 40.5% –0.4 –2.3 +0. 1 34.3% 34.5% 51.5% –0.1 –0.1 – 0.8 51.3% 50.5% 46.4% –0.1 –2.8 43.5% 43.0% 34.2% –0.4 –2.5 31.3% 31.7% 37.3% –0.3 –2.4 34.5% 34.7% – 0.5 +0. 4 +0. 1 Noder: Sampl: pob unigolyn yng Nghymru sydd mewn gwaith am dâl ac sydd rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. 50 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Ffigur 4.5: EMTRs cyfartalog fesul enillion, trethi a budd-daliadau cyn ac ar ôl y newidiadau 50% Cyfradd dreth ymylol effeithiol 45% 40% 35% 30% 25% 0 10000 20000 30000 40000 50000 60000 Enillion gross (£/blwyddyn) Dim newidiadau i drethi a budd-daliadau Newidiadau i drethi yn unig Pob newid heblaw am CC Pob newid gyda CC Noder: Llinellau llyfn lowess Sampl: pob unigolyn yng Nghymru sydd mewn gwaith am dâl ac sydd rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. 51 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Ffigur 4.6: Dosbarthiad EMTRs yng Nghymru, trethi a budd-daliadau cyn ac ar ôl y newidiadau 80% 60% 40% 20% 0% hon Cycfran y gweithwyr o dan yr EMTR hon 100% 0% 10% 20% 30% 40% 50% 60% 70% 80% 90% 100% Cyfradd dreth ymylol effeithiol Dim newidiadau i drethi a budd-daliadau Newidiadau i drethi yn unig Pob newid heblaw am CC Pob newid gyda CC Noder: Sampl: pob unigolyn yng Nghymru sydd mewn gwaith am dâl ac sydd rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. Crynodeb Mae newidiadau i drethi a budd-daliadau i'w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 yn atgyfnerthu ychydig y cymhelliant i unigolion yng Nghymru fod mewn gwaith am dâl ar gyfartaledd - mae'r gyfradd dreth gyfranogol a'r gyfradd ddisodli gyfartalog ill dwy yn gostwng 2.2 pwynt canran o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Ond nid yw'r effaith hon yr un peth ar gyfer mathau gwahanol o bobl: mae'r rheini sydd mewn cyplau nad yw eu partner mewn gwaith am dâl yn gweld eu cymhellion gweithio, yn benodol, yn cael eu hatgyfnerthu, tra bod unig rieni ond yn gweld gostyngiad bach yn eu cyfraddau disodli a chynnydd yn eu cyfraddau treth gyfranogol ar gyfartaledd. Credyd cynhwysol sy'n atgyfnerthu cymhellion yn arbennig i'r rheini nad yw eu partner mewn gwaith am dâl. Mae newidiadau eraill i'r system budd-daliadau yn aml yn cael yr effaith groes i gredyd cynhwysol: maent yn cynyddu cyfraddau treth gyfranogol i'r rheini mewn cyplau lle nad yw eu partner mewn gwaith am dâl, ond yn eu lleihau i'r rheini sydd â phartner sy'n gweithio. Yn yr un modd, ac mewn modd cysylltiedig, mae gan newidiadau i fudddaliadau heblaw am gredyd cynhwysol yr effaith nas croesewir o wanhau cymhellion gweithio i'r rheini sydd â'r cymhellion gweithio gwannaf ar y pryd (gan eu bod yn lleihau'r credydau treth y mae'r unigolion hyn yn eu cael pan fyddant yn gweithio), ond 52 © Institute for Fiscal Studies, 2015 mae credyd cynhwysol yn cael yr effaith groes (a groesewir), gan ddileu'r cymhellion gweithio gwannaf oll sy'n bodoli o dan y system gyfredol drwy resymoli'r profion prawf modd lluosog sy'n bodoli o dan y system gyfredol o fudd-daliadau a chredydau treth yn un prawf. Mae'r newidiadau hyn hefyd yn atgyfnerthu'r cymhellion ar gyfartaledd i'r rheini mewn gwaith am dâl gynyddu eu henillion fel y'u mesurir gan y gyfradd dreth ymylol effeithiol (EMTR). Mae'r EMTR gymedrig yn gostwng 2.6 pwynt canran o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Mae hyn, i raddau helaeth, yn deillio o'r newidiadau i fudd-daliadau heblaw am gyflwyno credyd cynhwysol, sy'n lleihau nifer y gweithwyr sydd â hawl i fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd neu gredydau treth ac sydd felly yn wynebu colli rhai o'r budd-daliadau hyn os cynyddant eu henillion. Fodd bynnag, i'r gweithwyr hynny sy'n parhau i fod â hawl i gredydau treth, mae EMTRs yn cynyddu o ganlyniad i'r cynnydd yn y gyfradd tapro credyd treth o 41% i 48%. Mae hyn yn golygu bod yr EMTR gyfartalog ymhlith unig rieni yn cynyddu ychydig, a bod nifer yr unigolion ag EMTRs o 80% o leiaf yn cynyddu tua 30,000. Ond unwaith eto, mae cyflwyno credyd cynhwysol yn gwrthdroi'n llwyr yr effeithiau annymunol hyn. Drwy gyfuno sawl tapr budd-daliad a chredyd treth sy'n gorgyffwrdd yn un tapr, mae credyd cynhwysol yn dileu'r EMTRs uchel iawn a all fodoli o dan y system gyfredol, gan leihau nifer y gweithwyr yng Nghymru sydd ag EMTRs uwchlaw 80% 60,000 neu tua dwy ran o dair. Fodd bynnag, drwy ddileu cymorth prawf modd i'r rheini mewn gwaith yn fwy graddol, mae'n ymestyn yr hawl i fudd-daliadau i lefelau enillion uwch ac yn cynyddu nifer y gweithwyr yng Nghymru ag EMTRs o 60% o leiaf. 53 © Institute for Fiscal Studies, 2015 5. Effaith y Cyflog Byw Cenedlaethol ar gymhellion gweithio Fel y trafodwyd yn Adran 4, mae cymhellion unigolion i wneud gwaith am dâl yn dibynnu ar gymhariaeth rhwng faint o incwm y byddent yn ei gael pe baent yn gweithio, a faint y byddent yn ei gael pe na baent yn gweithio. Felly, mae'r cymhellion hyn yn dibynnu ar drethi a budd-daliadau sy'n creu bwlch rhwng y swm y mae'n ei gostio i gyflogwr gyflogi rhywun a'r ennill ariannol i gyflogai o weithio, a lefel yr enillion y gall cyflogai ei mynnu os yw'n gweithio. Mae Adran 4 yn archwilio effeithiau'r newidiadau i drethi a budd-daliadau i'w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 ar gymhellion ariannol i weithio. Yn yr adran hon, rydym yn ychwanegu effeithiau cyflwyno'r CBC ar gymhellion gweithio y rheini y telir llai na'r lefel hon iddynt ar hyn o bryd (y tybiwn mai 60% o'r enillion canolrif cyfredol ydyw), ac ar y cymhelliant i'r rheini nad ydynt mewn gwaith am dâl ar hyn o bryd gymryd swydd isafswm cyflog. Un o gafeatau allweddol y dadansoddiad hwn yw ei fod ond yn ystyried yr enillion o'r CBC ac yn anwybyddu'r colledion. Oni chyfatebir y broses o dalu CBC uwch gan gynhyrchiant cymesur uwch, rhaid i rywun dalu am y cyflogau uwch, drwy lai o gyflogaeth, prisiau uwch neu lai o elw. Nid yw'r dadansoddiad yn yr adran hon yn ystyried y naill effaith na'r llall. Pwynt pwysig arall i'w gofio yw bod y CBC, fel y gwelwn, yn atgyfnerthu cymhellion gweithio ac felly byddai'n debygol o gynyddu cyflenwad llafur i ryw raddau o leiaf, ond nid oes sicrwydd y bydd y galw o ran llafur i gyfateb i'r cyflenwad hwn (yn wir, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn disgwyl i'r CBC arwain at gyflogaeth is yn gyffredinol).21 Enghraifft eithafol o hyn fyddai rhoi isafswm cyflog o £100 yr awr. Yn ddiau, byddai hyn yn atyniadol iawn i lawer o bobl, ond mae'n annhebygol y byddai llawer yn gallu dod o hyd i waith pe bai'r isafswm cyflog ar y lefel hon. Effaith y CBC ar gymhelliant y rhai y telir llai na'r CBC iddynt mewn gwaith am dâl Yn yr adran hon, archwiliwn effaith y CBC ar gyfraddau disodli'r rhai y telir llai na'r CBC iddynt ar hyn o bryd. (Ni fyddai'n ystyrlon gwneud y dadansoddiad hwn ar gyfer cyfraddau treth gyfranogol, gan fod y rhain yn mesur y graddau y mae'r system dreth a budd-daliadau yn gwyrdroi penderfyniadau ynghylch p'un a ddylid gwneud gwaith am dâl yn hytrach na'r cymhelliant llwyr i weithio a wynebir gan bobl). Gwnawn hyn drwy gynyddu enillion y rhai yr amcangyfrifwn (drwy ddefnyddio'r fethodoleg a ddisgrifir ym Mlwch 3.1) eu bod yn ennill llai na'r CBC yn ôl cymhareb y CBC i'w cyflog fesul awr ar 21 Gweler Atodiad B o adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (2015), ‘Economic and fiscal outlook – July 2015’, Command Paper 9088, http://cdn.budgetresponsibility.independent.gov.uk/July-2015-EFO-234224.pdf. 54 © Institute for Fiscal Studies, 2015 gyfartaledd.22 23 Dengys Tabl 5.1 sut mae cyflwyno'r CBC yn effeithio ar y gyfradd ddisodli gyfartalog ymhlith pob gweithiwr ac ymhlith y rhai y telir llai na'r CBC iddynt ar hyn o bryd (nid oes effaith yn ein dadansoddiad ar y rheini na thelir llai na'r CBC iddynt gan nad ydym yn rhoi cyfrif am effaith y CBC ar enillion partner unigolyn ar ei incwm mewn gwaith a'i incwm allan o waith), ac mae'n cymharu hyn ag effaith y newidiadau i drethi a budd-daliadau (gan gynnwys a heb gynnwys credyd cynhwysol). Mae cymharu'r ail golofn a'r drydedd golofn â'r un gyntaf yn rhoi effaith y newidiadau i drethi a budddaliadau yn unig (felly mae'r tair colofn gyntaf yn dangos yr un ffigurau ar gyfer pob gweithiwr fel yn Nhabl 4.2), y gallwn ychwanegu effaith y CBC at hynny drwy gymharu'r ffigurau yn yr ail a'r drydedd golofn â'r rhai yn y bedwaredd a'r bumed golofn yn y drefn honno. Tabl 5.1: Effaith y CBC a'r newidiadau i drethi a budd-daliadau ar gyfraddau disodli'r rheini yng Nghymru nad ydynt mewn gwaith am dâl Grŵp Cyfradd ddisodli: Cyn diwygio Ddim yn cael budd o'r CBC (81%) Yn cael budd o'r CBC (19%) Pob gweithiwr Ar ôl diwygio: Heb CC na CBC Heb CC, heb CBC Heb CC, gyda CBC Gyda CC a CBC 49.9% 48.4% 47.6% 48.4% 47.6% 66.1% 65.0% 64.7% 62.9% 62.6% 53.1% 51.6% 50.9% 51.2% 50.5% Noder: Sampl: pob unigolyn yng Nghymru sydd mewn gwaith am dâl ac sydd rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. 22 Gan ein bod yn dadansoddi'r CBC fel petai wedi cael ei gyflwyno yn 2015-16, rydym yn israddio'r CBC amcangyfrifedig ar gyfer 2020-21 o £9.35 yn unol â rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o dwf enillion cyfartalog i werth 2015-16 o £7.68. Felly, i rywun yr amcangyfrifir ei fod yn ennill yr isafswm cyflog o £6.70 ar hyn o bryd, rydym yn cynyddu ei enillion tua 14.6% i amcangyfrif ei enillion pe telid y CBC iddo. Mae nifer fach o unigolion yn ein data yr amcangyfrifir eu bod yn ennill llai na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol: rydym yn cyfyngu'r cynnydd canrannol yn eu cyflogau fel ei fod yn gymhareb rhwng y CBC a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. 23 Noder nad ydym yn caniatáu i'r CBC effeithio ar y rhai y telir mwy na'r gyfradd cyflogau hon iddynt i ddechrau. Mae hyn yn cyferbynnu â dadansoddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o effaith y CBC, sy'n caniatáu ar gyfer rhai effeithiau gorlif (bach) ar y rhai sydd ag enillion ychydig yn uwch. 55 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Yn gyffredinol, gallwn weld bod cyflwyno'r CBC yn lleihau'r gyfradd ddisodli gyfartalog ymhlith y rheini yng Nghymru sydd mewn gwaith am dâl 0.4 pwynt canran, yn y senarios sydd â chredyd cynhwysol a hebddynt. Mae hyn yn llai o lawer nag effaith y newidiadau i drethi a budd-daliadau, sy'n lleihau cyfraddau disodli cyfartalog ymhlith gweithwyr 1.5 pwynt canran os caiff credyd cynhwysol ei eithrio a 2.2 pwynt canran os caiff ei gynnwys. Wrth gwrs, mae hyn yn bennaf oherwydd nad yw'r mwyafrif helaeth o weithwyr yng Nghymru (yn ôl ein hamcangyfrifon, tua 990,000 allan o 1.23 miliwn) yn cael budd o'r CBC am eu bod yn hunangyflogedig, o dan 25 oed neu'n cael mwy na'r CBC i ddechrau. Fodd bynnag, mae'r CBC yn cael effaith sylweddol ar y gyfradd ddisodli ymhlith y 19% (240,000) o weithwyr yng Nghymru sy'n gyflogeion 25 oed neu drosodd y telir cyflog o dan y lefel hon iddynt ar hyn o bryd. Yn wir, ar gyfer y grŵp hwn, mae cyflwyno'r CBC yn bwysicach, gan leihau cyfraddau disodli 2.1 pwynt canran yn y systemau sydd â chredyd cynhwysol a'r rhai hebddynt. Mae hefyd yn ddiddorol nodi bod y grŵp hwn yn gweld eu cymhellion gweithio yn cael eu hatgyfnerthu gan lai na'r cyfartaledd yn sgil newidiadau i drethi a budd-daliadau - mae eu cyfradd ddisodli gyfartalog ond yn gostwng 1.1 pwynt canran o ganlyniad i newidiadau i drethi a budd-daliadau heblaw am gyflwyno credyd cynhwysol a 0.3 pwynt canran o ganlyniad i gredyd cynhwysol ei hun. Esboniad rhannol am hyn yw bod unig rieni, sydd ar gyfartaledd yn gweld fawr ddim gostyngiad yn eu cyfradd ddisodli o ganlyniad i newidiadau i drethi a budd-daliadau, yn fwy tebygol na grwpiau eraill o gael llai o gyflog na'r CBC ar hyn o bryd. Ymhlith y rhai y telir llai na'r CBC iddynt, gallwn ddadansoddi ei effeithiau ar fathau gwahanol o bobl. Dengys Tabl 5.2 ganlyniadau'r dadansoddiad hwn. Gwelwn fod y CBC yn gwneud llai i atgyfnerthu cymhellion gweithio i unig rieni a'r rheini sydd mewn cyplau â phlant, sef y grwpiau sydd â'r cymhellion gweithio gwannaf i ddechrau, yn eironig ddigon. Mae hyn yn codi am mai'r rhain yw'r grwpiau sydd â'r EMTRs uchaf, sy'n golygu eu bod yn colli llawer o'r cynnydd yn eu henillion gros o'r CBC drwy drethi a budd-daliadau a ddiddymir. Mae hwn yn ein hatgoffa nad yw'r holl enillion sy'n deillio o'r CBC o fudd i aelwydydd: mae rhai o fudd hefyd i'r Trysorlys drwy drethi uwch ar incwm cyflogaeth a budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a thaliadau credydau treth is. ( Nid yw hyn i ddweud na fydd y CBC yn atgyfnerthu cyllid cyhoeddus: os na thelir yn llawn amdano gan gynhyrchiant uwch, bydd y CBC yn arwain at ryw fath o gyfuniad o gyflogaeth is, prisiau uwch ac elw is, y bydd pob un ohonynt yn cael effaith negyddol ar gyllid cyhoeddus. Mae dadansoddiad gan Drysorlys EM yn awgrymu bod cynyddu'r isafswm cyflog yn fras yn niwtral o ran refeniw yn gyffredinol.24) 24 Gweler tudalennau 16–28 o adroddiad yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (2014), ‘National minimum wage: government evidence for the Low Pay Commission on the additional assessment’, https://www.gov.uk/government/publications/national-minimum-wagegovernment-evidence-for-the-low-pay-commission-additional-assessment. 56 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Tabl 5.2: Effaith y CBC a'r newidiadau i drethi a budd-daliadau ar gyfraddau disodli'r rheini yng Nghymru sydd mewn gwaith am dâl llai'r CBC fesul math o berson Grŵp Cyfradd ddisodli: Cyn diwygio Ar ôl diwygio: Sengl, dim plant Unig riant Partner ddim yn gweithio, dim plant Partner ddim yn gweithio, gyda phlant Partner yn gweithio, dim plant Partner yn gweithio, gyda phlant 51.4% 75.8% Heb CC na CBC 50.3% 76.2% Heb CC, heb CBC 49.0% 77.1% Heb CC, gyda CBC 46.7% 75.6% Gyda CC a CBC 45.7% 76.0% 57.9% 57.5% 54.5% 55.0% 52.1% 84.4% 83.5% 77.0% 81.8% 75.9% 62.8% 61.2% 60.5% 59.2% 58.5% 74.2% 72.6% 74.7% 71.0% 73.1% Pob un islaw'r CBC 66.1% 65.0% 64.7% 62.9% 62.6% Noder: Sampl: pob unigolyn yng Nghymru sydd mewn gwaith am dâl ac sydd rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. Effaith y CBC ar y cymhelliant i'r rhai y telir llai na'r CBC iddynt weithio awr ychwanegol Yn adran 4, archwiliwyd effaith y newidiadau i drethi a budd-daliadau i'w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 ar gyfraddau treth ymylol effeithiol (EMTRs) ar gyfer grwpiau gwahanol. Mae hyn yn rhoi asesiad o'r modd y mae'r cymhelliant i weithio awr ychwanegol wedi newid, os tybiwn y byddai cyflog fesul awr gros unigolyn yn aros yr un peth ym mhob senario. Fodd bynnag, mae'r CBC yn atgyfnerthu'r cymhelliant i unigolyn weithio awr ychwanegol mewn ffordd wahanol, drwy gynyddu'r cyflog gros a enillwyd ar gyfer gweithio awr ychwanegol yn hytrach na chaniatáu i'r unigolyn gadw cyfran fwy o'i enillion. Felly, ni fyddai adrodd ar effaith y CBC ar EMTRs yn rhoi amcangyfrif o ba mor gryf yw'r cymhelliant y mae unigolion yn ei wynebu i weithio awr ychwanegol. Er mwyn gweld hyn, ystyriwch unigolyn sy'n wynebu EMTR o 50%, p'un a yw ei gyfradd cyflog gros yn £10 neu £10. Mae ei gymhellant i wneud awr ychwanegol o waith am dâl yn amlwg yn gryfach yn yr achos lle mae ei gyflog gros yn £20 yn hytrach na £10, ond nid adlewyrchir hyn yn ei EMTR. Felly rydym yn mesur y cymhelliant hwn yn ôl yr ennill i gyflogai yn nhermau arian parod o weithio awr ychwanegol, a gyfrifwn drwy luosi 57 © Institute for Fiscal Studies, 2015 cyflog fesul awr rhagweledig unigolyn gyda'r CBC a hebddo25 â chyfran yr enillion ychwanegol mewn punnoedd y gallant ei gadw (h.y. 100% minws ei EMTR).26 Dengys Tabl 5.3 yr ennill cyfartalog a ddaw yn sgil gweitho awr ychwanegol i bob cyflogai cyn ac ar ôl newidiadau i drethi a budd-daliadau a'r CBC. Fel yn Nhabl 5.1, mae cymharu'r golofn gyntaf â'r ail a'r drydedd golofn yn rhoi effaith y newidiadau i drethi a budd-daliadau gyda chyflwyniad credyd cynhwysol a hebddo, ac mae cymharu'r ail neu'r drydedd a'r bedwaredd neu'r bumed yn rhoi effaith y CBC. Noder bod yr ennill cyfartalog a ddaw yn sgil gweithio awr ychwanegol, ym mhob senario, yn llai na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i'r rhai y telir llai iddynt na'r CBC gan fod rhai o'r enillion ychwanegol yn cael eu colli mewn trethi uwch neu lai o hawliau o ran budd-daliadau. Ar gyfer y rheini y telir llai na'r CBC iddynt ac a all gael budd o bosibl o'i gyflwyno, gwelwn fod yr effaith yn sylweddol ac yn wir yn fwy nag effaith y newidiadau i drethi a budddaliadau. Gwelwn hefyd fod y rheini y telir llai na'r CBC iddynt yn gweld gostyngiad yn yr EMTRs o ganlyniad i gyflwyno credyd cynhwysol, tra bod y rhai y telir mwy iddynt na'r CBC yn gweld cynnydd: mae hyn yn gyson â Ffigur 4.5 sy'n dangos bod credyd cynhwysol yn lleihau EMTRs gyfartalog ar lefelau enillion is, ond yn eu cynyddu ar lefelau uwch. 25 I'r rhai y telir llai na'r CBC iddynt, hwn yw'r CBC yn y senario 'gyda Chyflog Byw Cenedlaethol' a'r uchaf o'u cyflog fesul awr rhagweledig a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn y senario 'heb Gyflog Byw Cenedlaethol'. I eraill, hwn yw eu cyflog fesul awr rhagweledig drwyddi draw (a gyfrifir gan ddefnyddio'r fethodoleg a ddisgrifir ym Mlwch 5.1), heblaw'r rheini sydd eisoes yn ennill mwy na 70 gwaith y CBC, y defnyddiwn eu henillion fel y'u cofnodir yn yr Arolygon o Adnoddau Teulu wedi'u rhannu â'u horiau cofnodedig. 26 Noder bod hyn yn tybio bod yr EMTR yn gyson dros ystod fechan yr enillion ychwanegol y mae unigolyn yn eu hennill pan fydd yn gweitho awr ychwanegol. Gan fod y system dreth a budd-daliadau yn llinol bob yn ddarn, nid yw hyn yn dybiaeth rhy afrealistig, er na fydd ein methodoleg yn rhoi'r ateb cywir i'r rheini sydd ychydig o dan drothwy yn y system dreth a budd-daliadau, neu y bydd eu hawl i fudd-dal neu gredyd treth yn dod i ben os gweithiant awr ychwanegol. 58 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Tabl 5.3: Effaith y CBC a'r newidiadau i drethi a budd-daliadau ar yr ennill a ddaw yn sgil gweithio awr ychwanegol yn ôl p'un a gaiff ei dalu llai na'r CBC ai peidio Grŵp Ennill arian parod a ddaw yn sgil gwneud awr ychwanegol o waith am dâl: Cyn diwygio Telir y CBC o leiaf (81%) Telir llai na'r CBC (195) Pob gweithiwr Ar ôl diwygio: Heb CC na CBC Heb CC, heb CBC Heb CC, gyda CBC Gyda CC a CBC £8.81 £9.10 £9.06 £9.10 £9.06 £4.16 £4.34 £4.39 £4.79 £4.81 £7.80 £8.06 £8.04 £8.16 £8.14 Noder: Sampl: pob cyflogai yng Nghymru rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. Yn Nhabl 5.4, rydym yn ymchwilio i'r effaith ar fathau gwahanol o bobl y telir llai na'r CBC iddynt. Gwelir yr amrywiad hwn oherwydd, fel y gwelsom yn Nhabl 4.3, mae gan grwpiau gwahanol EMTRs cyfartalog gwahanol. Gwelwn fod gan y grwpiau hynny sydd ag EMTRs uwch, yn bennaf am fod hawl ganddynt i fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth ac felly maent yn wynebu colli budd-daliadau neu gredydau treth os cynyddant eu henillion, enillion is yn sgil gweithio awr ychwanegol a'u bod yn gweld y rhain yn cynyddu llai o ganlyniad i'r CBC. Mae hyn am fod llawer o'r enillion ychwanegol sy'n deillio o'r CBC yn cael eu colli mewn llai o hawliau o ran budd-daliadau ar gyfer y grŵp hwn. Gwelwn hefyd, ar gyfer unig rieni y telir llai na'r CBC iddynt, na chaiff y gostyngiad yn yr ennill a ddaw yn sgil gweithio awr ychwanegol oherwydd EMTRs uwch sy'n deillio o'r newidiadau i drethi a budd-daliadau heblaw am gredyd cynhwysol, eu gwrthbwyso gan y CBC uwch, er eu bod wedi'u gwrthbwyso'n llwyr gan y gostyngiadau mewn EMTRs a ddaw yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol.27 At hynny, mae'r EMTRs uwch a ddaw yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol i'r rheini mewn cyplau â phlant nad yw eu partner mewn gwaith am dâl, yn lleihau'r ennill cyfartalog a ddaw yn sgil gweithio awr ychwanegol yn fwy nag y mae'r CBC yn ei gynyddu. Ond ar gyfer grwpiau eraill y telir llai na'r CBC iddynt (h.y. pobl heb blant, a'r rheini mewn cyplau â phlant y mae eu partner mewn gwaith am dâl), mae'r newidiadau i drethi a budd- 27 Canlyniad gwrth-reddfol o Dabl 5.4, o dan gredyd cynhwysol, yw bod yr ennill i unig rieni o weithio awr ychwanegol ychydig iawn yn is ar gyfartaledd ar ôl cyflwyno'r CBC nag yr oedd cyn hynny. Mae hyn yn codi am fod gan unig rieni EMTRs uwch ar gyfartaledd yn dilyn cyflwyno'r CBC gan fod yr enillion uwch yn mynd â rhai unig rieni sy'n ennill llai na'r CBC uwchlaw naill ai'r lwfans gwaith (sy'n golygu eu bod yn wynebu'r posibilrwydd o golli credyd cynhwysol os gweithiant awr ychwanegol) neu'r lwfans personol (sy'n golygu bod yn rhaid iddynt dalu treth incwm ar unrhyw enillion ychwanegol). 59 © Institute for Fiscal Studies, 2015 daliadau yn cynyddu'r ennill cyfartalog a ddaw yn sgil gweithio awr ychwanegol, ac yn ei gynyddu eto o swm mwy o faint o ganlyniad i'r CBC. Tabl 5.4: Effaith y CBC a'r newidiadau i drethi a budd-daliadau ar yr ennill a ddaw yn sgil gweithio awr ychwanegol yng Nghymru i'r rhai y telir llai na'r CBC yn ôl y math o berson Grŵp Ennill arian parod a ddaw yn sgil gwneud awr ychwanegol o waith am dâl: Cyn diwygio Ar ôl diwygio: Sengl, dim plant Unig riant Partner ddim yn gweithio, dim plant Partner ddim yn gweithio, gyda phlant Partner yn gweithio, dim plant Partner yn gweithio, gyda phlant £4.21 £2.13 Heb CC na CBC £4.57 £1.59 Heb CC, heb CBC £4.40 £2.56 Heb CC, gyda CBC £4.96 £1.66 Gyda CC a CBC £4.96 £2.50 £4.34 £4.59 £4.71 £5.07 £5.25 £2.10 £2.32 £1.66 £2.61 £1.81 £5.42 £5.58 £5.67 £6.08 £6.08 £4.18 £4.44 £4.43 £5.04 £4.93 Pob un islaw'r CBC £4.16 £4.34 £4.39 £4.79 £4.81 Noder: Sampl: pob unigolyn yng Nghymru sydd mewn gwaith am dâl ac sydd rhwng 19 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. Effaith y CBC ar y cymhellion i'r rheini nad ydynt mewn gwaith am dâl gymryd swydd sy'n talu'r isafswm cyflog Dangosodd ein dadansoddiad yn adran 4 effaith y newidiadau i drethi a budd-daliadau ar gyfraddau disodli gweithwyr a'r rhai nad ydynt yn weithwyr. Yn y dadansoddiad hwnnw, gwnaethom ragweld faint y byddai'r rheini nad oeddent mewn gwaith am dâl yn ei ennill pe baent yn dechrau gwneud gwaith am dâl yn seiliedig ar eu nodweddion ac enillion y rhai â nodweddion tebyg sydd mewn gwaith am dâl. Yn yr isadran hon, rydym yn dadansoddi'r cymhelliant y mae'r unigolion hyn yn ei wynebu i gymryd swydd y telir yr isafswm cyflog iddynt am ei gwneud (h.y. yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn ein senario heb y CBC, ac , i'r rhai sy'n 25 oed neu drosodd, y CBC yn y senario gyda'r CBC).28 Felly bydd y ffigurau hyn yn rhoi tanamcangyfrif o gryfder y cymhellion y mae unigolion yn ei wynebu i ddechrau gwneud gwaith am dâl - mae'n debygol y gallai llawer o'r rheini 28 Fel yn adran 4, rydym yn cyfrifo cyfraddau disodli ar bedwar pwynt oriau gwahanol ac yn eu pwysoli yn ôl tebygolrwydd amcangyfrifedig y byddent yn gweithio'r nifer honno o oriau. 60 © Institute for Fiscal Studies, 2015 nad ydynt mewn gwaith am dâl ar hyn o bryd ddod o hyd i swydd y telir mwy na'r CBC amdani pe baent yn dewis gwneud gwaith am dâl. Fodd bynnag, gan mai'r isafswm cyflog (p'un ai'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r CBC sy'n gymwys) yn ôl ei ddiffiniad, yw'r swm isaf y gallai rhywun ei ennill pe bai'n gweithio nifer benodol o oriau, mae'r dadansoddiad hwn yn rhoi cyfyngiad is ar gryfder y cymhellion gweithio y mae'r rheini nad ydynt yn gwneud gwaith am dâl ar hyn o bryd yn ei wynebu. Yn Nhabl 5.5, dangoswn gyfraddau disodli ar gyfer y rhai nad ydynt mewn gwaith am dâl ar hyn o bryd yng Nghymru yn yr un senarios â'r rhai a ddadansoddwyd yn gynt yn yr adran hon (h.y. cyn ac ar ôl diwygiadau i drethi a budd-daliadau a chyda'r CBC a hebddo), o dan y dybiaeth y telir yr isafswm cyflog i bob un ohonynt ym mhob senario. Gwelwn fod cyfraddau disodli yn uchel ar gyfartaledd, ym mhob senario, nad yw'n syndod efallai gan ein bod yn cyfrifo cyfraddau disodli ar lefel gymharol isel o enillion. Fel y gwelsom yn Ffigur 4.3, nid yw diwygiadau i drethi a budd-daliadau heblaw am gredyd cynhwysol yn cael effaith fawr iawn ar gyfraddau disodli ar y lefelau enillion hyn gan fod yr unigolion hyn yn gweld gostyngiadau yn swm y credydau treth a gânt pan fyddant mewn gwaith yn ogystal â'u budd-daliadau allan o waith. Unwaith eto, gwelwn fod credyd cynhwysol yn atgyfnerthu cymhellion yn sylweddol ar gyfartaledd i'r rheini mewn cyplau nad yw eu partner mewn gwaith am dâl ac i bobl sengl heb blant, ond yn eu gwanhau i'r rheini sydd â phartner sy'n gweithio, ac i unig rieni. Mae'r CBC, ar gyfartaledd, yn cael mwy o effaith na newidiadau i drethi a budd-daliadau ar y cymhellion i'r rheini nad ydynt mewn gwaith am dâl gymryd swydd sy'n talu'r isafswm cyflog yn y senario heb gredyd cynhwysol, ond effaith ychydig yn llai nag effaith y newidiadau i drethi a budd-daliadau gan gynnwys credyd cynhwysol. Yn arbennig, mae'n atgyfnerthu'r cymhelliant i gymryd swydd ar yr isafswm cyflog i'r rheini mewn cyplau heb blant, ond yn gwneud y lleiaf i'r rheini mewn cyplau â phlant nad yw eu partner mewn gwaith am dâl ac unig rieni. Mae hyn am fod gan y grwpiau hyn yr EMTRs uchaf, ac felly mae'r enillion ychwanegol a gânt o ganlyniad i'r CBC yn bwydo drwyddo i lai o hawliau o ran budd-daliadau a chredydau treth yn hytrach na'r incymau net uwch. Gan fod credyd cynhwysol yn lleihau EMTRs cyfartalog i'r rheini â'r EMTRs uchaf i ddechrau (grŵp sy'n cynnwys unig rieni a'r rheini mewn cyplau â phlant y telir yr isafswm cyflog iddynt), mae hyn yn wir i raddau llai ar ôl cyflwyno credyd cynhwysol. 61 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Tabl 5.5: Effaith y CBC a'r newidiadau i drethi a budd-daliadau ar gyfraddau disodli'r rheini yng Nghymru nad ydynt mewn gwaith am dâl, gan dybio y telir yr isafswm cyflog iddynt yn eu swydd Grŵp Cyfradd ddisodli: Cyn diwygio Ar ôl diwygio: Sengl, dim plant Unig riant Partner ddim yn gweithio, dim plant Partner ddim yn gweithio, gyda phlant Partner yn gweithio, dim plant Partner yn gweithio, gyda phlant 53.5% 76.8% Heb CC na CBC 52.8% 75.7% Heb CC, heb CBC 51.1% 77.0% Heb CC, gyda CBC 51.4% 75.2% Gyda CC a CBC 49.6% 76.0% 78.7% 80.1% 76.1% 78.2% 74.1% 86.3% 85.3% 80.3% 84.8% 79.2% 70.0% 69.2% 69.7% 66.9% 67.5% 81.0% 79.0% 81.5% 77.4% 79.8% Pob un islaw'r CBC 68.4% 67.7% 66.5% 66.2% 64.9% Noder: Sampl: pob unigolyn yng Nghymru nad ydynt mewn gwaith am dâl. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14. Crynodeb Bydd y CBC yn atgyfnerthu cymhellion gweithio i'r rheini y telir llai na lefel y CBC iddynt ar hyn o bryd, ac yn atgyfnerthu'r cymhelliant i'r rheini nad ydynt mewn gwaith am dâl gymryd swydd sy'n talu'r isafswm cyflog. Hyd yn oed ymhlith y rhai yr effeithir arnynt, nid yw'r effaith yn fawr, gan leihau'r gyfradd ddisodli gyfartalog 2.1 pwynt canran, sef yn fras yr un peth ag effaith gyfartalog newidiadau i drethi a budd-daliadau ar y boblogaeth gyfan, ond yn fwy nag effaith y diwygiadau hyn ar y grŵp hwn. A chan fod llai nag un rhan o bump o weithwyr yng Nghymru o bosibl yn cael budd o gyflwyno'r CBC, mae gan y CBC effaith lai o lawer na newidiadau i drethi a budd-daliadau ar y gyfradd ddisodli gyfartalog gyffredinol ymhlith gweithwyr, gan ei lleihau 0.4 pwynt canran. Fodd bynnag, mae amrywiadau yn yr effeithiau hyn, ac mae'r effaith yn llai i'r rheini sy'n wynebu'r cymhellion gweithio gwannaf yn y lle cyntaf, gan fod yr unigolion hyn yn gweld y rhan fwyaf o'r cynnydd mewn cyflogau gros yn bwydo i mewn i lai o hawliau o ran budd-daliadau yn hytrach nag incwm net uwch. Pan ystyriwn y cymhelliant i'r rheini y telir llai na'r CBC iddynt weithio awr ychwanegol, unwaith eto gwelwn fod newidiadau i drethi a budd-daliadau yn gwneud mwy i atgyfnerthu'r cymhelliant hwn ar gyfartaledd i bob gweithiwr, er, ymhlith y rhai y telir llai na'r CBC iddynt, mae'r CBC yn gwneud mwy i atgyfnerthu'r cymhelliant hwn nag y mae newidiadau i drethi a budd-daliadau yn ei wneud. Atgyfnerthir y cymhelliant i 62 © Institute for Fiscal Studies, 2015 weithio awr ychwanegol y lleiaf i'r rheini sy'n wynebu'r EMTRs uchaf o ganlyniad i wynebu colli budd-daliadau a chredydau treth os cynyddant eu henillion. Yn olaf, bydd y CBC yn atgyfnerthu'r cymhelliant i'r rheini nad ydynt mewn gwaith am dâl gymryd swydd sy'n talu'r isafswm cyflog. Bydd yr effaith a gaiff yn fwy nag effaith y newidiadau i drethi a budd-daliadau ac eithrio credyd cynhwysol, ond ychydig yn llai nag effaith y newidiadau i drethi a budd-daliadau gan gynnwys credyd cynhwysol. Fel o'r blaen, bydd yr effaith hon yn llai i'r rheini sydd ar eu colled fwyaf o'r cynnydd mewn enillion a ddaw yn sgil cyflwyno'r CBC drwy fudd-daliadau a thaliadau credyd treth is, yn enwedig i unig rieni a'r rhai mewn cyplau â phlant nad yw eu partner mewn gwaith am dâl. Fodd bynnag, mae credyd cynhwysol yn lleihau'r graddau y mae hyn yn wir drwy leihau EMTRs i'r grwpiau hynny sydd â'r EMTRs uchaf o dan y system gyfredol, gan eu galluogi i gadw mwy o'r enillion cynyddol y byddent yn ei gael o ganlyniad i'r CBC. 63 © Institute for Fiscal Studies, 2015 6. Casgliadau Bydd aelwydydd yng Nghymru ar gyfartaledd yn colli £459 yn sgil newidiadau i drethi a budd-daliadau i'w cyflwyno dros y pedair blynedd nesaf, yn fras yr un peth â'r cyfartaledd ar gyfer y DU gyfan, er bod hyn yn cynrychioli cyfran fwy o'u hincwm betm gan fod Cymru yn rhan gymharol dlawd o'r DU. Fodd bynnag, mae amrywiad sylweddol yn effaith y polisïau treth a budd-daliadau rhwng gwahanol fathau o aelwydydd yng Nghymru. Pennir effaith ddosbarthiadol gyffredinol y newidiadau i drethi a budd-daliadau yng Nghymru gan effaith y newidiadau i fudd-daliadau, gan mai'r rhain yw'r mwyaf yn nhermau refeniw. Y rhai sydd ar eu colled fwyaf yn sgil y newidiadau hyn yw aelwydydd incwm isel o oedran gweithio, yn enwedig y rhai sydd â phlant. Gan fod rhai o'r toriadau i gredydau treth, yn enwedig y gostyngiad yn y trothwy incwm cyntaf a'r cynnydd yn y gyfradd tapro, yn lleihau'r cymorth a roddir i deuluoedd sy'n gweithio, bydd aelwydydd incwm isel sy'n gweithio yn colli tua'r un faint ag aelwydydd incwm isel nad ydynt yn gweithio. Fodd bynnag, bydd credyd cynhwysol yn newid hyn, yn cynyddu colledion i aelwydydd nad ydynt yn gweithio ond yn eu lleihau ar gyfer aelwydydd incwm isel sy'n gweithio. I'r gwrthwyneb, ni fydd y newidiadau hyn i raddau helaeth yn effeithio ar bensiynwyr. Mae lleihau budd-daliadau allan o waith yn atgyfnerthu cymhellion i bobl wneud gwaith am dâl ar gyfartaledd: mae'r gyfradd dreth gyfranogol gyfartalog a'r gyfradd ddisodli gyfartalog ill dwy yn gostwng 2.2 pwynt canran o ganlyniad i newidiadau arfaethedig i drethi a budd-daliadau. Ond mae'r gostyngiadau arfaethedig yn y cymorth mewn gwaith a roddir i unig rieni a chyplau lle nad oes ond un ohonynt yn ennill yn golygu bod y broses gyffredinol o atgyfnerthu cymhellion yn llai efallai nag y byddai rhywun yn ei disgwyl o gofio maint y toriadau i fudd-daliadau a chredydau treth. Yn wir, mae newidiadau i drethi a budd-daliadau yn cynyddu cyfraddau treth gyfranogol ar gyfartaledd i unig rieni a'r rhai mewn cyplau lle nad yw'r partner mewn gwaith am dâl. Fodd bynnag, mae'r gostyngiadau hyn mewn cymorth i gyplau lle nad oes ond un ohonynt yn ennill ynddynt eu hunain yn atgyfnerthu'r cymhelliant i'r ddau aelod o gwpl weithio yn hytrach nag un yn unig, gan fod ganddynt lai o gymorth prawf modd i'w golli os bydd yr ail aelod o'r cwpl yn dechrau gwneud gwaith am dâl. Gan fod gan y rhan fwyaf o bobl naill ai bartner sydd mewn gwaith am dâl neu sy'n sengl ac yn ddi-blant, mae newidiadau i fudd-daliadau heblaw am gredyd cynhwysol yn atgyfnerthu cymhellion i unigolion fod mewn gwaith am dâl ar gyfartaledd. Mewn llawer o achosion, mae gan gredyd cynhwysol yr effaith groes i newidiadau eraill i fudd-daliadau. Drwy gynyddu'r cymorth a roddir i gyplau lle nad oes ond un ohonynt yn ennill, mae'n atgyfnerthu'r cymhelliant i ddechrau gwneud gwaith am dâl i'r rheini nad yw eu partner mewn gwaith am dâl ond yn gwanhau'r cymhelliant i ddau aelod o gwpl weithio yn hytrach nag un. Mae hefyd yn cael yr effaith tra dymunol o atgyfnerthu cymhellion gweithio i'r rheini sy'n wynebu'r cymhellion gwannaf i ddechrau gwneud gwaith am dâl o dan y system gyfredol. At hynny, mae'n gwneud y mwyaf i atgyfnerthu cymhellion gweithio ar lefelau enillion isel, tra bod newidiadau eraill i fudd-daliadau yn 64 © Institute for Fiscal Studies, 2015 gwneud fawr ddim i atgyfnerthu'r cymhellion gweithio i'r rheini ag enillion isel (gwirioneddol neu bosibl). Fodd bynnag, nid yw credyd cynhwysol na newidiadau eraill i fudd-daliadau yn lleihau'n sylweddol gyfraddau disodli cyfartalog i unig rieni, ac maent yn cynyddu cyfraddau treth gyfranogol cyfartalog ymhlith y grŵp hwn. Bydd toriadau i fudd-daliadau a chredydau treth yn golygu y bydd gan lai o'r rheini sydd mewn gwaith am dâl yr hawl i daliadau prawf modd, ac felly ni fyddant mwyach yn wynebu colli'r taliadau hyn os cynyddant eu henillion. Mae hyn yn lleihau EMTRs yn sylweddol i'r unigolion hyn, ac yn golygu bod yr EMTR gyfartalog ymhlith gweithwyr yng Nghymru yn lleihau. Fodd bynnag, i'r gweithwyr hynny sy'n parhau i fod â hawl i gredydau treth, mae'r cymhelliant i gynyddu enillion yn gwanhau o ganlyniad i gynnydd yn y tapr credyd treth. Mae hyn yn gwanhau'r cymhellion i unig rieni sy'n gweithio gynyddu eu henillion, ar gyfartaledd, ac yn cynyddu nifer y gweithwyr yng Nghymru ag EMTRs o 80% o leiaf 30,000. Unwaith eto, mae gan gredyd cynhwysol yr effaith groes i newidiadau eraill i fudddaliadau mewn llawer o achosion. Mae'n cynyddu nifer y cyplau sy'n gweithio â phlant sydd â hawl i gymorth prawf modd, ac felly'r nifer sy'n wynebu colli'r cymorth hwn os cynyddant eu henillion. Fodd bynnag, drwy gyflwyno un tapr yn lle taprau budddaliadau a chredydau treth lluosog sy'n gorgyffwrdd, mae'n atgyfnerthu'r cymhellion i ennill mwy i'r rheini sydd â'r cymhellion gwannaf ar hyn o bryd, gan gynnwys llawer o unig rieni. Yn wir, mae credyd cynhwysol yn lleihau nifer y gweithwyr yng Nghymru ag EMTRs o 80% o leiaf ddwy ran o dair, neu 60,000. Bydd cyflwyno'r Cyflog Byw Cenedlaethol (CBC) yn atgyfnerthu cymhellion gweithio i'r rheini y talir llai na hyn iddynt ar hyn o bryd (amcangyfrifwn fod hyn tua 19% o weithwyr Cymru). Ar gyfer y grŵp hwn, bydd yn cael effaith ychydig yn fwy nag effaith newidiadau i drethi a budd-daliadau, er, gan nad yw'n effeithio ar y rhan fwyaf o weithwyr, mae'n cael llai o effaith ar y cymhellion gweithio ymhlith gweithwyr yn gyffredinol. Ymhlith y rhai yr effeithir arnynt, ar y rhai sy'n wynebu'r cymhellion gweithio gwannaf y mae’r effaith leiaf, gan mai'r gweithwyr hyn sy'n colli'r mwyaf o'r cyflogau gros uwch mewn budd-daliadau a chredydau treth a ddiddymir. 65 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Atodiad: Siartiau cyfatebol ar gyfer y DU gyfan Ffigur A.1: Enillion a cholledion cyfartalog yn sgil newidiadau i drethi a budddaliadau i'w cyflwyno rhwng 2015-16 a 2019-20 fesul degradd incwm 2% £500 1% £250 0% £0 -1% -£250 -2% -£500 -3% -£750 -4% -£1,000 -5% -£1,250 -6% -£1,500 -7% -£1,750 -8% -£2,000 Tlotaf 2 3 4 5 6 7 8 9 Cyfoethocaf Grŵp degradd incwm Credyd cynhwysol, £ y flwyddyn (echel dde) Budd-daliadau, £ y flwyddyn (echel dde) Trethi uniongyrchol, £ y flwyddyn (echel dde) Trethi anuniongyrchol, £ y flwyddyn (echel dde) Pawb Noder: Pennir grwpiau degradd incwm drwy rannu holl aelwydydd Cymru yn 10 grŵp o'r un maint yn ôl incwm net wedi'i addasu yn ôl maint aelwyd gan ddefnyddio graddfa cyfwerthedd McClements. Mae'n tybio bod y budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth wedi cael eu hawlio'n llawn. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14 ac Arolwg o Gostau Byw a Bwyd (LCFS) 2012. 66 © Institute for Fiscal Studies, 2015 Ffigur A.2: Enillion cyfartalog yn sgil cyflwyno'r Cyflog Byw Cenedlaethol fesul degradd incwm 2% £500 1% £250 0% £0 -1% -£250 -2% -£500 -3% -£750 -4% -£1,000 -5% -£1,250 -6% -£1,500 -7% -£1,750 -8% -£2,000 Tlotaf 2 3 4 5 6 7 8 Grŵp degradd incwm £ y flwyddyn (echel dde) 9 Cyfoethocaf Pawb % yr incwm net (echel chwith) Noder: Pennir grwpiau degradd incwm drwy rannu holl aelwydydd Cymru yn 10 grŵp o'r un maint yn ôl incwm net wedi'i addasu yn ôl maint aelwyd gan ddefnyddio graddfa cyfwerthedd McClements. Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdur gan ddefnyddio TAXBEN yn seiliedig ar ddata wedi'u huwchraddio o Arolygon o Adnoddau Teulu (FRS) 2012-13 a 2013-14 ac Arolwg o Gostau Byw a Bwyd (LCFS) 2012. 67 © Institute for Fiscal Studies, 2015