TASG ASESIAD DAN REOLAETH rhan (b)

advertisement

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 1

Cynnwys

TGAU Hanes

Enghreifftiau Patrymol ar gyfer Asesiad dan Reolaeth

Maes Testun 1:

Datblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru a Lloegr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg

a’r ugeinfed ganrif.

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys enghreifftiau patrymol o asesiadau dan reolaeth ar gyfer Maes Testun 1 a osodwyd gan CBAC sydd ar gael i’w dyfarnu hyd at 2014. Dylid ei dd efnyddio ochr yn ochr â chanllawiau cyffredinol asesiad dan reolaeth sydd ar gael ar wefan CBAC.

Maes Testun 1:

Datblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru a Lloegr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg

a’r ugeinfed ganrif.

Tasgau Enghreifftiol

1. Terfysgoedd Rebeca

2. Llundain Jack the Ripper

3. Chwareli Llechi yng Ngogledd Cymru

4. Dirwasgiad y 1930au

5. Bywyd yn y 1960au

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 2

Cyflwyniad

Mae Asesiad dan Reolaeth yn uned orfodol yn y TGAU Hanes.

Dylech nodi’r cyngor sy’n dilyn:

 Mae dull ysgrifennu’r enghreifftiau patrymol hyn yn gyson er mwyn sicrhau bod ganddynt yr un gofynion.

 Gellir defnyddio’r enghreifftiau patrymol hyn ar gyfer cofrestru mewn unrhyw flwyddyn y mae’r fanyleb gyfredol yn weithredol.

Rhaid i ganolfannau newid eu tasgau asesiad dan reolaeth bob blwyddyn.

Rhaid i ganolfannau gyflwyno ffurflen gynnig am bob cylchred dwy flynedd er mwyn dangos i CBAC eu bod yn defnyddio tasgau gwahanol mewn blynyddoedd dilynol.

Os nad yw canolfan yn astudio unrhyw ran o hanes Prydain yn yr unedau sy’n cael eu harholi, rhaid iddi ddethol tasgau asesiad dan reolaeth sy’n canolbwyntio ar hanes Prydain.

Nid oes hawl gan y canolfannau i gymysgu rhannau (a) a (b) o wahanol dasgau.

Dim ond ar ddiwedd y cwrs y gellir cofrestru am yr uned asesiad dan reolaeth. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r tasgau asesiad dan reolaeth a ddetholwyd gan y ganolfan am y flwyddyn arbennig honno.

Caniateir i ganolfannau ysgrifennu eu tasgau asesiad dan reolaeth eu hunain. Cyddestunoli yw’r enw am hyn. Os yw canolfan yn dewis gwneud hyn, rhaid i’r tasgau ddilyn yr un arddull yn union â’r enghreifftiau patrymol. Hefyd rhaid cael cymeradwyaeth safonwr ymgynghorol CBAC ar eu cyfer.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 3

Maes Testun 1

Datblygiadau Gwleidyddol, Cymdeithasol ac Economaidd yng

Nghymru a Lloegr yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg neu'r

Ugeinfed Ganrif

Tasg 1:

Terfysgoedd Rebeca

Tasg Asesiad dan Reolaeth rhan (a)

Cafwyd sawl enghraifft o brotestiadau gwledig yng Nghymru a Lloegr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Terfysgoedd Rebeca oedd un o’r rhain.

Dewiswch unrhyw BUM ffynhonnell o’ch pecyn.

Pa mor ddefnyddiol a dibynadwy yw’r ffynonellau hyn wrth egluro pam roedd Terfysgoedd Rebeca yn cael eu hystyried yn fygythiad i'r gymdeithas ar ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg?

Tasg Asesiad dan Reolaeth rhan (b)

Mae rhai pobl o’r farn y cafodd Terfysgoedd Rebeca eu hachosi gan dlodi ac amodau byw gwael.

I ba raddau mae eich ffynonellau’n cefnogi neu’n gwrthddweud

y dehongliad hwn?

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 4

TASG ASESIAD DAN REOLAETH rhan (a)

Cafwyd sawl enghraifft o brotestiadau gwledig yng Nghymru a Lloegr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Terfysgoedd Rebeca oedd un o’r rhain.

Dewiswch unrhyw BUM ffynhonnell o’ch pecyn.

Pa mor ddefnyddiol a dibynadwy yw’r ffynonellau hyn o ran egluro pam yr oedd Terfysgoedd Rebeca yn cael eu hystyried yn fygythiad i’r gymdeithas ar ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg?

Nodiadau i athrawon/ymgeiswyr ynghylch sut i wneud y dasg hon

Sut y gellir mynd ati i wneud rhan (a)?

Isod rhoddir awgrym o strwythur i'w ddefnyddio wrth fynd i'r afael â rhan (a) a ddylai fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dilyn cwrs TGAU

Hanes. Mae’n cael ei gynnig fel canllaw ac ni ddylid ei drin fel ffrâm ysgrifennu na chwaith fel yr unig ffordd na'r ffordd orau o fynd ati i wneud yr ymarfer hwn.

Cyflwyniad byr

Mae angen i hyn ganolbwyntio’n glir ar y cwestiwn gosod.

Mae angen iddo osod y mater yn fyr yn ei gyd-destun hanesyddol.

Mae paragraff byr yn ddigonol yma.

 Gwerthusiad o’r dystiolaeth a ddewiswyd sy'n gysylltiedig â’r mater yn y cwestiwn gosod.

Yma gall ymgeiswyr archwilio datblygiadau a materion, tra’n dadansoddi a gwerthuso’r dystiolaeth a ddewiswyd. Dylai ymgeiswyr werthuso hyd at bum ffynhonnell yn unig, gyda’r nod o gysylltu’r dystiolaeth â’i defnydd yn yr ymholiad. Argymhellir defnyddio’r ffynonellau er mwyn ategu ac adlewyrchu’r adroddiad ar ddigwyddiadau Terfysgoedd Rebeca.

Dylech osgoi disgrifiad moel o’r ffynonellau.

Wrth edrych ar y dystiolaeth dylech ystyried pwyntiau fel:

Pa wybodaeth sydd yn y ffynhonnell am ...?

Ydy’r ffynhonnell yn cefnogi eich gwybodaeth am ...?

Pwy oedd awdur neu wneuthurwr y ffynhonnell?

Pa bryd y cafodd y ffynhonnell ei hysgrifennu?

Pam y cafodd y ffynhonnell ei hysgrifennu?

Oes unrhyw amheuaeth am yr awdur / ydy hi/ef yn ddibynadwy?

Argymhellir y dylai hyd yr ateb ar gyfer rhan (a) fod tua 800 o eiriau.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 5

FFYNHONNELL A1

[Darlun artist o ymosodiad gan derfysgwyr Rebeca, allan o bapur newydd, The Illustrated London News. Ymddangosodd y darlun hwn gyferbyn ag adroddiad ar Derfysgoedd Rebeca a ysgrifennwyd gan ohebydd. (1839)]

FFYNHONNELL A2

Anffurfiwyd (disfigured) wynebau'r dorf drwy baentio eu hwyneba u â lliwiau gwahanol, drwy wisgo barf blew ceffyl a dillad menywod. Roedd pob tŷ yn y gymdogaeth wedi cloi ei ddrws a’r trigolion eu hunain wedi’u cloi y tu mewn, a hwythau’n ofni dangos golau yn eu ffenestr. Ataliodd y dyrfa bob porthmon yn dod i gyfeiriad Caerfyrddin a gofyn am gyfraniad ganddyn nhw, gan ddweud eu bod wedi dinistrio pob tollborth.

[Allan o erthygl gan ohebydd yn y Carmarthen Journal, papur newydd lleol oedd yn gefnogol i’r awdurdodau (16 Rhagfyr 1842)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 6

FFYNHONNELL A3

[Cartŵn yn dangos terfysgwyr Rebeca yn ymosod ar y tollbyrth oedd yn d angos pethau roedden nhw'n flin amdanyn nhw. Daw'r cartŵn hwn o’r cylchgrawn dychanol Seisnig o’r enw Punch (1842)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 7

FFYNHONNELL A4

Erbyn 1843, roedd digwyddiadau Rebeca wedi tyfu'n syfrdanol ar draws holl ardal Gorllewin Cymru. Teimlai cefnogwyr Rebeca eu bod yn ddigon cryf i orymdeithio yn ystod y dydd i Gaerfyrddin i gyflwyno deiseb i'r Ynadon yn

Neuadd y Dref. Ar 19 Mehefin, llifod d tyrfa o 2,000 o bobl â Rebeca’n eu harwain i mewn i Gaerfyrddin ac ymunodd llawer o bobl dlawd y dref â hwy.

Ymddangosodd eu bod wedi perswadio’r ffermwyr i ymosod ar y tloty atgas a chyrhaeddon nhw’r clwydi a mynnu cael dod i mewn. Nid oedd fawr o ddewis gan y Meistr ond i agor y clwydi i’r iard ac unwaith roedden nhw y tu fewn, gafaelodd y terfysgwyr yn y Fetron, Mrs Evans, a chymryd yr allweddi i’r tloty oddi wrthi. Yna, ymosodon nhw ar y Meistr, gan chwalu cynnwys y tloty a gorchymyn i'r rhai oedd yn byw yno (inmates) fynd allan. Roedden nhw'n paratoi i losgi'r tloty pan aeth si ar led fod milwyr ar eu ffordd. Roedd mintai o’r

4ydd Catrawd o Ddragwniaid Ysgafn wedi cael ei hanfon o Gaerdydd i

Gaerfyrddin ac ar ôl iddyn nhw glywed y newyddion am y terfysg, roedden nhw we di carlamu i’r lle tra bod y dorf yn ymosod ar y tloty. Codwyd braw ar y terfysgwyr wrth i'r milwyr nesáu a rhedon nhw ymaith. Yn ystod y rhuthro a’r helfa a ddilynodd cafodd tua chwe deg o’r terfysgwyr eu dal gan y milwyr.

[Allan o dudalen we ar y safle rhyngrwyd yn ymwneud ag achyddiaeth a hanes teuluol, www.glamorganfamilyhistory.co.uk

(2003)]

FFYNHONNELL A5

Tua 9 o'r gloch clywodd ddyn yn galw arno i ddod allan o’r gwely, a daeth

Shoni Sgubor Fawr i mewn i'r ystafell. Roedd dryll un faril yn ei law.

Oherwydd braw aeth ef allan gydag ef ac aethon nhw ill dau i'r mynydd ac yno y cwrddon nhw gyda pharti arall a Dai y Cantwr, oedd yn gwisgo siôl a boned, yn bennaet h arnyn nhw. Ymlaen â nhw i gyfeiriad Pontyberem a mynd i dŷ Mr

Newman, (perchennog Gweithiau Haearn Pontyberem) ac yno gwnaethon nhw sŵn mawr a saethu sawl gwaith. Dywedodd Shoni fod rhaid i Slocombe

(clerc yn cael ei gyflogi gan Mr Newman) ymadael ymhen wythnos, achos ni ddylai Sais reoli yng Nghymru byth eto. Os nad oedd yn gadael, byddai'n cael ei ladd a bydden nhw’n tynnu ei dŷ i lawr.

[Gwybodaeth a ddarparwyd i ynad lleol am weithgareddau terfysgwyr

Rebeca gan David Lewis o Drimsaran. Roedd Lewis yn hysbyswr

(informer) a ddefnyddiwyd gan yr awdurdodau. (26 Medi 1843)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 8

FFYNHONNELL A6

Gan edrych i lawr gwelodd fy ffrindiau a finnau’r heulwen yn fflachio ar linell denau o farchfilwyr yn gwthio eu ffordd i fyny'r bryn drwy'r torfeydd. Dyma adlewyrchiad pelydrau'r haul ar eu cleddyfau a'u gwisgoedd. Cyn pen dim rhuthron ni’n tri i ddrws ochr bach yn agor ar y ffordd yn arwain i fyny i'r

B ragdy; cafodd y clo ei gicio i ffwrdd, ac ar ôl croesi'r ffordd, dyma ni'n neidio dros glawdd ac roedden ni'n ddiogel. Daeth llu o bobl ar ein holau a dechrau ffoi ar unwaith. Roedd Mike Bowen, oedd wedi gwisgo fel Rebeca, wedi mynd i mewn i iard y tloty ond tra bod y marchogwyr yn dod i fyny’r rhiw cuddiodd ei

‘gyrlau’ yn ei het, aeth allan drwy’r drws cefn bach ac i ffwrdd ag ef dros y caeau, gan adael ei geffyl y tu ôl iddo.

[Alcwyn Evans, llanc 15 oed a gymerodd ran yn y terfysgoedd yng

Nghaerfyrddin. Ysgrifennodd am derfysgoedd Rebeca yn y 1870au, gan gasglu deunydd oddi wrth lygad-dystion eraill ac adroddiadau ysgrifenedig. Ni chyhoeddwyd ei waith, ond mae tri chopi o’i lyfr i’w cael mewn amgueddfeydd yn Aberystwyth, Dinbych-y-pysgod a

Chaerfyrddin.]

FFYNHONNELL A7

Barchedig Syr,

Bûm i ac un o’m merched ar daith i Aberaeron yn ddiweddar, a chlywsom lawer amdanoch, sef eich bod wedi codi ystafell ysgol yn rhan uchaf y plwyf, ac i chi fod yn anonest iawn wrth ei chodi, ac i chi addo ysgol am ddim i'r bobl, ond eich bod wedi'i throi'n eglwys, a'ch bod yn cael £80 y flwyddyn am wasanaethu ynddi. Nawr, os yw hyn yn wir, mae’n rhaid i chi ddychwelyd yr arian, pob dimai ohono, neu os na wnewch, dof i a 500 neu 600 o'm merched i ymweld â chi, a dinistrio eich eiddo hyd at bum gwaith ei gwerth, ac yn eich troi’n gyff gwawd a thestun edliw drwy’r gymdogaeth gyfan. Fe wyddoch fy mod yn elyn i ormes.

Yr eiddoch, Rebeca a’i merched

[Llythyr a anfonwyd at ficer Llangrannog yn Sir Aberteifi a oedd wedi bod wrthi'n gorfodi anghydffurfwyr yn yr ardal i roi arian tuag at sefydlu ysgol eglwysig leol. (19 Mehefin 1843)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 9

FFYNHONNELL A8

[Poster a gyhoeddwyd gan yr awdurdodau’n cynnig gwobr am wybodaeth yn sgil ymosodiad gan Derfysgwyr Rebeca (Awst 1843)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 10

FFYNHONNELL A9

Mae’n debygol y byddwch yn treulio'r rhan fwyaf o’ch bywyd mewn gwlad estron a bydd eich sefyllfa mor wahanol i'r hyn ydyw yma. Cewch eich gorfodi i weithio ond chewch ddim tâl am eich llafur ar wahân i ba bynnag fwyd a gewch ganddyn nhw i'ch cynnal. Ni fyddwch yn gaethion mewn enw, ond mewn gwirionedd. Y mae'n rhaid imi eich dedfrydu i hynny. Dedfryd y llys hwn yw y cewch chi John Jones eich trawsgludo dros y moroedd am dymor eich bywyd naturiol, ac y cewch chi David Davies eich trawsgludo am ugain mlynedd.

[Rhan o’r ddedfryd a basiwyd ar ddau o derfysgwyr Rebeca gan y barnwr ym Mrawdlys Caerfyrddin (27 Rhagfyr 1843)]

FFYNHONNELL A10

Lledodd Terfysgoedd Rebeca i lawer o rannau o Orllewin a Chanolbarth

Cymru. Lluosodd y nifer o bobl a oedd yn cymryd rhan a thyfodd y trais a ddefnyddiwyd gan y terfysgwyr hefyd. Ar brydiau mae’n rhaid ei bod yn ymddangos bod holl boblogaeth Gorllewin Cymru’n gwrthryfela. Cafodd y llywodraeth ddigon o fraw i anfon nifer fawr o filwyr i lawr i Orllewin Cymru i oresgyn y terfysgoedd. Yn ddiweddarach sefydlwyd Comisiwn Ymchwilio i ddarganfod achosion y digwyddiadau difrifol hyn. Yn sicr Terfysgoedd

Rebeca oedd un o'r bygythiadau mwyaf difrifol i awdurdod drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru a Lloegr.

[David Egan, hanesydd yn ysgrifennu mewn gwerslyfr, People, Protest and Politics in nineteenth century Wales (1987)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 11

TASG ASESIAD DAN REOLAETH rhan (b)

Mae rhai pobl o’r farn y cafodd Terfysgoedd Rebeca eu hachosi gan dlodi ac amodau byw gwael.

I ba raddau mae eich ffynonellau'n cefnogi neu'n gwrthddweud hyn?

Nodiadau i athrawon/ymgeiswyr ynghylch sut i wneud y dasg hon

Isod rhoddir awgrym o strwythur i'w ddefnyddio wrth fynd i'r afael â rhan

(b) a ddylai fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dilyn cwrs

TGAU Hanes.

Mae’n cael ei gynnig fel canllaw ac ni ddylid ei drin fel ffrâm ysgrifennu na chwaith fel yr unig ffordd na'r ffordd orau o fynd ati i wneud yr ymarfer hwn.

Cyflwyniad

Mae angen i hyn ganolbwyntio’n glir ar y cwestiwn gosod a hefyd i ddangos ymwybyddiaeth o'r hyn yw dehongliad mewn gwirionedd.

Mae angen iddo gyfeirio’n glir at ddehongliadau gwahanol o'r mater / testun.

Mae angen gosod y mater yn fyr yn ei gyd-destun hanesyddol.

NID OES ANGEN gwerthuso unrhyw ffynonellau neu

dystiolaeth yn y rhan hon o’r aseiniad.

 Trafodaeth / eglurhad o’r dehongliad cyntaf

Dylai fod datganiad clir o’r dehongliad hwn.

Dylai fod ymgais glir i esbonio sut mae pobl sy’n cefnogi’r dehongliad hwn wedi ffurfio eu barn.

Dylai fod trafodaeth am y dystiolaeth y gellir ei defnyddio i gefnogi’r dehongliad hwn. Mae angen rhoi sylw i ’r cynnwys ac i’r priodoliad.

 Trafodaeth / eglurhad o’r ail ddehongliad

Dylai fod datganiad clir o’r dehongliad hwn.

Dylai fod ymgais glir i e sbonio sut mae pobl sy’n cefnogi’r dehongliad hwn wedi ffurfio eu barn.

Dylai fod trafodaeth am y dystiolaeth y gellir ei defnyddio i gefnogi’r dehongliad hwn. Mae angen rhoi sylw i ’r cynnwys ac i’r priodoliad.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 12

Crynodeb

Dylai fod ateb terfynol i’r cwestiwn gosod.

Dylid dod i farn ynglŷn â pha set o dystiolaeth yr ystyrir ei bod y mwyaf dilys o ran rhoi sylw i'r dehongliad.

Argymhellir y dylai fod cyfanswm o tua 1200 o eiriau yn yr ateb i ran (b).

Awgrymir hefyd na ddylai ymgeiswyr ddefnyddio mwy na phedair ffynhonnell o bob rhan i egluro sut a pham y lluniwyd pob dehongliad.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 13

FFYNONELLAU SY’N CEFNOGI’R DEHONGLIAD

FFYNHONNELL B1

Yn y gaeaf 1842 y dechreuodd terfysgoedd Rebeca a heb os nac oni bai, tlodi gwnaeth eu hachosi. Y trallod (distress) a’r lled-newyn wnaeth arwain pobl cefn gwlad i orymdeithio o dan faneri Rebeca. Roedd yr ymosodiadau ar y tollbyrth bron yn ddamweiniol.

[David Williams, hanesydd academaidd a darlithydd mewn prifysgol, yn ysgrifennu gwerslyfr arbenigol, The Rebecca Riots (1955)]

FFYNHONNELL B2

Heb amheuaeth, prif achos y drygioni yw tlodi’r ffermwyr. O'r herwydd maen nhw wedi mynd yn anfodlon ar bob treth a baich y gofynnwyd iddyn nhw ei dalu. Os gellir ychwanegu gosodiadau annheg [o dollau] dyna ichi'r hyn sydd wedi coroni'r cwbl, ta waeth pa mor ddibwys y mae hyn yn ymddangos ynddo ei hun, ac wedi megino (fanned) yr anfodlonrwydd hwn nes ei fod yn fflam.

Daw gweithwyr amaethyddol at bwynt newynu yn hytrach na gwneud cais am gymorth y tlodion, gan wybod os ydyn nhw’n gwneud y byddan nhw’n cael eu llusgo i Dloty'r Undeb, a’u rhoi mewn un iard, eu gwragedd mewn un arall, eu plant gwrywaidd mewn trydydd un a'u merched mewn pedwerydd un. Mae'r bara a welais yn y Tloty yn cael ei wneud yn gyfan gwbl allan o haidd ac mae bron yn ddu. Mae blas grutiog a braidd yn sur iddo.

[Y gohebydd Thomas Campbell Foster a anfonwyd i ohebu ar derfysgoedd Rebeca mewn erthygl yn y papur newydd yn Llundain, The

Times (26 Mehefin 1843)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 14

FFYNHONNELL B3

[Llun yn dangos amodau byw yn Sir Aberteifi yn ystod ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg]

FFYNHONNELL B4

I frecwast bydd y ffermwr bach yma'n bwyta blawd ceirch a dŵr wedi'u berwi sy’n cael ei alw yn 'duffey' neu 'flummery' neu ychydig o datws wedi'u stwnshio. Mae’n bwyta tatws a llaeth enwyn (buttermilk) , ac weithiau ychydig o gaws Cymreig gwyn a bara haidd, ac fel amheuthun

(treat) caiff sgadan wedi'i halltu (salt herring) weithiau. Ni fydd cig ffres i'w gael ar fwrdd y Ffermwr byth. I swper caiff datws stwnsh. Nid yw byth yn blasu ei fenyn, nid yw na chig eidion na chig dafad byth yn rhan o fywyd y ffermwr. Mae llafurwyr yn byw yn gyfan gwbl ar datws, ac yn anaml iawn y byddan nhw'n cael digon ohonyn nhw, gan gael un pryd y dydd.

[Y gohebydd Thomas Campbell Foster a anfonwyd i ohebu ar derfysgoedd Rebeca mewn erthygl yn y papur newydd yn Llundain, The

Times (2 Rhagfyr 1843)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 15

FFYNHONNELL B5

Y tro diwethaf yr oedd rhaid imi dalu’r degwm, dim ond saith sofren (punt) y gallwn ei gael at ei gilydd. Gwrthododd ef (asiant y landlord) eu cymryd ac ymddiried ynof i am wythnos neu ddwy am y gweddill, nes y gallwn i werthu rhywbeth. Rwyf wedi magu un deg chwech o blant a doedd byth ffyrling

(farthing) arnaf i neb ond rydym mewn sefyllfa waeth nawr nag erioed o'r blaen. Ond nid yw fy ngŵr wedi gwario chwecheiniog ar gwrw yn yr ugain mlynedd diwethaf ac nid wyf i na'r plant yn gallu mynd i'r eglwys gan nad oes gennym ddillad addas. Efallai y gallem fod wedi goroesi ond nawr mae'r degwm hwn mor drwm.

[Mary Thomas o Lanelli, gwraig i labrwr amaethyddol, yn rhoi tystiolaeth i'r Comisiwn Ymchwilio i achosion terfysgoedd Rebeca (1844)]

FFYNHONNELL B6

Pan fyddaf yn cwrdd â’r dynion calch ar y ffordd a hwythau yn llawn chwys a llwch, gwn mai merched Rebeca ydynt. Pan welaf y dynion glo yn dod i’r dref yn eu carpiau, yn gweithio’n galed ac wedi’u bwydo’n wael, gwn eu bod yn perthyn imi, nhw yw plant Rebeca. Pan welaf wragedd ffermwyr yn cludo basgedi llawn i’r farchnad, yn plygu o dan y pwysau gwn yn dda mai dyma yw fy merched. Os wyf yn galw i mewn i dŷ ffermwr a’u gweld yn bwyta bara ceirch yn unig ac yn yfed maidd (whey) , yn wir dywedaf, mai dyma aelodau o’m teulu, dyma blant a merched Rebeca dan ormes.

[Allan o lythyr i’r papur newydd The Welshman a dderbyniwyd ym Medi

1843. Llofnodwyd y llythyr gan ‘Rebeca.’ Roedd The Welshman yn bapur a argraffwyd yng Nghaerfyrddin oedd yn ymosod ar dlodi ac amodau byw gwael y bobl leol.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 16

FFYNHONNELL B7

Yn y flwyddyn 1840, roedd yr haf yn wlyb iawn, roedd rhaid i’r holl ffermwyr bron brynu ŷd, naill ai ar gyfer hadau neu fara. Nid yw'r trallod hwn yn ganlyniad i un neu ddwy neu dair blynedd ond i o leiaf ugain mlynedd. Mae gwerth tir ac eiddo ffermwr we di gostwng tra bo’r ardrethi (rates) , y trethi, y degymau a'r rhent wedi codi. Roedd hyn yn gwneud pethau’n anodd iawn ar y ffermwyr.

[James Rogers o Gaerfyrddin, masnachwr ŷd, yn rhoi tystiolaeth gerbron y Comisiwn Ymchwilio i achosion terfysgoedd Rebeca (1844)]

FFYNHONNELL B8

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn cysylltu'r terfysgoedd ag ymosodiadau ar y tollbyrth, roedd llawer o achosion cwyno eraill a gyfrannodd at y digwyddiadau treisgar. Amodau byw a gweithio ffermwyr Gorllewin Cymru oedd prif achosion yr anfodlonrwydd. Yn ystod y flwyddyn flaenorol roedd prisiau stoc yn cael eu gwerthu wedi disgyn fel roedd cynnyrch y cynhaeaf, ac roedd hyn wedi cynyddu tlodi’n lleol. Roedd pasio Deddf

Newydd y Tlodion yn 1834 wedi golygu mai yn y tloty yn unig y gallai’r tlodion gael cymorth ( cymorth y tlodion). Daeth y tloty yn symbol o’r tlodi arswydus a wynebai lawer o bobl yng Ngorllewin Cymru.

[Allan o wefan addysgol ar hanes lleol ym Mhowys a anelir at blant ysgol uwchradd, www.history.powys.org.uk

(2008)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 17

FFYNONELLAU SY’N HERIO’R DEHONGLIAD

FFYNHONNELL B9

Y tollbyrth oedd gwrthrychau mwyaf cyffredin eu dicter, ond ymosodwyd hefyd ar dlotai a choredau (weirs) a oedd yn cyfyngu ar bysgota. Deuai sawl carfan o dan lach y ffermwyr: eu landlordiaid di-hid a oedd yn gwrthod gostwng y rhent; yr ynadon lleol, a oedd yn trin y tlodion ‘fel cŵn’ pan ddeuent o flaen y fainc; meistri’r tlotai lle câi’r tlodion eu carcharu; derbynwyr y degwm, beilïaid ac offeiriaid Anglicanaidd a oedd yn codi’r degwm drud ar blwyfolion a oedd gan mwyaf y n mynychu’r capel; a chasglwyr tollau.

[Allan o gofnod ar derfysgoedd Rebeca yn Gwyddoniadur Cymru yr

Academi Gymreig , a gyhoeddwyd gan Wasg

Prifysgol Cymru (2008)]

FFYNHONNELL B10

Mae'n ymddangos inni'n gyffredinol mai prif seiliau'r cwynion oedd bod y busnesau ymddiriedolaethau tyrpeg yn camreoli cronfeydd arian. Hefyd yn achosi trallod oedd nifer a thalu tollau i ddefnyddio'r heolydd ac mewn rhai achosion ymddygiad ac agwedd y casglwyr tollau a'r galwadau anghyfreithlon a wnaed ganddyn nhw.

[Allan o adroddiad swyddogol y Comisiwn Ymchwilio a sefydlwyd i archwilio achosion Terfysgoedd Rebeca. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r llywodraeth yn 1844.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 18

FFYNHONNELL B11

Yr uchelwyr oedd â’r holl rym gwleidyddol yng Ngorllewin Cymru. Nid oedd gan y bobl gyffredin yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau yn ystod y cyfnod hwn. Bron bob tro penodwyd Ynadon Heddwch (ustusiaid) o blith yr uchelwyr llai. Roedd gan yr Ynadon Heddwch gyfrifoldebau pwysig dros gyfraith a threfn a thros ymdrin â materion tlodi. Roedd rhai o’r ustusiaid yng

Ngorllewin Cymru’n llwgr a gwnaethant ddefnyddio eu pŵer am eu lles eu hunain.

[David Egan, hanesydd a darlithydd, yn ysgrifennu mewn gwerslyfr hanes TGAU, People, Protest and Politics (1987)]

FFYNHONNELL B12

Cyfrifodd rhywun imi restr o berchnogion tir sy’n tynnu pum mil ar hugain o bunnoedd allan o Orllewin Cymru bob blwyddyn, heb byth weld y lle y maen nhw’n cael eu cyfoeth ohono. Nid gan un Arglwydd gordew mae’r swm mawr hwn yn cael ei gymryd ond gan sawl perchennog tir yn cymryd rhwng un i bum mil y flwyddyn.

[Benjamin Heath Malkin, hanesydd o Sais ac awdur a deithiodd yn helaeth yn Ne Cymru, yn ysgrifennu yn ei arolwg The Scenery,

Antiquities and Biography of South Wales (1807)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 19

FFYNHONNELL B13

NOTICE

Being informed that the people, styling themselvess Rebeccaites, were assembled on Llechryd Bridge, on Tuesday night, the 18 th July, with the declared intention of destroying the SALMON WEIR , now in my occupation; and having been informed that although their nefarious and unlawful designs were, upon that occasion, frustrated by the arrival of a military Force, yet they have intimated their desire to repeat the attempt.

I hereby give Notice,

That upon the commission of any such aggression upon that, or any other part of my Property whatsoever, or upon the Property of any of my Neighbours in the District,

I will immediately discharge every

Day Labourer at present in my employment; and not restore one of them until the Aggressors shall have been apprehended and convicted

ABEL LEWIS GOWER

RHYBUDD

Hysbyswyd i mi fod y bobl a alwant eu hunain Rebeccaaid, wedi ymgynnull ynghyd ar Bont Llechryd, ar nos Fawrth, y 18fed o Orffennaf, i'r dyhen i ddistrywio yr EOG

GORED , sydd yn bresennol yn fy meddiant; a hefyd, fod eu hamcan drygionus ac anghyfreithlon, yr amser hwnnw, wedi cael ei ddiddymu gan bresenoldeb y Milwr; ond eto, amlygiant eu hamcanion penderfynol i wneuthur ail ruthr. Hyn sydd i hysbysu , mai ar gyflawniad y fath ddinystr ar fy meddiannau i, neu feddiannau rhywrai o'm cymmydogion yn y Dosparth hwn, y bydd i mi dalu ymaith bob gweithiwr dyddiol sydd ân awr yn fy ngwasanaeth; ac nis cymeraf un ohonynt yn ôl hyd nes caiff y fath ddynion drygionus eu dal a'u cospi.

ABEL LEWIS GOWER

Castell-Malgwyn, Gor. 24 1843

Castle-Malgwyn, 24 th July 1843

[Poster a gyhoeddwyd gan y tirfeddiannwr lleol yn dilyn ymosodiad ar y

Gored Eogiaid yn Afon Teifi yn Llechryd yn Sir Aberteifi (Gorffennaf

1843)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 20

FFYNHONNELL B14

RATE OF TOLL TO BE TAKEN AT THIS GATE

For every Horse or other Beast drawing any Coach or such like Carriage

£ s d

0 0 6

For every Horse or other Beast (except Asses) drawing any Waggon or such like 0 0 4

For every Ass drawing any Cart, Carriage or other vehicle

For every Horse or Mule, laden or unladen and not drawing

0 0 2

0 0 1 1 /

For every Ass, laden or unladen and not drawing 0 0

2

1 /

2

For every Horse or other animal employed in carrying lime to be used for manure 0 0 2

For every drove of Oxen, Cows or Cattle, the sum of so in proportion for any greater or less number

Ten Pence per Score , and

For every drove of Calves, Hogs, Sheep or Lambs, the sum of Five Pence per

Score , and so in proportion for any greater or less number

[Poster yn dangos y tollau ar dollty Porth y De yn Aberystwyth 1842.

Roedd y rhain yn uchel iawn i ffermwyr tlawd]

FFYNHONNELL B15

[Darlun gan arlunydd o fywyd mewn gweithdy Undeb nodweddiadol yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd y darlun hwn yn yr Illustrated London News gyferbyn ag erthygl yn edrych ar broblemau pobl yng Ngorllewin Cymru (1843)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 21

FFYNHONNELL B16

Yn ystod haf 1839 roedd ffermwyr gorllewin Cymru yn anhapus iawn.

Roedd y newyddion bod Thomas Bullin yn raddol cymryd rheolaeth dros yr holl ymddiriedolaethau tyrpeg yn yr ardal yn peri gofid iddyn nhw. Roedd Bullin wedi dechrau ar ei weithgareddau tollau proffidiol yn

Lloegr ac erbyn hyn roedd wedi symud i dde orllewin Cymru. Talodd

Bullin rent i’r Ymddiriedolaeth Tyrpeg a châi ganiatâd i gasglu tollau gan y bobl a ddefnyddiai ei heolydd. Yn y gorffennol, yn fynych byddai ceidwaid y tyrpeg yn gadael i bobl leol ddefnyddio'r heolydd yn ddidâl.

Fodd bynnag, roedd hyn yn mynd i newid gan fod cyflog ceidwaid

Bullin yn dibynnu ar faint o arian a gasglwyd ganddynt. Roedd y ffermwyr yn benodol yn flin pan glywon nhw fod Bullin wedi cael caniatâd i roi rhagor o dollbyrth ar yr heol. Byddai’r tollbyrth newydd hyn yn codi’r pris dod â’r calch oedd ei angen arnyn nhw i wrteithio eu tir. Byddai rhagor o d ollau’n lleihau’r elw a wnân nhw o werthu eu cynnyrch yn y farchnad leol hefyd. Yn haf 1839, penderfynodd y ffermwyr gymryd camau yn erbyn Bullin a’i dollbyrth newydd.

Ar noson Mai 13, rhoddodd grŵp ohonyn nhw’r tollborth yn Efailwen ar dân. Ychydig o wythnosau’n ddiweddarach dinistrion nhw’r tollborth ym

Maesgwyn. Yn ystod y ddau ddigwyddiad hyn, roedd y ffermwyr yn gwisgo dillad menywod. Honnodd llygad-dystion mai dyn tal oedd yr arweinydd a bod y lleill yn galw Rebeca arno. Roedd y trais a ddefnyddiwyd gan y ffermwyr lleol yn sioc i’r ynadon lleol, a phenderfynon nhw i orchymyn i Bullin ddileu’r tollbyrth newydd. Roedd

Merched Rebeca wedi ennill buddugoliaeth fawr.

[Allan o wefan yn cynnwys adnoddau hanes a ysgrifennwyd yn benodol ar gyfer ysgolion www.ngfl-cymru.org.uk

(2008)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 22

Maes Testun 1

Datblygiadau Gwleidyddol, Cymdeithasol ac Economaidd yng

Nghymru a Lloegr yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg neu'r

Ugeinfed Ganrif

Tasg 2: Amodau Cymdeithasol a Throsedd yn Llundain yng nghyfnod Jack the Ripper

Tasg Asesu dan Reolaeth rhan (a)

Roedd bywydau pobl Dwyrain Llundain yn anodd iawn tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dewiswch unrhyw BUM ffynhonnell o'ch pecyn.

Pa mor ddefnyddiol a dibynadwy yw'r ffynonellau hyn i egluro pa mor anodd oedd bywyd i bobl Dwyrain Llundain?

Tasg Asesu dan Reolaeth rhan (b)

Mae rhai pobl o’r farn mai methiannau'r heddlu oedd y rheswm pam na chafodd Jack the Ripper ei ddal.

I ba raddau mae eich ffynonellau yn cefnogi neu'n gwrthddweud y dehongliad hwn?

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 23

TASG ASESIAD DAN REOLAETH rhan (a)

Roedd bywydau pobl Dwyrain Llundain yn anodd iawn tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dewiswch unrhyw BUM ffynhonnell o’ch pecyn.

Pa mor ddefnyddiol a dibynadwy yw'r ffynonellau hyn i egluro pa mor anodd oedd bywyd i bobl Dwyrain Llundain?

Nodiadau i athrawon/ymgeiswyr ynghylch sut i wneud y dasg hon

Sut y gellir mynd ati i wneud rhan (a)?

Isod rhoddir awgrym o strwythur i'w ddefnyddio wrth fynd i'r afael â rhan (a) a ddylai fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dilyn cwrs TGAU

Hanes. Mae’n cael ei gynnig fel canllaw ac ni ddylid ei drin fel ffrâm ysgrifennu na chwaith fel yr unig ffordd na'r ffordd orau o fynd ati i wneud yr ymarfer hwn.

Cyflwyniad byr

Mae angen i hyn ganolbwyntio’n glir ar y cwestiwn gosod.

Mae angen iddo osod y mater yn fyr yn ei gyd-destun hanesyddol.

Mae paragraff byr yn ddigonol yma.

 Gwerthusiad o’r dystiolaeth a ddewiswyd sy'n gysylltiedig â’r mater yn y cwestiwn gosod.

Yma gall ymgeiswyr archwilio datblygiadau a materion, tra’n dadansoddi a gwerthuso’r dystiolaeth a ddewiswyd. Dylai ymgeiswyr werthuso hyd at bum ffynhonnell yn unig, gyda’r nod o gysylltu’r dystiolaeth â’i defnydd yn yr ymholiad. Argymhellir defnyddio’r ffynonellau er mwyn ategu ac adlewyrchu’r adroddiad ar ba mor anodd oedd bywyd i bobl Dwyrain Llundain.

Dylech osgoi disgrifiad moel o’r ffynonellau.

Wrth edrych ar y dystiolaeth dylech ystyried pwyntiau fel:

Pa wybodaeth sydd yn y ffynhonnell am ...?

Ydy’r ffynhonnell yn cefnogi eich gwybodaeth am ...?

Pwy oedd awdur neu wneuthurwr y ffynhonnell?

Pa bryd y cafodd y ffynhonnell ei hysgrifennu?

Pam y cafodd y ffynhonnell ei hysgrifennu?

Oes unrhyw amheuaeth am yr awdur / ydy hi/ef yn ddibynadwy?

Argymhellir y dylai hyd yr ateb ar gyfer rhan (a) fod tua 800 o eiriau.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 24

FFYNHONNELL A1

[Rhan o fap o Ddwyrain Llundain a gynhyrchwyd gan Charles Booth yn

1889 fel rhan o broject tymor hir yn astudio tlodi .

] (Mae'r map cyfan yn dangos pob rhan o Lundain fwy neu lai. Mae'r map ar gael ar y gwefannau www.casebook.org/victorian_london/maps a www.umich.edu/~risotto/imagemap )

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 25

FFYNHONNELL A2

Roedd yn gyfnod o aflonyddwch a newid mawr yn gymdeithasol. Roedd y

Frenhines Victoria yn teyrnasu dros yr ymerodraeth fawr Brydeinig, a'i phrifddinas, Llundain, oedd y ddinas fwyaf ei maint a'r fwyaf ffyniannus yn y byd. Roedd y strydoedd yn fwrlwm o brysurdeb miliynau dirifedi o bobl.

Roedd miloedd o gabiau a bysiau ceffyl yn teithio' n swnllyd yn ôl ac ymlaen.

[Stewart Evans a Keith Skinner, dau o arbenigwyr pwysicaf y byd ar achos Jack the Ripper, yn ysgrifennu yn eu llyfr,

Jack the Ripper and the Whitechapel Murders (2002)]

FFYNHONNELL A3

Rhannau Dwyreiniol y ddinas ( East End ) oedd ardal dlawd Llundain. Dyma'r ardal hefyd oedd fwyaf cysylltiedig â phroblemau cymdeithasol. Roedd bywyd yn galed i'r bobl oedd yn byw yn ei strydoedd cul blith draphlith. Roedd hyd at

30 o deuluoedd yn byw yn y tenementau gorlawn, a rhai ohonyn nhw'n byw yn union uwchben carthbyllau ( cess-pits ). Roedd 55% o'r plant yn marw cyn iddyn nhw gyrraedd pum mlwydd oed. Roedd y menywod oedd yn methu â chael gwaith "parchus" yn troi at buteindra (prostitution) .

[Donald Rumbelow, hanesydd, yn siarad ar raglen ddogfen ar deledu'r BBC, Jack the Ripper: An Ongoing Mystery (2000)]

FFYNHONNELL A4

Mae'r strydoedd yn wag a diffaith wedi iddi nosi. Trowch i lawr y stryd gefn hon, ond rhowch unrhyw emwaith sydd gennych o'r golwg. Mae'r stryd yn llethol o dywyll er bod tu blaen rhai o'r siopau wedi'u goleuo. Mae dynion yn sefyllian (lounging) wrth y drysau yn ysmygu pibellau drewllyd, mae menywod yn cerdded o gwmpas bob yn ddwy neu dair, neu'n eistedd a sgwrsio ar risiau sy' n arwain at alïau (passages) sy'n dywyllach eto. Rownd y gornel mae'r Wentworth Street ddiarhebol, lle nad yw'r heddlu'n mynd ond fesul dau. Er ei bod yn hwyr y nos, mae' r cwteri, y drysau, yr alïau a'r grisiau i'w gweld yn llawn o blant.

[Rhan o erthygl am Whitechapel yn The Daily News , papur newydd oedd yn ymgyrchu o blaid gwelliannau cymdeithasol (Tachwedd 1888)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 26

FFYNHONNELL A5

Yn pwyso'n erbyn muriau trist y tloty, ynghanol cawod drom o law, oedd yr hyn oedd yn ymddangos iddo ef fel saith pentwr o garpiau; saith o ferched oeddynt mewn gwirionedd. Enghraifft o "erchylltra mud, gwlyb a thawel" oedd yr argraff a gafodd. Ceisiodd eu helpu trwy alw ar Feistr y tloty, ond roedd y lle'n llawn, a doedd dim help ar gael. Rhoddodd Dickens swllt bob un iddyn nhw, er na chafodd unrhyw ddiolch am hynny, ac aeth yn ei flaen gan feddwl pa mor isel mae bodau dynol yn gallu syrthio ar brydiau.

[B. W. Matz, yn ysgrifennu erthygl ar Charles Dickens a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn, The Dickensian , yn 1905. Byddai Dickens yn cerdded trwy

Whitechapel yn aml, a defnyddiai olygfeydd oddi yno yn ei lyfrau. Yn

1855 y digwyddodd yr hanes sy'n cael ei ddisgrifio.]

FFYNHONNELL A6

[Darlun o fywyd yn Nwyrain Llundain gan yr arlunydd o Ffrainc, Gustave

Doré. Cafodd ei gynhyrchu ganddo yn y 1860au ar gyfer un o straeon byrion Charles Dickens.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 27

FFYNHONNELL A7

Mae un o gymdeithasau tai hynaf Llundain, sef Ymddiriedolaeth Peabody, wedi helpu'r Museum in Docklands i ddatgelu cyfrinachau ynglŷn â bywyd yn

Nwyrain Llundain dros 100 mlynedd yn ôl.

Ymddiriedolaeth Peabody yw un o'r cymdeithasau tai mwyaf a hynaf yn

Llundain; mae hefyd yn elusen ac yn asiantaeth ar gyfer adfywio cymunedol.

Ar ôl ei sefydlu gan George Peabody yn 1862, roedd blociau cartrefi model yr Ymddiriedolaeth yn darparu llety iachus am rent fforddiadwy. Cyn hynny mae'n debyg na fyddai gan y tenantiaid unrhyw ddewis ond byw mewn slym heb awyr iach na charthffosiaeth. Cafodd stad hynaf yr Ymddiriedolaeth ei chodi yn Spitalfields yn 1864. Erbyn 1888 roedd ganddi 5,000 o gartrefi, gydag 20,000 o bobl yn byw ynddyn nhw.

Roedd Mary Ann Nichols, a laddwyd gan Jack the Ripper, yn arfer byw yn un o gartrefi Ymddiriedolaeth Peabody. Roedd hi'n byw gyda' i gŵr ar stad

Peabody cyn iddyn nhw wahanu a symud oddi yno i Whitechapel.

[Rhan o ddatganiad i'r wasg yn hysbysebu'r amgueddfa,

The Museum in Docklands (2008)]

FFYNHONNELL A8

[Darlun o gylchgrawn o Iddew yn gwerthu esgidiau ail law yn Llundain ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn dilyn erledigaeth (persecution) ar raddfa eang yn Rwsia o 1881 ymlaen, ffodd tair miliwn o Iddewon, yn ôl amcangyfrif, i'r Gorllewin. Daeth tua 100,000 o'r rhain i fyw i'r DU, llawer ohonyn nhw i Ddwyrain Llundain; cododd hynny beth teimlad gwrth-

Iddewig yn yr ardal.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 28

FFYNHONNELL A9

Mae popeth ar werth ar y stondinau sy'n sefyll ar hyd Whitechapel Road.

Mae'r goleuadau fflam yn dangos teganau, bwyeill, llestri, carpedi, oelcloth, cig, pysgod, llysiau gwyrdd, esgidiau ail law, dodrefn, blodau ac ati. O gwmpas pob stondin mae menywod yn bargeinio' n eiddgar â'r gwerthwr.

Mae'n rhaid i' r fam dlawd fod yn ofalus iawn â phob ceiniog a hithau angen prynu bwyd gydag esgidiau' r plentyn yn gollwng dŵr. Mae menywod eraill yn sgwrsio a chwerthin gan fod eu gwŷr wedi rhoi swllt neu ddau dros ben iddyn nhw yr wythnos hon.

[Rhan o erthygl o'r papur newydd The Daily Telegraph (1862)]

FFYNHONNELL A10

Mae'n sicr yn wir bod gan Whitechapel ddigon o broblemau. Roedd diweithdra yn uchel oherwydd y mewnlifiad anferth o ffoaduriaid o Ddwyrain

Ewrop. Roedd puteindra yn rhemp ac alcoholiaeth yn gyffredin gan fod jin yn rhad. Er gwaethaf y problemau hyn a llawer mwy, roedd Whitechapel a

Dwyrain Llundain yn gyffredinol yn gartref i nifer mawr o drigolion onest a gweithgar, gyda llawer ohonyn nhw'n gweithio'n ddyfal i wella'r amodau a dod yn rhan o'r gymuned Iddewig gynyddol.

Gellid dadlau bod gan yr ardal ddwy bersonoliaeth hollol wahanol, un yn olau a'r llall yn dywyll. Yn ystod oriau'r dydd, roedd yn gymuned brysur o berchenogion siopau, stondinwyr stryd, gwerthwyr marchnad, gweithwyr ffatri a chrefftwyr. Eto rhwng machlud a gwawr, roedd ei phersonoliaeth yn newid.

Roedd Whitechapel Road er enghraifft, nad oedd fwy nag un filltir o hyd, yn gartref i ddim llai na 45 o dafarnau a phalasau jin, ynghyd â thai opiwm a phuteindai dirifedi (innumerable) .

Ar ôl y cyhoeddusrwydd a achoswyd gan lofruddiaethau 1888, cafodd llawer o ddiwygiadau cymdeithasol eu gweithredu. Cafodd llawer o dai eu dymchwel i wneud lle i adeiladau newydd, gosodwyd mwy o lampau stryd a chloddiwyd carthffosydd newydd. Daeth newid yn sicr i'r ardal ond roedd wedi bod yn ganolbwynt gweithgaredd eisoes i ddiwygwyr cymdeithasol ac addysgwyr oedd yn ceisio gwella amodau byw.

[Rhan o erthygl ar ardal Whitechapel yn y 1880au, a gyhoeddwyd ar y wefan, www.articlesbase.com/culture-articles (2010)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 29

TASG ASESU DAN REOLAETH rhan (b)

Mae rhai pobl o’r farn mai methiannau'r heddlu oedd y rheswm pam na chafodd Jack the Ripper ei ddal.

I ba raddau mae eich ffynonellau yn cefnogi neu'n gwrthddweud y dehongliad hwn?

Nodiadau i athrawon/ymgeiswyr ynghylch sut i wneud y dasg hon

Isod rhoddir awgrym o strwythur i'w ddefnyddio wrth fynd i'r afael â rhan (b) a ddylai fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dilyn cwrs TGAU

Hanes. Mae’n cael ei gynnig fel canllaw ac ni ddylid ei drin fel ffrâm ysgrifennu na chwaith fel yr unig ffordd na'r ffordd orau o fynd ati i wneud yr ymarfer hwn.

Cyflwyniad

Mae angen i hyn ganolbwyntio’n glir ar y cwestiwn gosod a hefyd i ddangos ymwybyddiaeth o'r hyn yw dehongliad mewn gwirionedd.

Mae angen iddo gyfeirio’n glir at ddehongliadau gwahanol o'r mater / testun.

Mae angen gosod y mater yn fyr yn ei gyd-destun hanesyddol.

NID OES ANGEN gwerthuso unrhyw ffynonellau neu

dystiolaeth yn y rhan hon o’r aseiniad.

 Trafodaeth / eglurhad o’r dehongliad cyntaf

Dylai fod datganiad clir o’r dehongliad hwn.

Dylai fod ymgais glir i esbonio sut mae pobl sy’n cefnogi’r dehongliad hwn wedi ffurfio eu barn.

Dylai fod trafodaeth am y dystiolaeth y gellir ei defnyddio i gefnogi’r dehongliad hwn. Mae angen rhoi sylw i ’r cynnwys ac i’r priodoliad.

 Trafodaeth / eglurhad o’r ail ddehongliad

Dylai fod datganiad clir o’r dehongliad hwn.

Dylai fod ymgais glir i esbonio sut mae pobl sy’n cefnogi’r dehongliad hwn wedi ffurfio eu barn.

Dylai fod trafodaeth am y dystiolaeth y gellir ei defnyddio i gefnogi’r dehongliad hwn. Mae angen rhoi sylw i ’r cynnwys ac i’r priodoliad.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 30

Crynodeb

Dylai fod ateb terfynol i’r cwestiwn gosod.

Dylid dod i farn ynglŷn â pha set o dystiolaeth yr ystyrir ei bod y mwyaf dilys o ran rhoi sylw i'r dehongliad.

Argymhellir y dylai fod cyfanswm o tua 1200 o eiriau yn yr ateb i ran (b).

Awgrymir hefyd na ddylai ymgeiswyr ddefnyddio mwy na phedair ffynhonnell o bob rhan (cyfanswm o 8) i egluro sut a pham y lluniwyd pob dehongliad.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 31

FFYNONELLAU SY'N CEFNOGI'R DEHONGLIAD

FFYNHONNELL B1

Roedd y strategaeth ddechreuol ar gyfer dal Jack the Ripper yn ddigon cyffredin – dim ond cynyddu nifer yr heddlu yn Nwyrain Llundain. Tra roedden nhw yno, roedd y cwnstabliaid, a hwythau heb unrhyw ddisgrifiad dibynadwy drwy'r amser o'r llofrudd, yn treulio llawer o amser mewn tai llety rhad a thafarnau yn chwilio am unrhyw ddihiryn "amheus". Ar y dechrau roedden nhw'n restio a holi llaweroedd o ddynion (countless men) . Ymhellach ymlaen roedden nhw'n amharod i archwilio hyd yn oed bobl oedd yn wirioneddol amheus. Ac felly aeth Jack the Ripper yn ei flaen i lofruddio.

[John Holliday, hanesydd, yn ysgrifennu yn ei lyfr, Jack the Ripper, the

Green River Killer and the Police (1990)]

FFYNHONNELL B2

Methodd yr heddlu â rheoli dirnadaeth y cyhoedd o'u gweithredoedd, a gwnaeth hynny i'r argyfwng fynd allan o reolaeth y fuan iawn. Methodd yr heddlu â rheoli llif y wybodaeth gan fethu â phrofi eu bod yn gweithredu'n gyfrifol. Roedden nhw' n methu â dangos eu bod yn gwneud popeth i ddal y llofrudd. Yn y diwedd gadawodd yr heddlu i anghytundebau mewnol a methiant y berthynas o fewn eu rhengoedd droi'r cwbl yn helynt.

[Brian Schoeneman , hanesydd o America yn ysgrifennu yn ei erthygl, A

Crisis Management Based Analysis of the Whitechapel Murders (2002)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 32

FFYNHONNELL B3

[Darlun a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Punch ar 22 Medi 1888.

Cafodd ei dynnu gan Tenniel, un o arlunwyr enwocaf y cyfnod, ynghyd â phenillion yn gwneud hwyl am ben yr heddlu.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 33

FFYNHONNELL B4

Dydyn ni ddim am roi'r bai ar yr heddlu. Ond rydym yn dweud mae'n rhaid bod rhywbeth mawr o'i le ar drefniadaeth yr heddlu os yw'r troseddwr hwn yn dianc neu hyd yn oed yn parhau â'i anfadwaith (dreadful work) . Mae enw da ein cyfundrefn heddlu yn y fantol, naill ai oherwydd y newidiadau di-baid i'r

"rhodfeydd" (beats) , dod â recriwtiaid i mewn o'r ardaloedd gwledig, anallu'r ditectifs, neu ddiffyg crebwyll digonol ar ran yr uwch-swyddogion. Does dim byd gwell ar gyfer lleihau trosedd na'r sicrwydd o gael eich dal a'ch cosbi; does dim yn ei hybu'n fwy na chael cyfle i ddianc.

[Rhan o erthygl olygyddol o'r papur newydd, The London Evening News

(5 Hydref 1888)]

FFYNHONNELL B5

Gerllaw corff Catherine Eddowes cafwyd darn gwaedlyd a budr o'i ffedog.

Uwchben hwnnw roedd neges wedi' i sgriblan â sialc: " The Juwes are the men that will not be blamed for nothing ". Cododd dadl chwerw pan benderfynodd comisiynydd yr Heddlu Metropolitan, Sir Charles Warren, ddileu'r neges hon.

[Stewart Evans a Keith Skinner, dau o arbenigwyr pwysicaf y byd ar achos Jack the Ripper, yn ysgrifennu yn eu llyfr,

Jack the Ripper and the Whitechapel Murders (2002)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 34

FFYNHONNELL B6

[Darlun arall gan Tenniel sy'n beirniadu'r heddlu, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Punch ar 13 Hydref 1888]

FFYNHONNELL B7

Mae'r llofruddiaeth erchyll newydd hon yn dangos yn amlwg bod yn rhaid i ni weithredu'n hollol benderfynol. Dylai'r holl strydoedd hyn fod wedi'u goleuo a dylai ein ditectifs gael eu gwella. Nid ydyn nhw cystal ag y dylen nhw fod.

Pan ddigwyddodd y llofruddiaethau cyntaf, rhoesoch addewid y byddech yn ymgynghori â'ch cydweithwyr ynghylch y mater.

[Telegram (a anfonwyd mewn cod yn wreiddiol) oddi wrth y Frenhines

Victoria at y Prif Weinidog (10 Tachwedd 1888)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 35

FFYNHONNELL B8

Mae'r Frenhines yn ofni nad yw adran y ditectifs mor effeithiol ag y gallai fod.

Mae'n amlwg bod y llofruddiaethau diweddar wedi'u cyflawni dan amodau sy'n gwneud y gwaith o ddod o hyd i'r troseddwr yn anodd. Er hynny barn y

Frenhines yw nad yw'r ardal dan sylw yn fawr ac y byddai modd cyflogi nifer mawr o dditectifs.

A gafodd pob un o'r llongau teithwyr eu harchwilio?

A wnaed archwiliad i'r nifer o ddynion sengl sy'n byw mewn ystafelloedd ar eu pennau eu hunain?

Gall dillad y llofrudd fod wedi' u trwytho â gwaed; mae'n rhaid eu bod wedi'u cadw yn rhywle.

A yw'r wyliadwriaeth liw nos yn ddigonol?

[Drafft o lythyr yn llawysgrif Ysgrifennydd Preifat y Frenhines Victoria a anfonwyd at yr Ysgrifennydd Cartref

(13 Tachwedd 1888)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 36

FFYNONELLAU SY'N HERIO'R DEHONGLIAD

FFYNHONNELL B9

Mae'n annheg beio' r heddlu am fethu â dal Jack the Ripper. Mae'n anodd deall erbyn hyn cyn lleied o dystiolaeth wyddonol y gallai'r heddlu fod wedi'i chasglu ar y pryd. Byddai 14 blynedd yn mynd heibio cyn i neb gael ei ddedfrydu ar sail tystiolaeth olion bysedd. Doedd ganddyn nhw ddim grwpiau gwaed, na DNA . Yn 1888 doedd dim modd dweud y gwahaniaeth rhwng gwaed dynol a gwaed anifail.

[Donald Rumbelow, hanesydd, yn siarad ar raglen ddogfen ar y BBC, Jack the Ripper: An Ongoing Mystery (2000)]

FFYNHONNELL B10

RHYBUDD GAN YR HEDDLU I'R PRESWYLYDD

Fore dydd Gwener 31 ain Awst, dydd Sadwrn 8 fed a dydd Sul 30 ain Medi 1888, cafodd menywod eu llofruddio yn Whitechapel neu ardal gyfagos, gan rhywun sy'n byw mae'n debyg yn y gymdogaeth. Pe baech chi'n gwybod am unrhyw berson sydd ag amheuon yn codi yn ei gylch, erfyniwn yn daer arnoch i gysylltu ar unwaith â'r orsaf Heddlu agosaf.

[Pamffled yn galw am help, a anfonwyd gan yr heddlu i bob cartref yn

Whitechapel ar ôl llofruddiaethau Elizabeth Stride a Kate Eddowes

(Medi 1888)]

FFYNHONNELL B11

Mae'r anafiadau wedi' u gwneud gan rhywun oedd â chryn dipyn o sgil a gwybodaeth anatomegol. Maen nhw wedi'u gwneud gan rhywun oedd yn gwybod ble roedd y peth roedd e'n chwilio amdano a sut i ddefnyddio'r gyllell. Ni fyddai person anfedrus (unskilled) yn gwybod ymhle byddai'r organau hyn i'w cael nac yn eu hadnabod wedi hynny. Ni fyddai rhywun oedd ddim mwy na lladdwr anifeiliaid yn gallu cyflawni'r triniaethau hyn.

[Rhan o adroddiad y Crwner ar farwolaeth Polly Nicholls ym Medi 1888.

Dyna a berswadiodd yr heddlu i ganolbwyntio ar chwilio am feddyg neu gigydd.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 37

FFYNHONNELL B12

Roedd y wasg yr un mor drafferthus. Cafodd dwsinau o newyddiadurwyr eu hanfon i Ddwyrain Llundain a phob un ohonyn nhw â cholofnau papur newydd i'w llenwi. Roedden nhw'n sefyllian y tu allan i orsafoedd yr heddlu ac yn eistedd mewn tafarnau yn prynu diod i unrhyw un a fyddai'n fodlon rhaffu storïau waeth pa mor wyllt. Cyhoeddodd The Star stori dudalen flaen gyfyngedig (exclusive) i'r papur hwnnw, dan y pennawd mawr "Ffedog Ledr", am gymeriad od oedd yn prowlan o gwmpas wedi hanner nos. Roedd y papur yn honni bod dwsinau o buteiniaid wedi'u holi a phob un ohonyn nhw'n dweud yr un stori. Cafodd y stori ei hailadrodd mewn papurau eraill ac yn siopau cwrw a cheginau Whitechapel. Yr unig wendid oedd nad oedd mymryn o dystiolaeth i awgrymu bod "Ffedog Ledr" wedi bodoli erioed. Er hynny roedd yn rhaid anfon plismyn i siarad â'r gohebydd a chwilio am y puteiniaid y soniwyd amdanyn nhw.

[Jeremy Gavron, awdur a hanesydd lleol, yn ysgrifennu yn

An Acre of Barren Ground , nofel sydd wedi'i seilio ar ddigwyddiadau yn hanes Spitalfields (2005)]

FFYNHONNELL B13

[Ffotograffau'r heddlu o rai o'r dynion oedd dan amheuaeth o fod wedi cyflawni troseddau Jack the Ripper. Cafodd y rhain a llawer mwy eu holi ar amheuaeth o fod yn llofrudd lluosol (serial killer) .]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 38

FFYNHONNELL B14

Dyn pryd tywyll oedd ef ac roedd e'n gwisgo het hela ceirw. Rwy'n credu ei fod yn gwisgo côt dywyll ond dwi ddim yn siŵr. Roedd e'n ddyn dros 40 oed hyd y gwn i. Roedd i'w weld ychydig yn dalach na'r ymadawedig. Roedd e'n edrych i mi fel tramorwr, cyn belled ag y gallwn weld.

[Elizabeth Long, yn rhoi tystiolaeth yn y cwest i farwolaeth

Annie Chapman ym Medi 1888. Roedd yn rhoi disgrifiad o ddyn a welwyd yn sgwrsio â Chapman cyn iddi gael ei llofruddio.]

FFYNHONNELL B15

Mae'r llofruddiaethau, sy'n parhau mor gyfrwys, yn cael eu cyflawni gyda chreulondeb llwyr sy'n benbleth i'r rhai sy'n ceisio'u datrys. Dyw'r llofrudd yn gadael dim ôl ohono'i hun, a does dim pwrpas i'r drosedd a fyddai'n rhoi cliw o unrhyw fath. Yr unig obaith sydd gan yr heddlu yw y bydd rhyw ddamwain yn eu harwain at drywydd y bydd modd ei ddilyn at ddatrysiad llwyddiannus.

[Rhan o erthygl a gyhoeddwyd yn The Times ar ôl llofruddiaeth Mary

Kelly (Tachwedd 1888)]

FFYNHONNELL B16

Mewn perthynas â'r llofruddiaethau diweddar yn Whitechapel, rwy'n eich hysbysu bod un Arolygydd, 9 Sarsiant a 126 o gwnstabliaid o'r Heddlu

Metropolitan wedi'u rhoi ar waith yn eu dillad eu hunain (plain clothes) i gerdded o gwmpas cymdogaeth y llofruddiaethau.

[Swyddog o'r llywodraeth yn ateb cais am wybodaeth oddi wrth yr

Ysgrifennydd Cartref (Rhagfyr 1888)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 39

Maes Testun 1

Datblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru a Lloegr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.

Tasg 3: Dirwasgiad y 1930au

TASG ASESIAD DAN REOLAETH rhan (a)

Roedd y 1930au’n gyfnod o Ddirwasgiad mewn llawer rhan o Gymru a

Lloegr. Roedd llawer o achosion i’r Dirwasgiad hwn.

Dewiswch unrhyw BUM ffynhonnell o’ch pecyn.

Pa mor ddefnyddiol a dibynadwy yw’r ffynonellau hyn o ran egluro pam roedd Dirwasgiad yn y 1930au?

TASG ASESIAD DAN REOLAETH rhan (b)

Mae rhai pobl o’r farn bod bywyd yn y 1930au yn anodd ac yn ddiflas.

I ba raddau mae eich ffynonellau yn cefnogi neu'n gwrthddweud y dehongliad hwn?

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 40

TASG ASESIAD DAN REOLAETH Rhan (a)

Roedd y 1930au’n gyfnod o Ddirwasgiad mewn llawer rhan o Gymru a

Lloegr. Roedd llawer o achosion i’r Dirwasgiad hwn.

Dewiswch unrhyw BUM ffynhonnell o’ch pecyn.

Pa mor ddefnyddiol a dibynadwy yw'r ffynonellau hyn i egluro pam roedd Dirwasgiad yn y 1930au?

Nodiadau i athrawon/ymgeiswyr ynghylch sut i wneud y dasg hon

Sut y gellir mynd ati i wneud rhan (a)?

Isod rhoddir awgrym o strwythur i'w ddefnyddio wrth fynd i'r afael â rhan (a) a ddylai fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dilyn cwrs TGAU

Hanes. Mae’n cael ei gynnig fel canllaw ac ni ddylid ei drin fel ffrâm ysgrifennu na chwaith fel yr unig ffordd na'r ffordd orau o fynd ati i wneud yr ymarfer hwn.

Cyflwyniad byr

Mae angen i hyn ganolbwyntio’n glir ar y cwestiwn gosod.

Mae angen iddo osod y mater yn fyr yn ei gyd-destun hanesyddol.

Mae paragraff byr yn ddigonol yma.

 Gwerthusiad o’r dystiolaeth a ddewiswyd sy'n gysylltiedig â’r mater yn y cwestiwn gosod.

Yma gall ymgeiswyr archwilio datblygiadau a materion, tra’n dadansoddi a gwerthuso’r dystiolaeth a ddewiswyd. Argymhellir defnyddio’r ffynonellau er mwyn ategu ac adlewyrchu’r adroddiad ar achosion y Dirwasgiad. Dylai ymgeiswyr werthuso hyd at bum ffynhonnell yn unig, gan anelu at gysylltu’r dystiolaeth â’i defnydd yn yr ymholiad. Dylech osgoi disgrifiad moel o’r ffynonellau.

Wrth edrych ar y dystiolaeth dylech ystyried pwyntiau fel:

Pa wybodaeth sydd yn y ffynhonnell am ...?

Ydy’r ffynhonnell yn cefnogi eich gwybodaeth am ...?

Pwy oedd awdur neu wneuthurwr y ffynhonnell?

Pa bryd y cafodd y ffynhonnell ei hysgrifennu?

Pam y cafodd y ffynhonnell ei hysgrifennu?

Oes unrhyw amheuaeth am yr awdur / ydy hi/ef yn ddibynadwy?

Argymhellir y dylai hyd yr ateb ar gyfer rhan (a) fod tua 800 o eiriau.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 41

FFYNHONNELL A1

Yn ystod y Rhyfel Mawr roedd diwydiannau hŷn Prydain, fel adeiladu llongau a chloddio am lo, yn gweithio i’r eithaf, ond ni chafodd llawer o offer newydd ei osod. Ar ôl y rhyfel dirywiodd masnach y byd ac wynebodd y diwydiannau hyn golledion peryglus. Yng nghanol y 1920au gwellodd pethau am gyfnod, ond wedyn yn 1929 daeth y ‘cwymp mawr’ yn yr Unol Daleithiau. Yn sydyn cafodd miloedd o bobl a oedd wedi buddsoddi eu harian mewn diwydiant fraw a cheisio gwerthu eu cyfrannau; cwympodd prisiau’n gyflym, aeth llawer iawn o bobl yn fethdalwyr a chafodd effaith wael ar fusnes. Wedyn gwaethygodd masnach y byd yn waeth; dioddefodd Prydain, yr oedd ei ffyniant yn dibynnu i raddau helaeth ar fasnach, yn wael iawn. Erbyn 1930 roedd 2.5 miliwn o ddynion yn ddi-waith, ac ni chwympodd diweithdra o dan filiwn eto tan 1936.

Roedd diweithdra’n waeth yn yr ardaloedd diwydiannol hŷn, fel Canolbarth yr

Alban, Gogledd Lloegr a De Cymru.

[Allan o'r sylwebaeth i gyfres deledu gan y BBC a gynhyrchwyd yn 1970 ar gyfer myfyrwyr ysgolion uwchradd. Teitl y rhaglen hon oedd The Hungry

Thirties ]

FFYNHONNELL A2

Blwyddyn

GLO

Cyfanswm yr allbwn o lo

(miliwn tunnell)

HAEARN

Cyfanswm yr allbwn o haearn (miliwn tunnell)

COTWM

Allforion nwyddau cotwm

(miliwn metr)

1913

1929

1938

290

260

230

10

8

7

6,500

3,400

1,300

[Ystadegau swyddogol yn dangos beth oedd yn digwydd i dri o brif ddiwydiannau Prydain rhwng 1913 a 1938]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 42

FFYNHONNELL A3

Mae cymalau economaidd Cytundeb Versailles yn niweidiol a pheryglus.

Ychydig o bobl wnaeth drafferth gwrthwynebu c osbi’r Almaen yn y ffordd hon.

Dim ond trwy wasanaethau a nwyddau fel glo a haearn y gall yr Almaen dalu’r iawndal hwn. Pan ddaw'r nwyddau hyn i’r gwledydd sy’n mynnu iawndal, mae’n mynd i andwyo (effeithio’n wael ar) diwydiannau lleol. Bydd diwydiant yn wynebu amser caled.

[Winston Churchill, Aelod Seneddol ar y meinciau cefn, yn siarad yn y

Senedd am Gytundeb Versailles (1920)]

FFYNHONNELL A4

[Diagram allan o werslyfr ysgol yn dangos ym mha ffordd yr oedd arian

America'n bwysig o ran helpu Ewrop i adfer

(recover) ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 43

FFYNHONNELL A5

Yn y Rhyfel Mawr roedd ffyniant Prydain yn dibynnu ar werthu nwyddau diwydiannau trwm fel glo a dur. Fodd bynnag, ar ddiwedd y rhyfel, aeth y diwydiannau hŷn hyn drwy gyfnod o ddirywio. Achosodd costau’n cynyddu a methiant i fuddsoddi mewn technoleg a pheiriannau newydd broblemau.

Cwympodd y galw am nwyddau o Brydain ac roedd mwy o gystadleuaeth o dramor, yn enwedig o'r Unol Daleithiau a’r Almaen. Nid oedd y nwyddau drutach o Brydain yn gallu cystadlu yn erbyn y mewnforion rhatach. I wneud pethau'n waeth, nid oedd y farchnad allforio draddodiadol oedd gan Brydain cyn y rhyfel - gwledydd fel Awstralia, Canada a Seland Newydd - bellach yn barod i ‘brynu nwyddau Prydeinig‘. Roedden nhw’n prynu dur o America, glo o’r Almaen, llongau o Japan a chotwm o India yn hytrach na nwyddau o

Brydain.

[Roger Turvey, hanesydd ac athro ysgol, yn ysgrifennu yn y gwerslyfr i fyfyrwyr TGAU hanes, Wales and Britain 1906-1951 (1997)]

FFYNHONNELL A6

[Poster etholiadol ar gyfer etholiad cyffredinol Prydain ym mis Mai 1929.

Mae’r poster hwn yn beirniadu polisi economaidd llywodraeth Prydain.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 44

FFYNHONNELL A7

Roedd gwendid sylfaenol yn economi Cymru er na sylweddolwyd arno tan ymhell ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Cymru bron yn hollol ddibynnol ar dri phrif ddiwydiant – glo, dur a thunplat. Nid oedd fawr o amrywiaeth o’r diwydiant trwm hwn, er na chafodd hyn ei ragweld, dyma oedd y rheswm sylfaenol pam yr effeithiodd y Dirwasgiad yn y 1930au cynnar mor wael ar

Dde Cymru.

[Allan o wefan sy’n cynnwys adnoddau a ysgrifennwyd gan athrawon ysgol, www.ngfl-cymru.org.uk

]

FFYNHONNELL A8

[Llun o hen lofa Court Herbert yng Nghastell-nedd. Dyma un o’r glofeydd lawer yn y Deyrnas Unedig a gaeodd ar ôl y Streic Gyffredinol yn 1926 ac na chafodd ei hailagor byth wedyn.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 45

FFYNHONNEL A9

Cafodd y llywodraeth Llafur ei dal mewn storm economaidd fawr. Nid oedd yn hawdd i lywodraeth heb fwyafrif mawr gymryd camau gweithredu cryf. Pe bai

MacDonald (y Prif Weinidog) wedi llwyddo i weithio gyda Lloyd George

(arweinydd y Rhyddfrydwyr) efallai byddai rhywbeth wedi cael ei wneud, ond nid oedd y ddau ddyn yn tynnu ymlaen o gwbl. Nid oedd gan MacDonald a’i weinidogion unrhyw syniadau adeiladol a methon nhw â chymryd unrhyw gamau gweithredu cadarnhaol i helpu gyda’r lluwchwynt economaidd

(economic blizzard ).

[ Clement Attlee, un o Aelodau Seneddol y Blaid Lafur yn y llywodraeth rhwng 1929-1931, yn ysgrifennu yn ei hunangofiant, As It Happened

(1938)]

FFYNHONNELL A10

[Cartŵn gan David Low, a gyhoeddwyd ym mhapur newydd yr Evening

Standard yn 1930. Mae’r cartŵn yn dangos gweinidogion y llywodraeth yn sownd mewn bad achub o’r enw The lifeboat that stayed ashore .]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 46

TASG ASESIAD DAN REOLAETH rhan (b)

Mae rhai pobl o’r farn bod bywyd yn y 1930au yn anodd ac yn ddiflas

I ba raddau mae eich ffynonellau’n cefnogi neu’n gwrthddweud y dehongliad hwn?

Nodiadau i athrawon/ymgeiswyr ynghylch sut i wneud y dasg hon

Isod rhoddir awgrym o strwythur i'w ddefnyddio wrth fynd i'r afael â rhan (b) a ddylai fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dilyn cwrs TGAU

Hanes. Mae’n cael ei gynnig fel canllaw ac ni ddylid ei drin fel ffrâm ysgrifennu na chwaith fel yr unig ffordd na'r ffordd orau o fynd ati i wneud yr ymarfer hwn.

Cyflwyniad

Mae angen i hyn ganolbwyntio’n glir ar y cwestiwn gosod a hefyd i ddangos ymwybyddiaeth o'r hyn yw dehongliad mewn gwirionedd.

Mae angen iddo gyfeirio’n glir at ddehongliadau gwahanol o'r mater / testun.

Mae angen gosod y mater yn fyr yn ei gyd-destun hanesyddol.

NID OES ANGEN gwerthuso unrhyw ffynonellau neu dystiolaeth

yn y rhan hon o’r aseiniad.

 Trafodaeth / eglurhad o’r dehongliad cyntaf

Dylai fod datganiad clir o’r dehongliad hwn.

Dylai fod ymgais glir i esbonio sut mae pobl sy’n cefnogi’r dehongliad hwn wedi ffurfio eu barn.

Dylai fod trafodaeth am y dystiolaeth y gellir ei defnyddio i gefnogi’r dehongliad hwn. Mae angen rhoi sylw i ’r cynnwys ac i’r priodoliad.

Trafodaeth / eglurhad o’r ail ddehongliad

Dylai fod datganiad clir o’r dehongliad hwn.

Dylai fod ymgais glir i esbonio sut mae pobl sy’n cefnogi’r dehongliad hwn wedi ffurfio eu barn.

Dylai fod trafodaeth am y dystiolaeth y gellir ei defnyddio i gefnogi’r dehongliad hwn. Mae angen rhoi sylw i ’r cynnwys ac i’r priodoliad.

Crynodeb

Dylai fod ateb terfynol i’r cwestiwn gosod.

Dylid dod i farn ynglŷn â pha set o dystiolaeth yr ystyrir ei bod y mwyaf dilys o ran rhoi sylw i'r dehongliad.

Argymhellir y dylai fod cyfanswm o tua 1200 o eiriau yn yr ateb i ran

(b).

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 47

FFYNONELLAU SY’N CEFNOGI’R DEHONGLIAD

FFYNHONNELL B1

Roedd y bobl oedd yn dioddef o ddiweithdra gwael yn byw yn yr ardaloedd o ddiwydiant oedd yn dirywio, yn bennaf yng ngogledd Lloegr a De Cymru. Yma y prif ddiwydiannau oedd y rhai oedd wedi gwneud Prydain yn bŵer diwydiannol mawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg - glo, haearn a dur, adeiladu llongau a thecstilau. Yn anffodus dyma’r rhai a drawyd fwyaf pan gwympodd cyfran

Prydain o ’r fasnach dramor. Yn yr ‘ardaloedd dirwasgedig’ hyn, aeth y ciwiau hir o weithwyr diwaith y tu allan i’r gyfnewidfa llafur, yn aros i ‘lofnodi ymlaen’, yn rhan o fywyd arferol.

Roedd pobl ddiwaith yn casáu’r Prawf Moddion. Yn sicr achubodd y Prawf

Moddion sawl miliwn o bunnoedd y flwyddyn i’r Llywodraeth, ond roedd y trallod a achoswyd yn fwy na’i ddefnyddioldeb. Cymerwyd tadau oddi ar y ‘clwt’ yn gyfan gwbl weithiau oherwydd bo d eu meibion a’u merched mewn swyddi parhaol. Doedd yna ddim byd a all niweidio hunan-barch dyn yn fwy na gorfod cael ei blant yn ei gynnal.

[R. J. Cootes, hanesydd, yn ysgrifennu mewn gwerslyfr hanes i ysgolion,

The making of the Welfare State (1966) ]

FFYNHONNELL B2

[Llun o ddyn di-waith yn chwilio am waith yn Newcastle yn 1932.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 48

FFYNHONNELL B3

Mae’r ysbryd yma yng Nghwm Rhondda yn helpu i leddfu lawer ar galedi diweithdra. Rwy’n falch nad oes gennyf fab. Mae’n rhaid ei bod yn dorcalonnus i wylio eich bachgen yn tyfu’n ddyn ac yna ei weld yn dirywio oherwydd nad oes dim gwaith iddo ei wneud. Rwyf allan o waith ers wyth mlynedd erbyn hyn a llwyddais i gael dim ond un diwrnod ar ddeg o waith i lawr y pwll yn ystod yr holl amser hwnnw. Ar un adeg roedd gwaith yn rhoi trefn i’m holl fywyd, ac nawr mae’n rhaid imi wynebu’r ffaith na fydd yn gwneud hynny ragor.

[John Evans, glöwr di-waith 47 oed o'r Rhondda yn Ne Cymru, mewn cyfweliad ar gyfer arolwg gan y llywodraeth ar effeithiau diweithdra

(1935)]

FFYNHONNELL B4

[Allan o ymchwiliad gan y llywodraeth i safonau byw pobl ddi-waith.

Mae’r astudiaeth achos hon yn dod o dref y

Blaenau yn Sir Fynwy yn 1937.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 49

FFYNHONNELL B5

[Cartŵn a dynnwyd gan Sidney Strube ac a gyhoeddwyd yn y papur newydd y Daily Express yn 1932. Teitl y cartŵn yw Thinking Aloud.]

FFYNHONNELL B6

Ar ôl i mi ddod yn ôl i Gymru i fyw roeddwn yn gallu gweld yn gliriach sut roedd diweithdra'n bychanu pobl yn ofnadwy, yn enwedig yn y cymoedd glofaol lle'r oedd yn ymddangos bod pob gobaith wedi mynd. Roedd dynion yn sefyll ar gorneli’r strydoedd, heb wybod beth i’w wneud â nhw eu hunain.

Roedd pobl y llwglyd iawn. Roedd yn rhaid i chi gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd, megis yr orymdaith newyn, a fyddai’n gwneud i bobl deimlo eu bod yn ymladd yn ôl. Hefyd roeddech chi’n teimlo ei fod yn hollol hanfodol i gael pobl eraill i ddeall pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.

[Mrs Dora Cox, yn cael ei chyfweld ar gyfer rhaglen gyfweliadau ar BBC

Wales yn 1985. Roedd hi’n cofio cymryd rhan mewn gorymdaith newyn yn 1934.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 50

FFYNHONNELL B7

I fenywod yn Ne Cymru, ardal diwydiant glofaol traddodiadol, mae diweithdra eu gwŷr a’u meibion wedi arwain at ragor o waith o dan amodau anodd. Mae’r arfer a roddodd drefn ar waith tŷ wedi mynd. Mae'r dynion y tu fewn, weithiau drwy'r dydd ac yn y ffordd y rhan fwyaf o'r amser. Yn ychwanegol i’r aflonyddwch hwn y mae'r broblem frawychus o gadw dau ben llinyn ynghyd ar gyllideb mor fach, neu o drefnu bwydo, dillad a thai i deulu sy'n llawer llai hapus ar incwm llawer llai.

Mae diweithdra ar gyfer eu dynion yn rhoi straen arswydus ar fenywod sy'n gorfforol ac yn feddyliol.

[Allan o Adroddiad Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, pwyllgor a adroddai bob blwyddyn am amodau cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r rhan hon o’r adroddiad yn ymdrin â’r problemau yr oedd menywod mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel yn eu hwynebu (1935)]

FFYNHONNELL B8

A very long queue of men lined this part of the street. They were without collars and in shabby suits. They were talking and spitting and smoking little bits of cigare tte held between middle finger and thumb. “We shall cross here”, said Miss Brodie and herded the class across the road.

Monica Douglas whispered, “They are idle.”

“In England they are called the unemployed. They are waiting to get their dole from the lab our bureau” said Miss Brodie. “You must all pray for the unemployed. I will write you out a special prayer for them. Do you all know what the dole is?”

Eunice Gardiner had not heard of it.

Miss Brodie explained, “It is the weekly payment made by the state for the relief of the unemployed and their families. Sometimes they go and spend their dole on drink before they go home and their children starve. But they are our brothers. Sandy, stop staring at once!”

[Rhan allan o'r nofel, The Prime of Miss Jean Brodie , a ysgrifennwyd gan

Muriel Spark ac a gyhoeddwyd yn 1961. Mae’r nofel hon wedi'i seilio ar brofiadau grŵp o ferched ysgol cefnog yng Nghaeredin yng nghanol y

1930au. Yn y rhan hon mae eu hathrawes, Miss Brodie, yn mynd â nhw ar daith gerdded o gwmpas y ddinas.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 51

FFYNONELLAU SY’N HERIO’R DEHONGLIAD

FFYNHONNELL B9

Mewn gwirionedd roedd dwy Brydain yn y 1930au. Roedd y Brydain a oedd yn dibynnu am ei bywoliaeth ar yr hen brif ddiwydiannau megis glo ac adeiladu llongau Roedd y rhan fwyaf o’r Cymry’n perthyn i’r hanner hwnnw o

Brydain a oedd yn ddibynnol ar ddiwydiannau trwm glo, dur, haearn, tunplat a llechi. Adeiladwyd y Brydain arall ar ddiwydiannau newydd a oedd yn gwneud cynnyrch newydd a nwyddau traul megis cerbydau modur, nwyddau trydanol a ffibrau gwneud. Wrth i’r diwydiannau traddodiadol trwm ddirywio, dechreuodd y diwydiannau ysgafn newydd gymryd eu lle. Anogodd y llywodraeth y diwydiannau newydd hyn drwy gynnig grantiau a sefydlu ystadau diwydiannol. Y gred oedd y byddai'r rhai a wnaed yn ddi-waith gan yr hen ddiwydiannau yn cael swyddi yn y diwydiannau newydd. Ni ddigwyddodd hyn mewn gwirionedd, er i dros 400,000 o bobl adael De Cymru rhwng 1929 a

1939 i gael gwaith mewn rhannau eraill o Brydain. Roedd hyn yn bennaf yn

Llundain, Canolbarth Lloe gr a de ddwyrain Lloegr, lle'r oedd y rhan fwyaf o’r diwydiannau ysgafn newydd.

[Roger Turvey, hanesydd ac athro ysgol, yn ysgrifennu mewn llyfr i fyfyrwyr hanes TGAU, Wales and Britain 1906-1951 (1997)]

FFYNHONNELL B10

Tref neu Ddinas

Jarrow

Llundain

Merthyr Tudful

Luton

Gateshead

Watford

Birmingham

Di-waith

67.8%

8.6%

61.9%

7.7%

44.2%

7.0%

6.4%

[Ffigurau swyddogol yn dangos canran y gweithlu’n ddi-waith mewn rhai trefi a dinasoedd yn 1934]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 52

FFYNHONNELL B11

Y 1930au oedd blynyddoedd gorau fy mywyd. Roeddwn i’n gweithio ar fferm yn Swydd Gaergrawnt. Roedd 1930 yn flwyddyn wael, os cofiaf yn iawn.

Roedd yn rhaid inni aredig y tatws yn ôl i mewn i’r ddaear gan nad oedd neb yn gallu eu fforddio. Ond gwellodd p ethau ac ar ôl 1936, roedd bywyd yn braf.

Gwellodd pethau ar y fferm gyda’r llywodraeth yn rhoi cymorthdaliadau inni fel y gallwn ni fforddio gwrteithiau. Er na allaf i gofio gorymdaith Jarrow, cofiaf brynu radio am y tro cyntaf yn 1937. Darparodd hyn adloniant rhagorol gyda chyngherddau'r bandiau gorau i gyd yn cael eu darlledu. Llwyddais i hyd yn oed i gael Austin Seven rhad ac yn aml yr awn drosodd i Yarmouth yn yr haf.

[Ernest Macer, ffermwr wedi ymddeol o ddwyrain Lloegr, yn cofio ei fywyd yn y 1930au mewn cyfweliad ar gyfer gorsaf radio lleol (1986)]

FFYNHONNELL B12

[Hysbyseb mewn papur newydd yn gwerthu tai newydd yn ne Lloegr yn

1933]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 53

FFYNHONNELL B13

[Llun yn dangos radios yn cael eu masgynhyrchu ar linell gydosod mewn ffatri yn Perivale, Llundain yn 1936.]

FFYNHONNELL B14

Gadewais i’r ysgol yn 14 oed yn 1932 pan oedd y dirwasgiad ar ei waethaf yn y cymoedd. Am wythnosau awn i’r pwll lleol gyda fy nhad, ond gan nad oedd dynion mewn oed gyda phrofiad yn gallu cael gwaith, doedd dim llawer o obaith i fachgen ifanc. Yn y pen draw llwyddodd fy mam i ddwyn perswâd ar y masnachwr glo lleol i gael swydd imi, felly y dechreuais i fy ngyrfa’n codi glo o'r tomenni. Os gallwn i godi tipyn, gallwn ennill £2 yr wythnos, ond ar y cyfan enillwn lai na deg swllt (50c).

Roedd ffrind i mi wedi mynd i Loegr, fel gwas mewn ysgol fonedd fawr.

Pan ddaeth ef adref yn ystod y gwyliau dywedai storïau wrthym am fwyd da, ei ystafell ei hunan, oriau rheolaidd ac amser rhydd. Ysgrifennais i atyn nhw a gofyn a oedd ganddyn nhw swydd imi. Ces i fy ngalw am gyfweliad a chefais swydd fel gwas tŷ. Gadewais i Gymru’n fuan ar ôl fy mhen-blwydd yn un ar bymtheg oed a mynd i fyd gwahanol.

[J. T. Dyer, yn cofio ei fywyd fel bachgen yn y Rhondda yn ne Cymru, mewn cyfweliad â phapur lleol (1986)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 54

FFYNHONNELL B15

[Llun o sinema yng Nghasnewydd yn 1931. Adeiladwyd llawer o sinemâu newydd yn y 1930au. Feet First, gyda'r comedïwr Harold

Lloyd, oedd y ffilm yn cael ei dangos.]

FFYNHONNELL B16

Roedd y 1930au yn gyfnod pan oedd pawb ym Mhrydain yn gallu ehangu eu profiadau a dechrau byw. Rhoddodd y BBC radio ac wedyn teledu i bobl, ac erbyn 1939 roedd 80,000 o setiau teledu yn Llundain yn unig. Cafwyd cynnydd mawr yn nifer y bobl yn mynd ar wyliau. Ehangodd gwestai a thai llety (boarding houses) , siopau pysgod a sglodion, stondinau hufen iâ, ffeiriau a neuaddau dawnsio. Ffynnodd gwersylloedd gwyliau, yr un a adeiladwyd gan Butlins yn Skegness oedd yr un enwocaf.

[Josh Brooman, hanesydd, yn ysgrifennu mewn gwerslyfr hanes TGAU,

People in Change (1994)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 55

Maes Testun 1

Datblygiadau Gwleidyddol, Cymdeithasol ac Economaidd yng Nghymru a Lloegr yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg neu'r Ugeinfed Ganrif

Tasg 4: Chwareli Gogledd Cymru

Tasg Asesu dan Reolaeth rhan (a)

Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, datblygwyd ffordd o fyw nodedig gan deuluoedd ardaloedd y chwareli yng Ngogledd Cymru.

Dewiswch unrhyw BUM ffynhonnell o'ch pecyn.

Pa mor ddefnyddiol a dibynadwy yw'r ffynonellau hyn i egluro bywyd teuluoedd ardaloedd y chwareli yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif?

Tasg Asesu dan Reolaeth rhan (b)

Mae rhai pobl o’r farn mai'r streicwyr oedd ar fai fod y Cau Allan yn y Penrhyn wedi parhau cyhyd.

I ba raddau mae eich ffynonellau yn cefnogi neu'n gwrthddweud y dehongliad hwn?

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 56

TASG ASESIAD DAN REOLAETH rhan (a)

Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, datblygwyd ffordd o fyw nodedig gan deuluoedd ardaloedd y chwareli yng Ngogledd Cymru.

Dewiswch unrhyw BUM ffynhonnell o'ch pecyn.

Pa mor ddefnyddiol a dibynadwy yw'r ffynonellau hyn i egluro bywyd teuluoedd ardaloedd y chwareli yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif?

Nodiadau i athrawon/ymgeiswyr ynglŷn ag ymdrin â'r dasg hon

Sut mae ymdrin â rhan (a)?

Isod rhoddir awgrym o strwythur i’w ddefnyddio wrth fynd i’r afael â rhan (a) a ddylai fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dilyn cwrs TGAU

Hanes. Mae'n cael ei gynnig fel canllaw ac ni ddylid ei drin fel ffr âm ysgrifennu na chwaith fel yr unig ffordd na'r ffordd orau o fynd ati i wneud yr ymarfer hwn.

Cyflwyniad byr

Mae angen i hyn ganolbwyntio'n glir ar y cwestiwn gosod.

Mae angen iddo osod y mater yn fyr yn ei gyd-destun hanesyddol.

Mae paragraff byr yn ddigonol yma.

 Gwerthuso'r dystiolaeth a ddewiswyd mewn perthynas â'r mater sydd yn y cwestiwn gosod.

Yma gall ymgeiswyr archwilio datblygiadau a materion, gan ddadansoddi a gwerthuso'r dystiolaeth a ddewiswyd. Dylai ymgeiswyr werthuso hyd at bum ffynhonnell a dim mwy, gan anelu at gysylltu'r dystiolaeth â'r mater dan sylw. Argymhellir defnyddio'r ffynonellau er mwyn ategu ac adlewyrchu'r adroddiad ar fywyd pobl ym mhentrefi chwarelyddol Gogledd Cymru. Dylid osgoi disgrifiad moel o'r ffynonellau.

Wrth drafod y dystiolaeth dylech ystyried pwyntiau fel:

Pa wybodaeth sydd yn y ffynhonnell am …?

A yw'r ffynhonnell yn ategu eich gwybodaeth am …?

Pwy oedd awdur neu wneuthurwr y ffynhonnell?

Pa bryd y cafodd y ffynhonnell ei hysgrifennu?

Pam y cafodd y ffynhonnell ei hysgrifennu?

A oes unrhyw amheuon am yr awdur / ydy hi/ef yn ddibynadwy?

Argymhellir y dylai hyd yr ateb ar gyfer rhan (a) fod tua 800 o eiriau.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 57

FFYNHONNELL A1

Ym Mlaenau Ffestiniog yn 1883-93, roedd oedran marwolaeth y rhai a gofrestrwyd fel chwarelwyr ( quarriers ), hynny yw, y rhai oedd yn gweithio yn y siediau naddu, lle roedd y llwch llechi ar ei waethaf, ddim mwy na 48 oed ar gyfartaledd. Yn achos y gyrwyr a'r gweithwyr eraill ar reilffyrdd y chwareli – y rhai roedd problem y llwch yn effeithio leiaf arnynt – yr oedran ar gyfartaledd oedd 60; gallai labrwyr obeithio byw nes y byddent yn 53 oed, ond dim ond rhyw fis neu ddau yn hwy na'r chwarelwyr y gallai'r creigwyr a'r gweithwyr dan ddaear obeithio'i gael.

[Y meddyg, Dr R. Jones o Flaenau Ffestiniog, yn rhoi tystiolaeth gerbron

Comisiwn Ymchwiliad i achosion marwolaethau ymysg chwarelwyr

(1893)]

FFYNHONNELL A2

[Ffotograff a dynnwyd yn y 1930au o Gerlan, pentref chwarelyddol a gafodd ei sefydlu yn 1864 i ddarparu cartrefi i weithwyr chwarel y

Penrhyn a'u teuluoedd]

FFYNHONNELL A3

Byddai llawer o ddynion yn teithio'n bell i weithio yn y chwareli. Ar ddydd Llun byddai gweithwyr o Fôn yn codi am 3 o'r gloch y bore a cherdded at y fferi ym Moel y Don a chroesi i Gaernarfon cyn dal y trên a chyrraedd chwarel

Dinorwig yn Llanberis am 6.15 y bore. Yn ystod yr wythnos byddai'r dynion yn byw dan amodau gwael mewn 'barics', gyda dau yn aml yn cysgu ym mhob gwely heb fawr o le i gadw eu heiddo.

[R. Merfyn Jones, hanesydd ac arbenigwr ar chwareli Gogledd Cymru, yn ysgrifennu yn ei lyfr, The North Wales Quarrymen 1874-1922 (1982)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 58

FFYNHONNELL A4

Ar y pryd doedd y tŷ ddim gwerth yr enw; yn ddim ond pedair wal a tho gwellt.

Roedd tân mawn ar y llawr a dau wely pren. Gwyddai Jane fod gweithio yn y chwarel a chadw tyddyn hefyd yn ormod i Ifan. Roedd Jane yn poeni'n fawr am un peth a hynny oedd cyflwr y tŷ. Y gegin lle'r oeddynt yn byw oedd yr unig ystafell glyd ynddo. Yr oedd y siamberydd (bedrooms) , yr un gefn yn enwedig, yn llaith ac yn hollol afiach i neb gysgu ynddi. Rhedai'r lleithder i lawr hyd y parwydydd gan ddifetha pob papur, a disgynnai dife rion dŵr o'r seilin coed ar y gwely adeg rhew a barrug. Fe hoffai gael adeiladu darn newydd wrth yr hen dŷ, fel y câi gegin orau a dwy lofft o leiaf. Yr oedd digon o gerrig ar dir Ffridd

Felen i adeiladu darn felly, a byddai cael gwared o'r cerrig yn lles i'r tir yntau.

Ond byddai'n rhaid i Ifan eu saethu, a golygai hynny fwy o waith byth iddo.

Felly, i beth y breuddwydiai?

[Kate Roberts, yn ysgrifennu mewn nofel o'r enw, Traed mewn Cyffion , sy'n sôn am y cyfnod 1880-1914. Merch i chwarelwr o bentref

Rhosgadfan oedd Kate Roberts]

FFYNHONNELL A5

Rhent

Bara

Glo

Cig

Tatws

Dillad

Menyn

Llaeth

Siwgr

Te

Canhwyllau

Cyfanswm

£2.10

£2.00

60p

40p

35p

60p

£1.00

10p

20p

22p

10p

£7.62

[Ystadegau swyddogol yn dangos cyllideb fisol teulu chwarelwr, yn cynnwys dau oedolyn a phump o blant yn 1900. Tua £7.50 ar gyfartaledd oedd cyflog misol chwarelwr ar y pryd.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 59

FFYNHONNELL A6

Digwyddiadau'r wythnos a gynhaliwyd gan un capel ym

Sul

Methesda (1900)

9 a.m. Cyfarfod gweddi'r bobl ifanc

10 a.m. Pregeth

2 p.m. Ysgol Sul

5 p.m. Yr Ysgol Gân (canu emynau)

Llun

Mawrth

Mercher

6 p.m. Pregeth

Cyfarfod gweddi

Cyfarfod o bwyllgor y capel

Pump cyfarfod astudio

Iau

Gwener

Y Gymdeithas Lenyddol

Pedwar cyfarfod astudio

Y Gobeithlu ( Band of Hope )

[Amserlen digwyddiadau'r wythnos ar gyfer un capel ym Methesda yn

1900]

FFYNHONNELL A7

Roedd bandiau pres yn chwarae rhan allweddol ym mywyd diwylliannol y gymuned ac roedd band i'w gael yn y rhan fwyaf o'r pentrefi. Roedd

Assheton-Smith, perchennog chwarel Dinorwig, wedi cyflwyno iwnifform ac ystafell ymarfer i Fand Llanrug yn y Gilfach Ddu ac wedi prynu set newydd o offerynnau arian iddyn nhw oedd yn werth £400. Ar ôl i Fand Nantlle chwarae o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn yr Eisteddfod

Genedlaethol yng Nghaernarfon yn 1894, cawsant yr hawl i ddefnyddio'r teitl

' The Royal Nantlle Vale Band '.

[Rhan o wefan addysgol gan Wasanaeth Archifau Gwynedd, www.llechicymru.info]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 60

FFYNHONNELL A8

[Ffurflen gyfrifiad swyddogol ar gyfer rhan o Well Street, Llanberis

(1891)]

FFYNHONNELL A9

Nid ystafell fwyta yn unig oedd y caban. Roedd hefyd yn neuadd gyngerdd, yn theatr ac yn bafiliwn eisteddfod! Dros ginio byddai'r chwarelwyr yn diddori ei gilydd trwy ganu emynau, caneuon gwerin a cherdd dant, adrodd darnau o farddoniaeth a rhannau o'r Beibl, a thrwy feimio ac actio. Roedd cwisiau gwybodaeth gyffredinol a sillafu yn boblogaidd iawn ac roedd dadlau brwd bob amser ynglŷn â chrefydd a gwleidyddiaeth. Âi llawer iawn o'r chwarelwyr i'r

Ysgol Sul ac i'r capel yn rheolaidd. Yn ystod yr wythnos aent i'r seiat a'r

Gobeithlu. Roedd 22 o gapeli o fewn tair milltir i ganol Bethesda. Ond roedd dros 40 o dafarndai yn yr ardal hefyd, a byddai chwarelwr llychlyd yn falch iawn o gael torri ei syched trwy yfed peint o gwrw.

[Geraint Jenkins, hanesydd, yn ysgrifennu mewn gwerslyfr ar gyfer myfyrwyr Cyfnod Allweddol 3, Cymru, Ddoe a Heddiw (1990)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 61

FFYNHONNELL A10

DAMWAIN DRYCHINEBUS

MEWN CHWAREL

YN NANTLLE

APÊL AT AELODAU HAELIONUS O'R CYHOEDD

Mewn damwain ofnadwy ddydd Llun yn Chwarel

Dorothea, Nantlle, collodd saith o ddynion priod eu bywydau mewn modd sydyn ac arswydus, gan adael

7 o WEDDWON a 22 o BLANT yn amddifad.

Apeliwn at bobl garedig a phawb sy'n cydymdeimlo am unrhyw gyfraniad tuag at leddfu dioddefaint y gwragedd anffodus hyn a'r plant a amddifadwyd o'u tadau; bydd y papur newydd hwn yn fwy na bodlon derbyn cyfraniadau felly.

[Apêl am arian i helpu gweddwon a phlant saith o ddynion a gafodd eu lladd mewn damwain yn y chwarel. Cyhoeddwyd yr apêl yn y papur newydd lleol, The Carnarvon and Denbigh Herald (3 Ionawr 1885].

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 62

TASG ASESU DAN REOLAETH rhan (b)

Mae rhai pobl o’r farn mai'r streicwyr oedd ar fai bod y Cau Allan yn y Penrhyn wedi parhau cyhyd.

I ba raddau mae eich ffynonellau yn cefnogi neu'n gwrthddweud y dehongliad hwn?

Nodiadau i athrawon/ymgeiswyr ynglŷn ag ymdrin â'r dasg hon

Isod rhoddir awgrym o strwythur i'w ddefnyddio wrth fynd i'r afael â rhan (b) a ddylai fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dilyn cwrs TGAU

Hanes. Mae’n cael ei gynnig fel canllaw ac ni ddylid ei drin fel ffrâm ysgrifennu na chwaith fel yr unig ffordd na'r ffordd orau o fynd ati i wneud yr ymarfer hwn.

Cyflwyniad

Mae angen i hyn ganolbwyntio’n glir ar y cwestiwn gosod a hefyd i ddangos ymwybyddiaeth o'r hyn yw dehongliad mewn gwirionedd.

Mae angen iddo gyfeirio’n glir at ddehongliadau gwahanol o'r mater / testun.

Mae angen gosod y mater yn fyr yn ei gyd-destun hanesyddol.

NID OES ANGEN gwerthuso unrhyw ffynonellau neu dystiolaeth

yn y rhan hon o’r aseiniad.

 Trafodaeth / eglurhad o’r dehongliad cyntaf

Dylai fod datganiad clir o’r dehongliad hwn.

Dylai fod ymgais glir i esbonio sut mae pobl sy’n cefnogi’r dehongliad hwn wedi ffurfio eu barn.

Dylai fod trafodaeth am y dystiolaeth y gellir ei defnyddio i gefnogi’r dehongliad hwn. Mae angen rhoi sylw i’r cynnwys ac i’r priodoliad

 Trafodaeth / eglurhad o’r ail ddehongliad

Dylai fod datganiad clir o’r dehongliad hwn.

Dylai fod ymgais glir i esbonio sut mae pobl sy’n cefnogi’r dehongliad hwn wedi ffurfio eu barn.

Dylai fod trafodaeth am y dystiolaeth y gellir ei defnyddio i gefnogi’r dehongliad hwn. Mae ang en rhoi sylw i’r cynnwys ac i’r priodoliad.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 63

Crynodeb

Dylai fod ateb terfynol i’r cwestiwn gosod.

Dylid dod i farn ynglŷn â pha set o dystiolaeth yr ystyrir ei bod y mwyaf dilys o ran rhoi sylw i'r dehongliad.

Argymhellir y dylai fod cyfanswm o tua 1200 o eiriau yn yr ateb i ran

(b).

Awgrymir hefyd na ddylai ymgeiswyr ddefnyddio mwy na 4 ffynhonnell o bob rhan (8 i gyd) i egluro sut a pham y daeth pob dehongliad i fod.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 64

FFYNONELLAU SY'N CEFNOGI'R DEHONGLIAD

FFYNHONNELL B1

Ein barn ni yw mai gwaith y Blaid Lafur Annibynnol ( I.L.P.

) ac undeb y chwarelwyr yw'r anghydfod bron yn gyfan gwbl, a'i amcan yw, nid yn gymaint ennill telerau gwell i'r dynion, ond ennill rheolaeth os yn bosibl dros ddiwydiant mawr, ac yna'i ddefnyddio i hyrwyddo egwyddorion sosialaidd....

Credwn fod yr Arglwydd Penrhyn wedi'i gamddehongli'n llwyr, a hynny mewn ffordd annheg a dideimlad; ... yr I.L.P.

a'r undeb sydd wrth wraidd yr holl fusnes.

Cael eu defnyddio mae'r chwarelwyr.

[Rhan o erthygl o'r papur newydd rhanbarthol, The Cambrian News (19

Ebrill 1901). Roedd y papur newydd yn cefnogi'r Arglwydd Penrhyn, perchennog chwarel y Penrhyn.]

FFYNHONNELL B2

Syr,

Anghydfod Chwarel y Penrhyn

Yn unol â'ch cais, mae'n fraint i mi gyflwyno'r adroddiad pellach hwn bod y milwyr, y soniais amdanynt yn y llythyr a anfonais ar y dydd cyntaf o'r mis, wedi cyrraedd ddoe, y gwŷr traed i Fethesda tua 4 o'r gloch y bore a'r gwŷr meirch i Fangor tua 3 o'r gloch y prynhawn.

Ar brynhawn yr ail o'r mis, aeth tyrfa fawr i gyfarfod y gweithwyr oedd yn dychwelyd o'u gwaith drwy un o fynedfeydd y chwarel a bu'r dyrfa'n ymddwyn yn afreolus a bygythiol iawn. Pan geisiodd y dyrfa ruthro i gyfeiriad y gweithwyr, methodd yr heddlu â'u hatal, a bu rhaid i'r gweithwyr ddianc gorau y gallent ac ymosodwyd ar un neu ddau ohonynt, ond nid yn ddifrifol.

Bwriad y streicwyr, cyn belled ag y gallaf ddeall hyd yn hyn, oedd dychryn y gweithwyr a thorri cymaint o'u ffenestri ag y gallent. Pe bai unrhyw un o'r gweithwyr yn cael eu dal gan y torfeydd sy'n disgwyl amdanynt wrth iddynt ddychwelyd o'r gwaith, cael y gwaethaf ohoni a fyddent hwythau hefyd heb amheuaeth.

Yr eiddoch yn gywir, Syr,

Eich ufudd was,

A. A. Ruck

[ Llythyr oddi wrth Brif Gwnstabl Sir Gaernarfon at y Swyddfa Gartref, yn rhoi adroddiad ar y sefyllfa yn y chwarel (3 Ionawr 1902)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 65

FFYNHONNELL B3

BETH MAE'R UNDEB EI EISIAU

1. Yr hawl i ethol yn rhydd lefarwyr o blith y chwarelwyr i drafod cwynion gyda'r rheolwyr o bryd i'w gilydd.

2. Hawl y dynion i gyfarfod yn ystod yr awr ginio i drafod materion ynglŷn â'r chwarel ymhlith ei gilydd.

3. Derbyn yr arweinwyr a ddiswyddwyd yn ôl i'r gwaith.

4. Sefydlu isafswm cyflog.

5. Cosbi ymddygiad anghyfiawn ar ran fformyn a swyddogion tuag at y gweithwyr.

6. Cyflwyno, fel arbrawf, system gydweithredol o osod gwaith bargen

( piece-work ) yn lle'r gwaith a wneir ar hyn o bryd dan gontract.

7. Lleddfu'r rheolau disgyblaeth llym, a lleihau'r cosbau am eu torri.

8. Ailsefydlu'r dydd gŵyl blynyddol ar Fai 1af.

9. Rheolaeth fwy ddemocrataidd dros Gronfa Salwch y Chwarel.

[W. J. Parry, un o arweinwyr U.Ch.G.C., yn ysgrifennu yn ei lyfr, The

Penrhyn Lock-out, Statement and Appeal (1901)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 66

FFYNHONNELL B4

Y CYNGHRAIR ER AMDDIFFYN RHYDDID AC EIDDO

(The Liberty and Property Defence League)

7, Victoria Street,

Westminster

Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, gan gredu yn hawl pob busnes i fasnachu'n rhydd, ac yn hawl cyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd i fod yn annibynnol o unrhyw ymyrraeth gan y

Llywodraeth ac i fod yn rhydd o reolaeth gan gyfuniadau trefnedig o weithwyr, yn dymuno datgan yn barchus ein hymdeimlad dwfn o'r dewrder a'r unplygrwydd a ddangoswyd gennych wrth i chi gynnal yr egwyddorion gwerthfawr hyn tra' n delio â'ch busnes yn Chwareli

Llechi Bethesda.

(Llofnodwyd) Yr Arglwydd Wimborne

Iarll Fortescue

Yr Arglwydd Aldenham

Syr William Lewis

Syr George Livesey

Syr Frederick Bramwell

Yr Anrhydeddus Percy Wyndham

J. Buckingham Pope

Syr Benjamin Browne (ac eraill)

[Rhan o lythyr a anfonwyd at yr Arglwydd Penrhyn gan aelodau'r

Cynghrair er Amddiffyn Rhyddid ac Eiddo (21 Mai 1903).

Mudiad gwrth-sosialaidd, dan nawdd perchenogion y diwydiannau mwyaf, oedd y Cynghrair.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 67

FFYNHONNELL B5

Annwyl Arglwydd Wimborne,

Derbyniais eich llythyr dyddiedig yr 21ain o'r mis hwn wedi'i gyfeirio at yr

Arglwydd Penrhyn.

Rwy'n dweud heb unrhyw betruster fod cyflogwyr mawr Lloegr yn ddyledus i'r

Arglwydd Penrhyn oherwydd y safiad a wnaed ganddo yn erbyn undeb y chwarelwyr sydd ar streic.

Er mwyn eu lles eu hunain a lles eu plant i'r dyfodol, fy nymuniad yw y dylai pob un o weithwyr y Deyrnas Unedig feddwl a gweithredu mwy trostynt eu hunain ac anwybyddu'r cynhyrfwyr a rhai o'n Haelodau Seneddol sy'n ceisio codi drwgdeimlad ac anghydfod ar ran y 'gweithiwr' tuag at y cyflogwr.

[Rhan o lythyr oddi wrth reolwr Chwarel Dinorwig at Gadeirydd y

Cynghrair er Amddiffyn Rhyddid ac Eiddo (22 Mai 1903)

[ Ateb yw hwn i'r llythyr sydd i’w weld yn Ffynhonnell B4 ]

FFYNHONNELL B6

Pwysodd D. R. Daniel ( trefnydd yr undeb ) ar y dynion i beidio â siarad â'r bradwyr.... Er mwyn bod yn siŵr pwy oedd pwy a pheri i'r pwysau mwyaf gael ei ddwyn o blaid yr achos, cyhoeddwyd cardiau ar gyfer cartrefi'r streicwyr yn dwyn y slogan, Nid oes bradwr yn y tŷ hwn . Byddai'r cardiau i'w gweld yn ffenestri Bethesda am ddwy flynedd a mwy.... Er mwyn ei gwneud yn haws eto i wybod pwy oedd pwy, byddai'r papurau radicalaidd, Y Werin a'r Eco

Cymraeg yn cyhoeddi rhestrau o enwau'r bradwyr ynghyd â'u cyfeiriadau. Nid bradwyr oedd yr enw a gaent fel rheol, yr enw cyffredin arnynt oedd cynffonwyr .

[R. Merfyn Jones, hanesydd, ac arbenigwr ar chwareli Gogledd Cymru, yn ysgrifennu yn ei lyfr, The North Wales Quarrymen 1874-1922 (1982)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 68

FFYNHONNELL B7

Mae deiseb ostyngedig gweithwyr Chwareli Llechi'r Penrhyn, Bethesda, yn Sir Gaernarfon, yn dangos:

Bod eich deisebwyr wedi bod yn gweithio yn Chwareli Llechi'r Penrhyn ers yr unfed diwrnod ar ddeg o Fehefin diwethaf, a byth er y dyddiad hwnnw bod llu mawr o heddlu wedi'u cyrchu i'r gymdogaeth er mwyn ein gwarchod.

Nad yw'r warchodaeth honno'n ddigonol, oherwydd bod y dynion sy'n dal ar streic, a'u cefnogwyr, yn aflonyddu arnom a'n dychrynu (intimidate) .

Nad ydym ni nac aelodau o'n teuluoedd yn gallu cerdded y strydoedd er mwyn trafod ein busnes, heb i rai ein dilyn ac aflonyddu arnom.

Bod rhai wedi aflonyddu arnom ni, neu aelodau o'n teuluoedd yn wragedd a phlant, laweroedd o weithiau ar y strydoedd cyhoeddus, a'n bod wedi'n gorfodi gan dorfeydd mawr ac afreolus i fynd yn ôl i'n tai, gyda'r dorf yn dod ar ein holau gan hwtian a gweiddi a defnyddio trais yn ein herbyn.

Ein bod wedi dioddef ymosodiadau ar y strydoedd cyhoeddus a chael cerrig wedi'u taflu drwy ein ffenestri ac at ein tai, a hynny liw dydd ac yn ystod y nos.

Bod torfeydd mawr wedi ymgynnull ym mhentref Bethesda, ar nifer o nosweithiau Sadwrn yn ddiweddar, i'r pwrpas o gadw golwg arnom ac aflonyddu arnom, ynghyd ag ar ein gwragedd a'n plant, wrth i ni fynd a dod i'r pentref, taith sydd rhaid i ni ei gwneud er mwyn prynu angenrheidiau bywyd.

Bod trais gwirioneddol wedi'i ddefnyddio ar yr achlysuron hynny, a bod y tai neu'r siopau lle roeddem yn digwydd bod, wedi'u hamgylchynu a'u gwylio gan y torfeydd hynny am oriau wedyn.

Bod y torfeydd hyn yn arbennig o fygythiol ac afreolus a'u bod y tu hwnt i reolaeth yr heddlu sydd yma ar hyn o bryd.

Bod yr heddlu wedi'u rhwystro rhag cyflawni eu dyletswydd, a'u bod yn analluog i rwystro'r torfeydd rhag aflonyddu arnom ac ymosod arnom.

[Anfonwyd y llythyr hwn, ynghyd â deiseb, at yr Ysgrifennydd Cartref gan weithwyr Chwarel y Penrhyn nad oedd ar streic i gwyno am ymddygiad y streicwyr (Gorffennaf 1901)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 69

FFYNHONNELL B8

[Taflen a gafodd ei dosbarthu gan y streicwyr yn ystod y streic.

Ei bwriad oedd gwneud hwyl am ben y dynion a aeth yn ôl i'r gwaith ac felly dorri'r streic.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 70

FFYNONELLAU SY'N HERIO'R DEHONGLIAD

FFYNHONNELL B9

[Bathodyn swyddogol Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru a sefydlwyd yn 1874. Ceisiodd perchenogion a rheolwyr y chwareli ddinistrio'r

Undeb o'i dechreuad.]

FFYNHONNELL B10

Roedd yr Arglwydd Penrhyn mor ystyfnig â mul. Dywedodd ei fod yn disgwyl i'w weithwyr i gyd fod yn ufudd a theyrngar iddo ef. Gwrthododd ildio modfedd.

Ceisiodd swyddogion y chwareli, gyda chefnogaeth y gweinidogion lleol, gael y gweithwyr i ddychwelyd i'w gwaith.... Ar 11 Mehefin 1901, marchogodd yr

Arglwydd Penrhyn i'r chwarel a rhoi sofren aur i bob gweithiwr. 'Punt y

Gynffon' oedd enw'r streicwyr ar hon.

[Geraint H. Jenkins, hanesydd, yn ysgrifennu mewn llyfr cyffredinol ar hanes Cymru, Cymru Ddoe a Heddiw (1990)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 71

FFYNHONNELL B11

Roedd llawer o resymau pam y credai'r chwarelwyr ei bod o fantais ceisio trefnu rhyw fath o gymdeithas gogyfer â thrafod cyflogau ac amodau gwaith.

Ond nid oedd y meistri, yn enwedig rhai tebyg i'r Arglwydd Penrhyn, eisiau gweld y gweithwyr yn uno.... Roedd ffactorau eraill yn eu gwahanu hefyd.

Cymry i'r carn oedd y chwarelwyr medrus, yn ymddiddori'n fawr yn iaith a diwylliant eu gwlad. Ond roedd y perchenogion, fel teulu'r Penrhyn, yn debycach i'r uchelwyr Seisnig o ran iaith, addysg a ffordd o fyw. Rhyddfrydwyr oedd y chwarelwyr; Ceidwadwyr oedd y meistri. I'r capel yr ai'r chwarelwyr. I

Eglwys Loegr yr ai perchenogion y chwareli. Y gwahaniaethau hyn oedd craidd yr holl frwydrau gwleidyddol yng Nghymru, yn enwedig yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond wrth wraidd y cyfan, yr oedd un ffaith ddiymwad. Yr Arglwydd Penrhyn oedd un o'r dynion cyfoethocaf yng

Nghymru.

[Gareth Elwyn Jones, hanesydd, yn ysgrifennu mewn gwerslyfr hanes ar gyfer TGAU, Pobl, Protest a Gwleidyddiaeth: Mudiadau Poblogaidd yng

Nghymru'r Ugeinfed Ganrif (1987)]

FFYNHONNELL B12

[Castell y Penrhyn, cartref yr Arglwydd Penrhyn, a adeiladwyd rhwng

1820 a 1840, ar gost o £150,000 yn ôl un amcangyfrif (sef £49.5 miliwn yn arian heddiw).]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 72

FFYNHONNELL B13

Rhaid peidio â gostwng y faner yn awr. Rhaid ymladd i'r pen yn erbyn yr unben hwn. Nid oes un dim nad yw'n barod i wneud er mwyn cael ei ffordd ei hun. Rhoddodd sofren aur i bob dyn a ddychwelodd i'w waith yn ystod y streic. Pwy ond yr Arglwydd Penrhyn a wnâi'r fath beth? Mae ei ffrindiau'n dweud ei fod yn ymladdwr teg, ond mae'n amlwg y gall chwarae triciau digon budr.

[Geiriau W. J. Parry, arweinydd U.Ch.G.C., mewn adroddiad yn y papur newydd Cymraeg, Y Glorian (Mawrth 1903). Roedd yr Arglwydd

Penrhyn mor ddig pan ddarllenodd am hyn nes iddo ddod ag achos llys yn erbyn Parry, ac enillodd £500 o iawndal a £1,985 o gostau cyfreithiol.]

FFYNHONNELL B14

[Rhybudd a gyhoeddwyd gan E. A. Young, rheolwr chwarel y Penrhyn (6

Tachwedd 1900). Ar ôl iddyn nhw gael eu hatal am 14 diwrnod, gwrthododd Young ganiatáu i'r gweithwyr ddychwelyd i'r gwaith oherwydd eu bod yn aelodau o'r Undeb.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 73

FFYNHONNELL B15

[Ffotograff o aelodau Pwyllgor Streic y Penrhyn, oedd yn arwain y chwarelwyr yn eu hanghydfod (1901)]

FFYNHONNELL B16

Yn ôl y wybodaeth a dderbyniais oddi wrth yr heddlu, y gweithwyr sy'n dal i weithio eu hunain, oherwydd eu hymddygiad, sy'n gyfrifol am achosi helyntion. Hoffwn dynnu eich sylw at y ffaith bod pob un bron o'r helyntion mwyaf difrifol wedi'u hachosi oherwydd bod y gweithwyr hyn a'u teuluoedd i'w gweld allan ar strydoedd Bethesda ar yr un pryd â niferoedd mawr o streicwyr.

[Llythyr oddi wrth Brif Gwnstabl Sir Gaernarfon, A. A. Ruck, at yr

Arglwydd Penrhyn, yn gofyn iddo sicrhau bod y gweithwyr nad oedd ar streic a'u teuluoedd yn cadw draw o rai lleoedd (21 Rhagfyr 1901)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 74

Maes Testun 1

Datblygiadau Gwleidyddol, Cymdeithasol ac Economaidd yng

Nghymru a Lloegr yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg neu’r

Ugeinfed Ganrif

Tasg 5: Bywyd yn y 1960au

TASG ASESIAD DAN REOLAETH rhan (a)

Newidiodd bywydau pobl ifanc yn fawr yn y 1960au.

Dewiswch unrhyw BUM ffynhonnell o’ch pecyn.

Pa mor ddefnyddiol a dibynadwy yw’r ffynonellau hyn wrth ddangos sut newidiodd bywydau pobl ifanc yn y 1960au?

TASG ASESIAD DAN REOLAETH rhan (b)

Mae rhai pobl o’r farn bod y 1960au mewn gwirionedd yn gyfnod o ddilyniant o’r gorffennol.

I ba raddau mae eich ffynonellau’n cefnogi neu’n gwrthddweud y dehongliad hwn?

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 75

TASG ASESIAD DAN REOLAETH rhan (a)

Newidiodd bywydau pobl ifanc yn fawr yn y 1960au.

Dewiswch unrhyw BUM ffynhonnell o’ch pecyn.

Pa mor ddefnyddiol a dibynadwy yw’r ffynonellau hyn wrth ddangos sut y newidiodd bywydau pobl ifanc yn y 1960au?

Nodiadau i athrawon/ymgeiswyr ynglŷn ag ymdrin â'r dasg hon

Sut mae ymdrin â rhan (a)?

Isod rhoddir awgrym o strwythur i’w ddefnyddio wrth fynd i’r afael â rhan (a) a ddylai fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dilyn cwrs TGAU

Hanes. Mae'n cael ei gynnig fel canllaw ac ni ddylid ei drin fel ffr âm ysgrifennu na chwaith fel yr unig ffordd na'r ffordd orau o fynd ati i wneud yr ymarfer hwn.

Cyflwyniad byr

Mae angen i hyn ganolbwyntio'n glir ar y cwestiwn gosod.

Mae angen iddo osod y mater yn fyr yn ei gyd-destun hanesyddol.

Mae paragraff byr yn ddigonol yma.

 Gwerthuso'r dystiolaeth a ddewiswyd mewn perthynas â'r mater sydd yn y cwestiwn gosod.

Yma gall ymgeiswyr archwilio datblygiadau a materion, gan ddadansoddi a gwerthuso'r dystiolaeth a ddewiswyd. Dylai ymgeiswyr werthuso hyd at bum ffynhonnell a dim mwy, gan anelu at gysylltu'r dystiolaeth â'r mater dan sylw. Argymhellir defnyddio'r ffynonellau er mwyn ategu ac adlewyrchu'r adroddiad ar sut newidiodd bywydau pobl ifanc yn y 1960au. Dylid osgoi disgrifiad moel o'r ffynonellau.

Wrth drafod y dystiolaeth dylech ystyried pwyntiau fel:

Pa wybodaeth sydd yn y ffynhonnell am …?

A yw'r ffynhonnell yn ategu eich gwybodaeth am …?

Pwy oedd awdur neu wneuthurwr y ffynhonnell?

Pa bryd y cafodd y ffynhonnell ei hysgrifennu?

Pam y cafodd y ffynhonnell ei hysgrifennu?

A oes unrhyw amheuon am yr awdur / ydy hi/ef yn ddibynadwy?

Argymhellir y dylai hyd yr ateb ar gyfer rhan (a) fod tua 800 o eiriau.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 76

FFYNHONNELL A1

Anghofiwch am y Mods a’r Rockers . Anghofiwch am y lleiafrif lloerig o lyncwyr tabledi difoes, y beatniks anniben a’r rhai blewog diafael. Y gwir yw, am bob un o’r rheiny, mae deg o bobl ifanc normal a pharchus Prydain. Dydyn nhw ddim yn cymryd cyffuriau. Dydyn nhw ddim yn meddwi. Ond maen nhw’n byw bywyd cyffrous ofnadwy a hynny ar gyflymder sy’n drysu eu mamau a’u tadau yn llwyr. Beth bynnag maen nhw’n ei wneud, o ddawnsio nes daw’r wawr i fowlio deg, maen nhw’n ymdaflu iddo gydag egni a grym eithriadol.

[Arthur Helliwell, newyddiadurwr, yn ysgrifennu yn y papur newydd, The

Sunday People (Medi 1966)]

FFYNHONNELL A2

[Posteri ar gyfer cyngherddau pop yn y 1960au oedd yn boblogaidd gyda phobl ifanc]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 77

FFYNHONNELL A3

GALWCH NHW’N ‘SPENDAGERS’!

Mae tua pum miliwn a hanner o arddegwyr (teenagers) yn byw ym Mhrydain, yn gwario cyfanswm blynyddol o £1000 miliwn ac yn prynu dros 50 miliwn o recordiau bob blwyddyn. Mae cyfanswm y gwariant gan arddegwyr wedi cynyddu fwy na deuddeg gwaith dros yr wyth mlynedd diwethaf.

[Rhan o adroddiad yn y papur newydd, The Daily Mirror , a gafodd ei gyhoeddi ym mis Hydref 1963]

FFYNHONNELL A4

Dyma’r amser i ni dorri tir newydd a mynd i mewn i gyfnod cyffrous a rhyfeddol yn ein hanes, symudiad y mae’n rhaid i bawb ohonom gymryd rhan ynddo.

Mae’r gallu yn nwylo ein dynion a’n merched ifanc, yn enwedig, i newid y byd.

Rydyn ni eisiau i ieuenctid Prydain feddiannu ffiniau gwybodaeth newydd, a chael yn ôl i Brydain yr hunanhyder byrlymus ac anturus hwnnw ynghyd â hunan-barch di-ildio.

[Rhan o araith etholiad a draddodwyd gan arweinydd y Blaid Lafur,

Harold Wilson, yn Neuadd y Dref Birmingham ym mis Ionawr 1964.

Llafur enillodd yr Etholiad Cyffredinol rai misoedd yn ddiweddarach.]

FFYNHONNELL A5

Mae Carnaby Street yn llawn o ddynion ifanc tenau mewn trowsusau du tynn sy’n ffitio ar y glun fel trowsus sgïo, mae’r cariadon lliwgar sy’n mynd law yn llaw gyda nhw, yn syllu i ffenestri sy’n olau llachar i gyd ar y siacedi swêd lliw gwin gyda phocedi pletiog ar oledd – sy’n ffasiynol iawn gyda’r Mods ar hyn o bryd.

[John Crosby, newyddiadurwr, yn ysgrifennu erthygl yn y papur newydd,

The Weekend Telegraph (Ebrill 1965)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 78

FFYNHONNELL A6

[Clawr y rhifyn o’r cylchgrawn o America, Time , oedd i gyd yn sôn am

“ Swinging London ” (15 Ebrill 1966)]

FFYNHONNELL A7

Roedd 1967 yn flwyddyn allweddol i’r byd yn nhermau cerddoriaeth bop. Yn groes i hynny, pasiodd y llywodraeth Lafur y Ddeddf Troseddau Morwrol a wnaeth hawl gorsafoedd herwrol (pirate stations) fel Radio Caroline i ddarlledu yn anghyfreithlon. Ond cafodd y BBC ei berswadio i sefydlu gorsaf ar gyfer ieuenctid, - Radio 1 yn ddiweddarach. Ar yr un pryd ymddangosodd recordiau hir a dyma wnaeth lunio cyfeiriad cerddoriaeth boblogaidd. Roedd y rheiny’n cynnwys ‘ Are You Experienced?

’ gan Jimi Hendrix, ynghyd â ‘ Piper at the

Gates of Dawn ’ gan Pink Floyd a ‘ Sergeant Pepper’s Lonely Hearts Club

Band ’ gan y Beatles.

[Rhan o draethawd prifysgol am agweddau ar gerddoriaeth yn y 1960au, a ysgrifennwyd gan fyfyriwr yn 2007]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 79

FFYNHONNELL A8

Mam a Dad,

Rwy’n gwybod nad ydych chi’n cytuno â’r ffordd mae plant heddiw’n edrych ac yn ymddwyn ond rydyn ni’n teimlo gymaint yn fwy rhydd. Rwyf wedi setlo mewn sgwat mewn ardal anhygoel (groovy) o Lundain a does dim rheolau.

Rydych chi’n codi pan fyddwch chi isio, bwyta beth bynnag rydych chi isio, smocio beth bynnag rydych chi isio, ac os nad oes neb yn cael eu brifo, does dim problem i mi yn hynny. Dwedwch y gwir: roedd eich cenhedlaeth chi’n faterol, ond mae ’nghenhedlaeth i wedi gweld trwy hynna i gyd.

[Rhan o lythyr a anfonodd merch yn ei harddegau adref at ei rhieni

(1967)]

FFYNHONNELL A9

Canran o’r bobl 17-30 oed mewn Addysg Uwch ym Mhrydain

1960 5%

1962 6%

1964 7%

1966 10%

1968 11%

1970 14%

[Rhan o ystadegau swyddogol y llywodraeth]

FFYNHONNELL A10

Roedd merch 16 oed yn 1970 yn llawer mwy tebygol o aros ym myd addysg na merch debyg yn 1956. Roedd hi’n fwy tebygol o allu dilyn ei diddordebau deallusol a diwylliannol cyn hired ag y dymunai, i briodi pryd a phwy y mynnai, i gael plant pryd ac os y dymunai, ac, yn fwy na dim, i ddewis a fyddai’n aros gartref fel gwraig tŷ neu’n dilyn ei gyrfa ei hun.

[Dominic Sandbrook, hanesydd ac arbenigwr ar hanes y 1960au, yn ysgrifennu yn ei lyfr, White Heat: A History of Britain in the Swinging Sixties (2006)]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 80

TASG ASESIAD DAN REOLAETH rhan (b)

Mae rhai pobl o’r farn bod y 1960au mewn gwirionedd yn gyfnod o ddilyniant o’r gorffennol.

I ba raddau mae eich ffynonellau’n cefnogi neu’n gwrthddweud y dehongliad hwn?

Nodiadau i athrawon/ymgeiswyr ynghylch sut i wneud y dasg hon

Isod rhoddir awgrym o strwythur i'w ddefnyddio wrth fynd i'r afael â rhan

(b) a ddylai fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dilyn cwrs

TGAU Hanes.

Ma e’n cael ei gynnig fel canllaw ac ni ddylid ei drin fel ffrâm ysgrifennu na chwaith fel yr unig ffordd na'r ffordd orau o fynd ati i wneud yr ymarfer hwn.

Cyflwyniad

Mae angen i hyn ganolbwyntio’n glir ar y cwestiwn gosod a hefyd i ddangos ymwybyddiaeth o'r hyn yw dehongliad mewn gwirionedd.

Mae angen iddo gyfeirio’n glir at ddehongliadau gwahanol o'r mater / testun.

Mae angen gosod y mater yn fyr yn ei gyd-destun hanesyddol.

NID OES ANGEN gwerthuso unrhyw ffynonellau neu

dystiolaeth yn y rhan hon o’r aseiniad.

 Trafodaeth / eglurhad o’r dehongliad cyntaf

Dylai fod datganiad clir o’r dehongliad hwn.

Dylai fod ymgais glir i esbonio sut mae pobl sy’n cefnogi’r dehongliad hwn wedi ffurfio eu barn.

Dylai fod trafodaeth am y dystiolaeth y gellir ei defny ddio i gefnogi’r dehongliad hwn. Mae angen rhoi sylw i ’r cynnwys ac i’r priodoliad.

 Trafodaeth / eglurhad o’r ail ddehongliad

Dylai fod datganiad clir o’r dehongliad hwn.

Dylai fod ymgais glir i esbonio sut mae pobl sy’n cefnogi’r dehongliad hwn wedi ffurfio eu barn.

Dylai fod trafodaeth am y dystiolaeth y gellir ei defnyddio i gefnogi’r dehongliad hwn. Mae angen rhoi sylw i ’r cynnwys ac i’r priodoliad.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 81

Crynodeb

Dylai fod ateb terfynol i’r cwestiwn gosod.

Dylid dod i farn ynglŷn â pha set o dystiolaeth yr ystyrir ei bod y mwyaf dilys o ran rhoi sylw i'r dehongliad.

Argymhellir y dylai fod cyfanswm o tua 1200 o eiriau yn yr ateb i ran (b).

Awgrymir hefyd na ddylai ymgeiswyr ddefnyddio mwy na phedair ffynhonnell o bob rhan (8 i gyd) i egluro sut a pham y lluniwyd pob dehongliad.

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 82

FFYNONELLAU SY’N CEFNOGI’R DEHONGLIAD

FFYNHONNELL B1

Roedd llawer o’r datblygiadau pwysicaf ym mywyd Prydain yn y 60au, o ehangu’r maestrefi i’r newid yn rôl menywod, wedi’u codi ar sylfeini’r degawdau blaenorol. Roedd anghytuno ynglŷn ag atal cenhedlu, trafodaethau am gyfoeth yr arddegwyr a dadleuon am gerddoriaeth bop o America yn digwydd yn y 20au a’r 30au. Roedd hyd yn oed chwyldro bondigrybwyll (socalled) y 60au yn agweddau pobl tuag at ryw yn adlewyrchu tueddiadau oedd wedi bod ar waith ers amser maith.

[Dominic Sandbrook, hanesydd ac arbenigwr ar hanes y 1960au, yn ysgrifennu yn ei lyfr, Never Had It So Good: A History of Britain from Suez to the Beatles (2005)]

FFYNHONNELL B2

Mae siartiau pop y 1960au yn dangos peth newid cerddorol ond llawer o barhad hefyd. Er enghraifft, roedd y Top 20 ar gyfer wythnos olaf Mehefin

1962 yn cynnwys caneuon gan 3 grŵp a 17 o artistiaid unigol (yn cynnwys dwy gân yr un gan Elvis Presley a Cliff Richard). Roedd 16 o’r caneuon yn rhai yr oedd yn bosibl eu galw’n “faledi ( ballads )”. Roedd y siart ychydig dros dair blynedd yn ddiweddarach yn cynnwys caneuon gan 7 grŵp a 13 o artistiaid unigol (yn cynnwys Elvis Presley, Cliff Richard, a dwy gan y digrifwr

Ken Dodd). Roedd 15 o’r caneuon yn faledi. Ar ddechrau Gorffennaf 1968, roedd y Top 20 yn cynnwys 8 grŵp a 12 o unawdwyr (yn cynnwys Elvis

Presley, y digrifwr Des O’Connor, ond yn anghyffredin bron yn y 60au, heb gynnwys dim gan Cliff Richard!)

[Dadansoddiad ar y rhyngrwyd o gerddoriaeth bop y 1960au, ar sail y siartiau pop a gafodd eu paratoi gan y cylchgrawn NME ( New Musical

Express )]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 83

FFYNHONNELL B3

Does fawr ddim i’w weld yn digwydd yma. Roedd yr unig ddadleuon brwd a gafodd eu clywed hyd yn hyn o dref Llwydlo ( Ludlow ) yn y 60au yn ymwneud ag awgrym y dylai’r palmant coblog (cobblestones) gael ei orchuddio â tharmac. Mae pobl yn teimlo nad oes dim yn newid yma byth. Mae yma bobl sy’n byw nid yn unig yn y gorffennol i bob pwrpas ond sy’ hefyd yn ymfalchïo yn hynny.

[Geoffrey Moorhouse, newyddiadurwr a hanesydd, yn ysgrifennu yn ei lyfr, Britain in the Sixties: The Other England (1964)]

FFYNHONNELL B4

[Hysbyseb ar gyfer peiriant cymysgu bwyd, a gafodd ei gyhoeddi mewn cylchgrawn i fenywod yn America yn y 1960au]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 84

FFYNHONNELL B5

Yno maen nhw’n eistedd neu’n gorweddian, ymysg y sbwriel sydd wedi’i adael ar ôl cael picnic aeth ymlaen am benwythnos, yn gwrando’n ddi-baid ar gerddoriaeth bop wedi’i throi yn uchel. Ond a yw plant y blodau yn ddim ond taclau diog sy’n cymryd cyffuriau? Mae’n rhaid i mi gyfaddef na ddeuthum i ar draws unrhyw un nad oedd mewn swydd neu yn y brifysgol. Roedd rhai ohonyn nhw’n cyfaddef eu bod wedi ysmygu mariwana neu gymryd LSD ond ychydig iawn a ddywedodd eu bod yn eu defnyddio bellach. Doedd fawr neb ohonyn nhw’n yfed alcohol nac yn ysmygu sigaréts. Mae llawer ohonyn nhw’n garedig, yn gydwybodol a deallus, fel eu rhieni.

[Rhan o erthygl, a ysgrifennwyd gan newyddiadurwr wedi iddo gyfarfod â rhai hipis mewn cyngerdd pop, a gafodd ei chyhoeddi yn y papur newydd, The Daily Telegraph (Medi 1966)]

FFYNHONNELL B6

Ynghyd â’r Kinks, mae’r Beatles i’w gweld hapusaf wrth iddyn nhw ddathlu’r gorffennol. Roedd hyd yn oed Sergeant Pepper ei hun, yn ôl y sôn, yn dechrau chwarae “ twenty years ago today ”. Mae llawer o’r hyn sydd yn

Sergeant Pepper’s Lonely Hearts Club Band yn dwyn i gof atgofion pell am syrcasau, neuaddau cerdd a strydoedd o dai teras.

[George Melly, cerddor jazz enwog, arlunydd a sylwebydd cymdeithasol, yn ysgrifennu yn ei lyfr, Revolt into Style (1969)]

FFYNHONNELL B7

Oni ddylen ni siarad am y Chwedegau Gofalus ( Cautious Sixties ) yn hytrach na’r Chwedegau Afieithus ( Swinging Sixties )? Mae rhywun yn cael argraff gref iawn os oedd y 1960au yn golygu unrhyw beth o gwbl i bobl, y rheswm am hynny oedd oherwydd iddyn nhw gael cyfle gwell i fyw bywyd heb fod yn rhy dlawd a heb fod yn rhy ansicr. Er gwaetha’r ffordd y cafodd y 1960au eu portreadu, ni chafodd y wlad hon ei newid yn sylfaenol. Dyw pobl ddim mor awyddus â hynny i gael eu cyffroi.

[Rhan o erthygl yn y cylchgrawn New Society ym mis Tachwedd 1969.

Mae’n sôn am arolwg manwl o fwy na 1,000 o oedolion. Cafodd yr arolwg ei gynnal i brofi agweddau pobl tuag at newidiadau’r 1960au.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 85

FFYNHONNELL B8

[Cloriau recordiau hir ar gyfer y ffilmiau cerdd South Pacific a The Sound of Music. Yn ystod y 60au, roedd South Pacific ar ben siartiau’r recordiau hir am 43 wythnos, tra roedd The Sound of Music ar ben y siartiau am 69 wythnos.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 86

FFYNONELLAU SY’N GWRTHDDWEUD Y DEHONGLIAD

FFYNHONNELL B9

Nid oedd y genhedlaeth a gafodd ei magu ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn deall rhinweddau hunanymwadiad ( self-denial ) a hunanreolaeth oedd wedi llunio hen agweddau ’r cenedlaethau blaenorol. Beth ddaeth i’r amlwg yn y 1960au oedd agwedd newydd tuag at ganlyn pleserau er mwyn eu hunain.

[Brian Masters, hanesydd ac arbenigwr ar hanes cymdeithasol, yn ysgrifennu yn ei lyfr, The Swinging Sixties (1985)]

FFYNHONNELL B10

Mae pobl ifanc heddiw yn dalach ac yn drymach na ieuenctid y cenedlaethau blaenorol ac maen nhw’n aeddfedu yn gynharach. Mae mwyafrif sylweddol ohonyn nhw’n cyrraedd glasoed ( puberty ) ymhell cyn 15 oed. Mae goblygiadau hynny’n effeithio ar ymddygiad, yn cynnwys ymddygiad rhywiol.

[Rhan o adroddiad swyddogol gan yr Adran Addysg dan y teitl,

The Youth Service in England and Wales (1960)]

FFYNHONNELL B11

Roeddwn i wedi cael tocynnau i’r Hammersmith Odeon. Roedden nhw’n rhyfeddod hollol ar y llwyfan. Roedd gennym ni faner â’r gair ‘JOHN’ arni a chalon enfawr hefyd – roedd y theatr gyfan yn llawn baneri. Roedd pawb ar eu traed a dechreuodd y sgrechian, roeddwn i’n sgrechian nerth esgyrn fy mhen.

Doedd dim modd eu clywed.

[Rhan o gyfweliad â menyw oedd yn cofio mynd i gyngerdd gan y

Beatles yn 1963 pan oedd hi’n 14 oed. Digwyddodd y cyfweliad yn 1992]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 87

Ffynhonnell B12

[Ffotograff a dynnwyd yn Rasys Ceffylau Ascot ar gyfer cylchgrawn ffasiwn (1965)]

Ffynhonnell B13

Come mothers and fathers throughout the land

Don’t criticise what you can’t understand

Your sons and your daughters are beyond your command

Your old road is rapidly ageing

Please get out of the new one if you can’t lend a hand

For the times they are a-changing.

[Rhan o eiriau’r gân The Times They are a-Changing , a ysgrifennwyd gan Bob Dylan yn 1964. Daeth y gân yn anthem i lawer o bobl ifanc ledled y byd oedd eisiau diwygio cymdeithasol a gwleidyddol.]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 88

FFYNHONNELL B14

Clawr record hir y Beatles Sergeant Pepper’s Lonely Hearts Club Band

(1967).

Roedd y record yn defnyddio dulliau cynhyrchu, effeithiau sain a thestunau canu oedd i gyd yn chwyldroadol ar y pryd. Ers y 60au dyma un o’r recordiau hir a werthodd orau erioed.

[Rhan o erthygl yn Wikipedia (2012)]

FFYNHONNELL B15

Mae tystiolaeth gynyddol bod sefydlogrwydd y ffordd draddodiadol o fyw ym

Mhrydain dan fygythiad. Mae clefyd gwenerol ( venereal disease ) ar gynnydd.

Mae terfyniad beichiogrwydd ar gynnydd. Mae caethiwed i gyffuriau yn cynyddu.

Mae ysmygu’n cynyddu. Mae gamblo ar gynnydd. Mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’n rhaid i ni wrthsefyll y llanw hwn o anfoesoldeb a chwant anniwall (insatiable appetite) am bopeth sy’n ddiwerth.

[Dr S. E. Ellison, meddyg teulu yn Llundain, yn ysgrifennu mewn llythyr at The Times ym mis Hydref 1969. Aeth Ellison yn ei flaen i fod yn un o sefydlwyr Y Gymdeithas Gyfrifol ( The Responsible Society ), grŵp oedd yn ymgyrchu i wrthsefyll llawer o newidiada u’r 60au]

Enghreifftiau Patrymol Ychwanegol Asesiad dan Reolaeth TGAU Hanes – Maes Testun 1 89

FFYNHONNELL B16

Yn ystod llywodraeth Lafur Harold Wilson rhwng 1964 a 1970, digwyddodd llawer o newidiadau arwyddocaol. Roedd diweithdra a chwyddiant yn dal yn isel, tra roedd twf economaidd yn parhau. Roedd safonau byw yn gwella ar y cyfan, a’r gwariant blynyddol ar iechyd, addysg, ymchwil, cludiant, nawdd cymdeithasol a thai i gyd yn cynyddu ar gyfartaledd o fwy na 6 y cant. O’u cymharu â’r 1970au a’r 1980au, mae’r ffigurau hyn yn eithaf trawiadol. Mae cyfiawnhad dros gredu mai blynyddoedd canol y 60au oedd oes aur y

Wladwriaeth Les. Pan adawodd Wilson ei swydd yn 1970, nid oedd cyfunrhywiaeth yn drosedd bellach, peth rhwydd oedd chwalu priodasau anhapus yn rhwydd, roedd dulliau atal cenhedlu effeithiol ar gael yn eang, gallai menywod derfynu beichiogrwydd nad oeddynt yn ei ddymuno yn gyfreithlon, roedd gwahaniaethu ar sail hil yn anghyfreithlon ac ni allai’r wladwriaeth bellach ddienyddio troseddwyr.

[Dominic Sandbrook, hanesydd ac arbenigwr ar hanes y 1960au, yn ysgrifennu yn ei lyfr, White Heat: A History of Britain in the Swinging Sixties (2006)]

GCSE History Teachers Guide - Additional Exemplars for Controlled Assessment Topic Area 1 (Welsh) /MLJ

16 November 2012

Download