Welsh Talking Books August 2012 The titles in this booklist are just a selection of the titles available for loan from the RNIB National Library Talking Book Service. Don’t forget you are allowed to have up to 6 books on loan. When you return a title, you will then receive another one. If you would like to read any of these titles then please contact the Customer Services Team on 0303 123 9999 or email cservices@rnib.org.uk If you would like further information, or help in selecting titles to read, then please contact the Reader Services Team on 01733 37 53 33 or email libraryinfo@rnib.org.uk You can write to us at RNIB NLS, PO Box 173, Peterborough PE2 6WS Logo – RNIB supporting blind and partially sighted people Registered charity number 226227 rnib.org.uk Bible. Welsh. N.T. New Welsh (Beibl Cymraeg Newydd). Y bedair efengyl. Read by Cledwyn Jones, Read by Dyfnallt Morgan, 11 hours. TB 3430. The four Gospels. Bible Welsh.. Y Bibl y testament newydd : Mathew hyd at y rhufiniaid. From Y Beibl cysegr-lan : sef yr hen destament a'r newydd. 1992. Read by Gerallt Jones, 15 hours 27 minutes. TB 15136. Bible Welsh.. Y Bibl y testament newydd : I Corinthiad hyd datguddiad. From Y Beibl cysegr-lan : sef yr hen destament a'r newydd. 1992. Read by Gerallt Jones, 8 hours 44 minutes. TB 15137. 'Gwlad! Gwlad!': pytiau difyr am Gymru / golygydd y gyfres: Tegwyn Jones. 1999. 1 hour 17 minutes, Read by Merfyn P Jones TB11785. Cais sydd yma i gorlannu nifer o argraffiadau am Gymru, y Cymry a'r iaith Gymraeg a roddwyd ar gof a chadw gan amrywiol gofnodwyr o gyfnod I gyfnod yn ein hanes. Y mae yma farn a rhagfarn am y pethau hyn, a chariad a chasineb atynt, ond nid oes yma'r un dyfyniad nad yw'n ddiddorol, yn ddadlennol, ac yn werth cnoi cil arno. Hiwmor llafar gwlad. 2008. Read by Arwel Jones, 6 hours 7 minutes. TB 15872. Y goreuon o blith straeon y cylchgrawn Llafar Gwlad, sy'n cynnwys erthyglau a hanesion am fywyd ac arferion 'slawer dydd, am lên gwerin ac am atgofion o fywyd yng nghefn gwlad Cymru. Rhennir y detholiadau i chew phennod: O Enau Plant Bychain, Arwyddion Ciami, Hiwmor Iwerddon, Geirio'n Gam, Stori Wir, Dawn Dweud ac Ateb Parod, a Diawl y Wasg. Hoff gerddi serch Cymru / golygwyd gan Bethan Mair. 2002. Read by Betsan Llwyd. 2 hours 4 minutes.TB19014. Ar hyd y canrifoedd ceisiodd beirdd ddarganfod ffyrdd gwreiddiol a gwefreiddiol o ddatgan eu serch at eu cariadon, ac o fynegi eu tor- rnib.org.uk calon pan âi'r serch hwnnw'n sych. Yn y gyfrol unigryw hon o gerddi serch gorau a mwyaf poblogaidd Cymru, dyma gyfle i chi gwtsho a chusanu, dyheu a dwlu, difaru a galaru gyda rhai o feirdd enwocaf Cymru. A yw eich hoff gerdd serch chi yma? Dewch i mewn am wledd o ganu cariadus a hiraethus i chwilio am yr un berffaith. "Mae brân i bob brân yn rhywle", medden nhw ac mae un o'r cerddi serch hyn yn sicr o fod yn addas i chi heddiw. Hoff gerddi digri Cymru / Bethan Mair. 2006. Read by Betsan Llwyd. 2 hours 37 minutes,TB 19013. 100 humorous poems by poets from all corners of Wales. The themes are varied; funny characters, playing on words, and rhymes, old favourites and new compositions, Dafydd ap Gwilym and Geraint Lovegreen are among the poets. [100 o gerddi digri gan feirdd ledled Cymru. Ceir amrywiaeth enfawr yn y gyfrol; cerddi am gymeriadau doniol, chwarae ar eiriau ac odli slic, hen ffefrynnau a chyfansoddiadau newydd. Mae Dafydd ap Gwliym a Geraint Lovegreen ymhlith y beirdd!] Maentwrog ddoe a heddiw. 2006. Read by Geraint Lloyd Jones, 5 hours 57 minutes. TB 15146. Bu criw o ardalwyr brwd yn cyfarfod i drafod dulliau o ddathlu dyfodiad y Mileniwm newydd, ac ymhlith y syniadau a gafwyd oedd yr un i gyhoeddi llyfr a fyddai'n gofnod o hanes yr ardal. Cysylltwyd a nifer o gyfeillion a fu a chysylltiad a'r fro dros y blynyddoedd, ac mae'r rhan fwyaf o'r cyfraniadau ar ffurf atgofion, gyda rhai hanesyddol pur. Tair ar ddeg: tair ar ddeg o straeon gafalgar [sic] : tair ar ddeg o sefyllfaoedd credadwy. 2010. Read by Branwen Gwyn, 5 hours 23 minutes. TB 18201. Mae'r gyfrol hon yn archwilio natur y cynfod sensitif hwn ym mywyd person ifanc, trwy gyfrwng straeon craff a dididorol. Ceir yma straeon gwreiddiol gan yr awduron Eoin Colfer, Bali Rai, Marcus Sedgewick, Kevin Brooks, Margaret Mahy, Mary Hooper, Helen Oyayemi, Eleanor Updale, Jean Ure a John McLay. Addasiad Cymraeg o'r gyfrol Thirteen gyhoeddwyd gan Orchard Books. rnib.org.uk Thirteen. Welsh. Tair ar ddeg : tair ar ddeg o straeon gafalgar [sic] : tair ar ddeg o sefyllfaoedd credadwy / golygwyd gan John McLay. 2010. Read by Branwen Gwyn. 5 hours 23 minutes, TB 18201, Suggested reading age 13+ Mae'r gyfrol hon yn archwilio natur y cynfod sensitif hwn ym mywyd person ifanc, trwy gyfrwng straeon craff a dididorol. Ceir yma straeon gwreiddiol gan yr awduron Eoin Colfer, Bali Rai, Marcus Sedgewick, Kevin Brooks, Margaret Mahy, Mary Hooper, Helen Oyayemi, Eleanor Updale, Jean Ure a John McLay. Addasiad Cymraeg o'r gyfrol Thirteen gyhoeddwyd gan Orchard Books. Tinboeth: [10 o straeon erotig] . 2007. Read by Marian Jones, 3 hours 53 minutes. TB 15989. Cyfrol o straeon erotig gan naw awdures amlwg iawn: Caryl Lewis, Eigra Lewis Roberts, Meg Elis, Gwen Lasarus, Bethan Gwanas, Lleucu Roberts, Gwyneth Glyn, Sian Northey a Fflur Dafydd. Mae yma straeon amrywiol o ran naws - rhai yn dyner a chynnil, eraill yn fwy uniongyrchol. Some passages of a sexual nature may be considered offensive. Yr angen am Owain: darlithoedd Fforwm Hanes Cymru. 2005. Read by J O Roberts, 3 hours. TB 14751. Dymunwn gyflwyno'r gyfrol gyntaf hon o ddarlithoedd blynyddol Fforwm Hanes Cymru er cof am y diweddar Athro Emeritws Syr Robert Rees Davies. Arch, Charles. Byw dan y bwa. 2005. Read by Jenkin Griffiths, 5 hours 47 minutes. TB 15138. Dyma ddarlun difyr a byrlymus o chwarter canrif cyntaf bywyd Charles Arch tra bu'n 'byw dan y bwa' ar fferm ei deulu yng nghysgod abaty hynafol Ystrad Fflur. Aeth ymlaen i gyfrannu'n sylweddol at fywyd amaethyddol Cymru, gan gynnwys ei weithgarwch gyda Mudiad y Ffermwyr Ifanc a gyda threialon cwn defaid ar raddfa ryngwladol. Ef hefyd, ers chwarter canrif ym prif sylwebydd y Sioe Frenhinol. rnib.org.uk Arch, Charles O'r tir i'r twr. 2007. Read by Jenkin Griffiths, 5 hours 57 minutes. TB 15360. Sequel to: Byw dan y Bwa. Cawn yma ail hanner hunangofiant Charles Arch, dilyniant i'w gyfrol gyntaf boblogaidd, Byw dan y bwa. Y tro hwn, dilynwn ei hynt a'i helynt o'r cyfnod y gwnaeth y penderfyniad digon anodd i adael ffermio ym mro uniath Gymraeg Ystrad Fflur, i gydio yn swydd Trefnydd Ffermwyr ifanc Maldwyn a setlo yn y Drenewydd. Baines, Menna Yn ngolau'r lleuad: ffaith a dychymyg yng ngwaith Caradog Prichard. 2005. Read by Menna Baines, 15 hours 45 minutes. TB 14909. Astudiaeth drylwyr o fywyd yr awdur, Caradog Prichard, a thrafodaeth gynhwysfawr o'r themau sy'n cyniwair drwy'i farddoniaeth a'i ryddiaith; rhoir pennod gyfan i'w nofel hunangofiannol ddwys, Un Nos Ola Leuad. Chilton, Irma Mochyn Gwydr. 1989. Read by Jean Evans. 3 hours 18 minutes, TB 10081, Petai Sandra heb lithro wrth ddod allan o siop Smith's a Dewi Rowlands heb fod yno i'w dal, petai Sandra heb fod y math o ferch oedd hi a Dewi heb fod y math o hogyn oedd o, fyddai yna ddim stori, dim perthynas yn datblygu rhyngddyn nhw dim mochyn gwydr, a dim diwedd anorfod ac anochel. Cockman, Irwen Tyn yw'r tannau. 1998. Read by Helen Graville, 4 hours. TB 13361. Yr oedd yn amlwg o oedran cynnar bod gan Dewi Llewelyn ddawn arbennig I chwarae'r sielo ac nid oedd amheuaeth na fyddai'n datblygu i fod yn un o enwogion y byd yn ei faes. Yn wir, canolbwyntio'n ormodol ar ei gerddoriaeth oedd y perygl iddo yn y Coleg Cerdd. Roedd angen iddo ehangu ei orwelion, lledaenu ei adenydd...Roedd Annest hithau'n disgleirio fel pianydd blaenllaw...Oni fyddai'n uniad delfrydol wrth iddynt deithio I Efrog Newydd, i Jerwsalem, i'r Almaen? Ond a fyddai Ifor Gladwyn yr rnib.org.uk asiant yn rhy farus wrth drefnu'r hol recordio a'r holl gygherddau? A allai perthynas Dewi ac Annest daro deuddeg... Dafydd, ap Myrddin Hiwmor llafar gwlad. 2008. Read by Arwel Jones, 6 hours 7 minutes. TB 15872. Y goreuon o blith straeon y cylchgrawn Llafar Gwlad, sy'n cynnwys erthyglau a hanesion am fywyd ac arferion 'slawer dydd, am lên gwerin ac am atgofion o fywyd yng nghefn gwlad Cymru. Rhennir y detholiadau i chew phennod: O Enau Plant Bychain, Arwyddion Ciami, Hiwmor Iwerddon, Geirio'n Gam, Stori Wir, Dawn Dweud ac Ateb Parod, a Diawl y Wasg. Davies, E Tegla Gwr Pen-Y-Bryn (Argraffiad Newydd). Read by J, 8 hours 15 minutes. TB 350. Dyma un o nofelau mawr yr iaith Gymraeg. Lleolwyd ym Mhowys amaethyddol tua can mlynedd yn ôl yn nghanol cyffro'r Rhyfel Degwm. Davies, E Tegla Gyda'r blynyddoedd. 1952. Read by J Aelwyn Roberts, 9 hours 30 minutes. TB 351. Hunangofiant un o awduron a phregethwyr enwocaf ein hoes. Ynddi ceir hanes ei fywyd llawn o fro ei febyd hyd at y presennol. Davies, E Tegla Y ffordd: pregethau. 1960. Read by Dyfnallt Morgan, 8 hours. TB 780. Cyfrol o Bregethau un o bregethwyr enwocaf ein hoes. Davies, Elgan Philip Rhwng y cŵn a'r brain.1991. Read by William Paganuzzi. 7 hours 2 minutes. TB 9836. Marwolaeth erchyll ond marwolaeth naturiol. Dyna a gredai pawb a welodd y corff, gan gynnwys y Ditectif Ringyll Gareth Lloyd a oedd yn dechrau blwyddyn newydd mewn rhanbarth newydd. rnib.org.uk Davies, Garnon Hiwmor Garnon. 2010. Read by Enid Hughes. 1 hour 10 minutes. TB 19010. Llyfr o jôcs ac atgofion un o gymeriadau mwyaf Ceredigion! Mae'rgyfrol yn llawn straeon digri, lluniau a cherddi i roi cipolwg ar hiwmor Garnon Davies. Gyda rhagair gan Emyr Llywelyn. Davies, Gwyn Golau gwlad: Cristnogaeth yng Nghymru 200-2000. 2002. Read by Gerallt Jones, 4 hours 20 minutes. TB 15398. Dyma gyfrol ddifyr i unrhyw un sydd am wybod rhagor am hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Ceir yma arolwg eang o rai o'r agweddau mwyaf diddoral ar yr hanes hwnnw, a darlun o sut y mae dynion a merched Cymru wedi dathlu eu ffydd yn ei holl gyfoeth a'i symlrwydd ar hyd y canrifoedd. Mewn cynifer o ffyrdd, 'golau gwlad' yn wir fu Cristnogaeth yng Nghymru - ac mae'r golau hwnwn'n dal i lewyrchu. Davies, John Cymru: y 100 lle i'w gweld cyn marw. 2009. Read by Arwel Jones, 15 hours 35 minutes. TB 17650. Cyfrol gynhwysfawr sy'n sôn am 100 o lefydd yng Nghymru y mae'n rhaid i chi ymweld â nhw, yn ôl John Davies. Gyda lluniau lliw gan Marian Delyth, dyma lyfr sy'n rhoi cipolwg ar safleoedd hanesyddol fel Pentre Ifan a chastell Maenorbŷr; campau peirianyddol fel pontydd Menai a Phont Cysyllte, a chanolfannau twristaidd fel Canolfan y Dechnoleg Amgen a Phortmeirion. Adargraffiad. Davies, Lowri. Straffaglio: cyfrol arobryn cystadleuaeth y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Llyn ac Eifionydd 1998. 1998. Read by Meira Williams, 53 minutes. TB 16140. Cyfrol fuddugol y Fedal Lenyddiaeth, Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Llŷn ac Eifionydd 1998, sef casgliad o bum stori fer gan lenor ifanc addawol. rnib.org.uk Eames, Marion Y gaeaf sydd unig. 1982. Read by Jean Evans. 11 hours 12 minutes. TB 8905. Dyma bedwaredd nofel hanesyddol Marion Eames a'r tro hwn y drydydd ganrif ar ddeg yw ei maes, cyfnod Llyw Olaf. Er bod cymdeithas wedi newid yn ddybryd ers yr amser hynny, mae'r nofel yn dangos nad oes terfynau amser ar ymateb y natur ddynol i broblemau oesol cariad, cenfigen, dyletswydd a marwoleath. Eames, Marion Y stafell ddirgel. 1969. Read by Beryl Stafford Williams. 8 hours. TB 3949. Stori yn portreadu ymdrechion Crynwyr ardal Dolgellau i addoli yn ôl eu dymuniad, a'u penderfyniad i hwylio i'r Amerig a bywyd newydd. Ebenezer, Lyn. Merch fach ddrwg: a storïau arswyd eraill. 1998. Read by Helen Graville, 6 hours 42 minutes. TB 12114. Nid oes yma na fampir nac ysbryd ond mae yma bryfed glas a chathod... Os ydych chi fel yr awdur yn arswydo rhag y "cyffredin yn troi'n anghyffredin" bydd y straeon hyn yn eich cadw ar bigau'r drain o'r dechrau i'r diwedd. Ebenezer, Lyn Operation Julie. 2008. Read by Enid Hughes. 2 hours 22 minutes. TB19583, Ebenezer, Lyn Noson yr heliwr. 1994. Read by Helen Granville. 5 hours 37 minutes. TB 10335. "Disgynnodd y llaw a ddaliai'r garreg ar ochr ei phen, a theimlodd hithau ei hun yn disgyn. Ceisiodd sgrechian, ond dim ond crawc sych a ddeuai rhwyng ei gwefusau." Fe fydd naws iasoer y nofel wreiddiol hon yn gafael ynoch o'r dudalen gyntaf. Ceisiwch fwynhau yr arswyd os gallwch chi. rnib.org.uk Edwards, Jane Pant yn y gwely. 1993. Read by Bethan Gwilym, 4 hours 20 minutes. TB 9993. Am ddwy flynedd ar bymtheg gynta'i hoes roedd Gwenan wedi cael bywyd cysurys braf. Yna yn sydyn dechreuodd pathau fynd o'u lle, er nad oedd dim bai arni. Roedd hi'n ddigon drwg pan wahoddodd ei mam Mos i briodas Llinos ei chwaer. O doedd hynny ddim o'i gymharu a chyfrinach ei thad, cyfrinach ofnadwy iawn y byddai'n rhaid i Gwenan ei chario efo hi i'r bedd os nad ai i'w gwraidd. Edwards, Rowan. Calon y gwir. 1997. Read by Haf Roberts, 3 hours 10 minutes. TB 13353. Seren Serch 5. Y peth olaf ar feddwl y fyfyrwraig Swyn Morgan with iddi gasglu samplau botanegol at glogwyn yw bod yn dyst i ddamwam anghenol ond dyna sy'n digwydd ac fe'i gorfodir i roi tystiolaeth mewn llys, gan gyfaddef nad yw'n siwi pa un ai damwain ynteu hunanladdiad a welodd mewn gwirionedd. Cythrudda hyn Caron Lewis gwr y wraig a fu farw ac mae'n benderfynol o ddial ar Swyn. Ond with i'w gynlluniau ddwyn ffrwth mae perthynas yn dablygu rhwng y ddau. Edwards, Sonia Jelygaid! 2011. Read by Betsan Llwyd.1 hour 27 minutes, TB 19476. Suggested reading age 9+ Mae yna bethau rhyfedd iawn yn digwydd draw yn nhŷ Nain. Mae Mam a Dad yn meddwl ei bod hi'n wirion ac yn dechrau mynd o'i cho' wrth iddi sôn am bobol llgada jeli'n dod allan o'r teledu! Ond tybed ai wedi cymryd gormod o dabledi y mae Nain, neu a oes yna wirionedd yn y stori am y Jelygaid? Edwards, Sonia Rhwng noson wen a phlygain. 1999. Read by Bethan Gwilym. 2 hours 9 minutes. TB 11878, Y dilyniant hwn o wyth stori fer yw'r chweched gyfrol o waith Sonia Edwards oddi ar 1993. Y flwyddyn honnon cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o storiau byrion, Glas Ydi'r Nefoedd, ac yna Gloynnod a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 1996. Cyhoeddodd hefyd ddwy nofel, Cysgu ar Eithin (1994), a Llen Dros yr Haul rnib.org.uk (1997) yn ogystal a chasgliad o gerrid, Y Llais yn y Llun (1998). Yn wreiddiol o Gemais, Mon, mae'r awdur bellach yn byw yn Llangefni gyda'i gwr Gwyndaf aie mab Rhys ac yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Gyfun Y dref. Edwards, Sonia Elain. 2003. Read by Jean Evans, 2 hours 51 minutes. TB 13597. Rhaid i Elain, cyflwynwraig deledu lwyddiannus sydd wedi hen ymgartrefu yug Nghaerdydd, fynd yn ôl i'w phentre genedigol ym Môn i baratoi stori am hen gapten y bad achub lleol. Ond wrth iddi gael ei gorfodi i dwrio yn yr hyn a fu, daw llawer iawn mwy i'r wyneb nag a ddisgwyliai. Mae hi'n gadael y gorffennol yn y gorffennol weithiau... on'd ydy hi? Edwards, Sonia. Deryn glãan i ganu. 2008. Read by Branwyn Gwyn. 3 hours 39 minutes, TB 19466. Suggested reading age 13+ Edwards, Trebor Un dydd ar y tro: hunangofiant. 2008. Read by J. O. Roberts, 7 hours 24 minutes. TB 17648. Hunangofiant hirddisgwyliedig y canwr a'r ffermwr adnabyddus o Fetws Gwerful Goch. Yn y gyfrol hon mae Trebor yn rhoi darlun i ni o ddau fywyd - ei deithiau a'i fordeithiau yn canu ym mhedwar ban byd, a'i frwydr barhaus i gynnal baich y fferm. Mae'n rhoi cipolwg ar y newid a fu yn y byd amaeth dros gyfnod o hanner canrif, yn ogystal â'i orchestion yn y byd adloniant. Elias, Twm Smyglwyr cymru. 2007. Read by Stuart Jones, TB 15359. Rydym yn hen gyfarwudd a'r hanes am smyglwyr yn y ddeunawfed ganrif yn dadlwytho brandi, tybaco a halen yn anghyfreithlon liw nos mewn cailfachau diarffordd ar hyd arfordir Cymru. Ond pwy oedd y smyglwyr o ddifri a sut a pham yr oeddent mor barod i beryglu eu rhyddid a'u bywydau yn glanio nwyddau di-dreth? Pwy oedd y tu cefn iddynt? Pa nwyddau oedd yn cael eu smyglo? Pwy oedd eu cwsmeriaid a pha lwyddiant a gawsant yn erbyn swyddogion y tollau oedd yn benderfynol o'u dal? Do, bu aml i frwydr waedlyd rhwng y smyglwyr a'r awdurdodau - fel y cawn rnib.org.uk weld yn y gyfrol hon. Byddwn yn ymdrin a'r ddwy 'Oes Aur' yn hanes smyglo, sef y cyfnot 'clasurol' o ddiwedd yr 17g hyd ganol y 19g ac yna'r cyfnod modern o ganol yr 20g hud deddiw pan ddaeth yn ffasiwn i smyglo cyffuriau, arfau, disl, dillad 'designer' a phobol. Elis, Islwyn Ffowc Wythnos yng Nghymru Fydd. 1957. Read by Dyfan Roberts. 8 hours. TB 4193. Nofel a gyhoeddwyd ym 1957 sy'n sôn am Gymru fel y gallai fod yn y flwyddyn 2033. Elis, Islwyn Ffowc. Cysgod y cryman: nofel. 1953. Read by J O Roberts, 13 hours 30 minutes. TB 663. Cais yw'r nofel hon i ddarlunio effaith y pwerau sy'n cerdded ein byd hediw, ar ardal wledig yn Mhowys ac ar un o golegau'r brifysgol a hynny mewn stori sy'n llwythog gan aberth a chenfigen, cablu ac addoli, caru a chasau. Elis, Islwyn Ffowc. Yn ôl i Leifior: a nofel. 1956. Read by R Llewellyn Thomas, 14 hours 15 minutes. TB 1762. Nofel sy'n adrodd rhagor o hanes teulu Lleifior ac yn ddilyniant i 'Cysgod y Cryman'. Elis, Islwyn Ffowc. Blas y Cynfyd. 1958. Read by Robin Williams, 10 hours 15 minutes. TB 3502. Darllenwyd gan Robin Williams. Drama-gyfres ar y radio oedd y nofel hon gyntaf cyn ei haddasu yn stori. Yma, ceir hanes Elwyn Prydderch, dyn ifanc yn gweithio mewn siop fawr yn Llundain - ei iechyd yn torri i lawr, ac yn mynd yn ôl i'w hen ardal yng Nghymru. Ond - yr oedd rhywbeth mawr wedi digwydd yn hanes ei deulu - rhywbeth na wyddai Elwyn ddim oll amdano. rnib.org.uk Elis, Islwyn Ffowc Y gromlech yn yr haidd. 1970. Read by Jean Evans, 4 hours 14 minutes. TB 8889. Nofel arswyd gan Islwyn Ffowc Elis. Ni ddaw dim daioni o ymgymryd â Cerrig Mawr y Hendre, meddai pawb, ond 'roedd Mr Henderson, perchennog y Hendre, ddim am gymryd unrhyw sylw o Muju her ofergoeliedd fel 'na... yn anffodus iddo yntau. Elisa, Gillian Hyd yn hyn. 2007. Read by Jean Evans, TB 16445. Cyfres y cewri series; 32. Hunangofiant merch hynod o amryddawn a phoblogaidd. O'i magwraeth yn Llanbedr Pont Steffan i'w gyrfa fel Sabrina yng nghyfres Pobol y Cwm; fel cantores; fel 'Mrs OTT'; fel stand-up, ac yn y blaen, cawn yma ddilyn ei gyrfa yn ogystal â'i bywyd personol. Ellis, Wynne Gweledigaethau Y Bardd Cwsg. 1948. Read by Gwyn Thomas, 4 hours. TB 4096. Emlyn, Mari Traed Oer. 2004. Read by Mari Emlyn, 8 hours 23 minutes. TB 16199. Nofel ddifyr am athrawes biano ddeugain oed sy'n penderfynu ailedrych ar ei pherthynas â gwr priod, ac yn mentro twrio i'w hanes teuluol wedi iddi dderbyn casgliad o hen lythyrau sy'n taflu goleuni ar fywyd hen ewythr a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Contains strong language and passages of a sexual nature. Evans, Bethan. Amdani! 1997. Read by Bethan Gwilym, 5 hours 13 minutes. TB 12148. Er gwaethaf pawb a popeth, mae merched Tre-ddol yn benderfynol o ffurfio tim rygbi llwyddiannus, - a than arweiniad Dafydd, yr hync o hyfforddwr, mae rhai yn llwyddo i fynd yn bell (iawn!) Yn wir, mae ambell un yn newid yn llwyr ar ôl dianc rhag y swnian a'r sinc. rnib.org.uk Evans, Evan Keri. Fy mhererindod ysbrydol. 1962. Read by Dyfnallt Morgan, 3 hours 45 minutes. TB 781. Hanes gwr o gyneddfau meddyliol anghyffredin yn cefnu ar bob peth arall er mwyn treiddio'n ddyfrach i gyfrinion y bywyd ysbrydol. Evans, Len. Blodau'r Fynwent. 2000. Read by Mari Gwilym, 1 hour 55 minutes. TB 12266. Tipyn o sbort - dyna i gyd - gan Edi a Moc oedd mentro i fynwent yr eglwys ganol nos. Doedden nhw ddim yn wir yn disgwyl clywed ysbryd! Ond wedi dechrau, doedd dim diwedd ar y dirgelion, dirgelwch yr hen bwll glo, dirgelwch y twneli cudd, dirgelwch y tair merch oedd yn mynnu teithio I Ffrainc heb son am gyfrinach blodau'r fynwent! Evans, Rhys. Gwynfor: Rhag Pob Brad. 2005. Read by Lyn Davies, 28 hours. TB 14459. Gwynfor Evans. Yn ogystal â rhychwantu saith degawd o fywyd cyhoeddus ac ymgyrchu gwleidyddol di-baid, ceir yma ddadansoddiad treiddgar o holl obeithion a gofidiau'r genedl Gymreig yn ystod y ganrif dyngedfennol ddiwethaf. Flynn, Paul. Baglu 'mlaen. 1998. Read by John Gwilym Jones, 1 hour 9 minutes. TB 13563. Cyfres y cewri; 18. Mae'r Aelod Seneddol hynaws hwn yn un o ffigurau mwyaf adnabyddus gweleidyddiaeth Cymru, ac yn feinciwr cefn egnïol yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn yr hunangofiant difyr hwn down i wybod am ei gefndir tlawd yn Grangetown, Caerdydd ac am ei frwydr barhaus yn erbyn y gwynegon. Darllenwn am yr amrywiol ddigwyddiadau a'i gyrrodd ef yn y pen draw cyn belled â San Steffan. Yno, cawn fwy na chioplwg ganddo ar sawl gwrthdaro rhwng gweildyddion amlwg a'i gilydd. Trwy'r cyfan, datgelir yn rhyfeddol o onest holl droeon ei yrfa, ynghyg â'r tristwch a'r llawenydd yn ei fywyd personol a theuluol. rnib.org.uk Fychan, Cledwyn Pwy oedd Rhys Gethin? 2007. Read by J. O. Roberts,1 hours 12 minutes. TB 15800. Rhys Gethin, mae'n debyg, yw'r enwocaf o blith dilynwyr Owain Glyndwr. Yn y gyfrol hylaw, feistraidd hon mae Cledwyn Fychan yn cloriannu'r dystiolaeth am saith gr o'renw Rhys Gethin a oedd yn cydoesi a Glyndwr, er mwyn barnu pa un ohonynt sydd debycaf o fod y cadfridog enwog. Tynnodd yr awdur nid yn unig ar ffynonellau llên a hanes, ond hefyd ar gyfoeth traddodiadau llafar bugeiliaid mynydd-dir Canolbarth. Gill, B M Llinyn rhy dynn. 1990. Read by Rhiannon Thomas. 7 hours 23 minutes. TB 9057, Mae Llinos Rees, nyrs radlon naw ar hugain oed wedi'i chamdrin yn rhywiol a'i thagu i farwolaeth. Ymhlith Staff yr ysbyty y mae'r llawfeddyg Owen Harris, a gafodd ysgariad oddi wrth ei wraig, ond sydd bellach yn rhannu ei aelwyd a Ceri, ei ferch a channwyll ei lygad. Yna mae Ceri hefyd yn gorff ar y comin, wedi'i lladd yn yr un modd a Llinos. A oes patrwm yn ymffurfio? Glynn, Annes. Dilyn 'sgwarnog. 2001. Read by Jini Owen, 4 hours 53 minutes. TB 14923. Dyma fan cychwyn y siwrne sy'n arwaih Saran Huws, gohebydd gyda'r papur lleol, i ddilyn sawl trywydd amrywiol er mwyn dod at wraidd y gwir. Ar y ffordd, rhaid wynebu atgofion a gwirioneddau poenus y bu'n trio eu cadw dan glo ers tro byd. Sut effaith gaiff hyn ar ei pherthynas a'i chariad, Gwyn, a'i theulu ac ar ei gwaith? A pha hen ofnau sy'n erlid Jan hithau, prof gymeriad y nofel y mae Saran yn ei darllen? Griffith, W J Storïau'r Henllys Fawr. 1938. Read by R Llewellyn Thomas, 4 hours. TB 2077. rnib.org.uk Gruffydd, Ifan Gwr o Baradwys. 1963. Read by Ifan Gruffydd, 6 hours 30 minutes. TB 171. Cipdrem ar batrwm cymdeithas Mon yn nechreu'r ganrif hon, disgrifiadau cynnil cyffyrddiadau bachog a pherlau o hiwmor. Gruffydd, Ifan Tân yn siambar. 1966. Read by Ifan Gruffydd, 5 hours 30 minutes. TB 84. Yr ail gyfrol o atgofion Ifan Gruffydd, - yn estyn pethau syfrdanol o gilfachau'r cof ac yn eu crisialu'n ddarluniau syml o'n blaen. Gryffydd, W J Newid aelwyd. 2000. Read by Jean Evans, 3 hours 4 minutes. TB 13125. Helyntion Tomos a Marged 5. Casgliad arall newydd sbon a straeon digri am y ddau o'r wlad - Tomas a Marged. Mae yna ddigon a achos yma i Mabon Bach a Chyngor Cymuned Llanamiwg boeni yn ei gylch! Gwanas, Bethan Os mêts. 2007. Read by Branwen Gwyn.1 hour 59 minutes, TB 19582. Gwanas, Bethan Ar y lein eto fyth. 2008. Read by Bethan Gwilym, 5 hours 23 minutes. TB 16024. Dyma'r trydydd o ddyddiaduron Bethan Gwanas yn dilyn llinellau 'Ar y Lein'; ei hanes yn dilyn y cyhydedd o amgylch y byd ydi hwn. Ceir nifer o straeon difyr ynghyd â'i sylwadau hithau am amrywiaeth y diwylliannau a'r arferion, a'r systemau gwleidyddol ac economaidd y daeth ar eu traws. Gwanas, Bethan Byd Bethan. 2002. Read by Bethan Gwanas, 2 hours 55 minutes. TB 13126. Cyfres o erthyglau a gyhoeddwyd gyntaf yng ngholofn boblogaldd Bethan Gwanas yn yr 'Herald Cymraeg' a geir yn y gyfrol ddifyr hon. Mae yn y gyfrol rywbeth at ddant pawb - yn hen ac ifanc, rnib.org.uk Cymry o'r crud, a Chymry o ddewis (sef yr enw newydd ar ddysgwyr yn ol Bethan), ffans 'Amdanll a Blodwen Jones. A dweud y gwlr, dyma'r llyfr ysgafn, difyr hwnnw rydych chi wedi bod yn chwillo amdano yn Gymraeg ers oes y pys! Gwanas, Bethan. Hi yw fy ffrind. 2004. Read by Bethan Gwilym, 6 hours 6 minutes. TB 13601. On'd oedden nhw'n ddyddie da? Hafau hirfelyn tesog swinging sixties - poni-têls, wyn bach yn pracio, arbrofi efo mascara a chael y snog gynta efo Jac Coed Foel. Blaswch y dyddiau da mewn nofel ddarllenadwy am gyfeillgarwch oedd i fod i bara am byth. Gwanas, Bethan Llinyn Trôns. 2002. Read by Nia Lloyd Jones, 3 hours 22 minutes. TB 17652. Llinyn Trôns yn flin. Tydi'r creadur ddim ond newydd orffen ei arholiadau TGAU a rŵan mae Blwyddyn Un ar Ddeg i gyd yn gorfod mynd ar gwrs I ganolfan awyr agored – am dridiau! Cyfrifaduron a'r teledu yw ei bethau o, a does ganddo ddim llwchyn a awydd dangos ei goesau dryw neb, diolch yn fawr, na chael ei boenydio gan Nobi, na gweld Gags, hync y dosbarth, yn glafoerio dros Gwenan. Na chael canlyniadau'r arholiadau tra mae o yno! Mae'n swnio fel tridiau o uffern. TB 17652. Gwynn, Eirwen. Hon. 1985. Read by Wiliam Paganuzzi, 3 hours 40 minutes. TB 16116. Mae Syr Hugh Rowlands, heb os nac onibai, wedi Dod Ymlaen yn y Byd. Wedi gyrfa lwyddiannus iawn yn y Gwasanaeth Sifil yn Llundain, ei bederfyniad mawr olaf yw - ble i ymddeol? Y dewis amlwg yw'r Ffridd Ucha, ei hen gartref yn Arfon, a fu hefyd yn dŷ haf iddo, a lle bu'n byw eisoes am flwyddyn. Y dewis arall yw symud yn ô´l i Loegr at ei blant. Hamilton, Courtenay Tu ôl i'r tiara : bywyd Miss Cymru. 2012. Read by Branwen Gwyn. 1 hour 50 minutes. TB 19575. rnib.org.uk Hopwood, Mererid O ran. 2008. Read by Andrea Parry, 4 hours 32 minutes. TB 16021. Ar y trên rhwng Paddington a Chaerdydd, mae Angharad Gwyn yn darllen trwy broflenni cyfrol deyrnged i'w thad, Ifan, cerddor llwyddiannus. Wrth i ni ddarllen gyda hi, mae'n dechrau hel atgofion am ei phlentyndod anarferol yng Nghaerdydd. Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd a'r Cylch 2008. Hughes, Ann Tegwen Celwyddgi.1996. Read by Mari Jones. 58 minutes. TB 11637. 811 yrs Braf iawn yw cael ei drin fel seren, ond pan mae'r plant a'r athrawon yn mynnu ei fod yn ffilmio'r arddangosfa Addysg Gorfforol, mae ei gelwyddau'n ei ollwng mewn dwr poeth iawn! Ac wrth i un celwydd arwain at y llall...sut y gall Glyn roi'r gorau i fod yn gelwyddgi? Hughes, John O'r llain i'r llys. 1979. Read by Stewart Jones, TB 14741. Ymunodd yr awdur â heddlu Môn cyn yr Ail Ryfel Byd i wasawnaethu fel plismon cefn gwlad. Wedi tair blynedd o wasanaeth fel cwnstabl, ymunodd â'r fyddin a bu'n gwasanaethu gyda'r Intelligence Corps yn y Dwyrain Pell hyd ddiwedd y rhyfel. Ar ei ddychweliad i Fôn gweithiodd gyda'r CID. Maes o law cafodd ddyrchafiad i fod yn arolygydd a'i benodi yn Swyddog Hyfforddiant a Diogelwch Gwladol ym Mhencadlys Heddlu Gwynedd yng Nghaernarfon. Yn y man fe'i penodwyd i fod yn gyfrifol am weithgareddau'r CID dros y tair sir ogleddol. Parhaodd i fod yn bennaeth y CID wedi uno heddluoedd Fflint, Dinbych a Gwynedd. Hughes, Mair Wynn Ein rhyfel ni. 2006. Read by Enid Hughes. 1 hour 38 minutes. TB 19472. Suggested reading age 9+ Stori sy'n sôn am hynt ffoaduriaid yr Ail Ryfel Byd a ddaeth i Sir Fôn yn y 1940au. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2007. rnib.org.uk Hughes, Mair Wynn Gem o gariad. 1991. Read by Mair J Jones. 4 hours 7 minutes. TB 8882. Mae etifeddu tŷ ac ychydig arian yn rhoi cyfle i Glenys aildrefnu ei bywyd, i adael Llundain a lorwerth am byth a gwireddu ei breuddwyd o ennill bywoliaeth trwy sgrifennu. Cof plentyn sydd ganddi am Fryn Ffynnon a thre Penuwchwaen, ac wrth gwrs, does neb yno yn ei chofio erbyn hyn. Ond, tybed? Hughes, Mair Wynn Hela, sbecs! 1996. Read by Susan K Evans, 4 hours 13 minutes. TB 12210. Gwenno druan! Dydy bywyd yn mynd yn ddim haws. Y tŷ a'i din am ei ben. Dad yn flin. Rhodri'n sgrechian efo poen yn ei ddannedd. Llŷr yn gythraul mewn croen. Mam bron a chracio dan y straen. Pawb yn disgwyl i Gwenno fod yn sgifi'r deyrnas. Ac i goroni popeth, Nain Tawelfa yn troi'n Nain Tŷ Ni. Hughes, Mary Fel mwclis. 2005. Read by Jean Evans, 2 hours 52 minutes. TB 14518. Edrych yn ôl ar bethau trwy lygaid plentyn, yn ôl i ddiwedd y pedwar degau a'r pum degau yng nghymdeithas amaethyddol Arfon sydd yn y llyfr hwn. O afon Gwyrfai yn y mynyddoedd ar draws at Ddyffryn Nantlle – dyma fyd plentyndod yr awdures. Mae yma awydd am gadw'r bobl a'u byd ar gof cyn i bob arlliw o'r blynyddoedd hynny ddiflannu am byth. Hughes, Rodney Cymeriadau Gogledd Cymru. 1995. Read by Awel Jones, TB 16838. Cyhoeddir y llyfr hwn fel teyrnged i'm diweddar briod, Rodney Hughes, Kestor, Llangefni, golygydd y North Wales Chronicle, a fu farw ym Medi 1994, yn 48 mlwydd oed. Hughes, T Rowland Yr ogof. 1945. Read by W H Roberts. 11 hours 30 minutes. TB 4094. Nofel sydd â Joseff o Arimathea yn brif gymeriad ac sydd ag iddi gefndir wythnos olaf hanes yr Iesu adeg y Pasg. rnib.org.uk Hughes, T Rowland O law I law. 1953. 7 hours 45 minutes. TB 352. Atgofion John Davies wrth chwalu'r hen gartref ar ôl colli ei fam ac wrth werth'r dodrefn o law i law. Hunter, Jerry Gwenddydd. 2010. Read by Betsan Llwyd. 5 hours 7 minutes. TB 19022. Ceir yn y nofel bwerus hon stori ddirdynnol am berthynas milwr o frawd a'i nyrs o chwaer, ac erchylltra'u profiadau yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd. O gefn gwlad Cymru i ysbyty milwrol yn Lloegr a maes y frwydr ar y cyfandir, gwelwn effeithiau rhyfel ar unigolyn, teulu a chymdeithas. Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent, 2010. Huws, Emily Bownsio. 2008. Read by Rebecca Harries.1 hour 49 minutes. TB 19471. Stori rymus gan awdures arobryn yn sôn am ferch yn ei harddegau cynnar sy'n darganfod nad yw ei mam wedi marw wedi'r cyfan. Nofel sy'n ymdrin â gobeithion preifat a realiti bywyd go-iawn; addas i ddarllenwyr 9-11 oed. Huws, Emily Carreg ateb. 2005. Read by Betsan Llwyd. 1 hour 42 minutes. TB 19474. Suggested reading age 9+ Huws, Emily Eco. 2004. Read by Betsan Llwyd. 1 hour 17 minutes. TB 19473. Suggested reading age 9+ A novel portraying the tensions in the life of a 9 year old girl whose mother is an enthusiastic and active warrior, by a prizewinning, popular author. Winner of the 2005 Tir na n-Og Award. Huws , Emily Babi gwyrdd. 2006. Read by Betsan Llwyd. 1 hour 21 minutes. TB 19475. Suggested reading age 9+ rnib.org.uk Hywyn, Gwenno Helynt y fideo. 1987. Read by Mari Jones. 1 hour 13 minutes. TB 11639. 8-11 yrs. Bachgen penderfynol iawn yw Huw. Mae'n benderfynol o brynu'r beic rasio newydd sbon a welodd yn ffenest Beiciau Barcle a phan sylweddola fod pethau od iawn yn digwydd yn y siop ac yn y dref mae'n benderfynol o ddarganfod y gwir. Daw wyneb yn wyneb â lladron peryglus ond nid yw'n hawdd trechu bachgen mor benderfynol â Huw. Hywyn, Gwenno Will Sam (Cyfres Y Cewri 5). 1985. Read by Stuart Jones, 5 hours 24 minutes. TB 12265. ..i Gwasg Gwynedd am ddal i swnian ac am dderbyn nab ydw i na chawr na pherthynas pell nac agos i gawr. Dwbl diolch i Gwenno Hywyn am ei thrafferth a'i hir amynedd yn troi fy sgwrs fler, bytiog a gwasgarog i yn eiriau ffit i'w cynnwys mewn llyfr. Heyfd diolch i John Roberts, Y Ffor, am ei help efo'r lluniau. Iolen, Selwyn O Barc y Wern i Barc y Faenol. 2007. Read by Stuart Jones, 5 hours 32 minutes. TB 16093. Atgofion Selwyn Griffith o'i fywyd cynnar ym Methel, Arfon hyd ei gyfnod fel archdderwydd Cymru, gan ganolbwyntio ar y digwyddiadau a'r cymeriadau pwysig yn ei fywyd. Iorwerth, Dylan Gohebydd yng Ngheredigion yn ystod y Flwyddyn Fawr : hanes John Griffith (Y Gohebydd). 2007. Read by J. O. Roberts, 1hrs 31mins. TB 15801. Ystyrir Mai John Griffith oedd newyddiadurwr proffesiynol cyntaf Cymru. Ni chanolbwyntir yn y llyfryn hwn ar ei adroddiadau o Unol Daleithiau America, nac ychwaith ar ei adroddiadau o'r Senedd Yn Llyndain ond yn hytrach ar brif waith ei fywyd, o bosibl - ei ohebu am etholiad chwyldroadol 1868, ac yn enwedig felly o Geredigion. Nid llais hanesydd uniongred a glywch chi yn y cyffwyniad disglair hwn ond perorasiwn gan ohebydd proffesiynol cyfoes sy'n cydymdeimlo ac yn deall. rnib.org.uk Iwan, Llion Yr anweledig. 2008. Read by Robin Griffith. 5 hours 25 minutes. TB 19020. Contains language which might be considered offensive Nofel afaelgar am Hani o Affganistan a Jon, milwr Americanaidd, a'r ddau fywyd sy'n eu rhannu ac yn eu huno. Yng nghysgod mynyddoedd yr Hindu Kush mae teulu'r bugail ifanc Hani yn ofni bod storm ar gyrraedd. Draw yn anialwch Saudi Arabia mae Jon, peilot Americanaidd, yn dioddef hunllefau yn sgil y cyrchoedd bomio. Mae llwybrau'r ddau ar fin croesi, gan chwalu dau fyd am byth. James, E Wyn Glyndwr: a gobaith y genedl. 2001. Read by J O Roberts, 2 hours 43 minutes. TB 15142. 'Cenedl heb gof, cenedl heb galon.' Ac yn y cof hwnnw, y mae gan Owain Glyndwr le allweddol, heddiw fel erioed. Wrth edrych yn ol dros y canrifoedd, gwelwn y portread o Glyndwr yn newid yn syfrdanol o gyfnod I gyfnod. Jenkins, Gwyn Prif weinidog answyddogol Cymru: cofiant Huw T. Edwards. 2007. Read by Iolo Povey, 8 hours 16 minutes. TB 15870. Cofiant cynhwysfawr i Huw T Edwards - un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol yng Nghymru yn yr 1950au, a dyn a adwaenid fel 'Prif Weinidog Answyddogol Cymru' yn anterth ei yrfa. Jones, Alun Ac yna clywodd swn y mor. 1998. Read by Gwyneth Jones. 8 hours. TB 12275. Hon yw un o'r norfelau mwyaf darllenadwy i gael ei chyhoeddi yn Gymraeg. Hwyrach y gellid dweud fod nofel dditectif, nofel serch a nofel gymdeithasol i gyd wedi'u plethu'n un ynddi. Oes, mae yma ddyn ifanc yn cael ei gyhuddo o dreisio merch, ac mae yma hefyd haid o blismyn yn ceisio cornelu lleidr gemau, ond cawn hefyd gyfarfod a nifer o gymeriadau sydd fel pe baent wedi tyfu'n naturio o bridd Pen Llyn. Ac yn gyfeiliant i'r cyfan clywir sen y mor. rnib.org.uk Jones, Bet. Beti Bwt. 2008. Read by Bet Jones, 3 hours 53 minutes. TB 15997. Nofel wedi'i seilio ar atgofion plentyn yn Nhrefor, Pen Llŷn. Ceir yma ddarlun byw o fywyd pentrefol chwarelyddol Cymreig yn y 1950au. Daeth y gyfrol yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2007. Jones, Ceri Wyn. Dauwynebog. 2007. Read by Marrian Jones, 1 hour 54 minutes. TB 15666. Byddai'n braf gan Ceri Wyn Jones wybod beth yw beth yn y byd. Byddai'n braf cael sicrwydd taw un ffordd iawn sydd, a bod modd dehongli a mynegi popeth yn ol y sicrwydd hwnnw. Byddai'n braf cael meddu ar un wyneb yn unig. Yn Dauwynebog, mae'r bardd o Aberteifi'n archwilio'r gwrthdaro parhaus rhwng y mewnol a'r allanol, rhwng gweledigaeth ddyrchafol y gallon a rheswm didostur yr ymennydd, a rhwng y dweud a'r gwneud. Dyma gyfrol sy'n llawn deuoliaeth, yn dathlu a diawlio cymhlethdod byw a bod ar ymyl sawl dibyn - yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, ac yn ysbrydol. O ganlyniad, dyma gasgliad sydd yn llawn gwrthgyferbyniadau trawiadol, o fewn cerddi unigol a rhwng y cerddi hynny. Jones, Cledwyn. Mi wisga'i gap pig gloyw: John Glyn Davies, 1870-1953: shantis, caneuon plant a cherddi Edern. 2003. Read by Cledwyn Jones, 6 hours 10 minutes. TB 13356. John Glyn Davies yn ŵr amryddawn yn gerddor wrth reddf, yn fardd dawnus, ac yn ysgolhaig yr ieithoedd Celtaidd. Amhosibl fyddai gwneud cyfiawnder â'i holl ddoniau a'i ddiddordebau mewn un llyfr, felly canolbwyntiais yma ar ei ganeuon, y shantis, caneuon y môr a'r caneuon ar gyfer plant, heb anghofio am nifer o'i gerddi sydd yn Cerddi Edem a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth. Jones, Cledwyn Fy Nhal-y-sarn i: hanes y pentref drwy atgofion. 2009. Read by Cledwyn Jones, 7 hours 42 minutes. TB 16551. Cyfrol yn adrodd hanes sawl agwedd ar y gorffennol yw hon- y diwydiant, y siopau, y capel, yr ysgolion (Sul a dyddiol), y rheilffordd a'r ffyrdd haearn bach, hanes enwogion - a darlun o'i rnib.org.uk diwylliant a'i gweithgareddau amser hamdden hyd at yr Ail Ryfel Byd. Jones, Eifion Pennant Jonsi: Cyfres y cewri 19. 1998. Read by Merfyn P Jones, 4 hours 46 minutes. TB 12248. Er mai fel Eifion Pennant Jones y bedyddiwyd yr awdur, y mae o, yn ystod ei yrfa, wedi newid ei enw yn amlach nag y bydd rhai pobl yn newid car. Ond i wrandawyr Radio Cymru, Jonsi ydi o bellach, y sgwrsiwr cartrefol braf sy'n mwynhau dal pen rheswm a phobl ar donfeddi'r awyr. Eto i gyd, mae'n berson preifat iawn, ac ychydig o bobl sy'n ei adnabod mewn gwirionedd. Dyma gyfle felly i gael golwg ar y dyn ei hun, y gwir Eifion Jones, ac yntau'n adrodd ei hanes lliwgar wrth William H Owen. Jones, Geraint Lloyd Maentwrog ddoe a heddiw. 2006. Read by Geraint Lloyd Jones, 5 hours 57 minutes. TB 15146. Bu criw o ardalwyr brwd yn cyfarfod i drafod dulliau o ddathlu dyfodiad y Mileniwm newydd, ac ymhlith y syniadau a gafwyd oedd yr un i gyhoeddi llyfr a fyddai'n gofnod o hanes yr ardal. Cysylltwyd a nifer o gyfeillion a fu a chysylltiad a'r fro dros y blynyddoedd, ac mae'r rhan fwyaf o'r cyfraniadau au ffurf atgofion, gyda rha hanesyddol pur. Jones, Geraint V Teulu Lord Bach. 2008. Read by J. O. Roberts, 24 hours 30 minutes. TB 16550. Nofel uchelgeisiol yn cwmpasu pedair cenhedlaeth a phedwar rhyfel yn ystod yr ugeinfed ganrif. Wrth i feibion Blaendyffryn wynebu eu ffawd, boed honno yn y chwarel, yn y fyddin, yn y lofa neu yn y llu awyr, rhaid iddynt fod yn ddewr, bob un yn ei ffordd ei hun. Ond meistres greulon yw ffawd, fel y gŵyr teulu Lòrd Bach yn dda. Jones, Gwen Pritchard. Dygwyl Eneidiau. 2006. Read by J. O. Roberts, 8 hours 3 minutes. TB 14969. Llofruddiaeth erchyll y ficer ar noson Dygwyl Eneidiau - dyna oedd dechreuad gyrfa Sion-Rhisiart fel milwr ar feysydd rhyfel Ewrop - rnib.org.uk ond pam? A phwy oedd y llofrudd? Mewn ymgais i ateb y cwestiynau hyn, dychwela Sion i Aberdaron, lle mae'n cyfarfod Catrin Williams, dyweddi i John Bodwrda, hen gyfaill ei blentyndod. Jones, Gwilym Dyfri 23489. 1990. Read by Bethan Gwilym. 55 minutes. TB 11642. 811 yrs Diddordeb pennaf Owain, Tecs, Gwydion a Llyr oedd codi rhifau trenau. Ond un noson wrth ddisgwyl i'r tren o Lundain deithio drwy Aberbrennig gwelodd dau o'r criw rywbeth mwy diddorol o lawer na rhif tren. Pwy oedd y gwr yn ymyl y trac a fflachiai ei olau ar y tren? Beth oedd yn y pecynnau a daflwyd drwy'r ffenest? Roedd yn rhaid i'r bechgyn gael gwybod - costied a gostio! Owain, Tecs. Jones, Gwilym. Wedi'r llanw: ysgrifau ar ben llyn. 2005. Read by Jini Owen, 6 hours 15 minutes. TB 15159. Casgliad o ysgrifau a welodd olau dydd am y tro cyntaf yn y papur bro Llanw Llŷn. Ceir yma ysgrifau am nifer o agweddau amrywiol o hanes Pen Llŷn. Rhoddir cryn sylw i fyd y môr, yn ogystal â straeon sy'n perthyn i'r ardal, megis tor-cyfraith, llofruddiaeth, atgofion am fywyd yr ysgol ac am gymeriadau hynod. Jones, Heather Gwrando ar fy nghan. 2007. Read by Meira Williams, TB 16447. Hunangofiant y gantores boblogaidd Heather Jones. Mae'n dadlennu hanes ei phlentyndod, hanes ei phrofiadau fel mam ifanc a ddaeth yn feichiog yn 20 oed a hanes ei brwydr yn erbyn iselder wrth iddi ildio'i breuddwydion am gyfnod. Trwy'r uchafbwyntiau a'r iselfannau, mae Heather Jones wedi parhau'n un o enwau mwyaf cyfarwydd byd cerddorol Cymru. Jones, Ifan Morgan Igam ogam. 2008. Read by Arwel Jones, 7 hours 2 minutes. TB 16547. Pan gaiff Tomos Ap alwad ffôn gan ei dad mabwysiedig yn ei alw adref, mae'n amau mai cynllwyn yw'r cyfan i'w orfodi i gymryd gofal o'r fferm deuluol. Ond gyda Natur ei hun yn ceisio prynu'r lle, mae ganddo fwy na dipio defaid i boeni amdano. Contains strong language and passages of a sexual nature. rnib.org.uk Jones, John Elwyn Yn fy ffordd fy hun: hunangofiant dyn byrbwyll. 1987. Read by Gerallt Jones, 7 hours 50 minutes. TB 14530. Mae "Yn fy ffordd fy hun" yn cychwyn y stori yn y dechrau un, sef gyda phlentyndod yr awdur ar odrau Cadair Idris. Wedi llawer o anturiaethau, caiff ei hun yn swyddog yn y Fyddin Brydeinig yn erlyn aelodau o'r S.S. yn yr Almaen ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Hon yw ei gyfrol gyntaf o atgofion. Jones, John Elwyn Yn fy ffordd fy hun: hunangofiant dyn byrbwyll. 1986. Read by Gerallt Jones, 8 hours. TB 14453. Mae "Yn fy ffordd fy hun" yn cychwyn y stori yn y dechrau un, sef gyda phlentyndod yr awdur ar odrau Cadair Idris. Wedi llawer o anturiaethau, caiff ei hun yn swyddog yn y Fyddin Brydeinig yn erlyn aelodau o'r S.S. yn yr Almaen ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Hon yw ei gyfrol gyntaf o atgofion. Jones, John Elwyn Yn fy ffordd fy hun: hunangofiant dyn byrbwyll. 1986. Read by Gerallt Jones, 6 hours 55 minutes. TB 14576. Mae "Yn fy ffordd fy hun" yn cychwyn y stori yn y dechrau un, sef gyda phlentyndod yr awdur ar odrau Cadair Idris. Wedi llawer o anturiaethau, caiff ei hun yn swyddog yn y Fyddin Brydeinig yn erlyn aelodau o'r S.S. yn yr Almaen ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Hon yw ei gyfrol gyntaf o atgofion. Jones, John Elwyn Pum cynnig i Gymro: anturiaethau carcharor rhyfel. 1971. Read by Dyfnallt Morgan, 9 hours 15 minutes. TB 1962. Hanes yr awdur yn dianc o bump o wersylloedd i garcharorion rhyfel yn yr Almaen ac fel y bu iddo, yn y diwedd, gyrraedd Sweden cyn dychwelyd I Brydain. Jones, John Gwilym Tri diwrnod ac angladd. 1979. Read by J O Roberts. 7 hours 25 minutes. TB 4084, rnib.org.uk Jones, John Rees Tŷ'r cywilydd : a storiau eraill. 1991. Read by Phyllis Hughes. 3 hours 15 minutes. TB 9587. Dyma ail gyfrol o straeon John Rees Jones, awdur "Yr Edefyn Du" (1989). Y mae rhai straeon yn gyfoes ac eraill yn fwy atgofus. Ac unwaith eto mae'r arddull yn fywiog a chyhyrog. Daeth tair o'r straeon hyn yn gyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol, Y Rhyl, 1985. Jones, John William. Crefft, cledd, cennad. 1971. Read by R Llewelyn Thomas, 5 hours 15 minutes. TB 2089. Mae darllen yr hunangofiant hwn yn brofiad ynddo'i hun, gan fod J W Jones, a dawn unigryw i'w glywed yn siards ym mhob paragraff, yn ddifrifol, yn ddigrif neu'n fygythiol. Yn union fel efo. Jones, Marged Nel fach y bwcs. 1992. Read by Rhiannon Efans. 2 hours 30 minutes. TB 9985. Hanes merch a hwyliodd i'r Wladfa ym 1870 ac a dreuliodd ei blynyddoedd cynnar yno. Cyflwynir darlun cofiadwy o galedi bywyd bob dydd ar y paith. Jones, Marged Lloyd O drelew i Dre-fach. 2007. Read by Jean Evans, TB 14578. Plentyn bach oedd Ellen Davies pan ymfudodd ei theulu i Batagonia yn 1875, yn rhan o'r fintai obeithiol oedd a'u bryd ar wireddu breuddwyd ramantus Michael D. Jones. Ond ym 1990 bu'n rhaid i'r teulu symud yn ol i Grymru ac ailsefydlu ym mhentre Dre-fach Felindre. Er iddi ddioddef tlodi a chyni yn ystod ei magwraeth, roedd hiraeth Nel am Batgonia'n ddirdynnol. 'Er fy mod yn siarad Cymraeg' meddai, 'theimlais i erioed fy mod yn perthyn i Gymru'. Jones, Marged Lloyd Siabwcho. 2002. Read by Jean Evans, TB 14649. Does fawr o gysur i Jini John yn Llety'r Wennol: Mamo'n ddiflas drwy'r amser ac ofn y bydd Dyta'n ei siabwcho - ei cham-drin-eto. Pan ddaw'n amser mynd i'r ysgol, caiff gobeithion merch fach rnib.org.uk chwilfrydig fel Jini eu dryllio, oherwydd creulondeb y Mistir a gemau hurt rhai o'r bechgyn mawr. Unsuitable for family reading. Jones, Meinir Pierce Y gongol felys. 2005. Read by Bethan Gwilym, 2 hours 35 minutes. TB 14865. Mae gan Edith Morwenna Williams lawer iawn i'w adrodd am yr hyn ddigwyddodd iddi hi a'i theulu ar fferm y Gongol Felys adeg y Pasg, 1912. Mae mystery yn beth mawr gan Edith, oherwydd does dim llawer ohono yn y bywyd digynnwrf y mae hi a'i chwaer a'i brawd a'i modryb yn ei fyw yn eu cartref gwledig yng ngogledd Cymru. Mae hi'n gwybod am y byd, fel plentyn pob capten llong, ond wyr hi ddim cymaint am fyw. Ac mae Edith yn crefu am gyffro, am ryw antur i ddod a thorri'n donnau dros wastadrwydd ei bywyd, bywyd sydd fel y llyn ar ddiwrnod rhewllyd. Ond pan ddaw'r dirgelwch, daw a llawer gormod yn ei sgil. Jones, Penri Cymru Ar Werth. 1990. Read by Mair J Jones. 7 hours 46 minutes. TB 9090. 'Mond cael golwg ar awyren Brian Andrews, datblygwr yn drewi o bres, wnaeth Mos a dyna fo mewn cell yn cael ei hambygio gan lymbar o blismon. Daw Nest Afan rywiol a Mentrus i'w helpu, ond am bris - cythral o bris! Meddwad fawr a chorwynt o her a rhamant yn sgubo'r cymeriadau i gynllwyn treisiol. Rhwygir Mos rhwng dwy ferch bur wahanol a dau ddull o weithredu dros Gymru. Jones, R Arwel Hyd ein hoes: llesiau cymru. 1999. Read by Stewart Jones, 3 hours 47 minutes. TB 14585. Tempus oral history. Casgliad o atgofion Cymry Cymraeg o bob oed a chefndir daeryddol a chymdeithasol a geir yma ac a ddewiswyd gan Arwel Jones o blith degau o gwyeliadau a wnaed gan Owain Arfon Williams a Jon Gower o BBC Radio Cymru ar gyfer y gyfres Radio "Hyd ein hoes", yn rhan o Gynllun "Hanes Llafar y Mileniwm" a drefnir gan y BBC. rnib.org.uk Jones, R Merfyn Cymru 2000 : hanes Cymru yn yr Ugeinfed Ganrif. 1999. Read by Arwel Jones, 12 hours 4 minutes. TB 13556. Yn debyg i'r gyfres deledu cyflwynir y penodau fesul thema, mae'r bennod agoriadol yn trafod ac yn dadansoddi'r datblygiadau a'r bygythiadau economaidd a wynebodd Cymru gan ddangos mai nhw oedd y sbardun i gymaint o'r newidiadau pellgyrhaeddol a ddilynodd. Yna mae'r awdur yn symud ymlaen i drafod pynciau mor amrywiol â chwaraeon a rhyfel, gwleidyddiaeth a'r Gymru amlddiwylliannol, mudiadau protest a newidiadau cymdeithasol, datganoli a diwylliant poblogaidd menywod ac ieithoedd Cymru, cyn cloi gyda phennod ar Gymru a'r Byd. Jones, R Tudur Grym y gair a fflam y ffydd: ysgrifau ar hanes crefydd yng Nghymru. 1998. Read by Geraint Jones, 15 hours 30 minutes. TB 14970. Wrth drafod cyfraniad R. Tudur Jones i ysgolheictod, dywedodd yr Athro R. M. Jones: "Pan gofiwn swm enfawr ac amlochredd gwaith Tudur Jones, diau y cesglir maes o law ... mai ef yw prif arweinydd meddyliol crefydd Cymru ers Thomas Charles a Thomas Jones (Dinbych), a chawr Protestaniaeth Cymru yn yr ugeinfed ganrif." Ceir yn y gyfrol hon ddetholiad o brif ysgrifau R. Tudur Jones ar hanes crefydd yng Nghymru ynghyd ag amryw sy'n gweld golau dydd yma am y tro cyntaf. O'u hystyried ochr yn ochr a'i weithiau eraill, maent yn cadarnhau barn yr Athro Geraint H. Jenkins fod eu hawdur, yn ogystal a bod yn 'un o feistri rhyddiaith Gymraeg', yn 'hanesydd Cristnogol o bwys y mwyaf, yn wir, yn hanes ein cenedl'. Jones, Rhian Pierce Hufen ia Helene. 2000. Read by Susan K Evans, 1 hours 22 minutes. TB 12223. Guto yw'r cyntaf i gael gweld y fan hufan ia newydd anhygoel a ddyfeiswyd gan ei Yncl Tomaz o Baris, Ffainc. Yn well fyth, mae Guto'n cael gwerthu hufen i Helene o'r fan i'r bobl ar y traeth yn ystod gwyliau'r haf. rnib.org.uk Jones, Shoned Wyn Adlais. 1991. Read by Helen Graville. 3 hours 45 minutes. TB 10800. Ar ôl ymweliad ag eglwys Llanrhodyn, mae bywyd Llio'n trawsnewid. Mae ei hagwedd yn caledu a'i pherthynas a Rhys yn annisgwyl o stormus; daw hunllefau i'w hysu a chwestiynau i'w chorddi. Wnelo Gwawr, merch gegog a sbeitlyd, rywbeth â hyn? Oes ganddi afel ar Rhys? Pa rym sy'n rhwygo'u bywydau'n ddarnau? Tybiai Llio fod yr ateb yn gorwedd ym mynwent Llanrhodyn. Jones, Stewart Dwi'n deud dim deud ydw i. 2001. Read by Stewart Jones, 4 hours 40 minutes. Cyfres y cewri; 24. Er mai fel actiwr y mae Stewart Jones fwyaf adnabyddus, nid profiadau llwyfan a sgrin yn unig a geir yn yr hunangofiant hwn. Ceir yma ddarlun cynnes o fywyd yn Eifionydd ei blentyndod a sonnir yn agored am y 'dirgelwch' oedd ynghlwm a'r plentyndod hwnnw a'r modd y llwyddodd i'w ddatrys maes o law. Bu'n saer coed, yn cadw siop a chadw gwesty ac, wrth gwrs, fe fu hefyd yn y busnes cario! Ioan Roberts fu'n cofnodi'r hanes a cheir Cyflwyniad gan Wil Sam, tad Ifas y Tryc. Jones, Tegwyn Y mabinogion : hud yr hed chwedlau celtaidd. 1998. Read by R Alun Evans.1 hour 50 minutes. TB 12061. Cyfres newydd yn amcanu at gyflwyno detholion o lenyddiaeth Gymraeg o'r cyfnod cynharaf hyd heddiw. Yn y gyfrol hon, ceir detholiad o drysorau rhyddiaith mwyaf hudolus a chyfarwydd yr Oesoedd Canol, yn llawn hud a lledrith a champau ac anturiaethau rhyfeddol i ddifyrru darllenwyr heddiw fel deiliaid y llysoedd gynt. Jones, Thomas Llew Dirgelwch yr ogof: nofel am smyglwyr.1989. Read by William Paganuzzi. 5 hours 10 minutes. TB 11540. Saif pentre bach Cwmtydu mewn hen gilfach ddofn a chreigiog ar lan y môr yn Sir Aberteifi. Erbyn heddiw mae'n bentre bach digon tawel a heddychlon, ond unwaith, bron ddwy ganrif yn ôl, fe fu'r smyglwr enwog, Sion Cwilt, yn glanio llwythi o gontraband ar draeth garw a charegog Cwmtydu. rnib.org.uk Jones, Thomas Llew Tan ar y comin. 1997. Read by Huw John Hughes. 4 hours 16 minhutes. TB 11881, Mae'r nofel yn dweud beth a ddigwyddodd i Tim, y sipsi, ar ôl iddo gael ei adael yn blentyn amddifad ar gomin Glanrhyd, heb ddim yn y byd ond y garafan a'r gaseg - o ie - a'r ebol, wrth gwrs, a gafodd ei eni ar yr un noson ag y bu farw'r hen ŵr. Jones, Thomas Llew Trysor y môr ladron. 1960. Read by J O Roberts, 8 hours 45 minutes. TB 170. Mordaith gyffrous y "Bristol Maid" i'r Gorllewin i ddwyn trysor y Sbaenwyr. Stori a symud cyflym gyda Harri Morgan a'i griw. Jones, Thomas Llew. Geiriau a Gerais. 2001. Read by Jean Evans, 2 hours 11 minutes. TB 14901. Yn y casgliad arbennig hwn, cewch gyfle i rannu detholiad T. Llew Jones o'r cerddi hynny sydd wedi ei gynnal a'i gysuro gydol ei oes. Ac yntau bellach yn 91 mlwydd oed, dyma'r llinellau a'r penillion hynny sydd wedi 'mynnu canu'n y co' ar hyd y blynyddoedd. Mae'r flodeugerdd yn cynnwys darnau gan feirdd o Gymu benbaladr, gan gynnwys Bois y Cilie, R. Williams Parry, Dic Jones - ynghyd ag ambell gerdd gan T.Llew ei hunan. Jones, Thomas Llew. Barti Ddu o Gasnewy' Bach. 1973. Read by J O Roberts, 7 hours 45 minutes. TB 2901. Keaney, Brian Ysgol Jacob. 2010. Read by Garry Owen, 5 hours 54 minutes. TB 18140. Age Range 13+ Mae bachgen yn deffro ynghanol cae. All e ddim cofio sut cyrhaeddod e yno neu hyd yn oed pwy yw e go iawn. Y cyfan mae e'n ei wybod i sicrwydd yw ei enw, Jacob. Dyma stori am daith drwy ofn tuag at obaith, dewis rhwng gorffennol na elli di ei gofio a dyfodol na elli di ei ragweld. Wyt ti'n ddigon dewr i fynd ar y daith honno a gwneud y dewis? rnib.org.uk Lewis, Caryl Martha, Jac a Sianco. 2004. Read by Jean Evans, 5 hours 50 minutes. TB 14344. Mae'r chwaer a'r ddau frawd yn rhai gwerth eu nabod. Y Fartha drafferthus, ofalus o bawb gan arbed dim arni ei hun. Jac y brawd mawr a'i ddwylo carniog yn byw i ffarmio nes daeth yr hoeden Judy i'w wirioni. A Sianco wedyn, y brawd bach hoffus ac agos-aton-ni. Lewis, Caryl Y Gemydd. 2007. Read by Jean Evans, 7 hours. TB 14987. Dyma bortread grymus o gymeriadau brith sy'n byw ar gyrion cymdeithas. Cymeriadau unig a'u bywoliaeth yn ddibynnol ar y farced sydd ar fin cau. Dilynir argyfwng Mair, sy'n crafu byw wrth drin a gwerthu gemau a chlirio tai - nes y daw un gem i drawsnewid ei bywyd yn llwyr. Lewis, Caryl Plu. 2008. Read by Jean Evans, 3 hours 15 minutes. TB 16549. Dyma ddeuddeg o storiau cyfareddol sy'n darlunio'r berthynas rhwng dyn a'I gyd-ddyn. Gyda natur yn gefnlen a hwnnw'n newid o dymor i dymor, mae'r plu'n llinyn cyswllt sy'n gwau drwy'r storiau, megis 'Elyrch' a 'Sguthan', gan oglais a swyno dychymyg y darllenydd. Lewis, Caryl Jackie Jones. 2008. Read by Casi Wyn, 2 hours. TB 16608. Stori sydyn. Nofel yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Stori ddirgelwch yw hon am y gyfreithwraig Jackie Jones, sy'n byw ei bywyd cymdeithasol ar y we. Er cymaint yw'r hwyl mae'n ei gael ar wefan rhwydweithio cymdeithasol mae mewn peryg o golli llawer mwy? Lewis, Caryl Naw mis. 2009. Read by Branwen Gwyn, 12 hours 38 minutes. TB 18142. Mae'n cymryd naw mis i greu bywyd newydd ond cymer naw mis hefyd i berson farw ... Nofel am ddiflaniad merch yw Naw Mis, ac effaith hynny ar ei theulu a'i chymuned. Dyma nawfed nofel yr rnib.org.uk awdures a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn gyda'i chyfrol Martha, Jac a Sianco. Lewis, Delyth Sbectol am byth.1981. Read by Emyr Roberts. 51 minutes, TB 11719. 8-11 yrs Diwrnod du yn hanes Alun Lloyd oedd y dydd Sadwrn yr aeth i nôl ei sbectol a chael torri ei wallt gan farbwr dieithr. Roedd meddwl am fynd i'r ysgol fore Llun, ac yntau'n edrych fel drychiolaeth, yn gwneud iddo deimlo'n sâl. Ond cyn diwedd y diwrnod hwnnw bu'r sbectol a'r gwallt yn help iddo gyflawni ei ddymuniad pennaf. Lewis, Gwion Hawl i'r Gymraeg. 2008. Read by Gerrallt Jones, 4 hours 46 minutes. TB 16186. Dyma gyfrol arloesol yn ymwneud â statws a hawliau siaradwyr Cymraeg - y gyfrol gyntaf erioed i osod y Gymraeg yng nghyddestun cyfraith rhyngwladol a chyfraith Ewrop. Cyfrol feistrolgar sy'n cyflwyno'r ddadl dros ddeddfwriaeth Gymraeg. Lewis, Gwyneth Y llofrudd iaith. 1999. Read by John Gwilym Jones, 1 hour 2 minutes. TB 14343. Os gall iaith farw, all rhywun ei lladd. Pwy sy'n gyfrifol am y corff ar y staer a thranc ein mamiaith? Y bardd? Yr Archifydd? Y ffarmwr ynteu'r cugydd? Mae'r pentre'n llawn o sibrydion a chymhellion tywyll, ac mae bwystfil peryglus yn crwydro'r mynyddoedd. At bwy y bydd Carma, y Ditectif, yn pwyntio bys? Ydych chi'n siwr nad chi sydd ar fai? Lewis, J R Cwrt y Gŵr Drwg. 1978. Read by Wyn Bowen Harries. 6 hours TB 4606. Darllenwyd gan Wyn Bowen Harries. Nofel antur/dditectif gyffrous yw hon. Ni wyr neb lle mae Cwrt y Gŵr Drwg. Neb, hynny yw, ond Yr athro John Griffiths, ac mae ef wedi marw, wedi'i saethu ei hun mewn bwthyn unig. Yn y cwest, y mae Gwydion Rhys yn sylweddoli'n fuan iawn fod rhywbeth o'i le ar y dystiolaeth a gynigir am ei farw. Mae amheuon Gwydion yn ei arwain I berygl dybryd. rnib.org.uk Lewis, Mared Y Maison du Soleil. 2008. Read by Branwen Gwyn. 7 hours 24 minutes. TB 19024. Mae gwres yr haf yn llethol yn y Maison du Soleil, a'r criw o chwech sydd wedi bod yn mynd i'r t? haf ym mherfeddion cefn gwlad Ffrainc bob blwyddyn ers dyddiau coleg bellach un yn fyr. Mae Esyllt wedi marw, ond mae hi'n dal yno - yn dal i chwarae un cymeriad yn erbyn y llall, yn dal â'i gafael ynddyn nhw, efallai r?an yn fwy nag erioed. A fydd yna fyth ddianc rhagddi? Nofel afaelgar am ffrindiau a chariadon - am rywioldeb, twyll a chyfrinachau. Lewis, Siân Sgwid Beynon a'r Adenydd Angel. 2010. Read by Huw Charles Morris, 3 hours 47 minutes. TB 18196. Age Range 13+. Wrth chwarae snwcer yn y sièd un prynhawn, mae Sgwid Beynon yn gweld rhywbeth rhyfedd yn yr ardd drws nesa sy'n peri iddo adael ei gartref ym Mhencelyn a neidio ar y trên i Lundain. Yno, mae'r cwmni teils byd-enwog y mae tad Sgwid yn gweithio iddo, Stardust Tiles, yn lansio teils newydd - yr Angel Wings. Mae Sgwid am rybuddio Dustin Starr, y dyn ifanc sy'n berchen y cwmni ac a gynlluniodd y teils, o'r hyn a welodd e yn yr ardd. Ond pam mae'r dyn gyda gwallt slic a chroen fel lledr yn ei ddilyn bob cam i'r brifddinas? A pham nad yw'n gallu cysylltu â'i rieni? Mae Sgwid yn cael ei hun mewn sawl sefyllfa beryglus cyn cael yr atebion. Lewis, Sian Sgwid Beynon a'r dyn marw. 2010. Read by Huw Charles Morris, 3 hours 44 minutes. TB 18198. Age Range 13+ Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i Sgwid Beynon atal Dustin Starr rhag ffrwydro awyren Arlywydd Rwsia. Yn y cyfamser mae corff Dustin wedi cael ei ddarganfod yng Nghernyw. Felly, ac yntau yng Nghaerdydd am wythnos yn cael gwersi snwcer, does gan Sgwid ddim i boeni yn ei gylch. Tan i'w ffrind, Anna, gysylltu yn honni iddi weld Dustin yn fyw. O'r foment honno caiff Sgwid ei lusgo unwaith eto i fyd terfysgaeth a thwyll. rnib.org.uk Llewelyn, Haf Y Graig. 2010. Read by Sian Pari Huws. 4 hours 13 minutes, TB 18209. Ym Meirionnydd y lleolwyd y fferm fynyddig Y Graig. Mae'n fferm nodweddiadol Gymreig sy'n wynebu argyfwng dilyniant wrth i'r genhedlaeth iau ddilyn eu cwys eu hunain. Ond mae yna hefyd lu o gyfrinachau personol gan sawl aelod o'r teulu, ac yn raddol cânt eu datgelu, gan ailgodi creithiau o'r gorffennol sy'n rhoi dyfodol y fferm yn y fantol. Contains language which might be considered offensive Lloyd-Jones, D M Crefydd heddiw ac yfory. 1947. Read by Gerallt Jones, 2 hours 17 minutes. TB 14750. Nid oes angen ei gyflwyno i ddarllenwyr 'Llyfrau'r Dryw', oherwydd nid oes odid neb nas clywodd, naill ai yn y pulpud neu ar yr awyr. Wedi'i eni yn Sir Aberteifi, a myned yn gynnar i Lundain i astudio fel meddyg, daeth yn un o brif feddygon y brifddinas. Ond ni bu'n hir cyn gadael ei surgery ac esgyn y pulpud a dyfod yn un o bregethwyr mwyaf Cymru a Lloegr. Wedi tymor o waith caled a llwyddiannus yn Aberfan, Deheudir Cymru, aeth yn ôl I Lundain unwaith eto yn weinidog ar un o eglwysi mwyai y ddinas Westminster Chapel. Lloyd-Jones, D M Awdurdod. 1970. Read by Gerallt Jones, 3 hours 45 minutes. TB 15361. Os deallaf y sefyllfa grefyddol fodern o gwbl un o'r problemau pwysicaf sy'n ein hwynebn yw holl gwestiwn awdurdod. Lloyd-Jones, D M Llais y doctor: detholiad o waith cyhoeddedig Cymraeg. 1999. Read by Gerallt Jones, 6 hours 50 minutes. TB 14346. Detholiad o'i waith cyhoeddedig yn yr iaith Gymraeg gen feddyg a diwinydd, gweinidog ac esboniwr a gyhoeddir fel teyrnged i ddathlu canmlwyddiant ei eni. rnib.org.uk Lloyd-Jones, D M Dŵr yn yr anialwch. 1991. Read by Gerallt Jones, 41 minutes. TB 14749. Yn y bregeth hon, fe'n cyfeirir at yr unig fan lle y gallwn ddod o hyd I wir hapusrwydd a bodlonrwydd, a'r unig fan lle caiff ein holl anghenion eu gwir ddiwallu. Lloyd-Jones, David Martyn Ar gyfeiliorn. Read by Gerallt Jones, 52 minutes. TB 14763. "Mae yna rai pethau'n digwydd y dyddiau hyn sy'n ei gwneud hi'n fater o reidrwydd fod pob Cristion deallus yn gwybod rhywbeth am Babyddiaeth..." Yn y bregeth hon - un o gyfres ar 'gynllwynion y diafol' - trafoda'r Dr. Martyn Lloyd-Jones y gyfundrefn Babyddol a'i phrif gyfeiliornadau, gan ddangos mai'r unig ateb terfynol i Babyddiaeth yw pregetha pendant o'r gwirionedd Cristnogol ac athrawiaethau mawr y Diwygiad Protestannaidd. LLoyd, Rhiannon Llwybr gobaith: antur cymodi o Gymru i'r byd. 2005. Read by Rhiannon Lloyd, 5 hours 30 minutes. TB 14610. Yn ein bywyd cyfoes, prin bod llawer o feysydd sy'n fwy gwerthfawr a pherthnasol na maes cymodi rhyngwladol. Mae Rhiannon Lloyd yn arbenigo yn y maes hwnnw. Drwy arwain gweithdai cymodi yn Rwanda, llwyddodd Rhiannon I ddatblygu dull arloesol sydd bellach o ddiddordeb mawr i'r rhai sy'n gweithio ym maes cymodi. Ynt gyfrol hon i gydleu'r ias a'r antur a ddaeth i ran yr awdur wrth iddi fynnu rhoi ei ffydd Gristnogol ar waith. Llwyd, Alan Blynyddoedd y locustiaid: hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1919-1936. 2007. Read by Jini Owen, 14 hours 48 minutes. TB 15802. Cyfres hanes yr Eisteddfod Genedlaethol ; 2. Yr ail yn y gyfres 'Hanes yr Eisteddfod Genedlaethol'. Mae'r gyfrol hon yn trafod y blynyddoedd 1919-1936, un o'r cyfnodau mwyaf argyfyngus erioed yn hanes ein Prifwyl Genedlaethol. Dyma gyfnod y frwydr fawr rhwng dilynwyr a dilornwyr Iolo Morganwg a'i Orsedd y Beirdd. rnib.org.uk Llwyd, Iwan Hanner cant. 2007. Read by Iwan Llwyd, 44 minutes. TB 15874. Cafodd Iwan Llwyd ei alw'n 'fardd ei genhedlaeth' am y tro cyntaf ddeng mlynedd yn ol mewn adolygiad gan Robert Rhys yn Barn ar y gyfrol Dan Ddylanwad. Mae wedi cael ei alw felly droeon oddi ar hynny, a phrin yw'r neb ystyriol a anghytunai a'r gosodiad erbyn heddiw. Ac yntau'n troi'r hanner cant, dyma gyhoeddi cyfrol newydd o'i waith dan y teitl Hanner Cant, casgliad o gerddi y mae'r mwyafrif ohonynt yn gweld golau dydd am y tro cyntaf. Does dim dwywaith y bydd pob darllenydd yn cael blas ar Iwan Llwyd yn troi ei garreg filltir bersonol yn garreg filltir lenyddol werthfawr. Llwyd, Mared Aderyn brau. 2009. Read by Hywel Emrys, 4 hours 18 minutes. TB 18194. Age Range 9+ Mae Aderyn Brau yn dilyn hanes Megan wrth iddi orfod symud o gefn gwlad i ddinas Abertawe, a'r problemau sy'n codi yn sgil hynny - newid ysgol, rhieni'n gwahanu, ardal anghyfarwydd. Ond yn raddol mae'n sylweddoli nad yw pethau'n wael i gyd wrth iddi baratoi ar gyfer eisteddfod yr ysgol, creu perthnasau newydd a datgelu cyfrinach mae ei mam wedi cadw oddi wrthi. Llywelyn, Miriam Miri a mwyar ac ambell chwip din. 1992. Read by Jini Owen, 3 hours 14 minutes. TB 15147. Yn 'Standard Three', yn y cyfnod ar ol yr Ail Ryfel Byd, yr oedd Gwenno pan luniodd hi 'Llyfr Storis Gwenno Catrin Lewis, 14 Station Terrace, Portmadoc, Caernarvonshire'. Ynddo deuir wyneb yn wyneb a Mam a Dad, Taid a Nain, car a chymydo, yn gwlwm sicr i hogan fach. Ceir hefyd hanes ysgol a chapel, syrcas a sioe, gwersi piano a phictiwrs, chwarae ty bach mewn dybl-decar a mynd i Black Rock i ymdrochi, marwolaeth a Gei Ffocs. Y math o amrywiaeth y buasai John Gwilym Jones yn ei ddisgriffio fel 'marblen bob lliw'. Yn ei diniweidrwydd amheuthun y mae Gwenno yn cymysgu'r llon a'r lleddf, ond yr elfen gryfaf yw'r llawenydd o brofi pethau am y tro cyntaf. rnib.org.uk McBryde, Robin Y Cymro Cryfa: hunangofiant Robin McBryde. 2006. Read by Lyn Davies, 8 hours 3 minutes. TB 14880. Bu ennill gwobr 'Y Cymro Cryfa' yn boendod parhaus i Robin McBryde - cafodd ei herio a'i atgoffa o'r peth ar hyd ei yrfa. Ond atebodd bob her a goroesodd nifer o rwystrau i gyrraedd y brig gan ddangos cryfder cymeriad tu hwnt i'r cyffredin. Mair, Bethan Hoff gerddi serch Cymru. 2002. Read by Betsan Llwyd, 2 hours 4 minutes. TB 19014. Ar hyd y canrifoedd ceisiodd beirdd ddarganfod ffyrdd gwreiddiol a gwefreiddiol o ddatgan eu serch at eu cariadon, ac o fynegi eu torcalon pan âi'r serch hwnnw'n sych. Yn y gyfrol unigryw hon o gerddi serch gorau a mwyaf poblogaidd Cymru, dyma gyfle i chi gwtsho a chusanu, dyheu a dwlu, difaru a galaru gyda rhai o feirdd enwocaf Cymru. A yw eich hoff gerdd serch chi yma? Dewch i mewn am wledd o ganu cariadus a hiraethus i chwilio am yr un berffaith. "Mae brân i bob brân yn rhywle", medden nhw ac mae un o'r cerddi serch hyn yn sicr o fod yn addas i chi heddiw. Marks, Howard Cymru Howar Marks. 2010. Read by Huw Charles Morris, 2 hours 24 minutes. TB 19007. Quick reads. Teitl yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Ganed Howard Marks ym Mynydd Cynffig ond doedd fawr o gariad ganddo at Gymru na'r Gymraeg. Ac yn sicr, pan gafodd ei garcharu yn yr Unol Daleithiau, ac yntau'n brif smyglwr cyffuriau'r byd, doedd Cymru ddim yn rhy awyddus i'w arddel yntau chwaith. Ond mae ei berthynas â gwlad ei febyd wedi newid ers iddo gael ei ryddhau. Matthews, Gethin Richard Burton: seren Cymru. 2002. Read by J. O. Roberts, 11 hours 15 minutes. TB 18540. rnib.org.uk Matthews, E Gwynn Yr Athro Alltud: Syr Henry Jones 1852-1922. 1998. Read by R Alun Evans, 7 hours 40 minutes. TB 12122. Cofiant hir-ddisgwyliedig i fab i grydd o Llangernyw, gwerinwr Cymraeg a Methodist a ddaeth yn arloeswr ym myd addysg a rhyddfrydiaeth grefyddol, yn ogstal ag athronydd dylanwadol yng Nghymru a'r Alban. Medi, Nia Omlet. 2005. Read by Bethan Gwilym, 6 hours 50 minutes. TB 14366. Doedd gwyliau'r Ha' ddim wedi cychwyn yn dda iawn i Angharad Austin, athrawes 33 oed; roedd hi'n sengl eto, a dim i edrych 'mlaen ato ond parti plant bach ei chyfaill priod. Ond mae'n syndod be all ddigwydd dros blataid o goctel sosejis, sawl Sangria, a gêm o Twister. Ond gallai erwban, cyfeillion, cenfigen, cymdogion, cathod, celwydd a'r Corinth Canal - o, a thriniaeth colonie erchyll ddifetha'r cwbwl. Miles, Gareth Teleduwiol. 2010. Read by Hefin Thomas, 4 hours 43 minutes. TB 18212. Yn y nofel grafog hon am deulu o gyryng-gwn Cymraeg sy'n elwa drwy gynhyrchu rhaglenni crefyddol, mae'r dychan yn ddoniol ac anterliwtaidd ar brydiau. Mae stori gref yn tynnu'r cymeriadau at ei gilydd drwy gyfres o ddigwyddiadau dychmygol, sydd ar yr un pryd yn dal drych at y byd sydd ohoni. Morgan, D Densil Christmas Evans a'r ymneilltuaeth newydd. 1991. Read by D Densil Morgan, 7 hours. TB 13562. Dyma gofiant i'r pregethwr Christmas Evans (1766-1838) ac yn astudiaeth o'i le yn hanes Cymru'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n olrhain ei yrfa o'r ddechreuadau tlawd yng Ngheredigion, trwy ei weinidogaeth faith ym Mhen Llŷn, Ynys Môn, Caerffili, Caerdydd a Chaernarfon, hyd at ei daith olaf i'r De a'i farwolaeth yn nhref Abertawe. Dehonglir Evans fel pennaf cynrychiolydd y cyfnewidiad crefyddol a chhymdeithasol mawr a greodd y 'Gymru Ymneilltuol' ar ddechrau'r rnib.org.uk ganrif ddiwethaf. Bydd y Gyfrol yn gyfraniad i'n dealltwriaeth ni o gynfod holl bwysig yng nghreadigaeth y Gymru fodern. Morgan, Elin Llwyd Rhwng y nefoedd a Las Vegas. 2004. Read by Jean Evans, 5 hours 7 minutes. TB 14348. Dyma hanes Alys Palance, cymeriad lliwgar ac annwyl a all fod yn Blaen iawn ei thafod pan fo galw. Roedd Alys yn dipyn o rebel yn ei hieuenctid a chaiff drafferth derbyn ei bod yn tyfu'n hŷn ac yn ymbarchuso. Ond mae hon hefyd yn nofel am ei theuly, ei chydnabod a'i ffrindiau. Wedi'r ddamwain, daw cynnwrf wrth i'r ffin rhwng realiti a ffantasi raddol ddiflannu. Morgan, Elin Llwyd Mae llygaid gan y lleuad. 2007. Read by Jean Evans, 9 hours 23 minutes. TB 15151. Ar ol i'w chyn-gariad cenedlaetholgar ddiflannu, mae Ielena yn dychwelyd i'r coleg yn Aberystwyth i wynebu cwestiynau gan yr heddlu, bygythiadau gan stelciwr, a chyfyng gyngor wrth iddi gael ei rhwygo rhwng sawl meddwl a sawl dyn - yn eu plith y Ditectif Insbector Iestyn Morgan. Morris, Eleri Llewelyn Genod neis. 1993. Read by Bethan Gwilym. 3 hours 13 minutes. TB 10354. Dwsin o straeon syml ond treiddgar gan awdures sy'n meddu ar y ddawn I durio o dan wyneb ei chymeriadau i ddatgelu'r gwendidau, yr ofnau a'r siomedigaethau sydd wedi eu creithio. Nid cyfrol i god'r felan ar y darllenydd mohoni, fodd bynnag, gan fod ynddi ddigonedd o afiaith god'r a hiwmor yn ogystal â dirnadaeth ddofn o'r natur ddynol. Morris, Ifan G Atgofion hen filwr. 2005. Read by Dave Roberts, 7 hours 26 minutes. TB 14516. Wedi i mi ddod adref ar ôl i'r rhyfel orffen, bu llawer un yn fy annog I ysgrifennu peth o hanes y chwe blynedd y bûm yn y lluoedd arfog. Ond ceisio anghofio'r helynt yr oeddwn gorau medrwn, ond mi oedd hynny yn beth anodd iawn. Wel, erbyn heddiw a chyda rnib.org.uk threiglad y blynyddoedd maw'r cofio yn haws. Penderfynais fynd ati i ysgrifennu ychydig o'r profiadau. Myrddin ap Dafydd Hiwmor iwerddon. 1998. Read by R Alun Evans. 55 minutes. TB 11720. Yn y gyfrol hon cawn gasliad o hanesion ffraeth am yr Ynys Werdd, ei phobl a'i phethau sy'n adlewyrchu apêl hiwmor unigryw Iwcrddon atom ni'r Cymru. Noble, Roy Bachan Noble. 2001. Read by Lyn Davies, 3 hours. TB 13595. Dyma gyfrol fendigedig o hanesion a lluniau ar gyfer pawb sy'n hoffi hwyl, sy'n joio darllen am fywydau pobl erill ac sy'n meddwl y byd o Roy Noble, y bachan ei hunan. Yn ogystal â gweld gwledd o luniau o gasgliad personol Roy, cwech gyfle i ddarllen am y digwyddiadau a'r lleoedd yng Ngyhmru sy agosa at ei galon, lloedd a fu'n bwysig iddo fe'n fachgen ysgol, wrth ddechrau caru, wrth dyfu'n fwy adnabyddus ac wrth fynd o le i le yn cwrdd â chymeriadau difyr ar gyfer ei raglenni radio a theledu. Northey, Sian Chwaer fawr Blodeuwedd. 2008. Read by Rebecca Harries. 2 hours 51 minutes, TB 19467. Suggested reading age 13+. Roedd gan Flodeuwedd chwaer hŷn, ddim cweit mor dlws, ddim cweit mor berffaith. Dyma nofel i'r arddegau sy'n ymdrin â phethau sy'n bwysig I ferched ifanc - y genfigen a'r gystadleuaeth sy'n bodoli rhwng hyd yn oed y chwiorydd mwyaf cyfeillgar, a'r pwyslais cyson sydd ar ferched i fod yn hardd a thenau. Mae'n cyfuno chwedlau, bywyd heddiw a rhyw fymryn o hud a lledrith. Ogwen, John Hogyn o Sling.1996. Read by John Ogwen. 5 hours 38 minutes. TB 10873. Does na ddim llawer o gyfrinachau ar ol yn yr hen fyd ma, meddai John Ogwen ar ddechrau'r llyfr hwn. Eto i gyd faint ohonom a wyddai ei fod yn un o efeilliad? Ac nid pawb a wyr y gallai fod wedi ymuno a chlwb pel droed Nottingham Forest. Datgelir hynny a llawer mwy yn yr hunangofiant difyr hwn. rnib.org.uk Owen, Daniel Rhys Lewis. 1948. Read by Llewellyn Thomas, 13 hours. TB 664. Argraffiad newydd wedi'i olygu gan yr Athro Thomas Parry. Dywed yr awdur "nid I'r doeth a'r ddeallus yr ysgrifennais, ond i'r dyn cyffredin". Os oes rhyw rinwedd yn y llyfr, Cymreigrwydd ei gymeriadau ydyw hwnnw, a'r ffraith nad ydyw'n ddyledus an ei ddefnyddiau i estroniad. Owen, Daniel Y dreflan : ei phobl a'i phethau. 1881. Read by Gerallt Jones, 15 hours 6 minutes. TB 15626. A novel about key characters in a North Wales town of six to seven thousand inhabitants at the end of the nineteenth century. The novelist concentrates on the condition of religion and true religion in the locality, extracting both moral and spiritual lessons for the readers' benefit. Owen, Daniel Profedigaethau enoc huws. 1995. Read by Gerallt Jones, TB 15139. Yn ei ail nofel y mae Daniel Owen yn lledu ei adenydd ac yn mynnu ei ryddid fel nofelydd i ddarlunio cymdeithas nad oedd ei chymeriadau 'yn nodedig am eu crefyddolder'. Dwy wedd ar yr un cymeriad yw Capten Trefor ac Enoc Huws, a'r Capten a gaiff deimlo min llymaf dychan yr awdur. Prif wrthrych ei ddychan diarbed yw 'hymbygoliaeth' y dosbarth canol Victoraidd yr oedd ef ei hun yn aelod ohono, y rhagrith a oedd yn ysu calon y gymdeithas a adwaenai mor dda. Os yw ei weledigaeth yn brudd, y mae befyd gryn dipyn o hiwmor a chydymdeimlad yn y darlun dychanus hwm - a hyd yn oed elfennau o ffantasi. Wrth hawlio ei ryddid creadigol, ehangodd Daniel Owen ffiniau'r nofel Gymraeg a rhoes i ni ddadansoddiad o gymdeithas sydd yn gyfarwydd iawn i Gymry gan mlynedd ar ôl ei farw. Owen, Gwenda. Ymlaen â'r gân. 2003. Read by Jean Evans, 4 hours 54 minutes. TB 13599. Mae hi'n anodd diffinio beth yw seren, ond all neb ddadlau nad un o ser mawr diweddar byd canu ysgafn Cymru yw Gwenda Owen. rnib.org.uk Dyma gyfle i ddod I nabod y gantores a'r gyflwynwraig arbennig a dewr hon iddi adrodd ei stori unigryw am y tro cyntaf mewn cyfrol. Dyma stori afaelgar, deimladwy, hynod ogalonogol, am ymdrech merch gyffredin i oroesi, ond mae hefyd yn alori ysbrydoledig y ferch drws nesaf a ddaeth yn seren fanu pop Cymru, a hynny yn erbyn llawer o rwystrau, ballai ei stori hi fod yn stori bersonol i ni gyd. Ond mae hwenda'n seren, ac mae hynny'n pefrio drwy'r cyfan. Owen, Gwilym Crych dros dro. 2003. Read by Gwilym Owen, 5 hours 40 minutes. TB 13596. Cyfres y cewri; 27. Corddwr, holwr pigog, sgriblwr rhagfarnllyd a sinig crintachlyd. Dyna, mae'n debyg, ydi'r ddelwedd a greodd awdur y gyfrol hon iddo'i hun. Ond o ble daeth yr hen bloryn bach poenus yma sydd wedi bod yn dân ar groen y Sefydliad Cymreig ers degawdau? Oes yna rywbeth ynglŷn a'i gefndir, tybed, sy'n esbonio'i arddull a'r canfyddiad cyhoeddus ohono? Owen, Sian Mân esgyrn. 2009. Read by Betsan Llwyd, 8 hours 58 minutes. TB 18141. Yn 39 oed, dychwelodd Carol i ardal ei mebyd. Beth sy'n ei thynnu'n ôl: all hi esbonio hynny wrth ei merch? Fydd hi'n dod i ddeall hynny ei hun? Mae Helen yn y dref hefyd: methu gadael wnaeth hi. Ac am gyfnod, i weithio ar fynydd Parys, daw Luc. Luc ... Dros dridiau Gwyl y Llychlynwyr, bydd y pethau na chafodd eu dweud ers talwm a'r hanner dweud sy'n dal ym mywydau'r cymeriadau a'u teuluoedd, yn dod i'r wyneb. Beth oedd y berthynas rhyngddynt ddyddiau a fu? A beth yw adleisiau hynny heddiw? Nid oes dim yn amlwg na syml yn eu hanes. Contains strong language. [ Parri, Harri Rhyfel pen llŷn. 1992. Read by Telor H Iwan. 3 hours, TB 10003. Dyma'r ochr ddigri i galedi dyddiau rhyfel - rhoi pin ym malŵn biwrocratiaeth a'r cyfan wedi ei weu un ddoniol a chelfyd, ac mewn Cymraeg cyhyrog, gan un sy'n feistr ar ddweud stori. rnib.org.uk Parrott, Gwen Gwyn eu byd. 2010. Read by Garry Owen. 7 hours 20 minutes, TB 19023. Nofel ddirgelwch wedi'i gosod mewn pentref gwledig. Daw athrawes ifanc o hyd i ddau gorff mewn ffermdy yn sir Benfro, yng nghanol eira mawr 1949. Mae'r hyn a fu'n gyfrifol am eu marwolaeth yn amlwg i lawer o'r gymdeithas - ac yn gyfleus i eraill. Parry, Ann Lle henc eira llynedd? 1979. Read by Meinwein Parry, 6 hours. TB 4095. Parry, Geraint W Creithiau. 1991. Read by William Paganuzzi. 5 hours 20 minutes. TB 10377. Fel y tynnai'r Ail Rydfel Byd i'w therfyn, a byddinoedd y Sofietiaid yn dylifo i mewn Hwngari, gan yrru'r Natsïaid o'u blaenau ymddiriedwyd I offeiriad ifanc, y Tad Marc Towler, y dasg fawr o geisio diogelu rhai o geiriau mwyaf cysegredig yr Eglwys Gatholig yn Hwngari. Wrth geisio cyflawni'r dasg honno, mae'n cwrdd âg athrawes ifanc, Ann Zergov, a datblyga perthynas glos iawn rhyngddynt wrth geisio diogelu'r creiriau. Parry, Geraint W Sarff yn Eden. 1993. Read by Paul Griffiths. 5 hours 55 minutes. TB 10146. Nofel yw hon am fywyd gwenidog mewn pentref bychan yng nghefn gwlad Cymru yn cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Gobaith Alun Morris wrth dderbyn galwad i Abergwerno yw troi cefn ar ei brofiadau erchyll fel caplan yn y fyddin ac ymdaflu i fywyd prysur ond pleserus cymdeithas amaethyddol glos. Parry, Winnie. Sioned darluniau o fywyd gwledig Cymru. 2003. Read by Jean Evans, 10 hours 44 minutes. TB 13129. Clasuron Honno; 3. Cyhoeddwyd y nofel hon am y tro cyntaf ym 1906, ac ynddi cawn hanes merch ifanc ddireidus yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng nghymdeithas Anghydffurfoil, amaethyddol sir Gaernarfon. Cawn hanes ei helyntion gyda'I brawd a'i rhieni a'i hamryw gyfoedion, gan rannu ei hiraeth yn Llundain, ei hwyl wrth rnib.org.uk dynnu coes gwesteion a gweision y fferm, ei phryder pan gaiff ei brawd ddamwain, a'i phoen calon wrth iddi sythio mewn cariad. Parry-Williams, T H Ystorïau Heddiw.1938. Read by Llewellyn Thomas, 7 hours 15 minutes. TB 135. I'r darllenwr sydd yn hoff o stori fer dyma gasgliad a digon o amrywiaeth i fodloni pawb wedi'i ysgrifennu gan "hen ddwylo" a dechreuwyr. Payne, Mary Annes. Rhodd Mam. 2007. Read by Jean Evans, 4 hours 43 minutes. TB 15369. Pa sawl math o blant sydd? Dau fath, yn ôl y Rhodd Mam y mae Luned yn ei ddysgu yn y capel - plant da a phlant drwg. Ond nid bywyd du a gwyn felly mo bywyd Luned, oherwydd beth yw da? A beth yw drwg? Pierce Jones, Meinir. Lili dan yr eira. 2007. Read by Jean Evans, 11 hours 25 minutes. TB 15145. Mae hi bron yn Nadolig - ond nid yw'n teimlo felly in Nant, sy'n dychwelyd i'w hen gartref wedi marwolaeth ei thad, Doctor Cynfal. Fel ty doctor a syrjyri, lle i wella fu'r Glyn i bobl yr ardal, ond theimlodd Nant erioed yn rhan o'r 'ffatri fendio' deuluol. I'r gwrthwyneb yn wir; atgofion chwerw sydd ganddi o'r hen le, atgofion a drodd yn greithiau gydag amser. Ciliodd o'r Glyn yn bedair ar bymtheg oed, wedi methu yn ei huchelgais I fynd yn feddyg - ac yn feichiog. Phillips, Bethan Rhwng dau fyd: y swagman o Geredigion. 1998. Read by Jean Evans, 10 hours 30 minutes. TB 12076. Hanes bywyd lliwgar a thymhestlog Joseph Jenkins (1818-1898), ffermwr o Geredigion a ymfudodd i Awstralia am dros bum mlynedd ar hugain, gan hanesydd lleol cydnabyddedig, yn cynnwys dyfyniadau helaeth o'I ddyddiaduron diddorol tra oedd yn gweithio fel swagman yno. rnib.org.uk Phillips, Bethan Dihirod Dyfed: hanes chwe llofruddiaeth. 1991. Read by Arwel Jones, 3 hours 48 minutes. TB 16843. Hanes chwe llofruddiaeth a ddigwyddodd rhwng 1850 ac 1916 a geir yn y gyfrol hon. Mae yma amrywiaeth o straeon gydag ambell dro mewn cynffon, a sawl ias i lawr y meingefn! Phillips, Rhiain M Yn erbyn yr haul. 1995. Read by Helen Graville. 9 hours 5 minutes, TB 10849. Llyfr taith yn adrodd hanes ymweliadau Cymraes sylwgar â deunaw o ddinasoedd enwog ar hyd a lled y pum cyfandir. Pritchard, T Arthur Heddiw mae'n eiriol. 1977. Read by John Treharne, 1 hour 46 minutes. TB 16011. [A book that deals with the rare subject of the "Intercession of Christ".] Pritchard, Caradog Un nos ola leuad. 1965. Read by John Ogwen. 5 hours 45 minutes. TB 4125. Dyma un o glasuron llenyddiaeth Cynraeg yn yr ugeinfed ganrif. Nofel yw hon wedi'i seilio'n rhannol - ond nid yn uniongyrchol yn ol yr awdur - ar atgofion bore oes mewn pentref chwarelyddol yn ystod chwarter cyntaf y ganif hon. Pritchard, Elfyn. Pan ddaw'r dydd. 2003. Read by Helen Graville, 8 hours 20 minutes. TB 13124. Enillydd gwobr goffa Daniel Owen. Mae Eirwyn, athro Saesneg canol oed sy'n briod ers blynyddoedd a Cissie, yn teithio adref o'i waith yn ei gar un nos Wener wlyb, gan deimlo 'fod symudiad cyson y llafnau yn ddarlyn perffaith o'i fywyd o... Dim cynyrfiadau mawr, dim byd i dorri ar esmwythyd arferol bywyd, ar rythmau cyson byw a bod. Dim rhuthro gwirion chwaith, pob symbudiad dan reolaeth, pob gweithgaredd a gweithgarwch o fewn terfynau'. Ond, wrth i Eirwyn gyfarfod a Gwen Carter, mae pethau'n newid am byth. Twyll, hen thema oesol, sy'n sail i'r nofel hon, ond pwy, yn y pen draw, sy'n twyllo pwy? rnib.org.uk Puw, Dan Dyn y Parc. 2006. Read by Dan Pugh, 9 hours 27 minutes. TB 16198. Hunangofiant Dan Puw, cymeriad o'r Parc ger y Bala a ffigwr amlwg ym myd cerdd dant Cymru. Raine, Allen Lle treigla'r don. 1964. Read by Beryl Stafford Williams, 7 hours 45 minutes. TB 285. Nofel ramantus arall wedi'i gyfieithu o'r Saesneg gan Megan Morgan ac yn cynneys yr un apel at y galon yn y ddwy iaith. Raine, Allen Myfanwy. 1960. Read by Beryl Stafford Williams, 9 hours 15 minutes. TB 286. Cyfieithiad o'r Saesneg (A Welsh Singer) gan Megan Morgan. Y mae yn t nofel bopeth i swyno, cefndir o fywyd syml mewn ardal wledig hardd, symud cyflym i ferw byd sioe a byd y cyngerdd ac uwchben popeth, bersonoiaeth ddeniadol y prif gymeriad. Rhys, Dewi Hiwmor y Cofi. 2009. Read by Dewi Rhys, 1 hour 33 minutes. TB 16842. Cyfres ti'n jocan. Co Dre, Co Wlad, Co Bach, Co Mawr a phob Cofi arall - straeon amdanoch chi sy'n y gyfrol hon. Ceir straeon difyr am gymeriadau Caernarfon, yr iaith unigryw a'r dywediadau ffraeth sy'n rhan o hiwmor y dre, ac ambell stori wir am yr awdur (medda fo!). Rhybudd i ambell gomediwr ac actor enwog - well i chi beidio a darllen y llyfr! Rhys, Dulais. Joseph Parry: bachgen bach o ferthyr. 1998. Read by Cledwyn Jones, 8 hours 25 minutes. TB 12254. Yn y gyfrol hon, daw Dulais Rhys o hyd i wir hanes eilun cerddorol Cymru yn Oes Fictoria. Roedd Joseph Parry yn ddyn amryddawn yn gyfansoddwr ac yn arweinydd, yn unawdydd ac yn gyfeilydd, yn feirniad ac yn athro, yn awdur ac y ddarlithydd - a llwydda Dulais Rhys i gyflwyno portread crwn sy'n cwmpas pob agwedd ar fywyd amrywiol un o ffigurau diwulliannol pwysicaf Cymru. rnib.org.uk Rhys, Manon Rara avis. 2005. Read by Jean Evans, 13 hours 35 minutes. TB 14577. Aderyn prin - rara avis - yw Branwen Dyddgu Roberts. A hithau'n byw yn un o gymoedd glofaol y de yn yr 1950au. Trwy gyfrwng bydolwg hynod Branwen a'i lleisiau amrywiol, ddoe a heddiw, dadlennir ei stori ddirdynnol – ond un sydd, trwy'r cyfan, yn byrlymu o hiwmor rhyfeddol. Rhys, Maureen Prifio. 2006. Read by Maureen Rhys, 4 hours 36 minutes. TB 14899. Yn y gyfrol arbennig hon cawn olwg y tu ôl i'r llenni ar fywyd un o actoresau gorau a mwyaf adnabyddus Cymru. Roedd awgrym ysgafn Stewart Jones yn rhyfeddol o ddadlennol, oherwydd mae gwreiddiau Maureen Rhys yn ddwfn iawn yng Nghwm-y-Glo yn Eryri. Oddi yno y tyfodd y ferch hardd bryd dywyll yn actores lwyddiannus ar lwyfannau'r wlad ac ar y sgrin fach. A hithau'n fam i dri o hogiau ac yn wraig i un oactorion mwyaf adnabyddus Cymru, cawn weld sut y cyfunodd yrfa heriol â gofalu am deulu. Richards, Carys Bywyd du a gwyn. 1997. Read by Helen Graville, 5 hours 20 minutes. TB 13560. Mae Mair Steedman yn briod â meddyg, Tomos, ae mae ganddynt un mab, Daniel, sy'n mynd i ysgol breswyl heb fod ymhell o'u cartref mewn pentref hyfryd ar y gororoau rhwng Cymru a Lloegr. Daw mam fedydd Daniel, Isobel, sy'n gweitithio i gyhoeddwr yn LLundain, i aros efo'r teulu. Daw ymwelydd arall i'r cartref, sef Talbot Mytton, dyn diddorol sydd hefyd yn gweithio yn Llundain, mewn amguedffa. Aiff Mair i weld ei rhieni ym Mhenarth; aiff i Lundain; aif i'r Eidal ar ei gwyliau, ac aiff, yn aml, i weld Castell Stokesay, ger ei chartref. Rhaid i Daniel newid ei yesgol; cyn hir, mae'r cymeridau'n wynebu sefyllfa wyllt, hollol annisgwyl, sy'n gwyrdroi eu bywydau, oedd yn ymddangos mor gyfforddus a diogel. rnib.org.uk Richards, Emlyn. Pregethwrs Môn. 2003. Read by Emlyn Richards, 11 hours 18 minutes. TB 13559. Hwyrach ei bod yn ddigon gwir fod pregethwyr yn fwy o arwyr i'r werin ym Môn nag mewn unrhyw ran arall o'r wlad ac, yn y gyfrol hon, cawn hanes deg ohonynt, yn cwmpasu diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif ar ei hyd. Mae rhai ohonynt, megis Emlyn John, Owen Richard Parry, Emrys Watcyn Thomas a John Rice Rowlands, yn dal i esgyn i bulpudau'r ynys a thu hwnt, ac yn adnabyddus i lu o addolwyr. Cawn yn y gyfrol hon y dwys, y difyr a'r doniol ac fe gawn hefyd ddarlun cyflawn o'r gymdeithas wrth i'r awdur dwrio i gefndir ei wrthrychau, a'u cysylltiadau teuluol, a'u nodweddion arbennig, boed y rheiny fel y bônt. Richards, Emlyn Potsiars môn. 2001. Read by Emlyn Richards, 7 hours 35 minutes. TB 13354. Mae "Potsiars Môn" yn ymgais i ddiogelu hanes un o grefftau nodweddiadol cefn gwlad. Dilynodd yr awdur eu llwybrau gwyrgam, o'r llwyni i'r llysoedd a hyd yn oed i'r llwyfan. Roedd rhyw elfen ramantus yn perthyn iddynt; enynnent gydmdeimlad y werin ond, yn naturiol, roedd y tirfeddianwyr cefnog yn eu casáu. Ond nid pobl yr ymylon yn unig oedd yn potsio: yn wir daliwyd offeiriad yn potsio petris ar un o stadau mwyaf Môn! Richards, Emlyn O'r lon i fon: bywyd a gwaith Emlyn Richards. 2006. Read by Emlyn Richards, 6 hours 50 minutes. TB 14866. Ers ugain mlynedd a mwy, bu Emlyn Richards yn cofnodi'n ddiwyd hanes peth wmbredd o gymeriadau diddorol o Fon ac o Lyn. O's diwedd, dyma gyfle inni gael cip ar fywyd a gwaith y difyrraf ohonyn nhw i gyd - fo'i hun! Yn dilyn ei hunangofiant hwyliog, cawn deyrngedau cynnes iddo gan saith a wyr yn dda am ei ddoniau amrywiol, yn ogystal a phytiau byrion, blasus o'I gyfrolau blaenorol. Richards, Emlyn Porthmyn Môn. 1998. Read by Emlyn Richards, 24 hours 51 minutes. TB 12085. Roedd yr ynys yn anghysbell, ei phobl yn dlawd a'r amaethu'n ddigon cyntefig. Ond er hynny fe ddechreuwyd gwerthu cig eidion rnib.org.uk Ynys Môn yn ol yn yr Oesoedd Canol, gan arlwyo bwrdd brenin ac uchelwyr yn eu tro. A dyma'r porthmyn cyntaf yn cychwyn ar daith y canrifoedd ar y llwybrau unig. Gyda'r blynyddoedd fe fu galw cyson am gig eidion campus yr ynys. Richards, Gwenda Cyn diffodd y gannwyll. 1998. Read by Gwen Ellis, 3 hours 8 minutes. TB 12119. Nofel ar ffurf dyddiadur dychmygol Elin Glyn o Lŷn, 1658 - 1672, gwraig deyrngar y Parchedig Henry Maurice, offeiriad yn Eglwys Loegr a droes yn bregethwr anghydffurfiol ar ol profi tröedigaeth. Derbyniodd y gyfrol gymeradwyaeth uchel yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfor Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 1997. Roberts, Cefin Cymer y seren. 2009. Read by Sara Harris-Davies, 5 hours 46 minutes. TB 18211. Mae Emrys Pritchard wedi bod yn ei feio'i hun byth ers diflaniad ei unig ferch, Mari Lisa - cannwyll ei lygad - ac mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth iddo ar ôl i Carys, ei wraig, ei adael. Ond pan ddechreua dderbyn cyfres o negeseuon testun annelwig ac eitha brawychus ar ei ffôn symudol, mae'n gwbwl sicir fod â wnelo'r rheiny rywbeth â diflaniad ei ferch. Mewn cyfres o ddigwyddiadau gwirioneddol afaelgar ac ar drywydd sawl dirgelwch, mae'r awdur yn mynd â ni o bentref bach tawel yn Arfon i un o ddinasoedd mwyaf rhamantus Ewrop. Roberts, Eigra Lewis Rhannu'r tŷ. 2003. Read by Bethan Gwilym, 7 hours 13 minutes. TB 13358. Ystyr yr enw 'Bethesda' yn y Beibl yw 'tŷ tangnefedd' - eironig iawn, o ystyried nad yw'r pentre yng nghysgod y chwarel yn Nyffryn Ogwen yn lle tangnefeddus o gwbl adeg y Streic Fawr. Wrth i Gymdeithas Bethesda gyfan gael ei rhannu, all neb sefyll o' neilltu. Gall ambell un ddal yn gadarn wrth y gred mai rhyfel cufiawn yw'r streic a bod Duw o'u plaid. rnib.org.uk Roberts, Eigra Lewis Carreg wrth garreg. 2007. Read by Bethan Gwilym, 7 hours 33 minutes. TB 15144. Lleolwyd y nofel flaenorol ym Methesda, ond mae'r nofel hon yn cwmpasu Bethesda a'r Blaenau. Fel streic Chwarel y Penrhyn, gadawodd y rhyfel ei ôl ar y teuluoedd a'r gymdeithas. Roberts, Eigra Lewis Streic: dyddiadur Ifan Evans, Llwybrmain, Bethesda, 18991903. 2004. Read by Casi Wyn, 4 hours 20 minutes. TB 15047. Fy hanes i. Dyddiadur cyffrous (1899-1903) bachgen ifanc yn cofnodi cyfnod cythryblus yn ei fywyd yn ystod Streic Fawr chwarel y Penrhyn, effeithiau newyn a thlodi ar y gymuned ym Methesda, a'r torcalon a barwyd gan streic a wnaeth elynion o gymdogion. Roberts, Elwyn Er gwell er gwaeth. 2003. Read by John Gwilym Jones, 3 hours 56 minutes. TB 13360. Brodor o Arfon yw'r Hybarch Elwyn Roberts, cyn-Archddiacon Bangor ac hynny. Wedi cyflwyno ei deulu o'r ddwy ochr, mae'n adrodd ei hanes yn blentyn ym Mhentir a'r Felinheli, ei addysg ym Mangor, Rhydychen a Llandaf, ei ordeinio a'i brodfiadau fel curad, darlithydd mewn coleg diwinyddol, offeriad plwy ac Archddiacon. cawn gipolwg ar broblemau a thrafferthion bywyd offeriad, cyfarfod â chymeriadau diddorol, cymryd rhan mewn sefyllfaoedd trist a dwys yn ogystal ag mewn ambell anturiaeth, a thrwy'r cyfan i gyd fwynhau synnwyr digrifwch iach a diniwed yr awdur. Mae'n llyfr difyr, hynod ddarllenadwy. Roberts, Eigra Lewis Hi a fi. 2009. Read by Erica Williams, 7 hours 5 minutes. TB 18205. Ffestiniog Nofel rannol hunangofiannol gan un o brif lenorion Cymru. Nofel o fewn nofel a geir yma, yn cydio'r heddiw a'r ddoe. Ar ddechrau'r nofel, mae'r awdures yn gweithio ar gyfrol o storïau byrion, ond daw ymweliad annisgwyl Nesta, hen ffrind ysgol iddi, i darfu ar hynny ac i ddeffro'r cof am y ddoe. Yn cydredeg â'r atgofion, mae stori Nesta, sy'n symud yn ôl i fyw i Flaenau Ffestiniog. rnib.org.uk Roberts, Emlyn Ar drywydd y duwiau. 2010. Read by Grahame Davies, 8 hours 51 minutes. TB 18207. Mae'r Ddinas Aur dan ddaear, ac yn ôl yr awdurdodau does dim ar yr Wyneb bellach. Ond mae eraill yn taeru mai yno mae'r Duwiau yn byw. Gan bwy mae'r gwirionedd? Pan fydd Sbargo'n penderfynu helpu'i chwaer i ddianc rhag ei thad, bydd y daith i'r Wyneb - o'r Ddinas Aur i'r Geudwll, ac o Borth Goleuni i gopa Mynydd Aruthredd ei hun - yn un anturus a pheryglus, yn llawn gweledigaethau a gwallgofrwydd. Mae 'na rialtwch ac mae 'na gariad - ond dyw angau byth yn bell. Ac mae un cwestiwn yn aros: hyd yn oed os yw'r Duwiau'n bodoli, pa mor ddoeth yw ceisio dod o hyd iddynt? Roberts, Ernest Ar Lwybrau'r gwynt. 1965. Read by Ernest Roberts, 4 hours. TB 2902. Roberts, Guto Y fo - Guto. 2000. Read by Arwel Jones, 7 hours 45 minutes. TB 14300. Os bu'r gair amryddawn yn addas i rywun erioed, Gruffydd Ellis Roberts oedd hwnnw: actio, arlunio, barddoni, ysgrifennu, golygu, gwneud fideo, coginio, ymchwilio, trfnu, gwerthu, llythyru, ymgyrchu. Gwelai fylchau i'w llenwi o hirbell a bwriai iddi i wneud rhywbeth yn eu cyich ar fyrder. Heddiw. Rŵan hyn. 'Wnâi fory mo'r tro. A gwae'r sawi a fynnai anghytuno neu laesu dwylo. Doedd hi ddim yn anodd troi'r droll. Roberts, Grace Adenydd glöyn byw. 2010. Read by Betsan Llwyd. 13 hours 20 minutes. TB 19021. Mae nain, mam a merch yn byw o dan yr unto. Wrth ddilyn eu helyntion dros flwyddyn, cyflwynir golwg gadarnhaol ar bosibiliadau bywyd - cyhyd â bod y glöyn byw hwnnw'n ofalus. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent, 2010. rnib.org.uk Roberts, Ioan Rhyfel ni: profiadau Cymreig o ddwy ochr Rhyfel y Falklands Malvinas. 2003. Read by Ioan Roberts, 5 hours. TB 13357. I rai yng Nghymru ac ym Mhatagonia roedd rhyfel De'r Iwerydd yn rhyw fath o ryfel cartref. Mae'r gyfrol hon yn adrodd profiadau milwyr Cymreig y ddwy ochr, gan gynnwys - Milwr Cymreig o Ariannin a nyrs O Gymru yn cyfarfod mewn eglwys ym Mhort Stanley; Disgynnydd Michael D Jones a ddaeth yn llaid Radio Malvinas; Hunllef aelod o'r Gwarchodlu Cymreig a achubwyd o'r Sir Galahad; Galar dau deulu a gollodd fab. Beth yw teimladau'r Gwladfawyr 21 mlynedd wedi'r rhyfel? A beth am bywyd Cymraeg ym Mhatagonia heddiw? Roberts, J O Ar lwyfan Amser. 2005. Read by J O Roberts, 7 hours 38 minutes. TB 14503. Cyfres y cewri; 29. Cewch yma ddilyn hynt a helynt bywyd byrlymus a gyrfa liwgar yr actor enwog - o Lerpwl i Fôn, o'r Aifft i'r 'Normal', o'r llwyfan i'r sgrin deledu ac o ganu i golff. Roberts, Jamie Jamie : y Llew yn Ne Affrica. 2010. Read by Garry Owen. 1 hour 36 minutes, TB 19008. Teitl yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Dyma gyfrol sy'n dilyn gyrfa ddisglair un o chwaraewyr gorau Cymru a'r Llewod yn 2009, Jamie Roberts. Mae Jamie hefyd â'i fryd ar fod yn feddyg; mae'r gyfrol yn edrych ar y modd mae'n cyfuno ei addysg gyda'i statws fel un o arwyr pennaf rygbi Cymru. Roberts, Kate Traed Mewn Cyffion. 1936. Read by Rhiannon Williams. 6 hours 30 minutes. TB 4434. Hanes teulu o chwarelwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, sy'n adlewyrchu caledi a dioddefaint gwerin Cymru. Roberts, Kate Y Lon Wen: darn o hunangofiant. 2009. Read by Megan Tomos, 8 hours 4 minutes. TB 17651. Clasur o gyfrol hunangofiannol gan Kate Roberts wedi'i haddasu gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke. Yn unol â rnib.org.uk thraddodiad yr hunangofiant Cymraeg, cyflwyna Kate Roberts gymuned yn hytrach nag unigolyn i ni. Bydd y testun CymraegSaesneg cyfochrog hwn yn swyno darllenwyr yng Nghymru a thu hwnt. Roberts, Kate Ffair gaeaf. 2000. Read by Medi Wilkinson, 3 hours 33 minutes. TB 15731. Short stories Roberts, Kate Te yn y Grug: cyfrol a storïau byrion. 1963. Read by Oswald Griffiths, 3 hours. TB 96. Nifer o storïau am blant (ond nid i blant o angenrheidrwydd) yn byw ar lechweddau mynyddoedd Sir Gaernarfon yn nhro'r ganrif. Trwy feddyliau a siarad y plant cawn gip clir a chynnil ar eu rhieni a phobl eraill yr ardal. Roberts, Kate Stryd y glep. 1949. Read by Norah Jones, 3 hours. TB 97. Stori hir fer ar ffurf dyffiadur. Digwydd y stori yn un o'r blynyddoed yn union o flaen rhyfel 1939-45. Roberts, Kate Y byw sy'n cysgu. 1956. Read by Ena Jones. 9 hours 15 minutes. TB 4466. Roberts, Kate Hyn o fyd: llyfr o storïau. 1964. Read by Magwen Lloyd Williams. 2 hours 36 minutes. TB 11496. Cyfrol yn cynnwys pump o storïau gwahanol o ran ey cynllun a'u naws gan ddehonglydd mwyaf amryddawn y stori fer Gymraeg. Roberts, Lleucu Annwyl Smotyn bach. 2008. Read by Lleucu Roberts, 4 hours 15 minutes. TB 15803. Nofel wedi'i gosod yn y dyfodol lle mae'r Brawd Mawr yn cadw llygad ar bopeth, yn dilyn ymgais mam feichiog i ddianc ac ymladd yn erbyn y drefn. rnib.org.uk Roberts, Lleucu Troi clust fyddar. 2005. Read by Lleucu Roberts, 4 hours 15 minutes. TB 14762. Ar drên i Lundain, mae Siw'n hel meddyliau am ei pherthynas â'i gŵr Pete, a'r cyfeillgarwch a fu rhyngddi a Nol a Dan. Ar yr un daith, mae Mandy'n cnoi cil dros ei gorffennol hi a'i brawd, Stiw, a'r hyn fydd yn eu hwynebu wrth ofalu am eu nain. Ar daith wahanol i'r un lle, mae Pete yn llawn gobaith am ei ddyfodol ef a Siw ei wraig. Roberts, Lleucu Siarad. 2011. Read by Enid Hughes. 4 hours 7 minutes. TB 19477. Suggested reading age 13+ Roberts, Margiad 'Sna'm llonydd i' ga'l! 1987. Read by Cledwyn Jones. 5 hours 58 minutes. TB 10065. Yn 1986 dim on bron i 2%, 'b'allu, o boblogaeth Cymru, cedd yn ffarmio. Da chi'n synnu? Roberts, O M Oddeutu'r tân. 1994. Read by Trevor Jones. 5 hours 6 minutes. TB 10408. Fe'm ganwyd ar yr wythfed ar hugain o Fawrth 1906 mewn bwthyn o'r enw Glyn Arthur ym mhlwyf Llanddeiniolen. Fy nhaid tad fy mam, oedd wedi codi'r ty ar o cael darn o dir ar rent gan deulu'r Faenol, tirfeistri'r ardal. Ond wedi rhai blynyddoedd, aeth y bwthyn yn eiddo i'r stad. Erbyn fy ngeni i, roedd fy nhad yn gorfod talu rhent am dy godasa fy nhaid. Dyna'r drefn fileining a fodolai. Roberts, Selyf Wythnos o Hydref. 1965. Read by J O Roberts, 8 hours 30 minutes. TB 83. Nofel gyffrous yn cynnwys dirgelwch, problemau dyrys a gwir werth cariad ac apel arbennig i'r darllenydd cyffredin sy'n chwilio'n bennaf am stori dda. rnib.org.uk Roberts, Selyf Cyfrinach Mai. 1994. Read by Mari Jones, 6 hours 10 minutes. TB 12080. Ar ddamwain y cyfarfu Emrys a hi y tro cyntaf, ond esgorodd hynny ar gyfnod yn ei fywyd a brofodd yn ddiddorol ac yn ddadlennol. Yn ddadlennol am fod ei gyfaill Rhisiart wedi dewis dilyn, gyda thrwyn newyddiadurwr, drywydd a ddatguddiodd yr hyn a oedd yn gyfrinach i bron bawb - ond iddi hi. Roberts, Sioned Gofal yr haf. 1966. Read by M Parry, 4 hours 45 minutes. TB 2373. Roberts, T D Bara Brith I De. 1992. Read by Nia Dryhurst. 3 hours 42 minutes. TB 10076. Croesawn gyfrol arall o sy'n dwyn yr un nodweddion a'r rhai a rhai a welwyd yn Bara Llaeth i Frecwast. Mae Mr T Dryhurst Roberts ar ei orau yn Portreadu' cymeriadau gwreiddiol a adnabu, gan gofnodi ambell ddywediad bachog a gwreiddiol o'u heiddo amlyga ddawn dranodydd ar brydiau a thrwy oriel y portreadau hynny llwydda i ddarlunio bywyd bro, darnau o hanes, dull o fyw a ddarfu bellach o't tir. Roberts, W H Aroglau Gwair. 1981. Read by J O Roberts. 7 hours 45 minutes. TB 5035. Yn yr gyfrol yng Nghyfres y Cewri, daear Môn yw'r cefndir gyda'r awdur - a adnabuwyd fel darlledwr, actor ac adroddwr - yn son am ei ddyddiau'n blentyn yn sugno o faeth y tir. Llifa naws yr hen fywyd trwy'r llyfr wrth i W H son am ddifyrrwch teuluaidd, hen feddiginiaethau, chwareuon plant, cynaeafau gwair ac yd, creffwyr, cymeriadau, ac yn nes ymlaen yn codi ei bac a hel ei draed am yr India bell. Sam, Wil Mân bethau hwylus. 2005. Read by Stewart Jones, 3 hours 15 minutes. TB 14579. Wrth ddarllen yr atgofion hynod ddifyr yma, cewch oleuni newydd ar y fro a fu'n faeth i Wil Sam, un o'n hawduron mwyaf: awdur sy'n rnib.org.uk cwyno fod ei arddwrn 85 oed yn dechrau nogio, ond un sydd â'i gof a'i athrylith mor sionc ag erioed. Selwood, Nansi Y rhod yn troi. 1993. Read by Kathline Hughes. 7 hours 54 minutes. TB 10342. Dilyniant i'r nofel Brychan Dir, sydd unwaith eto'n codi'r llenni ar olygfeydd o gyfnod Cromwell. Steffan Ros, Manon Hunllef. 2012. Read by Branwen Gwyn. 2 hours 2 minutes. TB 19576. Steffan Ros, Manon Trwy'r tonnau. 2009. Read by Rachel Isaac. 5 hours 15 minutes. TB 19470. Suggested reading age 9+ Yn y dilyniant hwn i'r nofel Trwy'r Darlun, mae Cledwyn, Siân a Gili Dŵ'n cael antur arall. Mae Trwy'r Tonnau yn datrys mwy o ddirgelion am eu rhieni a chawn gwrdd â chymeriadau newydd sbon. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2010. Stevens, Mari Sian Yani. 2009. Read by Elin Leyshon, 3 hours 45 minutes. TB 18138. Age Range 9+ Mae Gwawr yn teithio i Awstralia i ymweld â'i thad dros y Nadolig. Teimladau cymysg sydd ganddi wrth gyfarfod â'i theulu newydd yno. Ar ôl cwrdd â Mani ac Anti Helen daw i ddysgu am draddodiadau, diwylliant a chwedlau lliwgar y wlad. Ond mae rhyw atgasedd yn berwi o dan yr wyneb a dyw Gwawr ddim yn siwr pam. Mae hi a Mani'n benderfynol o roi stop ar gynllwyn a all dynnu enw Mani drwy'r baw. Ond rhaid aros tan nos Galan, a'r Gala Flynyddol ar draeth Bondi. Thomas, Dafydd Whiteside Chwedlau a choelion godre'r Wyddfa. 1998. Read by Dafydd W Thomas. 1 hour 32 minutes. TB 11727. Dyma gasgliad cryno o chwedlau a choelion godre'r Wyddfa a fydd yn sicr o apelio at bawb sy'n ymddiddori mewn llen gwerin. Cyfeirir at y Tylwyth Teg, cewri a chawresau, y cysylltiadau Arthuraidd, meini a cherrig anferth, ffynhonnau arbennig a llwybrau rnib.org.uk tanddaearol. Cynhwysir hefyd luniau pensel gan Islwyn Williams a phump o fapiau sy'n gymorth i leoli'r cyfan. Thomas, Gwyn Bronco. 2008. Read by Gwyn Thomas, 5 hours 25 minutes. TB 15806. Un ar ddeg o straeon byrion. Dyma gasgliad o straeon digri, difyr a doniol am gymeriadau bythgofiadwy - cyfrol i ddarllenwyr sydd bron o'u co'! Thomas, Gwyn Bywyd bach. 2006. Read by Gwyn Thomas, 6 hours 11 minutes. TB 14932. Wrth ddilyn yma hynt a helynt rhan o fywyd y bardd a'r ysgolhaig, Gwyn Thomas, cawn hefyd ddarlun byw o gyfnod, a hwnnw'n gyfnod unigryw. Ni welir byth eto gymdeithas Gymraeg, Anghydffurfiol, ddiwydiannol debyg i'r un y bu ef yn rhan ohoni ym Mlaenau Ffestiniog, a dyna sy'n gwneud y llyfr hwn yn gofnod mor angerddol a phwysig yn hanes ein cenedl. Y mae chwerthin a dagrau, gorfoledd a dwyster cymedeithas gyfan yma, a threiddgarwch ac anwyldeb yr awdur yn pefrio trwy'r cyfan. Thomas, Gwyn Y Mabinogi. 1992. Read by Mari Jones, TB 11771. Ceir yma fyd o ryfeddodau, anturiaethau, dirgelion, a hud a lledrith. Y mae yma gymeriadau cyfareddol sydd wedi tyfu'n rhan o ddychymyg ac o gof ein pobl. Gwna'r pethau hyn y chwedlau yma'n rhai o straeon mawr y byd. Tomos, Angharad Si hei lwli. 1991. Read by Bethan Gwilym, 3 hours 10 minutes. TB 8878. Nofel buddugol Eisteddfod 1991. Fedel lenyddiaeth. Merdi yn mynd ar daith mewn car gyda Begw, hen wraig ffwndrus, ac yn hel atgofion am eu perthynas dros y blynyddoedd. rnib.org.uk Tomos, Angharad Cnonyn aflonydd. 2001. Read by Angharad Tomos, 8 hours. TB 13123. Cyfres y Cewri; 23. Angharad Tomos yw'r ferch gyntaf yng Nghyfres y Cewri a phrin fod neb mwy teilwng. Er iddi ddod i'r amlwg gyntaf fel ymgyrchwraig ddigyfaddawd dros y Gymraeg datblygodd hefyd i fod yn llenor disglair gan ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yn 1991 am ei nofel 'Si hei Lwli' ac eto yn 1997 gyda'i nofel 'Wele'n Gwawrio'. Y mae hi hefyd, wrth gwrs, wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant yng Nghyfres Rwdlan. Mae'n hyw yn Mhen-y-groes, Arfon gyda'i gwr, Ben. Tomos, Angharad Sothach a sglyfath. 1993. Read by Mari Gwilym. 4 hours 10 minutes. TB 11636. 8-11 yrs Dydi plant bach da ddim yn darllen amdanyn nhw, heblaw am ambell blentyn bach da busneslyd fel Sniffyn sy'n anufuddhau i'w fam drwy droi tudalen arall o'r llyfr yn lle mynd i'w wely. O ganlyniad, mae Sglyfath yn ei gipio fel porthor yn ei got wely a'i slipars. Mae'n darganfod cyn bo hir nad ef yw'r unig garcharor yn Gyrn Wigau. Tomos, Angharad Titrwm. 1994. Read by Jean Evans. 3 hours 31 minutes. TB 10799. Barddoniaeth sydd yma mewn gwirionedd. Y thema waelodol yw mai trwy eiriau'r ydym yn byw, mai chwedlau yw'n bywydau, ac mai darllen ein gilydd a wnawn. Tomos, Angharad Hen fyd hurt. 1982. Read by Rhiannon Rowlands. 2 hours 11 minutes. TB 10004. Nofel am ferch yn gadael coleg ac yn cael ei dadrithio gan argyfwng yr iaith a diweithdra new iddi glywed llasi Llywelyn yn ei hannog I weithredu. rnib.org.uk Tomos, Dewi Straeon Gwydion: casgliad o straeon gwerin Dyffryn Nantlle a'r cylch. 1990. Read by Beryl Jones, 2 hours 20 minutes. TB 15719. Mae straeon da yn cael eu hadrodd a'u hailadrodd. Yng Nghymru, mae gennym rai straeon sydd ymhell dros fil o flynyddoedd oed, ond maent gystal straeon nes eu bod un genhedlaeth wedi'u hadrodd wrth y nesaf ar hyd y canrifoedd. Y rhain yw ein straeon gwerin. Prin fod ardal yng Nghymru sy'n gyfoethocach yn ei thraddodiad o adrodd straeon na Dyrryn Nantle a'r cylch. Mae rhai o anturiaethau'r Mabinogi wedi'u lleoli yno, mae stor o straeon tylwyth teg a hud a lledrith yn perthyn i'r ardal ac mae yno straeon serch a rhyfel yn ogystal. Casgliad o straeon gwerin y fro ryfeddol honno a geir yn y gyfrol hon, y cyfan wedi'u hailadrodd o'r newydd gan frodor o'r cylch. Treharne, John Geiriau ffydd: 100 o fyfyrdodau yn seiliedig ar rai o eiriau mwyaf cyfarwydd Iesu. 2007. Read by John Treharne, 9 hours 59 minutes. TB 14888. Casgliad o fyfyrdodau gwreiddiol ar 100 o adnodau a dywediadau mwyaf cyfarwydd Iesu. Fe'u tynnir o'r Efengyl, yr Actau ac o Lyfr y Datguddiad. Rhoddir ychydig o gefndir i bob adnod ac esboniad o'r cyd-destun. Dyfynnir o'r Beibl Cymraeg Diwygiedig Newydd oni nodir yn wahanol. [A collection of complemplations on 100 verses and sayings by Jesus. They are drawn from the Gospel, the Acts and from the Book of Revelations. Vittle, Arwel Valentine: cofiant i lewis Valentine. 2006. Read by Arwel Jones, 18 hours 20 minutes. TB 14867. Un o genedlaetholwyr Cymreig ac arweinwyr Cristnogol mwyaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif oedd Lewis Valentine. Yn y cofiant cyflawn cyntaf yma dilynir ei yrfa o Landdulas i ffosydd y Rhyfel Mawr, o ddyddiau cynnar Plaid Cymru i garchar Wormwood Scrubbs am ei ran yn llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, a'i gyfnod fel gweinidog yn Llandudno a Rhosllannerchrugog. rnib.org.uk Williams, Beryl Stafford Llanw a thrai. 1999. Read by Beryl Stafford Williams, 5 hours 25 minutes. TB 13557. Rhyfedd sut y gall un diwrnod fod yn drobwynt mewn bywyd... O'i chartref ar lan y Fenai gall Alys wylio pob llanw a thrai a heddiw, effalai, caiff weld y penllanw. Pwy ŵyr? Williams, D J Yn chwech ar hugain oed. 1964. Read by Dyfnallt Morgan, 12 hours 45 minutes. TB 1789. Williams, D J Hen dŷ ffarm.1953. Read by Dyfnallt Morgan. 9 hours 15 minutes. TB 3928. Darllenwyd gan Dyfnallt Morgan. Trwy gymorth cof hen deulu a gysylltwyd a'r un fangre ers cenedlaethau, a chanrifoedd, yn wir, fe gawn gip personol megis, mewn rhannau ohono, ar ambell agwedd ar fywyd Cymru fu, nas ceir bellach, ond mewn llyfr hanes. Williams, D J Detholiad o storïau'r tir. 1966. Read by Dynallt Morgan. 9 hours, TB 6377. Yn y gyfrol hon ceir detholiad o bymtheg o straeon byrion sy'n dangos meistrolaeth yr awdur ar y cyfrwng hwn wrth iddo ddarlunio'i fro a'I chymeriadau. Williams, Elizabeth Siaced Fraith. 1952. Read by Beryl Stafford Williams, 4 hours 15 minutes. TB 284. Clytiau o'r fan hon a'r fan draw, pob clwt a'i liw a'i le gwahanol, a'r cwbl yn gwneud un siaced fraith lliwgar a honno'n ddeniadol a diddorol I bob oed. Williams, Elizabeth Brethyn Cartref. 1951. Read by Beryl Stafford Williams, 5 hours 30 minutes. TB 100. Hanes bywyd yng Nghymru ddeng mlynedd a thrigain yn ôl. Ceir ynddo ddarluniau craff, tyner, a digrif, o wahanol gymeriadau; y rnib.org.uk mae wedi adnabod pobl, y mae yn fedrus i'w ddisgrifio ac nid yw'n ofni dweud ei barn. Williams, Gareth F Gwaed y Gwanwyn. 2010. Read by Ceri Mill, 6 hours 7 minutes. TB 18139. Age Range 13+ Chwe mis ar ôl iddi ddianc i dref fach yng ngogledd Cymru, mae'r ferch o Lithwania'n dechrau teimlo'n ddiogel. Ond dydy hi ddim. Mae'r hyn sy'n digwydd iddi yn codi ofn ar drigolion y dre, ond mae'r goblygiadau i'r bobl agosaf ati yn llawer gwaeth. Un o'r rheiny yw Cefin McGregor, bachgen 15 oed sy'n byw ar stad ddifreintiedig ac sy wedi cael ei labelu oherwydd hanes ei deulu. Un arall yw Lafinia Preis, ditectif preifat sydd wedi ymddeol. Er bod y CID lleol yn ei rhybuddio i beidio ag ymyrryd yn yr achos, mae ei greddf yn ei harwain at gylch sinistr o droseddu yng ngogledd Lloegr. Ac at y gwir. Williams, Gareth F Gwaed y Gwanwyn. 2010. Reda by Ceru Mill. 6 hours 7 minutes, TB18139. Suggested reading age 13+ Chwe mis ar ôl iddi ddianc i dref fach yng ngogledd Cymru, mae'r ferch o Lithwania'n dechrau teimlo'n ddiogel. Ond dydy hi ddim. Mae'r hyn sy'n digwydd iddi yn codi ofn ar drigolion y dre, ond mae'r goblygiadau i'r bobl agosaf ati yn llawer gwaeth. Un o'r rheiny yw Cefin McGregor, bachgen 15 oed sy'n byw ar stad ddifreintiedig ac sy wedi cael ei labelu oherwydd hanes ei deulu. Un arall yw Lafinia Preis, ditectif preifat sydd wedi ymddeol. Er bod y CID lleol yn ei rhybuddio i beidio ag ymyrryd yn yr achos, mae ei greddf yn ei harwain at gylch sinistr o droseddu yng ngogledd Lloegr. Ac at y gwir. Williams, J E Nos galan: nofel dditectif. 1965. Read by Llewellyn Thomas, 3 hours 30 minutes. TB 82. Cyfres Parri. Nofel dditectif arall yn hanes y Cwnstabl Parri. Fe ddatgelir pob cliw i'r darllenydd ac apel y nofel hon wedi darganfod y llofrydd ydyw - sut i'w brofi'n euog? rnib.org.uk Williams, J E Y trydydd tro: nofel dditectif. 1965. Read by R Llewellyn Thomas, 3 hours 30 minutes. TB 85. Cyfres Parri ; Ychwaneg o hanes y Cwnstabl Parri sydd erbyn hyn wedi ymddeol o'r heddlu. Daw Inspector Prytherch ato i ofyn am ei help i ddatrys llofruddiaeth Shadrach Evans. Williams, John Griffith Pigau'r sir. 1969. Read by Meinwen Parry, 8 hours 45 minutes. TB 2183. Williams, John Roberts Dros fy sbectol. 1984. Read by Iolo Povey, 4 hours 43 minutes. TB 15805. Cyfres o ddarlleniadau radio o ddiwedd saithdegau'r ganrif ddiwethaf i tua 1983. Roedd John Roberts Williams yn ymateb i ddigwyddiadau'r wythnos ac hefy yn son am wledydd y bu yn ymweld a nhw ac yn rhoi tipyn o hanes ynglyn a digwyddiadau a fyddai'n cysylltu a llefydd. Williams, John Roberts Arch Noa. 1977. Read by Bethan Gwilym. 2 hours 13 minutes. TB 11207. John Roberts Williams, cyn bennaeth y BBC ym Mangor, fu'n gyfrifol am groniclo'r hanesion. Ond hwyrach nad ffrwth dychymyg yw'r straeon a'r cymeriadau i gyd! Fe gewch chi gnoi eich cil dros y gosodiad yna. A chnoi cil uwchben y llyfr hefyd, wrth reswm. Williams, Mair Ddoi di Dei? 1998. Read by Merfyn P Jones. 2 hours 41 minutes. TB 11726. Casgliad o ysgrifau am lên gwerin blodau a phlanhigion eraill, yn cynnwys manylion am enwau, rhinweddau meddyginiaethol ac ofergoelion, ynghyd â dyfyniadau perthnasol o farddoniaeth. rnib.org.uk Williams, Robin Y tri Bob. 1970. Read by Robin Williams, 4 hours 30 minutes. TB 3198. Llyfrau poced Gomer. Bywgraffiadau am Bob Owen, Bob Lloyd a Bob Roberts - a oeddent oll yn sér ym myd radio. Williams, Robin O gwr y Lôn Goed.1996. Read by Cledwyn Jones. 6 hours 15 minutes. TB 11157. Wedi hel meddyliau ar gwr y Lôn Goed, a'r gyfrol rhagddi ar ymweliad a thri gwr llen arall a godwyd yn nhawelwch cefn gwlad T.H. Parry - Williams yn Rhyd-ddu, O.M. Edwards yn Llanuwchllyn a Williams ym Mhantycelyn. Ar ol teithio'n ddifyr felly - yn drafferthus hefyd ar brydiau - cilia'r awdur yn ol i'w noddfa yn y tawel gwmwd hwn... sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan. Wyn, Eirug Y dyn yn y cefn heb fwstash. 2004. Read by Dyfan Roberts, 3 hours 51 minutes. TB 16548. Casgliad o bedair ar ddeg o straeon byrion amrywiol doniol a dwys sy'n ennyn chwerthin a chydymdeimlad gan un o awduron cyfoes cynhyrchiol a phoblogaidd. Contains strong language. Wyn, Eirug Blodyn tatws. 1998. Read by Glenys Trainor. 7 hours 8 minutes. TB 12342. "Mae'r awdur yn dipyn o gymeriad, buasyn feddwl, ac yn un clyfar, ei ddychymyg yn ddiwaelod a di-ben-draw. Ar ben hynny mae ei feistrolaeth ar iaith yn ddigon a'ch gwirioni. Cefais fy nghyfareddu gan yr ysgrifennu celfydd am synn gan ddchymyg rhemp yr awdur hwn." Wyn James, Meleri. Catrin Jones yn unig. 2000. Read by Jinnie Owen, 9 hours 9 minutes. TB 14711. Catrin Jones; 1. Mae Catrin Jones mewn twll. Hi sydd wedi etifeddu cyfoeth enfawr ei thad, ei mawr sioc i'w mam, i'w chariad, i'w ffrind gorau, i Wncwl Barry ac i'r criw diflas yn y swyddfa gysylltiadau cyhoeddus, a nawr hi yw stori fawr Pontawel. Yr unig gyfaill sydd ganddi yn y byd yw ei dyddiadur ffyddlon, nad yw byth rnib.org.uk yn pwdu, nac yn anghofio ei phen-blwydd nac yn gofyn iddi ysgridennu hysbysebion bachog i farchnata maip! Contains language which might be considered offensive. Wyn James, Meleri Catrin Jones a'i chwmni. 2001. Read by Jini Owen, 7 hours 30 minutes. TB 14712. Catrin Jones; 2. Sequel to: Catrin Jones yn unig. Mae Catrin Jones yn ôl! Efallai ei bod hi flwyddyn yn hŷn, ond amser a ddengys a yw hi flwyddyn yn gallach... Wedi gadael ei swydd ddiflas yn y cwmni PR, a dianc rhag crafangau Daniel Diflas, y bòs o uffern, mae Catrin yn bedferfynol o fod yn wraig fusnes y flwyddyn. Wyn, Rhiannon Codi bwganod. 2008. Read by Sian Bassett Roberts, 5 hours 47 minutes. TB 18195. Age Range 9+ Mae Erin newydd symud i fyw mewn hen blasty crand sydd yn cael sylw ar raglen deledu 'Dy Dŷ'. Mae'r cyflwynydd, Robyn Rici, a Sara, mam Erin, yn dod yn ffrindiau agos. Ond wyddon nhw ddim fod gan Erin ffrind hefyd. Roedd Madam Petra'n mynd i sicrhau fod Erin yn cael chwarae teg, yn yr ysgol a gartref, doed a ddelo ... Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2010. Wyn, Rhiannon Yr alarch du. 2011. Read by Betsan Llwyd. 4 hours 29 minutes. TB 19464. If you have read a book you particularly enjoyed (or didn't enjoy) and want to share your thoughts with other readers, visit the new RNIB Readers Forum at www.rnib.org.uk/booktalk and post your review on the Forum".