Aeth cymuned gyfan ar ddifancoll ond erys y cof I bob un ohonom sy'n byw yn y cwm, yn cyrraedd y Rhigos ar ddiwedd taith hir, dywed wrthym, “Rydyn ni gartef!” Ar ôl i ni mynd heibio’r Llyn mae rhiw serth yn arwain at grib y trumell ac, ar ddiwrnod clir, y cwm wedi'i ledaenu yn y pellter ymhell islaw. Ar noson yng ngolau'r lleuad, y briffordd yw rhuban o olau yn troelli ar hyd llawr y cwm gyda pentrefi'r cwm fel canhwyllau wedi'u gwasgaru ar ei hyd. Wrth i ni ddisgyn, rydyn ni wedi cael ein cau o fewn llethrau amddiffynnol y cwm - “Yn wir, rydyn ni gartref.” Mae Jan Prestwood, sydd bellach yn byw ym Mhenygraig, yn aml yn teithio i lawr y Rhigos, ond pan mae hi'n gwneud nid y cwm islaw sy'n tynnu ei sylw. Yn hytrach, mae hi'n canolbwyntio ar adfail fferm sy’n hanner ffordd i fyny'r llethr yr ochr arall i'r cwm. Yn syth, mae hyn yn dwyn atgofion o’i phlentyndod yn y 1950au a’r 60au ac o gymuned sydd bellach ar ddifancoll. Yn 2 oed, symudodd Jan Brooks, fel y’i gelwid bryd hynny, gyda’i rhieni a’i brawd a’i chwaer hŷn i fyw yn y ‘bwthyn’ a oedd ynghlwm wrth ffermdy Blaenrhondda. Bu'r teulu'n byw yna am oddeutu 5 mlynedd cyn symud i mewn i'r ffermdy pan adawodd eu cymdogion, a daeth pobl newydd i feddiannu'r bwthyn. Fel arfer, mae byw ar fferm yn golygu byw yng nghanol gwyrddni, ond hwn oedd y Rhondda ar adeg pan oedd glo yn dal i fod yn frenin. Yn wir roedd gwyrddni a hyd yn oed rhywfaint o rug porffor yn uchel ar y llethrau uwchben y fferm, ond roedd y fferm bron ar ben menter ddiwydiannol enfawr, fudr ac roedd y llwch a baentiodd y Rhondda yn lwyd ym mhobman. Cafodd y ffermdy a’r bwthyn eu rhentu oddiwrth ffermwr o’r enw ‘Morgan’. Roedd yn berchen ar yr adeiladau a'r tir ond roedd yn byw yn Hirwaun. Roedd tad Jan a’u cymydog ill dau yn lowyr yng Pwll Fernhill, cyfadeilad mawr o byllau yn y cwm islaw’r fferm. Fe wnaethant helpu Morgan gyda gwaith fferm yn eu hamser spar. Roedd yr anheddau yn sylfaenol, ond fe wnaethon nhw’n darparu'r un cyfleusterau a gynigiwyd gan y tai teras yn y cwm. Ni wnaeth y pwmp ar gyfer tynnu dŵr a oedd yn sefyll wrth ymyl wal y ffermdy yn cael ei ddefnyddio mwyach gan fod dŵr glân bellach yn cael ei beipio'n uniongyrchol i'r adeilad a oedd hefyd wedi'i gysylltu â'r prif gyflenwad trydan. Defnyddiwyd glo ar gyfer gwresogi ac roedd toiled fflysio yn yr ysgubor. Yn y bwthyn paratôdd mam Jan holl brydau’r teulu ar ‘raens’ hen ffasiwn ynghlwm wrth dân agored yn y gegin ond, pan symudon nhw i’r ffermdy, roedd ganddi’r moethusrwydd o goginio ar stôf drydan. Ar wahân i'r ffermdy a'r bwthyn ynghlwm roedd amrywiaeth o adeiladau allanol a gardd fach yn darparu ffrwythau a llysiau. Yn uwch i fyny ochr y cwm roedd dip defaid a chaeau, pob un ohonynt yn faes chwarae delfrydol i dri phlentyn anturus. Roedd llwybr serth yn arwain i lawr o’r fferm i’r ffordd sy’n arwain at y pwll, a gerllaw roedd ‘the Squirters’ - pibellau mawr a oedd yn tynnu dŵr o’r gweithfeydd tanddaearol. Roedd y rhain ynghyd â’r pwll ei hun yn darparu lle hyd yn oed yn fwy cyffrous i chwarae ac roedd y plant yn falch iawn o gael eu herlid gan Broughton - ‘plismon’ y pwll. Yn 4 oed cychwynnodd Jan yn yr ysgol a byddai'n cerdded gyda'i brodyr a'i chwiorydd hŷn i lawr tuag at y pwll heibio Office Row, teras bach a adeiladwyd fwy neu lai ar ben y pwll, ac yna tua milltir i lawr y cwm i Ysgol Gynradd Blaenrhondda. Roedd rhan gyntaf y daith ar hyd ffordd y pwll, yna ar ôl ychydig gannoedd o lathenni cyraeddodd y plant at Caroline Street, teras o tua 40 o dai a oedd wedi'u hadeiladu'n uchel uwchben Blaenrhondda i ddarparu tai i deuluoedd glowyr sy'n gweithio yn y pyllau Fernhill. Yn rhinwedd ei safle anghysbell, ffurfiodd Caroline Street ei chymuned arbennig ei hun. Roedd yn lle bywiog, a oedd â'i siop ei hun yn ystafell ffrynt un tŷ yn rhan isaf y stryd. Mae bron pob un o'r dynion a oedd yn byw yno yn gweithio ym mhyllau Fernhill ac roedd y llu o blant ar y stryd yn ffrindiau plentyndod Jan. Fe wnaethant chwarae gyda'i gilydd yn y stryd, ar y fferm ac ar arwyneb y pwll. Ar y fferm, ar wahân i'w chi, Nell, roedd gan Jan ddafad anwes a oedd yn ffefryn gyda'r plant i gyd. Roedd Jan wedi magu oen amddifad â llaw ac wedi rhoi’r enw ‘Lucy’ iddi. Teimlai Lucy ei bod yn rhan o'r teulu a hyd yn oed pan fyddai wedi tyfu'n llawn byddai'n mynd i fwrw’r ddrws ffrynt y fferm i gael mynediad i'r tŷ. Unwaith y byddai hi y tu mewn, byddai'n dringo ar y soffa ac yn gwneud ei hun yn gyfforddus - er mawr boendod i fam Jan. Wrth chwarae ar y pwll stopiodd Broughton, y ‘plismon’, gyrru’r plant i ffwrdd wrth iddo sylweddoli bod ganddo fwy o reolaeth dros eu gweithgareddau pe bai’n cyfeillio â nhw. Yn yr haf caniataodd iddynt ddefnyddio cronfa'r pwll fel pwll nofio. Pe bai ganddyn nhw'r arian, gallen nhw hefyd ymweld â gantîn y pwll a oedd yn yr un adeilad â'r baddonau pwll, i brynu pastie a sglodion. Nid yn unig y plant sy'n byw yn Caroline Street a fyddai'n ymweld â'r fferm, ond hefyd eu rhieni. Ar adegau o brysurdeb ar y fferm - yn enwedig wrth gneifio a throchi’r defaid - byddai Morgan, o Hirwaun, Sioni o Tynewydd a 3 neu 4 o ffermwyr lleol eraill yn ymgynnull ar y fferm ynghyd â thad Jan, eu cymydog drws nesaf ac 20 i 25 dynion arall oedd yn bwy yn Caroline Street. Byddai pawb yno i weithio, ond mae Jan yn cofio'r amseroedd hyn fel bod yn debycach i garnifal. Paratôdd ei mam, gyda chymorth eu cymdogion benywaidd o Caroline Street, y bwyd a oedd wedi'i osod allan ar fyrddau mawr yn y buarth. Roedd y dynion yn bugeilio, gwahanu, cneifio a throchi’r defaid ac roedd y plant, gan eu bod yn blant, yn achosi dryswch trwy chwarae yng nghanol y cyfan. I Jan roedd yn ymddangos yn fywyd delfrydol, yn enwedig un gaeaf pan ddeffrodd un bore, edrych y tu allan a gweld gwylltle gwyn. Cyrhaeddodd eira fargod y ffermdy . Arhosodd rhyfeddod y gaeaf am wythnosau ond gwnaeth fywyd i rieni Jan hyd yn oed yn anoddach. Nid oedd yr eidyl i barhau oherwydd, gyda thad Jan yn gweithio dan ddaear, roedd perygl yn wastad yn agos. Roedd tro mawr yn y pwll a achosodd i wythïen o lo fynd ar dân ac roedd tad Jan yn cael ei effeithio ganddo. Dioddefodd anafiadau difrifol i'w goesau a'i draed a bu yn yr ysbyty yn Cas-gwent am tua blwyddyn. Erbyn hyn roedd mam Jan yn cael bywyd ar y fferm yn anodd iawn. Roedd arian, a oedd wedi bod yn brin erioed, bellach yn brin iawn. Roedd yn profi’n amhosibl diffodd y tân yn y wythïen danddaearol a chyflogodd yr NCB y cwmni contractio, Thyssen, i geisio gwneud y gwaith. Lleolwyd carafanau ar ben y pwll i ddarparu llety i’r dynion a gyflogodd Thyssen ac enillodd mam Jan ychydig o arian yr oedd ei angen yn fawr trwy lanhau carafanau’r contractwyr. Roedd hyn yn help ariannol, ond roedd yn dal yn anodd ymweld â'r ysbyty a oedd mor bell i ffwrdd. Wrth edrych i’r dyfodol, roedd yn amlwg, gyda’i anafiadau, na fyddai’r fferm anghysbell yn lle addas i dad Jan fyw ynddo. Pan ryddhawyd tad Jan o’r ysbyty profodd hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda’r iawndal a gafodd am ei anafiadau llwyddodd y teulu i brynu tŷ yn Nheras Troedyrhiw, Treorchy a dechreuodd Jan a’i theulu fywyd newydd. Roedd eraill yn byw yn y fferm ar eu hôl, ond ymhen ychydig flynyddoedd cafodd y fferm ei dymchwel fel wnaeth Caroline Street a Office Row. Caewyd pwll Fernhill hefyd a thirluniwyd yr ardal. Diflannodd cymuned gyfan a dechreuodd natur adennill flaenau’r Rhondda Fawr. Mae'n dal yn bosibl gyrru i fyny'r ffordd i ble roedd Caroline Street ar un adeg a cherdded ymhellach i safle'r pwll a'r fferm, ond prin yw'r dystiolaeth o'r hyn a oedd yno ynghynt. Bu farw tad Jan rai blynyddoedd yn ôl ac roedd ei mam yn cadw ei lwch. Mae hi bellach wedi marw, ond cyn ei marwolaeth gadawodd gyfarwyddiadau i’w lludw hi a lludw ei gŵr gael eu gwasgaru ar adfeilion y fferm a oedd, yn ei geiriau hi, “Y lle roeddem hapusaf.” Aeth Jan a’i gŵr, Gary, i’r fferm i gyflawni dymuniadau ei mam. Fe wnaethant yrru i'r lle ble bu Caroline Street ar un adeg - a oedd yn wag ac eithrio am glaswellt. Fe wnaethant cerdded ymlaen tuag at y llonyddwch a oedd ar un adeg yn weithle i gannoedd. Yna esgynon y llethr serth i'r fferm. Er ei fod yn adfeilion roedd popeth yn gyfarwydd â choeden, roedd Jan yn arfer chwarae arni, yn tyfu o hyd heb sylweddoli ar y newidiadau sydd wedi digwydd o'i chwmpas. Aeth cymuned gyfan ar ddifancoll ond erys y cof. Pwll Fernhill gyda chymuned goll arall - Fernhill Houses - yn y cefndir Caroline Street ynysig gyda Pwll Fernhill yn y pellter Jan gyda'i chwaer iau a anwyd tua blwyddyn cyn i'r teulu adael y fferm Pwll Fernhill gyda Fferm Blaenrhondda i'w gweld y tu ôl i'r pentwr simnai Pwll Fernhill gyda Fferm Blaenrhondda i'w gweld ar y llechwedd uwchben y pwll Jan gyda'i chi Nell ar y fferm Fferm a bwthyn Blaenrhondda. Mae waliau'r ffermdy wedi'u gorchuddio â llechi. Mae'r bwthyn a'r ysgubor wedi'u gwyngalchu 1969?